Asesiad Strategol o Droseddau Bwyd 2024
Cyhoeddwyd 12 Medi 2024
Diffinnir troseddau bwyd fel twyll difrifol a throseddu cysylltiedig o fewn cadwyni cyflenwi bwyd. Mae hyn yn cynnwys diodydd a bwyd anifeiliaid.
Diben y ddogfen hon yw tynnu sylw at dueddiadau troseddau bwyd ac adolygu sut mae ein dealltwriaeth o fygythiadau troseddau bwyd hysbys wedi newid. Mae’r Asesiad yn blaenoriaethu ein hymateb i’r materion troseddau bwyd mwyaf niweidiol, ac yn helpu i gynhyrchu ein hargymhellion a’n blaenoriaethau strategol; gweler ein Strategaeth Reoli. Mae hefyd yn ein helpu i nodi’r bylchau mwyaf arwyddocaol yn ein dealltwriaeth o droseddau bwyd.
Crynodeb
Mae’r ddogfen yn archwilio ffactorau trosfwaol sy’n dylanwadu ar y dirwedd bygythiadau, cyn manylu ar fygythiadau o fewn pob un o’r saith math o weithgaredd a welir yn y darlun cudd-wybodaeth troseddau bwyd. Mae’r adroddiad yn cloi gyda golwg i’r dyfodol sy’n ystyried y materion newydd a phresennol a allai effeithio ar y dirwedd fygythiadau yn y dyfodol. Rydym yn gosod argymhellion lefel uchel ar gyfer sut y bydd yr NFCU a’n cydweithwyr yn yr Alban yn mynd â chanfyddiadau’r adroddiad rhagddynt.
Adborth
Rydym yn croesawu safbwyntiau ar yr adroddiad hwn ac yn eich gwahodd i gyflwyno adborth drwy’r ffurflen ar-lein.