Adroddiad corfforaethol

Adroddiad Amrywiaeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd 2019

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb a throsolwg lefel uchel o’r data cydraddoldeb, gan gynnwys proffiliau’r gweithlu a data/gwybodaeth fonitro am weithgareddau cyflogaeth. Mae’r wybodaeth a ddarperir yn darlunio’r sefyllfa fel ag yr oedd ym mis Hydref 2019.

Applies to England, Northern Ireland and Wales

Dogfennau

FSA Diversity Report 2019 Cymraeg

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch fsa.communications@food.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod ‘dyletswydd Cydraddoldeb gyffredinol’ ar sefydliadau’r sector cyhoeddus i wneud y canlynol:

  • diddymu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu ac erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall sydd wedi ei wahardd gan y Ddeddf
  • hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rheiny nad ydynt yn ei rhannu
  • meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rheiny nad ydynt yn ei rhannu.

Mae’r ‘dyletswyddau penodol’ yn y Ddeddf yn gosod gofyniad ar gyrff y Sector Cyhoeddus i ‘publish information to demonstrate their compliance with the general Equality duty by 31 January 2012, and at least annually thereafter’.

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb a throsolwg lefel uchel o’r data cydraddoldeb, gan gynnwys proffiliau’r gweithlu a data/gwybodaeth fonitro am weithgareddau cyflogaeth.

Mae’n ymwneud â’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fel cyflogwr. Nid yw’r dadansoddiad yn cynnwys staff nad ydynt yn cael eu talu’n uniongyrchol gan yr ASB na staff asiantaethau/contractwyr.

Fe’i cynhyrchwyd gan ddefnyddio data a gedwir yn system iHR yr ASB, oni nodir yn wahanol. Gwneir datganiadau amrywiaeth trwy hunanwasanaeth.

Mae’r wybodaeth a gyflwynir yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 1 Tachwedd 2018 a 31 Hydref 2019. Amlygir unrhyw eithriadau i’r cyfnod hwn yn unol â hynny.

Mae’r adroddiad yn trafod ciplun o’r data fel ag yr oedd ar 31 Hydref 2019 gyda 1241 o aelodau staff.

Mae canrannau wedi’u talgrynnu i’r pwynt canran agosaf; mae hyn yn golygu efallai na fydd y canrannau bob amser yn dod i symiau taclus o 100%.

Cyhoeddwyd ar 17 September 2021