Adroddiad corfforaethol

Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn 2023

Dyma seithfed adroddiad yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ar y Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau. Mae’n seiliedig ar gipolwg o holl staff yr ASB ar 31 Mawrth 2023 ac mae’n bodloni ein gofynion adrodd.

Dogfennau

Manylion

Mae’r adroddiad yn dadansoddi’r ffigurau’n fanylach ac yn nodi’r hyn yr ydym yn ei wneud i gau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y sefydliad.

Mae’r ASB yn defnyddio graddau’r Gwasanaeth Sifil sy’n amrywio o Swyddog Gweinyddol i Uwch-was Sifil. Mae’r graddau’n amrywio yn ôl lefel y cyfrifoldeb sydd gan staff, ac mae gan bob gradd amrediad cyflog penodol. Telir cyflogau yn ôl gradd, a chaiff gwobrau ariannol blynyddol o fewn y radd eu talu ni waeth beth yw rhywedd y staff..

Mae gan bob gradd, ac eithrio’r Uwch-wasanaeth Sifil (SCS), ystod cyflog ar gyfer Llundain ac ystod cyflog genedlaethol..

Ar 31 Mawrth 2023, roedd 1572 o bobl yn gweithio i’r ASB, sef cynnydd o 110 ers y flwyddyn flaenorol. Roedd 46% o weithlu’r ASB yn fenywod, sy’n dangos cynnydd ers 2022, pan oedd 44% o’r gweithlu’n fenywod. Am y tro cyntaf, mae gennym nifer cyfartal o Uwch-weision Sifil gwrywaidd a benywaidd.

Un o’r prif ffactorau sy’n cyfrannu at fwlch cyflog rhwng y rhywiau mewn sefydliad yw cydbwysedd rhwng y rhywiau ar wahanol raddau. Ceir dadansoddiad o gynrychiolaeth y rhywiau ar bob gradd yn yr adroddiad.

Cyhoeddwyd ar 27 March 2024