Papur polisi

Strategaeth allforio: Gwnaed yn y DU, Gwerthu i'r Byd

Strategaeth yn sefydlu sut fydd y llywodraeth yn cefnogi busnesau i ymateb i gyfleoedd allforio o amgylch y byd.

Dogfennau

Manylion

Dyma strategaeth allforio ddiwygiedig 2021 yr Adran Masnach Ryngwladol (DIT) i gefnogi busnesau Prydeinig sy’n awyddus i allforio i’r farchnad fyd eang. Mae ein strategaeth yn gynllun gweithredu 12 pwynt ar gyfer busnes i gefnogi allforwyr newydd a chyfredol.

Mae gan y strategaeth 12 pwynt amrywiaeth o fesurau cefnogaeth newydd a chyfredol, gan gynnwys:

  • y Gwasanaeth Cymorth Allforio (ESS)
  • ehangiad o Academi Allforio’r DU
  • rhaglen newydd Sioeau Masnach y DU
  • lansio’r ymgyrch ‘Gwnaed yn y DU, Gwerthu i’r Byd’

Mae’r papur dadansoddol hwn yn sefydlu’r rhesymeg economaidd a’r dystiolaeth i gefnogi’r strategaeth.

Cyhoeddwyd ar 17 November 2021