Hysbysiad preifatrwydd Barn Cwsmeriaid
Diweddarwyd 8 Gorffennaf 2025
Mae’r hysbysiad hwn yn dweud wrthych am gasglu a phrosesu gwybodaeth bersonol gan dîm Barn Cwsmeriaid yr Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA).
1. Diben Prosesu
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth rydych yn ei darparu er mwyn llywio a gwella’r gwasanaethau a’r cynlluniau y mae RPA a grŵp Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) ehangach yn eu darparu.
2. Pam y gallwn brosesu eich data personol
Y sail gyfreithlon dros brosesu yw cydsyniad. Mae’r gyfraith yn caniatáu i ni brosesu eich data personol o dan Erthygl 4 (11) ac Erthygl 7 o Reoliad Cyffredinol y Deyrnas Unedig ar Ddiogelu Data (GDPR y DU). Caniateir i ni brosesu eich data personol pan fyddwch yn rhoi cydsyniad yn rhydd i ni wneud hynny.
3. Pa ddata personol rydym yn eu prosesu
Y wybodaeth y byddwn yn ei chasglu ac yn ei phrosesu yw:
- gwybodaeth gofrestru cwsmeriaid
- rhif y daliad (CPH)
- eich dewisiadau ar ba bynciau ymchwil yr hoffech gymryd rhan ynddynt
Mae’n bosibl y byddwn yn casglu ac yn prosesu:
- rhywedd
- grŵp oedran
- unrhyw gyflyrau iechyd a allai ei gwneud hi’n anodd i chi gael gwybodaeth am ein gwasanaethau
Byddwn ond yn defnyddio’r wybodaeth hon i wneud y canlynol:
- nodi cyfleoedd ymchwil priodol i chi
- gwneud addasiadau rhesymol yn ystod ymchwil
- llunio adroddiadau er mwyn deall eich profiad o RPA yn well, a’i wella
Byddwn yn trin unrhyw adborth y byddwch yn ei roi i ni yn ddienw. Oni bai eich bod yn gofyn yn benodol, ac yn cydsynio, i ni rannu eich manylion personol. Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio canfyddiadau ymchwil at ddibenion hyfforddi.
Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio manylion sydd eisoes wedi’u storio yn ein systemau, ynghyd â’ch adborth, er mwyn deall mwy am eich profiadau fel cwsmer. Mae’n bosibl y byddwn yn eu deall er mwyn nodi pa gyfleoedd ymchwil yw’r mwyaf perthnasol i chi a’ch busnes.
Os byddwch yn cyfathrebu â ni ar-lein, byddwn hefyd yn casglu eich cyfeiriad protocol rhyngrwyd (IP) a manylion pa porwr gwe rydych yn ei ddefnyddio.
Yn y dyfodol, mae’n bosibl yr hoffai Defra gysylltu â chi gydag arolwg neu gyfweliad dilynol. Byddai’n defnyddio’r prif fanylion cyswllt sydd â RPA a byddai’n croesawu eich cymorth.
4. Eich cyfrifoldeb o ran data personol pobl eraill
Os ydych wedi cynnwys data personol am bobl eraill yn eich cofnodion, mae’n rhaid i chi ddweud wrthynt. Rhaid i chi roi copi o’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn iddynt er mwyn sicrhau eu bod yn gwybod y bydd eu data personol yn cael eu defnyddio.
5. Ble y bydd eich data personol yn cael eu storio
Rydym yn storio, yn trosglwyddo ac yn prosesu eich data personol ar ein gweinyddion yn y Deyrnas Unedig (y DU) ac yn yr Undeb Ewropeaidd (UE).
6. Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol
Byddwn yn cadw eich data arolwg am 2 flynedd am ymatebion unigol a dadansoddi a 10 blynedd am adroddiadau terfynol.
Cyfeiriwch at ein Siarter Gwybodaeth Bersonol a’r adran ‘Am faint o amser y byddwn yn cadw data’ am ragor o wybodaeth am unrhyw eithriadau posibl.
Rydym yn dileu eich cyfeiriad IP o’n cofnodion ar ôl 90 diwrnod.
7. Gyda phwy rydym yn rhannu eich data personol
Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich data personol â Defra a’r grŵp Defra ehangach. Mae hyn at ddibenion ymchwil ac i lywio a gwella’r gwasanaethau a’r cynlluniau a ddarperir.
Sefydliadau’r grŵp Defra:
- Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
- Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth
- Canolfan Gwyddorau’r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu
- Gerddi Botaneg Brenhinol Kew
- Cyd-bwyllgor Gwarchod Natur
- Asiantaeth yr Amgylchedd
- Cyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol
- Comisiwn Coedwigaeth
- Sefydliad Rheoli Morol
8. Eich hawliau
Darllenwch ein Siarter Gwybodaeth Bersonol i gael gwybod pa hawliau sydd gennych o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018.
9. Sut i wneud cwyn
Os bydd gennych bryderon ynglŷn â’r ffordd y mae’r RPA yn defnyddio eich data personol, darllenwch am sut i gysylltu â ni neu am sut i wneud cwyn.