Adroddiad Blynyddol Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru: 2025 i 26
Published 5 October 2026
Applies to England and Wales

Rhagair
Mae’r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru yn dal i wynebu cryn heriau, gan gynnwys galw cynyddol, pwysau ar y gweithlu, anghenion sy’n gynyddol gymhleth a rhaglen ddiwygio sy’n datblygu ledled Cymru a Lloegr.
Mae Cymru’n gweithredu mewn cyd-destun unigryw, lle mae cyfrifoldebau cyfiawnder troseddol yn eistedd ochr yn ochr â gwasanaethau datganoledig fel iechyd, tai, addysg a llywodraeth leol. Mae’n dal yn hanfodol inni fod yn gweithio’n effeithiol mewn partneriaeth er mwyn deall anghenion lleol, rheoli risgiau a chefnogi cymunedau.
Mae Byrddau Cyfiawnder Troseddol Lleol yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o ddeall anghenion lleol ac arwain gweithgarwch partneriaethau mewn cymunedau.
Mae Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru yn ategu’r gwaith hwn drwy ddod ag arweinwyr o bob rhan o’r system gyfiawnder at ei gilydd i ystyried materion sy’n effeithio ar Gymru, rhannu’r gwersi a ddysgwyd a’n galluogi i gydweithio ar draws ffiniau sefydliadol a daearyddol.
Yn ystod y flwyddyn, bu’r Bwrdd yn adolygu ei rôl, ei flaenoriaethau a’i ffyrdd o weithio drwy gyfrwng Diwrnod Datblygu yng Ngharchar EF Berwyn a drwy wneud archwiliad o’i raglen waith. Fe wnaeth hyn helpu i siapio ffocws y Bwrdd ar gyfer y dyfodol.
Mewn trafodaethau a gafwyd gydol y flwyddyn, tynnwyd sylw at nifer o faterion yr oedd angen rhoi sylw parhaus iddynt, gan gynnwys profiad dioddefwyr, diwygio cyfiawnder troseddol, atal hiliaeth, profiadau plant a phobl ifanc, a phwysigrwydd data a phrofiadau bywyd i’n helpu i wella. Bydd y themâu hyn yn parhau i siapio gwaith y Bwrdd drwy gydol 2026 i 28.
Hoffwn ddiolch i aelodau’r Bwrdd, y Byrddau Cyfiawnder Troseddol Lleol a’r sefydliadau partner ledled Cymru am eu cydweithrediad a’u hymrwymiad parhaus.
Mae’r cynnydd a amlinellir yn yr adroddiad hwn yn adlewyrchu cyd-ymdrechion y sefydliadau sy’n gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod unigolion, cymunedau a’r rheini sydd yn y system cyfiawnder troseddol, neu sydd mewn risg o gael eu dwyn i mewn iddi, yn cael gwell canlyniadau.
Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch diffuant i Ian Barrow, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yng Nghymru, am ei arweinyddiaeth fel Cadeirydd y Bwrdd yn ystod y cyfnod blaenorol. Rhoddodd ei stiwardiaeth ef inni sylfeini cadarn fel bod y Bwrdd yn gallu datblygu’n barhaus ac ymrwymo i weithio mewn partneriaeth ledled Cymru.
Emma Wools
Cadeirydd, Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru
1. Gwybodaeth Allweddol o 2025 i 26
Bu Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru yn ystyried amrywiol faterion sy’n effeithio ar y system cyfiawnder yn ystod y cyfnod adrodd rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026 (2025 i 26). Mae’r adran hon yn tynnu sylw at feysydd ffocws y Bwrdd, y gwersi allweddol a ddysgwyd a’i flaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.
Meysydd ffocws
- Dioddefwyr a thystion.
- Pobl sydd wedi troseddu.
- Ymyrryd ac atal yn gynnar.
- Gwrth-hiliaeth.
Ystyriaethau trawsbynciol
- Plant a phobl ifanc.
- Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Beth wnaeth y Bwrdd?
- Adolygu ei rôl, ei flaenoriaethau a’i ffyrdd o weithio.
- Cynnal archwiliad o’i raglen waith.
- Cyflwyno dull Asesu Effaith Polisi.
- Cynyddu’r defnydd o ddata, tystiolaeth a phrofiad bywyd mewn trafodaethau.
- Ystyried materion a godwyd gan Fryrddau Cyfiawnder Troseddol Lleol o bob cwr o Gymru.
- Cefnogi arweinyddiaeth a rhwydweithiau proffesiynol drwy INSPIRE: Women Leaders in Justice.
Y prif wersi a ddysgwyd
- Mae profiad dioddefwyr yn dal yn faes allweddol y mae angen rhoi sylw parhaus iddo ledled Cymru.
- Mae’n debygol y bydd gan ddiwygio cyfiawnder troseddol oblygiadau sylweddoi i Gymru.
- Mae data, tystiolaeth a phrofiad bywyd yn cryfhau’r broses o wneud penderfyniadau a goruchwylio.
- Mae plant a phobl ifanc angen mwy o amlygrwydd mewn trafodaethau cyfiawnder troseddol.
- Mae lleisiau cymunedau a phrofiad bywyd yn dal yn hanfodol i wiath gwrth-hiliaeth.
- Mae cydweithio a dysgu ar y cyd yn parhau i gefnogi gwelliant ledled Cymru.
Edrych Ymlaen 2026 i 28
Chwe blaenoriaeth yn troi mewnwelediad yn weithredu
Bydd y Bwrdd yn cyfuno cydlynu systemau â thystiolaeth, mewnwelediad a sicrwydd.
- Dioddefwyr a thystion – Deall taith y dioddefwr ar draws Cymru, gan gynnwys hyder, ymgysylltiad a chyfranogiad.
- Diwygio cyfiawnder troseddol – Deall effeithiau diwygio, nodi risgiau traws-system a chefnogi ymateb cydlynol.
- Data a phrofiad bywyd – Cryfhau tystiolaeth, mewnwelediad a sicrwydd drwy Archwiliad lechyd Perfformiad y System Cyfiawnder Troseddol.
- Plant, pobl ifanc a chyfiawnder ieuenctid – Atal, dargyfeirio, llwybrau ieuenctid a phontio rhwng gwasanaethau ieuenctid ac oedolion.
- Gwrth-hiliaeth – Parhau I gyflawni’r Cynullun Gweithredu Gwrth-Hiliaeth, data anghymesuredd ac ymgsysylltu â’r gymuned.
- LLywodraethu a chyfathrebu – Llif gwybodaeth, ymgysylltu â rhanddeiliad, uwchgyfeirio a dysgu a rennir ledled Cymru.
Wedi’i ategu gan ddata, profiad bywyd, sicrwydd ac uwchgyfeirio cymesur.
- Wedi’i arwain yn lleol.
- Wedi’i lywio gan fewnwelediad ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau.
- Dylanwadwr a galluogwr strategol.
2. Cyfiawnder troseddol yng Nghymru
Mae cyfiawnder troseddol yng Nghymru yn gweithredu o fewn cyd-destun polisi a chyflawni unigryw.
Er bod Llywodraeth y DU yn dal i fod yn gyfrifol am blismona, erlyn, llysoedd, carchardai a’r gwasanaeth prawf, mae llawer o’r gwasanaethau sy’n dylanwadu ar brofiadau pobl o droseddu a chyfiawnder, gan gynnwys iechyd, tai, addysg a llywodraeth leol, wedi’u datganoli i Lywodraeth Cymru.
Mae’r trefniadau hyn yn creu rhyngddibyniaethau ar draws y system ac yn ei gwneud yn hanfodol inni weithio mewn partneriaeth effeithiol wrth ymateb i’r pwysau presennol ac i’r diwygio a wneir i’r dyfodol.
Pwerau Datganoledig yng Nghymru
Pwerau sydd wedi’u datganoli i Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru.
Pwerau Datganoledig: Meysydd Ile mae Senedd Cymru / Llywodraeth Cymry yn gwneud penderfyniadau.
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Y GIG a gwasanaethau cymdeithasol.
- Addysg a Sgiliau – Ysgolion a hyfforddiant.
- Trafnidiaeth – Ffyrdd, bysiau, gwasanaethau rheilffyrdd Cymru.
- Yr Amgylchedd ac Amaethyddiaeth – Ffermio a’r amgylchedd.
- Tai a Llywodraeth Leol – Tai a chynghorau lleol.
- Yr laith Gymraeg a Diwylliant – Yr laith Grymraeg a Threftadaeth.
- Twristiaeth – Cefnogi twristiaeth a diwydiant.
- Rhai Pwerau Cyfiawnder – Cyfiawnder ieuenctid a thribiwnlysoedd.
Cadw Pwerau: Meysydd a reolir gan Lywodraeth y DU.
- Amddiffyn a Diogelwch – Diogelwch milwrol a chenedlaethol.
- Materion Tramor – Polisi tramor a diplomyddiaeth.
- Mewnfudo a Lloches – Ffiniau a fisâu.
- Lles a Budd-daliadau – System nawdd cymdeithasol.
- Cyfiawnder Troseddol – Plismona a chyfraith droseddol.
- Ynni a Darlledu – Polisi ynni a rheoleiddio’r cyfryngau.
- Yr Economi – Trethiant cyffredinol ac arian cyfred.
- Hawliau Gweithwyr – Cyfraith a safonau cyflogaeth.
Mae Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru (y Bwrdd) yn dwyn ynghyd arweinwyr o sefydliadau cyfiawnder troseddol, Llywodraeth Cymru, iechyd, llywodraeth leol a’r sector gwirfoddol i ystyried materion sy’n effeithio ar Gymru a nodi lle gellid bod angen gweithredu ar y cyd, dylanwadu neu ddysgu ar y cyd.
Mae’r pedwar Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol yng Nghymru yn arwain gweithgarwch partneriaethau lleol ac yn ymateb i faterion sy’n effeithio ar eu cymunedau.
Mae’r Bwrdd yn defnyddio gwybodaeth, tystiolaeth a phrofiad lleol i lywio trafodaethau, cydweithio a dysgu ar y cyd ledled Cymru.
3. Siapio ein ffocws a’r materion allweddol yn 2025 i 26
Ddechrau’r flwyddyn, cyhoeddodd y pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu yng Nghymru Gynlluniau Heddlu a Throseddu newydd. Aeth y Bwrdd ati i adolygu’r cynlluniau hyn ochr yn ochr â’r materion a ddaeth i’r amlwg oddi wrth y Byrddau Cyfiawnder Troseddol Lleol i ganfod themâu cyffredin, heriau a phryderon cyffredin sy’n galw am ymateb ledled Cymru.
Un carreg filltir allweddol yn ystod y flwyddyn oedd Diwrnod Datblygu’r Bwrdd, a gynhaliwyd yng Ngharchar EF Berwyn. Gan ddefnyddio’r adolygiad hwn, bu aelodau’r Bwrdd yn ystyried rôl, blaenoriaethau a ffyrdd o weithio’r Bwrdd yng nghyd-destun galw cynyddol, diwygio’r system cyfiawnder troseddol a phwysau ehangach ar y system.
Bu’r trafodaethau’n help i egluro rolau’r Bwrdd a’r Byrddau Cyfiawnder Troseddol Lleol, gan sefydlu dealltwriaeth gliriach o ba faterion sy’n cael sylw orau’n lleol a phryd y mae persbectif Cymru gyfan yn ychwanegu’r gwerth mwyaf.
Llwyddwyd i sefydlu set gliriach o egwyddorion ar gyfer gwaith y Bwrdd yn y Diwrnod Datblygu. Cytunai aelodau’r Bwrdd y dylai’r Bwrdd:
-
Fod dan arweiniad lleol, gan ddefnyddio’r blaenoriaethau, y profiad a’r dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg o bob cwr o Gymru.
- Cael ei ysgogi gan y wybodaeth sydd ganddo a chanolbwyntio ar ganlyniadau, gan ddefnyddio tystiolaeth a gwybodaeth am berfformiad i lywio trafodaethau a phenderfyniadau.
- Bod yn gorff galluogi a dylanwadu strategol, gan ennyn cyd-ymdrech a helpu i feithrin cyd-ddealltwriaeth o’r materion sy’n effeithio ar gyfiawnder troseddol yng Nghymru.
Drwy gydol 2025 i 26, roedd trafodaethau’r Bwrdd yn canolbwyntio ar bedwar maes blaenoriaeth:
- Dioddefwyr a thystion
- Pobl sydd wedi troseddu
- Ymyrraeth gynnar ac atal
- Atal hiliaeth
Ar draws pob ardal, bu’r Bwrdd hefyd yn ystyried profiadau plant a phobl ifanc a materion yn ymwneud â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Mae’r adrannau canlynol yn crynhoi’r prif faterion a ystyriwyd yn ystod 2025 i 26, y gwaith a wnaed yn ystod y flwyddyn, a sut wnaeth hyn lywio blaenoriaethau’r Bwrdd ar gyfer 2026 i 28.
3.1 Dioddefwyr a thystion
Fel y nodwyd yn adroddiad blynyddol blaenorol y Bwrdd, ffocws y gwaith o hyd oedd y pedwar maes a nodwyd gan ddioddefwyr a goroeswyr:
- Cydymffurfio â’r Cod Dioddefwyr.
- Lleihau cyfraddau tynnu’n ôl mewn achosion cam-drin domestig.
- Cynyddu ymwybyddiaeth o fesurau arbennig.
- Gwella profiad goroeswyr yn y llys teulu.
Gwnaed cynnydd ar draws pob un o’r meysydd hyn. Roedd y datblygiadau allweddol yn cynnwys Model Sicrwydd a Mewnwelediadau’r Cod Dioddefwyr, Cydgynlluniau Cyfiawnder Cymru-gyfan a lleol ar Gam-drin Domestig, Dangosfwrdd Cyfraddau Tynnu’n Ôl Cam-drin Domestig, adolygiad o fesurau arbennig a Safleoedd Tystiolaeth o Bell, a chwblhau gwaith sy’n ymwneud â phrofiadau goroeswyr yn y llys teulu.
Canolbwyntiai’r drafodaeth gydol y flwyddyn ar ffactorau sy’n effeithio ar hyder dioddefwyr, ar eu hymrwymiad a’u cyfranogiad yn y broses gyfiawnder, gan gynnwys oedi, cyfathrebu a mynediad at gymorth.
Bu’r Bwrdd hefyd yn ystyried gwybodaeth gan bartneriaid, data am berfformiad ac adborth gan ddioddefwyr a goroeswyr er mwyn helpu i feithrin gwell dealltwriaeth o brofiad a chanlyniadau dioddefwyr.
Canfyddiadau’r archwiliad
Cytunodd y Bwrdd i gadw golwg ar y canlynol:
- Siwrnai’r dioddefwr, gan gynnwys i ba raddau y cydymffurfir â’r Cod Dioddefwyr a phrofiad dioddefwyr.
- Lleihau cyfraddau tynnu’n ôl achosion cam-drin domestig.
- Mesurau Arbennig a Safleoedd Tystiolaeth o Bell.
3.2 Pobl sydd wedi troseddu
Parhaodd y Byrddau Cyfiawnder Troseddol Lleol i fwrw ymlaen â chynlluniau gweithredu a oedd yn canolbwyntio ar flaenoriaethau troseddu yn eu hardaloedd.
Roedd enghreifftiau’n cynnwys rhaglen CARA yn Ne Cymru, sy’n gweithio gydag unigolion sy’n byw â cham-drin domestig lefel is i atal aildroseddu; dulliau aml-asiantaeth o fynd i’r afael â stelcio ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Ngogledd Cymru; cynlluniau peilot yn Nyfed-Powys i ddarparu llety ar gyfer pobl sy’n gadael y carchar ac yn adsefydlu yn eu cymunedau; a gweithgarwch wedi’i dargedu yng Ngwent i roi sylw i aildroseddu a phryderon ynghylch diogelwch yn y gymuned.
Bu’r Bwrdd yn ystyried patrymau troseddu, gwasanaethau ac ymyriadau ledled Cymru i helpu i adsefydlu troseddwyr a rhoi sylw i’r ffactorau sy’n cael eu cysylltu â’r troseddu. Roedd hyn yn cynnwys cymorth niwroamrywiaeth i bobl ar brawf, gwasanaethau anafiadau i’r ymennydd ar gyfer pobl mewn carchardai a lleoliadau prawf, a Gofynion Triniaeth Iechyd Meddwl ledled Cymru.
Cyfeiriwyd at lety, iechyd meddwl, niwroamrywiaeth a thrawma yn rheolaidd mewn trafodaethau gydol y flwyddyn.
Roedd y dystiolaeth a gyflwynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at y berthynas rhwng iechyd, trawma a chanlyniadau cyfiawnder, gan atgyfnerthu pwysigrwydd cymorth cydlynol ar draws sefydliadau cyfiawnder troseddol, gwasanaethau iechyd, darparwyr tai a gwasanaethau cymunedol ehangach.
Roedd y diweddariadau gan Wasanaeth Carchardai a Phrawf EF (HMPPS) a Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) yng Nghymru yn tynnu sylw at ddatblygu dulliau datrys problemau yn y system gyfiawnder, gan gynnwys datblygu’r achos dros Lys Goruchwyliaeth Ddwys i Fenywod yn Llys Ynadon Abertawe. Nod y cynllun peilot yw rhoi sylw i’r anghenion sylfaenol a’r gwendidau sy’n cael eu cysylltu â throseddu.
Roedd y trafodaethau hyn yn atgyfnerthu pwysigrwydd rhoi sylw i’r ffactorau sy’n cael eu cysylltu â throseddu ochr yn ochr â’r ymddygiad troseddol ei hun.
Canfyddiadau’r archwiliad
Cadarnhaodd yr archwiliad y dylai blaenoriaethau adsefydlu a throseddu ddal i gael eu harwain drwy bartneriaethau lleol.
Bydd y Bwrdd yn dal i ystyried beth mae diwygio cyfiawnder troseddol yn ei olygu i wasanaethau adsefydlu, llety ac ailsefydlu, ac yn dal i fod yn gefnogol i ddysgu ar y cyd ledled Cymru.
3.3 Ymyrraeth gynnar ac atal
Roedd y gwaith yn ystod y flwyddyn yn canolbwyntio ar gryfhau dulliau gweithredu sy’n ystyriol o drawma ar draws y system cyfiawnder troseddol ac ar wella’r dealltwriaeth o’r gwasanaethau, yr ymyriadau a’r partneriaethau sydd eu hangen i atal troseddu a lleihau niwed.
Daliodd y rhaglen Beilot Ystyriol o Drawma i ddatblygu’n llwyddiannus. Fe wnaeth GLlTEF, HMPPS, heddluoedd a Swyddfeydd Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ledled Cymru ddal i ddatblygu dulliau gweithredu sy’n ystyriol o drawma gyda chymorth Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Roedd y gweithgareddau’n cynnwys hunanasesiadau sefydliadol, ymgysylltu â’r gweithlu, cynllunio ar gyfer gweithredu a datblygu dulliau lleol o wreiddio ymarfer sy’n ystyriol o drawma.
Fe wnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd ddal i gefnogi Cymuned Ymarfer Cymru, gan alluogi sefydliadau i rannu’u profiadau a’r gwersi a ddysgwyd wrth i ddulliau sy’n ystyriol o drawma ddatblygu.
Atgyfnerthai’r trafodaethau bwysigrwydd cydnabod effaith trawma, bregusrwydd a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ar ganlyniadau cyfiawnder.
Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch atal sy’n digwydd drwy bartneriaethau lleol, trefniadau diogelwch cymunedol a rhaglenni atal ehangach.
Rhoddwyd sylw penodol i blant a phobl ifanc, gan gynnwys cyfraniad gweithgarwch atal a dargyfeirio at leihau cysylltiad â’r system gyfiawnder i’r dyfodol. Ceir gwybodaeth ychwanegol am ganlyniadau dargyfeirio ieuenctid yn Atodiad B.
Yn ystod y flwyddyn, derbyniodd y Bwrdd ymchwil yn ymwneud â menywod yn y system cyfiawnder troseddol a gafodd anaf i’r ymennydd. Rhannwyd y canfyddiadau â phartneriaid lleol ac maent wedi cael eu cynnwys yn y rhaglen ehangach Menywod mewn Cyfiawnder. Ceir rhagor o wybodaeth yn Atodiad C.
Canfyddiadau’r archwiliad
Cytunodd y Bwrdd y dylai gweithgarwch ymyrryd yn gynnar ac atal ddal i gael ei arwain drwy bartneriaethau lleol a’r trefniadau cyflawni presennol.
Bydd trafodaethau i’r dyfodol yn rhoi mwy o bwyslais ar blant a phobl ifanc, gan gynnwys y pontio rhwng gwasanaethau ieuenctid a gwasanaethau oedolion.
3.4 Atal hiliaeth a phrofiadau bywyd
Fel y nodir yng Nghynllun Gweithredu Atal Hiliaeth y Bwrdd a’r Adroddiad Blynyddol ar Atal Hiliaeth Cyfiawnder Troseddol, roedd y gwaith yn ystod 2025 i 26 yn dal i ganolbwyntio ar ymgysylltu â’r gymuned, datblygu’r gweithlu, data ar anghymesuredd, cynrychiolaeth a chryfhau’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer newid.
Bu aelodau’r Bwrdd yn ymgysylltu ag amrywiaeth o gymunedau, rhwydweithiau staff a grwpiau rhanddeiliaid ledled Cymru.
Roedd hyn yn cynnwys Prosiect Diogelwch Trefol y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST) yng Ngwent, Grŵp Rhanddeiliaid Hil Heddlu Gogledd Cymru, y Gweithgor Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru ac Atal Hiliaeth Plismona, Grŵp Carcharorion Diwylliant a Ffydd Carchar EF Brynbuga, y Tîm Amrywiaeth a Chynhwysiant a Rhwydwaith Staff RISE, a digwyddiad atal hiliaeth a gynhaliwyd gan Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Cwm Taf.
Rhoddodd y trafodaethau hyn gipolwg gwerthfawr ar brofiad gwahanol gymunedau o wasanaethau cyfiawnder troseddol gan atgyfnerthu pwysigrwydd ymddiriedaeth, cynrychiolaeth ac ymgysylltu ystyrlon.

Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST) Gwaith celf wedi’i greu gan un o gleientiaid EYST.
Parhaodd y cynnydd yn erbyn yr ymrwymiadau yn y Cynllun Gweithredu ar Atal Hiliaeth Cyfiawnder Troseddol.
Roedd hyn yn cynnwys cynyddu cynrychiolaeth lleiafrifoedd ethnig yn strwythurau’r Bwrdd a’r Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol, sefydlu’r Fframwaith Hyfforddiant Atal Hiliaeth ar draws sefydliadau, cryfhau’r sylfaen dystiolaeth ar anghymesuredd, adolygu trefniadau llywodraethu a chyflawni drwy lens wrth-hiliol, a darparu gweithgareddau ymgysylltu a chyfathrebu â’r gymuned.
Drwy gydol y flwyddyn, roedd aelodau’r Bwrdd yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod lleisiau o’r gymuned a phrofiadau bywyd yn dal i lywio’r broses o wneud penderfyniadau a helpu i siapio blaenoriaethau’r dyfodol.
Canfyddiadau’r archwiliad
Bydd y Bwrdd yn dal i oruchwylio’r gwaith o gyflawni’r Cynllun Gweithredu ar Atal Hiliaeth Cyfiawnder Troseddol ac yn monitro’r cynnydd tuag at ei ymrwymiadau ar gyfer 2030.
Bydd lleisiau o’r gymuned a phrofiadau bywyd yn dal i lywio’r penderfyniadau a’r cyflawni yn lleol ac ar lefel Cymru gyfan.
4. Diwygio a deall newid i’r dyfodol
Daeth diwygio cyfiawnder troseddol fwyfwy dan y chwyddwydr yn ystod 2025 i 26. Disgwylir i newidiadau gweithredol a newidiadau mewn deddfwriaeth a pholisi effeithio ar rannau sylweddol o’r system gyfiawnder dros y blynyddoedd nesaf, gan greu cyfleoedd a heriau i sefydliadau ledled Cymru.
Drwy gyfrwng Diwrnod Datblygu’r Bwrdd a’r archwiliad, cyfeiriwyd at ddiwygio cyfiawnder troseddol fel un o’r meysydd lle gallai persbectif Cymru gyfan ychwanegu gwerth.
Mae’r Bwrdd yn fforwm lle gall y partneriaid bwyso a mesur sut gallai’r diwygiadau effeithio ar Gymru, amlygu’r risgiau a’r dibyniaethau cyffredin, a chefnogi ymateb cydlynol lle bo angen.
Yn ystod y flwyddyn, ystyriodd y Bwrdd oblygiadau rhaglen diwygio cyfiawnder troseddol a oedd yn datblygu, gan gynnwys:
- Diwygio’r drefn ddedfrydu
- Diwygio’r llysoedd
- Diwygio cyfiawnder ieuenctid
- Diwygio’r Cod Dioddefwyr
- Diwygio llywodraethiant plismona
Bu’r trafodaethau yn canolbwyntio ar oblygiadau’r diwygiadau hyn i sefydliadau cyfiawnder troseddol, gwasanaethau datganoledig a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
I gefnogi’r gwaith hwn, cyflwynodd y Bwrdd ddull i Asesu Effaith Polisi. Gan ddefnyddio cyfraniadau gan sefydliadau cyfiawnder troseddol, Llywodraeth Cymru a phartneriaid trydydd sector, gwelodd yr asesiad bum maes y mae angen rhoi sylw iddynt yn barhaus:
- Negeseuon cyhoeddus.
- Diogelu dioddefwyr.
- Capasiti a chadernid y gweithlu.
- Hyfforddiant ac addysg.
- Comisiynu cydgysylltiedig.
Gwersi allweddol
Roedd yr asesiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd deall sut mae diwygiadau’n rhyngweithio a’r effaith y gallent ei chael ar draws y system ehangach.
Gall newidiadau sy’n effeithio ar ddedfrydu, llysoedd, plismona, dioddefwyr ac adsefydlu greu pwysau y tu hwnt i sefydliadau unigol ac mae gofyn cael cyd-ddealltwriaeth o’u heffaith ledled Cymru.
Y camau nesaf
Bydd y Bwrdd yn parhau i ddefnyddio’r fframwaith i Asesu Effaith Polisi i ystyried y diwygiadau sy’n codi a’u goblygiadau i Gymru.
Bydd Pwyllgor Goruchwylio Diwygiadau yn cael ei sefydlu i archwilio’r goblygiadau gweithredol yn fanylach, i adnabod risgiau, dibyniaethau a chyfleoedd sy’n dod i’r amlwg, ac i gefnogi ymateb cydlynol ar draws y partneriaid.
5. Arweinyddiaeth, cydweithredu a dylanwadu
Ochr yn ochr â’i feysydd blaenoriaeth, parhaodd y Bwrdd i gefnogi arweinyddiaeth, cydweithredu a chysylltiadau ar draws sefydliadau a sectorau yn ystod 2025 i 26.
5.1 Arweinyddiaeth a rhwydweithiau proffesiynol
Un datblygiad pwysig yn ystod y flwyddyn oedd sefydlu YSBRYDOLI: Arweinyddion Benywaidd yn y System Gyfiawnder.
Sefydlwyd YSBRYDOLI fel menter i Gymru-gyfan i ddwyn ynghyd menywod sy’n arweinwyr o bob rhan o’r system gyfiawnder i’w helpu i rwydweithio, datblygu arweinyddiaeth a chydweithredu.
Roedd y fenter yn cydnabod pa mor bwysig yw creu cyfleoedd i fenywod sy’n gweithio ar draws y system gyfiawnder i allu cysylltu, rhannu profiadau a myfyrio ar heriau arweinyddiaeth.
Mewn digwyddiad a gynhaliwyd yn y Senedd, daeth arweinwyr sefydledig ac arweinwyr newydd ynghyd o bob cwr o Gymru, gan greu cyfleoedd i rannu profiadau, datblygu rhwydweithiau proffesiynol a chryfhau cyfleoedd i gydweithredu ar draws sefydliadau.
Roedd y cyfranogwyr yn cynrychioli amrywiaeth o sefydliadau cyfiawnder troseddol, gwasanaethau cyhoeddus a’r sector gwirfoddol, gan adlewyrchu pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth ar draws y dirwedd cyfiawnder yng Nghymru.

Darlun o Senedd Cymru, Bae Caerdydd. Ffynhonnell y ddelwedd: Gwefan Pensaernïaeth a Hanes.
Dangosodd y digwyddiad werth creu lle ar gyfer dysgu, rhwydweithio a chydweithredu ar draws systemau, a bu iddo sefydlu YSBRYDOLI fel fforwm parhaus i fenywod sy’n arweinwyr ar draws y system gyfiawnder yng Nghymru.
5.2 Cysylltu Cymru â thrafodaethau ehangach
Penodwyd Bernie Bowen-Thomson, Prif Swyddog Gweithredol Cymru Ddiogelach, Cadeirydd Cyfiawnder Cymunedol Cymru ac aelod o’r Bwrdd, i’r Bwrdd Menywod mewn Cyfiawnder dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Timpson.
Roedd hyn yn creu cyswllt uniongyrchol rhwng Cymru a thrafodaethau ehangach ynghylch menywod sydd mewn cysylltiad â’r system gyfiawnder.
Cryfhawyd y cysylltiadau hyn ymhellach drwy gynnwys Mike Connolly, Dirprwy Gyfarwyddwr Diogelwch Cymunedol yn Llywodraeth Cymru, yn y Grŵp Cyflawni Rhaglenni cysylltiedig.
Gyda’i gilydd, roedd y trefniadau hyn yn cryfhau’r cysylltiadau rhwng Cymru a fforymau cyfiawnder ehangach, gan helpu i sicrhau bod materion sy’n effeithio ar Gymru yn parhau i fod yn weladwy mewn trafodaethau cenedlaethol gan alluogi i’r wybodaeth a gafwyd a’r gwersi a ddysgwyd gael eu rhannu ar draws ffiniau sefydliadol a daearyddol.
6. Rhaglen ar gyfer Newid: 2026 i 28
Bydd y Bwrdd yn camu i’r ddwy flynedd nesaf gyda dealltwriaeth gliriach o’r materion y mae angen eu hystyried ledled Cymru a’r meysydd lle gall ychwanegu’r gwerth mwyaf.
Gyda Chynlluniau Heddlu a Throseddu ar waith tan 2029, a disgwyliadau am gryn ddiwygiadau ar draws y drefn blismona a’r system cyfiawnder troseddol ehangach, mae’r Bwrdd wedi mabwysiadu ffocws tymor hwy ar gyfer 2026 i 28.
Bydd hyn yn rhoi mwy o gyfle i ddeall effaith y diwygiadau ledled Cymru, i adnabod y risgiau a’r cyfleoedd sy’n dod i’r amlwg, ac i gefnogi’r gwaith o ddatblygu tystiolaeth, dealltwriaeth ac allbynnau gwirioneddol a all lywio gweithgarwch gwella i’r dyfodol.
1. Dioddefwyr a thystion
Bydd y Bwrdd yn canolbwyntio ar gryfhau ei ddealltwriaeth o siwrnai’r dioddefwr ledled Cymru, gan gynnwys sut mae hyder, ymrwymiad a chyfranogiad yn amrywio ar wahanol gamau yn y broses cyfiawnder troseddol.
Bydd sicrwydd y Cod Dioddefwyr, profiadau bywyd, gwybodaeth am berfformiad a gwybodaeth gan bartneriaid yn cael eu defnyddio i adnabod y rhwystrau, deall y materion sy’n dod i’r amlwg a llywio gweithgarwch gwella i’r dyfodol.
Rhoddir sylw penodol i gyfraddau tynnu’n ôl achosion cam-drin domestig, cyfathrebu â dioddefwyr, a sut caiff mesurau arbennig a Safleoedd Tystiolaeth o Bell eu cyrchu a’u defnyddio.
Bydd ymgysylltu â fforymau cenedlaethol sy’n canolbwyntio ar ddioddefwyr yn dal i sicrhau bod datblygiadau sy’n effeithio ar ddioddefwyr yn cael eu hystyried yng nghyd-destun Cymru.
2. Diwygio cyfiawnder troseddol
Bydd y Bwrdd yn parhau i asesu goblygiadau diwygio’r system cyfiawnder troseddol i Gymru drwy’r fframwaith Asesu Effaith Polisi. Rhoddir pwyslais arbennig ar y canlynol:
- Diwygio’r drefn ddedfrydu
- Diwygio’r llysoedd
- Diwygio’r system cyfiawnder ieuenctid
- Diwygio’r Cod Dioddefwyr
- Diwygio llywodraethiant plismona
Bydd y Pwyllgor Goruchwylio’r Diwygio yn chwilio am effeithiau ar draws systemau, am risgiau sy’n codi ac am gyfleoedd i gydweithio. Bydd hyn yn cynorthwyo rôl y Bwrdd i sefydlu ei hun fel llais strategol i Gymru, gan ddylanwadu ar bolisi cenedlaethol a thrafodaethau ehangach am gyfiawnder troseddol sy’n effeithio ar Gymru.
3. Data a phrofiadau bywyd
Bydd y Bwrdd yn mynd ati i ddefnyddio mwy o ddata, profiadau bywyd a gwybodaeth gan bartneriaid i gynorthwyo gyda sicrwydd, penderfyniadau ac uwchgyfeirio.
Bydd datblygu Archwiliad Iechyd o Berfformiad y System Cyfiawnder Troseddol yn gwella dealltwriaeth o berfformiad, galw, risg a chanlyniadau ledled Cymru.
4. Plant, pobl ifanc a chyfiawnder ieuenctid
Bydd y Bwrdd yn rhoi mwy o bwyslais ar ddeall profiadau plant a phobl ifanc a’r llwybrau a all arwain at iddynt gael eu dwyn i mewn i’r system gyfiawnder.
Bydd Diwrnod Datblygu arbennig yn dwyn ynghyd Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid a phartneriaid o bob cwr o Gymru i archwilio’r materion sy’n codi, i rannu’r gwersi a ddysgwyd a chryfhau’r cysylltiadau rhwng trafodaethau am gyfiawnder ieuenctid a chyfiawnder oedolion.
Rhoddir sylw penodol i atal, dargyfeirio a phwyntiau pontio rhwng gwasanaethau ieuenctid a gwasanaethau oedolion.
5. Atal hiliaeth
Bydd atal hiliaeth yn dal i fod yn un o flaenoriaethau allweddol y Bwrdd. Bydd y gweithgaredd yn canolbwyntio ar ddefnyddio data ar anghymesuredd yn fwy effeithiol, meithrin mwy o gysylltiad â’r gymuned a deall sut mae hil ac ethnigrwydd yn croesdorri â diwygio cyfiawnder troseddol ehangach a llwybrau’r system.
Bydd ymgyrch gyfathrebu ledled Cymru yn cefnogi gwell ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r Cynllun Gweithredu ar Atal Hiliaeth Cyfiawnder Troseddol, gan adeiladu ar wybodaeth a gwersi a ddysgwyd oddi wrth gweithgarwch ymgysylltu blaenorol.
6. Llywodraethu a chyfathrebu
Bydd y Bwrdd yn canolbwyntio ar gyfathrebu’n fwy effeithiol, ar lif gwybodaeth ac ar ddysgu ar y cyd ar draws Cymru.
Bydd y gwaith yn dal i fynd rhagddo i wella ymwybyddiaeth o rôl a blaenoriaethau’r Bwrdd ymysg y partneriaid, y cynrychiolwyr etholedig a’r rhanddeiliaid eraill; bydd hyn yn helpu â’r gwaith o ganfod problemau sy’n codi a’u huwchgyfeirio’n brydlon.
Bydd hyn yn cynnwys cryfhau’r cyswllt â Gweinidogion Cymru a chynrychiolwyr etholedig i’w helpu i ddeall y materion sy’n effeithio ar gyfiawnder troseddol yng Nghymru ac i greu cyfleoedd i gydweithio.
Atodiadau
Mae’r atodiadau canlynol yn cyflwyno gwybodaeth atodol sy’n berthnasol i waith Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru yn ystod y cyfnod adrodd.
Atodiad A - y Gynrychiolaeth ar y Bwrdd
Mae Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru yn dwyn ynghyd uwch gynrychiolwyr o blith:
- Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru
- Heddluoedd yng Nghymru
- Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru
- Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF yng Nghymru
- Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yng Nghymru
- Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru
- Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol a phartneriaid iechyd y cyhoedd
- Sefydliadau cyfreithiol, sector gwirfoddol, diogelwch cymunedol a chymorth i ddioddefwyr
Atodiad B - Canlyniadau Dargyfeirio Cyfiawnder Ieuenctid
Mae cyhoeddiad y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, The Use of Diversionary Outcomes in England and Wales 2025, yn rhoi inni gyd-destun ychwanegol sy’n ymwneud ag atal, dargyfeirio ac ymyrryd yn gynnar ar gyfer plant a phobl ifanc.
Mae’r cyhoeddiad yn tynnu sylw at rôl bwysig gweithgarwch dargyfeiriol mewn gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru a bydd yn helpu i lywio gwaith y Bwrdd gyda phlant, pobl ifanc a chyfiawnder ieuenctid yn ystod 2026 i 28.
Gweler y cyhoeddiad ar ddefnyddio canlyniadau dargyfeirio yng Nghymru a Lloegr yn 2025
Atodiad C - Anaf i’r Ymennydd a Menywod yn y System Cyfiawnder Troseddol
Yn ystod 2025 i 26, derbyniodd y Bwrdd ymchwil yn ymwneud â menywod yn y system cyfiawnder troseddol a gafodd anaf i’r ymennydd. Rhannwyd y canfyddiadau â’r partneriaid lleol ac maent wedi siapio trafodaethau ehangach sy’n ymwneud â thrawma, iechyd, bregusrwydd a llwybrau i’r system gyfiawnder.
Mae’r adnoddau canlynol yn rhoi gwybodaeth a chyd-destun ychwanegol:
Atodiad D - Adroddiad Blynyddol ar Atal Hiliaeth ym maes Cyfiawnder Troseddol
Mae’r Criminal Justice Anti-Racism Annual Report yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â’r adroddiad hwn ac mae’n rhoi rhagor o fanylion am gynnydd, gweithgarwch a chyflawniad yn erbyn Cynllun Gweithredu Atal Hiliaeth Cyfiawnder Troseddol Cymru.
Gweld y cyhoeddiad Criminal Justice Anti-Racism Annual Report: [Insert link]
Atodiad E - Cynlluniau Heddlu a Throseddu 2025 i 29
Mae Byrddau Cyfiawnder Troseddol lleol yn gweithredu o fewn fframwaith Cynlluniau Heddlu a Throseddu ar gyfer y cyfnod 2025 i 29. Mae’r cynlluniau hyn yn rhoi inni gyd-destun pwysig ar gyfer blaenoriaethau cyfiawnder troseddol lleol a gweithgarwch partneriaeth ledled Cymru.
- Cynllun Heddlu a Throseddu De Cymru
- Cynllun Heddlu a Throseddu Gwent
- Cynllun Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru
- Cynllun Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys
Atodiad F - Geirfa
Mae’r eirfa hon yn egluro rhai o’r termau, y cysyniadau a’r acronymau a ddefnyddir yn yr adroddiad. Fe’i bwriedir i helpu darllenwyr nad ydynt o bosibl yn gyfarwydd â therminoleg cyfiawnder troseddol a threfniadau llywodraethu yng Nghymru.
| Term | Ystyr |
|---|---|
| Adsefydlu | Cefnogaeth sy’n helpu pobl i roi sylw i’r ffactorau sy’n gysylltiedig â’r troseddu a lleihau’r tebygolrwydd o aildroseddu. |
| Anghymesuredd | Pan fydd rhai grwpiau’n cael canlyniadau, cyfleoedd neu brofiadau gwahanol mewn system o’u cymharu ag eraill. |
| Anaf a gafwyd i’r ymennydd | Anaf i’r ymennydd sy’n digwydd ar ôl genedigaeth ac a allai effeithio ar ymddygiad, cyfathrebu, y cof neu’r gallu i wneud penderfyniadau. |
| Archwiliad | Adolygiad o’r gwaith presennol i benderfynu beth ddylai barhau, newid neu stopio. |
| Archwiliad Iechyd o Berfformiad y System Cyfiawnder Troseddol | Dull arfaethedig i ddod â data, profiadau bywyd a gwybodaeth gan bartneriaid at ei gilydd i ddeall perfformiad systemau ledled Cymru. |
| Asesiad o Effaith Polisi | Dull strwythuredig a ddefnyddia’r Bwrdd i ddeall sut gallai diwygiadau i bolisi a dulliau gweithredu effeithio ar Gymru, gan gynnwys risgiau, cyfleoedd ac effeithiau posibl ar draws y system cyfiawnder troseddol. |
| Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid (YJB) | Y sefydliad sy’n gyfrifol am oruchwylio’r system cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru a Lloegr. |
| Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru | Bwrdd partneriaeth Cymru gyfan sy’n dod â sefydliadau ynghyd i ystyried materion cyfiawnder troseddol strategol sy’n effeithio ar Gymru. |
| Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol (BCTLl) | Partneriaeth leol sy’n dod â sefydliadau ynghyd i wella canlyniadau cyfiawnder mewn ardal benodol yng Nghymru. |
| Bwrdd Cynghori Dioddefwyr | Fforwm cenedlaethol sy’n ystyried materion sy’n effeithio ar ddioddefwyr a gwasanaethau i ddioddefwyr. |
| Comisiynydd Dioddefwyr Cymru a Lloegr | Rôl annibynnol sy’n hyrwyddo buddiannau dioddefwyr a thystion. |
| Comisiynydd Heddlu a Throseddu (PCC) | Swydd etholedig sy’n gyfrifol am bennu blaenoriaethau plismona ac am ddwyn yr heddlu i gyfrif. |
| Cymru gyfan | Yn ymwneud â gweithgarwch, trefniadau neu faterion sy’n effeithio ar Gymru gyfan yn hytrach nag ar un ardal leol. |
| Cynllun Gweithredu ar Atal Hiliaeth | Y cynllun Cymru gyfan i fynd i’r afael â hiliaeth a gwella tegwch ar draws sefydliadau cyfiawnder troseddol yng Nghymru. |
| Cynllun Heddlu a Throseddu | Cynllun sy’n datgan y blaenoriaethau plismona a throseddu lleol ar gyfer ardal heddlu. |
| Dargyfeirio | Gweithgarwch sy’n helpu pobl, yn enwedig plant a phobl ifanc, i osgoi dod i gysylltiad pellach â’r system gyfiawnder. |
| Diogelu dioddefwyr | Camau y mae sefydliadau yn eu cymryd i amddiffyn dioddefwyr rhag niwed a gwarchod eu diogelwch a’u lles. |
| Diwrnod Datblygu | Sesiwn un-pwrpas ar gyfer aelodau’r Bwrdd i adolygu’r blaenoriaethau, y ffyrdd o weithio a’r ffocws ar gyfer y dyfodol. |
| Diwygio Cyfiawnder Troseddol | Newidiadau mewn deddfwriaeth, polisi neu arferion gweithredol sy’n effeithio ar y system cyfiawnder troseddol. |
| Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi (HMPPS) | Y sefydliad sy’n gyfrifol am garchardai a gwasanaethau prawf yng Nghymru a Lloegr. |
| Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) | Y corff sy’n gyfrifol am erlyn achosion troseddol y mae’r heddlu yn ymchwilio iddynt yng Nghymru a Lloegr. |
| Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) | Y sefydliad sy’n gyfrifol am weinyddu llysoedd a thribiwnlysoedd yng Nghymru a Lloegr. |
| Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid (YJS) | Gwasanaethau lleol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd yn y system gyfiawnder, neu sydd mewn risg o gael eu dwyn i mewn iddi. |
| Llys datrys problemau | Gwrandawiadau llys sy’n cyfuno goruchwyliaeth farnwrol â chefnogaeth sydd â’r nod o roi sylw i’r materion sydd ynghlwm â’r troseddu. |
| Llywodraethiant | Y ffordd y caiff penderfyniadau eu gwneud, eu cofnodi a’u goruchwylio. |
| Mesurau Arbennig | Cymorth sydd ar gael i helpu dioddefwyr a thystion sy’n fregus neu sy’n cael eu bygwth i roi tystiolaeth. |
| Niwroamrywiaeth | Gwahaniaethau yn y ffordd y mae pobl yn meddwl, yn dysgu ac yn prosesu gwybodaeth. |
| Profiadau bywyd | Gwybodaeth gan bobl sydd â phrofiadau uniongyrchol o’r gwasanaethau, y systemau neu’r materion sy’n cael eu trafod. |
| Profiadau dioddefwyr | Profiadau dioddefwyr o’r gefnogaeth, y cyfathrebu ac o gyfranogi gydol y broses cyfiawnder troseddol. |
| Profiadau niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) | Profiadau anodd neu drawmatig yn ystod plentyndod sy’n gallu effeithio ar iechyd, lles a chanlyniadau bywyd. |
| Rhybuddio a Cham-drin mewn Perthynas (CARA) | Rhaglen ymyrraeth gynnar a ddefnyddir mewn rhai achosion cam-drin domestig i leihau aildroseddu. |
| Safle Tystiolaeth o Bell | Lleoliad diogel lle gall dioddefwyr a thystion roi tystiolaeth heb orfod bod yn ystafell y llys. |
| Siwrnai’r dioddefwr | Term a ddefnyddir i ddisgrifio profiad dioddefwyr o’r broses cyfiawnder troseddol, gan gynnwys adrodd am drosedd, eu cysylltiad ag asiantaethau, mynediad at gymorth, eu cyfranogaeth mewn achosion a’r canlyniadau a gânt. |
| System Cyfiawnder Troseddol (CJS) | Y sefydliadau sy’n ymwneud â phlismona, erlyn, llysoedd, carchardai a’r gwasanaeth prawf. |
| Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST) | Mudiad yng Nghymru sy’n cefnogi plant, pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau ethnig lleiafrifol. |
| Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol | Maes polisi sy’n delio â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. |
| Tynnu’n ôl | Achosion nad ydynt yn parhau drwy’r broses gyfiawnder hyd at eu cwblhau. |
| Y Cod Dioddefwyr | Y cod sy’n nodi hawliau dioddefwyr a’r gwasanaethau y dylent eu cael. |
| Ymyrraeth gynnar | Cymryd camau’n gynnar i atal niwed neu leihau problemau i’r dyfodol. |
| Yn ystyriol o drawma | Dull sy’n cydnabod effaith trawma ar les, ymddygiad ac ymrwymiad pobl i wasanaethau. |
| YSBRYDOLI: Arweinyddion Benywaidd ym maes Cyfiawnder | Menter ledled Cymru sy’n cynorthwyo menywod sy’n gweithio mewn sefydliadau cyfiawnder i rwydweithio, datblygu arweinyddiaeth a chydweithredu. |