Strategaeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer 2022 i 2027
Cyflwyniad i strategaeth bum mlynedd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng nghyd-destun system fwyd sy’n newid.
Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru
Dogfennau
Manylion
Mae’r strategaeth hon yn disgrifio’r hyn y bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn ei wneud. Byddwn yn parhau i ddiogelu defnyddwyr drwy sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Byddwn hefyd yn chwarae ein rhan i helpu i wneud bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy i bawb.
Mae fersiwn lawn o’r ddogfen ‘Bwyd y gallwch ymddiried ynddo – Strategaeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd 2022 i 2027’ ar gael i’w lawrlwytho ar ffurf PDF.