Skip to main content
Canllawiau

Ffermwyr sy'n cynhyrchu bwyd anifeiliaid

Cyhoeddwyd 5 Rhagfyr 2017

Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru

Gofynion a chofrestru

Rhaid i ffermwyr sy’n cynhyrchu bwyd anifeiliaid ddilyn rheoliadau penodol i sicrhau bod y bwyd sy’n cael ei roi i anifeiliaid yn ddiogel a bod modd olrhain cynhyrchion bwyd anifeiliaid os bydd digwyddiad diogelwch. Mae’r ddeddfwriaeth yn ategu’r gofynion sy’n berthnasol i gynhyrchu bwyd fel y nodir yn y Rheoliadau Hylendid Bwyd. Mae’n rhaid i bob fferm sy’n cynhyrchu bwyd anifeiliaid fod wedi’i chofrestru â’r awdurdod gorfodi priodol.

Mae’n rhaid i ffermwyr, fel cynhyrchwyr cynradd, hynny yw, y rheiny nad ydynt yn cymysgu ag ychwanegion a rhag-gymysgeddau, ddilyn gweithdrefnau hylendid sylfaenol (Atodiad I y Rheoliad) mewn perthynas â bwyd anifeiliaid maent yn ei ddefnyddio neu ei dyfu, a sicrhau y caiff peryglon eu rheoli’n briodol.

Mae’r mesurau hyn yn cynnwys

  • atal bwyd anifeiliaid rhag cael ei halogi a’i ddifetha
  • glanhau offer a ddefnyddir i gymysgu, storio neu gludo bwyd anifeiliaid
  • cadw cofnodion o fwyd anifeiliaid a ddefnyddir neu a werthir

Yn ogystal, mae Atodiad III y Rheoliad ar Arferion Da Bwydo Anifeiliaid yn berthnasol i ffermwyr da byw sy’n bwydo anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd.

Rhagor o ganllawiau ar ddeddfwriaeth bwyd anifeiliaid.

Ffermwyr sy’n cymysgu gydag ychwanegion a rhag-gymysgeddau

Dylai ffermwyr sy’n cyflawni gweithgarwch heblaw am gynhyrchu cynradd, megis cymysgu bwyd anifeiliaid at ofynion cyfyngedig eu ffermydd eu hunain drwy ddefnyddio ychwanegion neu rag-gymysgeddau o ychwanegion (ac eithrio ychwanegion silwair), gydymffurfio â darpariaethau Atodiad II ar gyfer y gweithrediadau hynny lle bo’n berthnasol.  

Mae Atodiad II o Reoliad 183/2005 yr UE a gymathwyd yn rhoi rhagor o fanylion ar sut mae hyn yn berthnasol i ffermwyr sy’n defnyddio ychwanegion bwyd anifeiliaid, er enghraifft, wrea a rhag-gymysgeddau.

Dylid gosod, cyflwyno a chynnal gweithdrefn ysgrifenedig neu weithdrefnau sy’n seiliedig ar egwyddorion HACCP (Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol).

Bydd yn rhaid i ffermwyr sy’n cymysgu gydag ychwanegion a rhag-gymysgeddau gymhwyso egwyddorion system HACCP

Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr

Canllawiau ar y gofynion cysylltiedig â HACCP ar gyfer ffermwyr

Canllawiau ar ofynion hylendid bwyd anifeiliaid ar gyfer ffermwyr sy’n cymysgu ychwanegion a rhag-gymysgeddau yn uniongyrchol mewn bwyd anifeiliaid a bwyd anifeiliaid cyfansawdd gydag ychwanegion.

Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr

Canllawiau ar ofynion Rheoliad 183/2005

Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE yng nghanllawiau’r ASB

Nid yw deddfwriaeth sy’n uniongyrchol gymwys i’r UE bellach yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Daeth deddfwriaeth yr UE a ddargadwyd pan ymadawodd y DU â’r UE yn gyfraith a gymathwyd ar 1 Ionawr 2024, yn unol â’r hyn a gyhoeddwyd ar legislation.gov.uk. Dylai cyfeiriadau at unrhyw ddeddfwriaeth yng nghanllawiau’r ASB sydd ag ‘UE’ neu ‘CE’ yn y teitl (er enghraifft, Rheoliad (CE) 178/2002) gael eu hystyried yn gyfraith a gymathwyd lle bo hynny’n gymwys i Brydain Fawr. Bellach, dylid ystyried cyfeiriadau at ‘Gyfraith yr UE a Ddargedwir’ neu ‘REUL’ fel cyfeiriadau at gyfraith a gymathwyd.  
 
Yn achos busnesau sy’n symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, mae gwybodaeth am Fframwaith Windsor ar gael ar GOV.UK.  
 
Mabwysiadwyd Fframwaith Windsor gan y DU a’r UE ar 24 Mawrth 2023. Mae’r Fframwaith yn darparu set unigryw o drefniadau i gefnogi llif cynhyrchion manwerthu bwyd-amaeth o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, gan ganiatáu i safonau Prydain Fawr o ran iechyd y cyhoedd mewn perthynas â bwyd, marchnata a deunyddiau organig fod yn gymwys i nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw a gaiff eu symud drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS).

Gofynion cadw cofnodion bwyd anifeiliaid i ffermwyr

Mae gofynion cadw cofnodion penodol ar gyfer ffermwyr sy’n cynhyrchu, defnyddio, tyfu neu werthu bwyd anifeiliaid. Dylid cadw cofnodion tan ei bod yn debygol bod y cynhyrchion wedi’u bwyta. Mewn rhai achosion, gall hyn fod yn rhai blynyddoedd.

Enghraifft o ddogfennau i’w cadw

Anfonebau, derbynebau, nodiadau cyflenwi, labeli bwyd anifeiliaid

Defnydd o unrhyw gynhyrchion diogelu planhigion neu bioladdwyr. Mae hyn yn cynnwys chwynladdwyr, plaladdwyr, abwyd llygod mawr, chwistrellau pryfed a diheintyddion. Cofiwch gadw gwybodaeth am enw a dyddiad defnyddio cynhyrchion, ynghyd â’r plâu, y cnydau neu’r ardaloedd a gafodd eu trin.

Anfonebau, derbynebau, nodiadau cyflenwi, cofnodion chwistrellu, cofnodion trin a chofnodion abwydo

Unrhyw achosion o blâu a chlefydau a allai effeithio ar ddiogelwch y prif gynhyrchion (e.e. ar y cnydau sy’n cael eu tyfu i’w defnyddio fel bwyd anifeiliaid) a chofnodion ar fesurau i reoli peryglon (e.e. systemau rheoli plâu a rhaglenni glanhau)

Dyddiadur fferm, protocolau golchi a glanhau, anfonebau perthnasol, derbynebau a datganiadau gan gontractwyr. Cofnodion trin, er enghraifft, defnyddio mygdarthydd (‘fumigant’), diagramau abwydo llygod mawr

Canlyniadau unrhyw ddadansoddiadau labordy ar samplau o fwyd anifeiliaid a allai fod yn bwysig o ran diogelwch bwyd anifeiliaid (e.e. o ran mercwri, plwm).

Labeli bwyd anifeiliaid a manylion unrhyw ddadansoddiadau

Defnydd o hadau a addaswyd yn enetig (GM). Dylech nodi – nid oes unrhyw hadau GM wedi’u hawdurdodi i’w plannu’n fasnachol yn y DU ar hyn o bryd.

Labeli hadau ac anfonebau

Dylid cadw cofnodion tan ei bod yn debygol bod y cynhyrchion (e.e. llaeth, cig, wyau) wedi’u bwyta. Gall hyn fod yn sawl blwyddyn.