Skip to main content
Canllawiau

Codau Ymarfer Cyfraith Bwyd a Bwyd Anifeiliaid

Cyhoeddwyd 18 Chwefror 2018

Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru

Pwysig – Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE yng nghanllawiau’r ASB

Nid yw deddfwriaeth sy’n uniongyrchol gymwys i’r UE yn gymwys mwyach ym Mhrydain Fawr. O ran deddfwriaeth yr UE a oedd wedi’i dargadw pan ymadawodd y DU â’r UE, trodd hon yn gyfraith a gymathwyd ar 1 Ionawr 2024, yn unol â’r hyn a gyhoeddwyd ar legislation.gov.uk. Dylai cyfeiriadau at unrhyw ddeddfwriaeth yng nghanllawiau’r ASB sydd ag ‘UE’ neu ‘CE’ yn y teitl (er enghraifft, Rheoliad (CE) 178/2002) gael eu hystyried yn gyfraith a gymathwyd lle bo hynny’n gymwys i Brydain Fawr. Bellach, dylid ystyried cyfeiriadau at ‘Gyfraith yr UE a Ddargedwir’ neu ‘REUL’ fel cyfeiriadau at gyfraith a gymathwyd.
 
Yn achos busnesau sy’n symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, mae gwybodaeth am Fframwaith Windsor ar gael ar GOV.UK.
 
Mabwysiadwyd Fframwaith Windsor gan y DU a’r UE ar 24 Mawrth 2023. Mae’r Fframwaith yn darparu set unigryw o drefniadau i gefnogi llif cynhyrchion manwerthu bwyd-amaeth o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, gan ganiatáu i safonau Prydain Fawr o ran iechyd y cyhoedd mewn perthynas â bwyd, marchnata a deunyddiau organig fod yn gymwys i nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw a gaiff eu symud drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS).

Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd

Mae’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd yn rhoi cyfarwyddiadau y mae’n rhaid i awdurdodau lleol eu hystyried wrth orfodi cyfraith bwyd. Mae angen i awdurdodau lleol ddilyn a gweithredu’r adrannau perthnasol o’r Cod sy’n berthnasol.

Cymru

Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru)

Lloegr

Food Law Code of Practice (England)

Gogledd Iwerddon

Food Law Code of Practice (Northern Ireland)

Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid

Mae’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid yn rhoi cyfarwyddiadau y mae’n rhaid i awdurdodau lleol eu hystyried wrth orfodi cyfraith bwyd anifeiliaid. Mae angen i awdurdodau bwyd anifeiliaid ddilyn a gweithredu’r adrannau perthnasol o’r Cod sy’n berthnasol iddynt.

Cymru

Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid (Cymru)

Lloegr

Feed Law Code of Practice (England)

Gogledd Iwerddon

Northern Ireland Feed Law Enforcement Guidance

Canllawiau Ymarfer

Rydym yn cyhoeddi Canllawiau Ymarfer sy’n anstatudol sy’n cyd-fynd â’r Cod Ymarfer statudol. Mae’r rhain yn darparu cyngor cyffredinol ar y dull o orfodi’r gyfraith.

Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd

Cymru

Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru)

Lloegr

Food Law Practice Guidance (England)

Gogledd Iwerddon

Food Law Practice Guidance (Northern Ireland)

Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid

Cymru

Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid (Cymru)

Lloegr

Feed Law Practice Guidance (England)

Gogledd Iwerddon

Feed Law Practice Guidance (Northern Ireland)

Fframwaith Cymwyseddau

Gwybodaeth a sgiliau ar gyfer cyflenwi rheolaethau bwyd a bwyd anifeiliaid swyddogol a gweithgareddau eraill yn effeithiol. Mae’r Fframwaith Cymwyseddau’n nodi’r cymwyseddau sy’n ofynnol ar gyfer swyddogion awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd yn Nghymru a Lloegr, a swyddogion cynghorau dosbarth yng Ngogledd Iwerddon, gan ymgymryd â rheolaethau bwyd swyddogol, gweithgareddau swyddogol eraill a gweithgareddau eraill sy’n gysylltiedig â’r rhain. Mae’r Fframwaith Cymwyseddau ar gael ar Rwydwaith Rhannu’r ASB. Bydd angen cyfrif Rhwydwaith Rhannu’r ASB arnoch i weld hwn.