Adroddiad corfforaethol

Adroddiad Amrywiaeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd 2020

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb a throsolwg lefel uchel o’r data cydraddoldeb, gan gynnwys proffiliau’r gweithlu a data/gwybodaeth fonitro am weithgareddau cyflogaeth. Mae’r wybodaeth a ddarperir yn darlunio’r sefyllfa fel ag yr oedd ym mis Hydref 2020.

Applies to England, Northern Ireland and Wales

Dogfennau

FSA Diversity Report 2020

FSA Diversity Report 2020 Cymraeg

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch fsa.communications@food.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod ‘dyletswydd Cydraddoldeb gyffredinol’ ar sefydliadau’r sector cyhoeddus i wneud y canlynol:

  • dileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu ac erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall a waherddir gan y Ddeddf
  • hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a phobl nad ydynt yn ei rhannu
  • meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a phobl nad ydynt yn ei rhannu. Mae’r ‘dyletswyddau penodol’ yn y Ddeddf yn gosod gofyniad ar gyrff y Sector Cyhoeddus i gyhoeddi gwybodaeth i ddangos eu bod yn cydymffurfio â’r ddyletswydd Cydraddoldeb gyffredinol erbyn 31 Ionawr 2012, ac o leiaf yn flynyddol wedi hynny.

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb a throsolwg lefel uchel o’r data cydraddoldeb, gan gynnwys proffiliau’r gweithlu a data/gwybodaeth fonitro am weithgareddau cyflogaeth.

Mae’n ymwneud â’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fel cyflogwr. Nid yw’r dadansoddiad yn cynnwys staff nad ydynt yn cael eu talu’n uniongyrchol gan yr ASB na staff asiantaethau/contractwyr.

Fe’i cynhyrchwyd gan ddefnyddio data a gedwir yn system iHR yr ASB, oni nodir yn wahanol. Gwneir datganiadau amrywiaeth trwy hunanwasanaeth.

Mae’r wybodaeth a gyflwynir yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 1 Tachwedd 2019 a 31 Hydref 2020. Amlygir unrhyw eithriadau i’r cyfnod hwn yn unol â’r arfer.

Mae’r adroddiad yn cwmpasu ciplun o’r data fel ag yr oedd ar 31 Hydref 2020 gyda 1265 o aelodau staff. Mae canrannau wedi’u talgrynnu i’r pwynt canran agosaf; mae hyn yn golygu efallai na fydd y canrannau bob amser yn dod i symiau taclus o 100%.

Cyhoeddwyd ar 17 September 2021