Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol Cymru Adroddiad Blynyddol 2025 i 2026
Published 5 October 2026
Applies to England and Wales
1. Rhagair
Mae’n bleser gennym gyflwyno’r cynnydd a wnaed yn ystod trydedd flwyddyn y Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol. Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’r camau rydym wedi bod yn eu cymryd i’n symud yn nes at gyflawni ein huchelgais ar y cyd o gael system cyfiawnder troseddol heb hiliaeth yng Nghymru.
Rydym yn gwneud cynnydd yn erbyn yr ymrwymiadau yn ein Cynllun, ond rydym yn cydnabod bod gennym fwy i’w wneud. Mae’r wybodaeth rydym yn ei chael drwy fewnbwn gan gymunedau, ymchwil a data sy’n dod i’r amlwg, yn ein galluogi i barhau i siapio polisi ac ymarfer yn y dyfodol, a throi hyn yn ganlyniadau gwirioneddol amlwg i bobl yn y system gyfiawnder yng Nghymru.
Mae tystiolaeth ddiweddar y DU yn parhau i ddangos gwahaniaethau parhaus o ran hil ar draws cyfiawnder troseddol yn y DU, ac mae tensiynau hiliol parhaus mewn cymunedau sy’n ein hatgoffa o’r angen i fynd i’r afael â hiliaeth a throseddau casineb yn ein cymunedau gyda’n gilydd.
Mae Cymru’n parhau i ddangos beth sy’n bosibl pan fydd gwasanaethau cyhoeddus yn gweithredu gyda’i gilydd. Mae Cymru’n sefyll ar ben ei hun yn ei phenderfyniad i ddarparu system gyfiawnder decach a mwy cynhwysol - un sy’n gwrando ar brofiadau bywyd ac sy’n cymryd camau gwirioneddol a mesuradwy. Gyda’n gilydd, rhaid i ni barhau i adeiladu system sy’n gweithio i bawb ac sy’n sicrhau bod pob un ohonom yn gweithio i ddarparu’r Gymru wirioneddol wrth-hiliol rydym ei heisiau ac sydd ei hangen arnom, gan roi pobl, nid prosesau, wrth galon popeth.
Mae’r gwaith rydym wedi’i gwblhau hyd yma wedi gosod sylfaen gadarn i adeiladu arni. Rydym am sicrhau bod modd defnyddio ein harweinyddiaeth mewn modd cadarnhaol i helpu i symud ymlaen â’r camau gweithredu yn y Cynllun hwn, ac rydym yn parhau i ddal ein gweithlu a’n cydweithwyr i gyfrif wrth ei gyflawni. Yn y pen draw, rydym eisiau i’n cymunedau a’n gweithlu deimlo’n ddiogel a thawel eu meddwl bod dileu hiliaeth yn flaenoriaeth i gyfiawnder troseddol. Rydym yn gwybod bod cymaint o waith i’w wneud, ond rydym yn gweld newidiadau calonogol yn digwydd ac rydym wedi ymrwymo i barhau i gyflawni’r ymrwymiadau yn y Cynllun yn y flwyddyn i ddod.
Cyd Uwch Swyddogion Cyfrifol ar gyfer Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol Cymru:
- Ian Barrow
Cyfarwyddwr Gweithredol, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yng Nghymru a’r Gwasanaeth Llety Cymunedol - Mark Hobrough
Prif Gwnstabl, Heddlu Gwent
Roeddwn yn falch iawn o gael fy mhenodi’n Gadeirydd y Panel Cynghori a Goruchwylio Annibynnol (IOAP) ym mis Hydref 2025, ar ôl i gyfnod 3 blynedd y panel cyntaf ddod i ben. Gwnaeth y Panel Cynghori cyntaf gyfraniadau pwysig i gyflwyniadau cychwynnol y Cynllun mewn cyfiawnder troseddol. Roedd y rhain yn cynnwys ymgysylltu ag uwch arweinwyr, herio diwylliant y gweithlu a’r sefydliad, cryfhau addysg a hyfforddiant staff, sicrhau bod profiadau bywyd pobl o leiafrifoedd ethnig yn cael eu hadlewyrchu, a thynnu sylw at bwysigrwydd ymgysylltu â’r gymuned wrth feithrin ymddiriedaeth a chyfathrebu dwyffordd tryloyw.
Wrth edrych i’r dyfodol, bydd y Panel Cynghori yn canolbwyntio ar sicrhau bod asiantaethau cyfiawnder troseddol yn cyflawni’r Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth mewn ffyrdd sy’n sicrhau effaith a chanlyniadau y gellir eu mesur. Y prawf allweddol fydd a yw’r gwaith hwn yn arwain at newid sylweddol a pharhaol drwy herio diwylliant y gweithle, gwella cynrychiolaeth y gweithlu, lleihau rhagfarn mewn polisïau a phrosesau, a chryfhau ymddiriedaeth a hyder ymysg cymunedau lleiafrifoedd ethnig.
Rhaid i arweinwyr cyfiawnder troseddol fwrw ymlaen â’r agenda gwrth-hiliaeth. Mae angen i hyn gynnwys herio ymddygiad ac agweddau annerbyniol, cydnabod a chefnogi arferion gwrth-hiliol, a gweithio gydag unigolion a chymunedau ethnig lleiafrifol i feithrin ymddiriedaeth a gwella dealltwriaeth o’u profiadau bywyd.
Rhaid i wrth-hiliaeth barhau i fod yn flaenoriaeth, gyda chanlyniadau mesuradwy sy’n sicrhau effaith glir a chadarnhaol i’r gweithlu a chymunedau ledled Cymru. Fel Panel Annibynnol, byddwn yn parhau i ddal asiantaethau cyfiawnder troseddol yn atebol am gyflawni’r Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth, ac edrychwn ymlaen at ddefnyddio ein rhaglen graffu y cytunwyd arni i wneud hyn yn y flwyddyn i ddod.
David Morris
Cadeirydd y Panel Cynghori a Goruchwylio Annibynnol
2. Cyflwyniad
Lansiwyd Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol Cymru ym mis Tachwedd 2022. Roedd yn nodi sut y byddai’r holl bartneriaid cyfiawnder troseddol yng Nghymru, gyda’i gilydd, yn gweithio i ddileu hiliaeth a gwahaniaethau hiliol ar draws y gwasanaeth.
Mae hyn yn cynnwys pedwar heddlu a Chomisiynwyr Heddlu a Throsedd Cymru, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi, a’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid. Roedd Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi addo cefnogi’r gwaith o gyflawni’r Cynllun.
Dyma’r trydydd adroddiad blynyddol sy’n tynnu sylw at y gweithgarwch sy’n digwydd i roi ymrwymiadau’r Cynllun ar waith ledled Cymru. Roedd yr adroddiad cyntaf, a gyhoeddwyd yng ngwanwyn 2024, yn canolbwyntio ar sut y sefydlwyd systemau, strwythurau a phrosesau llywodraethu i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r Cynllun.
Roedd yr ail adroddiad, a gyhoeddwyd yn hydref 2025, yn canolbwyntio ar sut y sefydlwyd camau gweithredu a phrosiectau penodol i sbarduno’r gwaith o gyflawni ymarferol a pharhaus.
Mae trydedd flwyddyn y Cynllun yn nodi’r cynnydd pellach sy’n cael ei wneud ar y cyd, a’r enghreifftiau niferus o weithgarwch sy’n benodol i asiantaethau sy’n digwydd ar lefelau lleol i wneud y newidiadau systemig y mae’r Cynllun yn ymrwymo iddynt.
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o dan bob un o’r 7 prif ymrwymiad yn y Cynllun:
- Herio Hiliaeth
- Adeiladu Gweithlu sy’n Amrywiol o ran Ethnigrwydd
- Cynnwys, Gwrando a Gweithredu
- Bod yn Dryloyw, yn Atebol ac yn Gydlynol
- Addysgu’r Gweithlu
- Hyrwyddo Tegwch
- Canolbwyntio ar Atal, Ymyrraeth Gynnar ac Adsefydlu
Ochr yn ochr â’r adroddiad hwn, mae Atodiad Data wedi’i gynnwys, sy’n cyflwyno data yn ymwneud â hil sydd ar gael ar draws y system cyfiawnder troseddol. Y nod yw ehangu ac adeiladu ar y set ddata hon bob blwyddyn, gan alluogi cymunedau i olrhain cynnydd o ran mynd i’r afael ag anghymesuredd hiliol dros amser. Mae cyhoeddi’r data hwn yn adlewyrchu ymrwymiad cryfach i fod yn dryloyw ac yn agored ac mae’n cefnogi ymdrechion parhaus i hyrwyddo gwrth-hiliaeth.
3. Cynnydd yn Erbyn y Cynllun
Mae’r adran hon yn rhoi gwybodaeth am y camau a gymerwyd dan bob un o’r ymrwymiadau yn y Cynllun yn ystod y flwyddyn.
3.1 Ymrwymiad 1: Herio Hiliaeth
Byddwn yn rhagweithiol wrth herio hiliaeth mewn cymdeithas lle gall cyfiawnder troseddol ddylanwadu, a byddwn yn gweithio i ddileu hiliaeth a rhagfarn hiliol ar draws y system. Byddwn yn sicrhau bod cymunedau lleiafrifoedd ethnig yn ymwybodol o’n hymrwymiadau gwrth-hiliol.
Adroddiad Blynyddol Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru 2025 i 26:
-
Bu asiantaethau Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru yn gweithio gyda darparwr Cyfathrebu a gomisiynwyd i roi cyhoeddusrwydd i nodau’r Cynllun. Gan ddefnyddio negeseuon a fideos ar y cyfryngau cymdeithasol, y bwriad oedd egluro ymrwymiad parhaus y gwasanaeth cyfiawnder troseddol i herio hiliaeth ar draws y system.
Roedd y negeseuon yn cynnwys uwch arweinwyr Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru yn ogystal â rhanddeiliaid partner sydd wedi gallu cyfleu eu cefnogaeth i’r gwaith sy’n cael ei wneud a’r angen am welliannau parhaus. -
Cwblhawyd adolygiad o ymateb plismona troseddau casineb ledled Cymru. Roedd hwn yn edrych ar ddarpariaeth a threfniadau llywodraethu’r gwasanaeth troseddau casineb a ddarperir gan y 4 heddlu yng Nghymru er mwyn sicrhau cysondeb ac arferion gorau. Bydd canfyddiadau’r adolygiad yn galluogi cyflwyno argymhellion er budd dioddefwyr ledled Cymru.
-
Mae’r 4 heddlu yng Nghymru wedi ymuno â chynllun peilot cenedlaethol ‘Datrys y Tu Allan i’r Llys’ ar gyfer Troseddau Casineb. Gyda chytundeb dioddefwyr, bydd hyn yn galluogi cyflawnwyr troseddau casineb sy’n bodloni’r meini prawf gofynnol i gymryd rhan mewn pecyn addysg i annog newid yn eu hymddygiad. Y nod yw lleihau’r tebygolrwydd y bydd troseddau casineb yn digwydd dro ar ôl tro.
-
Drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru ac EYST, lansiwyd adroddiad ymchwil yn ystod y flwyddyn, a oedd yn edrych ar effaith hiliaeth ar unigolion a chymunedau. Roedd yr adroddiad ‘Ydych chi’n gweld fy nhrawma?’ yn pwysleisio realiti bywyd pobl o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru, gan gynnwys yr effeithiau ar ragfarnau hiliol a oedd yn cael eu hailadrodd yn y ffordd roedd pobl yn cael eu trin yn yr amgylchedd plismona.
Mae’r adroddiad yn amlinellu’r angen am ymdrechion parhaus a chydweithredol i fynd i’r afael â hiliaeth drwy ddull gweithredu sy’n ystyriol o drawma. Mae gwaith yn mynd rhagddo gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynnwys ymarfer sy’n ystyriol o drawma yng nghamau gweithredu’r Cynllun.
Dyma rai enghreifftiau o Gyfiawnder Troseddol:
-
Comisiynodd Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru ymchwil i brofiadau o droseddau casineb mewn cymunedau yn Ne Cymru.
Roedd hyn yn cynnwys troseddau casineb ar sail hil yn bennaf, a dyma oedd y mwyafrif o adroddiadau troseddau casineb yn Ne Cymru. Mae’r ymchwil wedi ystyried data, profiadau a straeon dioddefwyr, darpariaeth gwasanaethau yn yr ardal, a’r gefnogaeth a ddarperir gan yr heddlu. Bydd canfyddiadau’r ymchwil yn helpu i sicrhau bod darpariaeth troseddau casineb yn cael ei gwella lle bo angen a gweithredir ar hyn yn y flwyddyn i ddod. -
Cynhaliodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys seminar Troseddau Casineb ar-lein fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb ym mis Hydref 2025. Gyda chyfraniadau gan Heddlu Dyfed Powys a Chymorth i Ddioddefwyr, roedd pwyslais ar effaith troseddau casineb, gan gynnwys casineb â chymhelliant hiliol, yn ogystal â phwysigrwydd rhoi gwybod amdano a’r cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr.
3.2 Ymrwymiad 2: Gweithlu sy’n Amrywiol o ran Ethnigrwydd
Byddwn yn cynyddu cynrychiolaeth pobl o leiafrifoedd ethnig sy’n gweithio yn y system cyfiawnder troseddol fel gweithwyr ac arweinwyr, gan greu gweithlu mwy diogel a chynhwysol sy’n cynrychioli ein cymunedau lleol.
Adroddiad Blynyddol Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru 2025 i 26:
- Mae amrywiaeth o opsiynau wedi cael eu datblygu ar gyfer recriwtio a mentrau gweithredu cadarnhaol ar draws y maes cyfiawnder troseddol yng Nghymru. Er bod gan yr holl asiantaethau unigol eu mecanweithiau a’u harferion gweithredu cadarnhaol eu hunain ar waith, defnyddiwyd y Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth i wella llwyfannau ac adnoddau a rennir sy’n galluogi negeseuon ar y cyd ac ymgysylltu â chymunedau.
Yn ystod y flwyddyn, mae gwaith wedi cael ei wneud gyda Gyrfa Cymru i ddatblygu llwyfannau ar-lein i hyrwyddo cyfleoedd gyrfa ym maes cyfiawnder troseddol. Mae pob asiantaeth hefyd wedi cytuno i gynnal digwyddiadau recriwtio cyfiawnder troseddol ar y cyd ar draws y pedair ardal heddlu. Dechreuodd y digwyddiadau hyn yn rhan gyntaf 2026 a byddant yn parhau yn y flwyddyn i ddod.
Mae’r digwyddiadau’n dod â’r holl asiantaethau cyfiawnder troseddol at ei gilydd mewn un lle i arddangos cyfleoedd gyrfa a recriwtio a dangos cefnogaeth ar y cyd a chydgysylltiedig tuag at y nod o gael gweithlu cynhwysol a chynrychioladol. - Mae asiantaethau Cyfiawnder Troseddol yn parhau i gynnig amrywiaeth o gymorth gweithredu cadarnhaol uniongyrchol i unigolion o leiafrifoedd ethnig sy’n ceisio am swyddi, gan gynnwys cynnig cymorth un-i-un a sesiynau uwchsgilio mewn rhai ardaloedd. Mae gwaith partneriaeth cryf â’r sector addysg hefyd, gyda llawer o ysgolion a cholegau’n cymryd rhan yn y cyfleoedd sydd ar gael ym maes cyfiawnder troseddol.
- Mae asiantaethau Cyfiawnder Troseddol wedi casglu Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb o’u harferion recriwtio a dethol er mwyn nodi arferion da a meysydd i’w gwella wrth weithio i annog gwell cynrychiolaeth o blith lleiafrifoedd ethnig ar bob lefel. Mae hyn wedi arwain at ddatblygu Fframwaith Gwella i sicrhau bod asiantaethau cyfiawnder troseddol yn gwreiddio’r canlyniadau a nodwyd. Bydd y gwaith hwn yn parhau hyd 2026 i 27.
- Drwy’r ffrwd waith ‘Datblygu’r Gweithlu’, datblygwyd dull drafft o fesur hinsawdd a diwylliant y gweithlu. Nod hyn yw annog dull cyson a chyfunol o fesur diwylliant staff a swyddogion mewn sefydliadau cyfiawnder troseddol fel y gellir deall a mynd i’r afael ag unrhyw faterion sy’n ymwneud â gwahaniaethu neu’n ymwneud â morâl isel sy’n gysylltiedig â hiliaeth neu ragfarn.
Mae’r gwaith hwn hefyd yn ceisio annog ymddiriedaeth a hyder staff drwy ddarparu cyfleoedd diogel i staff fynegi pryderon a lleisio eu barn ar ddiwylliant sefydliadol. - Mae gwaith wedi cael ei wneud gyda rhwydweithiau staff o leiafrifoedd ethnig ledled Cymru i fwrw ymlaen â’r gwaith o ddatblygu mecanweithiau cydweithredol a all ddod â nhw at ei gilydd ar gyfer cyfleoedd cefnogi a datblygu ledled Cymru.
- Mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi cynnal adolygiad cwmpasu o’r polisïau a’r gweithdrefnau mewnol presennol ar aflonyddu hiliol ar draws cyfiawnder troseddol. Yn unol ag ymrwymiad y Cynllun i beidio â goddef unrhyw hiliaeth mewn sefydliadau cyfiawnder troseddol, bydd yr adolygiad yn arwain at argymhellion i sicrhau bod aflonyddu hiliol ar swyddogion a staff yn cael ei ddatrys mewn ffordd deg, gyson a chadarn ar draws y gwasanaeth.
- Mae gwaith parhaus wedi cael ei wneud ar draws sefydliadau partner i wella’r gwaith o gasglu a chyflwyno data hygyrch ar recriwtio, cadw a chynnydd staff a swyddogion yn ôl ethnigrwydd. Y bwriad yw gwneud pethau’n fwy tryloyw i’r cyhoedd, ac mae’r adroddiad yn cynnwys setiau data cychwynnol.
Dyma rai enghreifftiau o Gyfiawnder Troseddol:
-
Yn strategaeth Heddlu De Cymru ar gyfer ‘Gweithlu Mwy Cynrychioladol’, mae bwriad penodol i ganolbwyntio ar recriwtio staff heddlu o leiafrifoedd ethnig o ystyried bod y gynrychiolaeth yn is nag ar gyfer rolau swyddogion yr heddlu.
Mae strategaeth staff yr heddlu wedi cael ei rhoi ar waith, sy’n symud oddi wrth gymryd camau cadarnhaol ad hoc tuag at allgymorth mwy bwriadol, sydd wedi’i dargedu at sectorau a sefydliadau perthnasol. O ganlyniad i’r dull newydd, cododd y staff heddlu a benodwyd o leiafrifoedd ethnig o 4% o’r rheini a recriwtiwyd yn 2023-4 i 10% o’r rheini a recriwtiwyd yn 2025 i 26.
Cyflwynwyd dulliau arloesol hefyd, gan gynnwys cynllun lleoliadau gwaith â thâl dros yr haf ar gyfer pobl ifanc o leiafrifoedd ethnig. Mae hyn wedi galluogi pobl ifanc i gael eu talu am leoliadau gwaith byr i wella eu profiad o blismona a’r gwahanol opsiynau gyrfa y mae’n eu cynnig. - Mae Cynllun Cyflawni Prif Gwnstabl Gwent yn rhoi pwyslais ar gynyddu amrywiaeth ymhlith ymgeiswyr. Yn ystod 2025 a 26, parhaodd Tîm Gweithredu Cadarnhaol Heddlu Gwent i ddarparu cymorth wedi’i dargedu i ymgeiswyr a chydweithwyr o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, gan gydnabod pwysigrwydd datblygu gweithlu sy’n adlewyrchu cymunedau Gwent yn well.
Roedd y cymorth yn cynnwys ymgysylltu’n rhagweithiol â chymunedau, digwyddiadau gyrfaoedd, mentora, cyfleoedd datblygu a defnyddio’r Banc Talent i adnabod ac annog unigolion a allai elwa ar arweiniad ychwanegol drwy gydol y broses recriwtio a datblygu gyrfa. Bu staff Gweithredu Cadarnhaol yn olrhain ymgeiswyr o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig a adawodd brosesau recriwtio er mwyn deall y rhwystrau’n well a darparu cymorth parhaus ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol.
Mae data cyfredol y gweithlu yn dangos bod swyddogion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig yn cynrychioli 3.7% o swyddogion yr heddlu, 2.9% o staff yr heddlu ac 11.7% o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (SCCHau). Mae canlyniadau recriwtio yn dangos rhywfaint o gynnydd calonogol, gyda 8.5% o’r rhai a ymunodd fel SCCHau yn dod o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig.
Ni nododd dadansoddiad o’r ymgyrch recriwtio SCCH ddiweddaraf unrhyw dystiolaeth o anghymesuredd yn y broses recriwtio, gydag ymgeiswyr o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig yn symud ymlaen i’r camau cyn cyflogaeth ar gyfradd uwch nag ymgeiswyr Gwyn Prydeinig.
Mae’r heddlu hefyd yn parhau i ddatblygu cyfleoedd arweinyddiaeth a datblygu gyrfa wedi’u teilwra ar gyfer swyddogion a staff o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, ochr yn ochr â gwaith ehangach i gynyddu ymwybyddiaeth o weithredu cadarnhaol, herio camsyniadau a chryfhau hyder hirdymor cymunedau mewn plismona fel dewis gyrfa cynhwysol. - Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi adolygu ei bolisi a’i ddeunyddiau recriwtio i chwilio am ragfarn bosibl, gan gynnwys archwiliadau o’r iaith a ddefnyddir mewn hysbysebion swyddi a chanllawiau recriwtio. Mae hyn wedi golygu bod modd chwalu rhwystrau a allai roi ymgeiswyr o leiafrifoedd ethnig dan anfantais.
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron hefyd wedi ymgymryd â gweithgareddau i gynyddu cynrychiolaeth amrywiol ei weithlu, gan gynnwys ymgyrchoedd marchnata recriwtio wedi’u targedu, defnyddio safleoedd recriwtio arbenigol sy’n targedu lleiafrifoedd ethnig, a gwneud gwell defnydd o ddata i alluogi ymyriadau mewn ardaloedd sy’n cael eu tangynrychioli.
3.3 Ymrwymiad 3: Cynnwys, Gwrando a Gweithredu
Byddwn yn deall yn well brofiadau personol a chyfunol pobl o leiafrifoedd ethnig sy’n ymwneud â’r system cyfiawnder troseddol er mwyn gweithredu i ddiwallu eu hanghenion. Byddwn yn gwneud yn siŵr bod profiadau bywyd yn cefnogi ac yn llywio’r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer polisïau ac arferion newydd.
Adroddiad Blynyddol Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru 2025 i 26:
- Cynhaliodd uwch aelodau Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru fenter ymgysylltu â’r gymuned gwrth-hiliaeth ledled Cymru. Aeth pob aelod sy’n cymryd rhan i ddigwyddiad wyneb yn wyneb neu ar-lein gyda rhanddeiliaid o leiafrifoedd ethnig, a’r nod oedd gwrando a dysgu am brofiadau a heriau presennol. Gofynnwyd iddynt bwyso a mesur eu hymweliad a dod â rhoi gwybod i aelodau eraill y Bwrdd am yr hyn roeddent wedi’i ddysgu.
Mantais y fenter ddwy ffordd hon oedd gwella dealltwriaeth aelodau’r Bwrdd o faterion cyfredol a pharhaus sy’n ymwneud â hiliaeth mewn cymunedau a gweithleoedd, ar yr un pryd â galluogi’r cyhoedd a staff cyfiawnder troseddol i gael mynediad at uwch arweinwyr ym maes cyfiawnder troseddol a dod i gysylltiad â nhw.
Daeth y fenter i ben gyda symposiwm ar y cyd rhwng y Bwrdd a’r gymuned ym mis Mawrth 2025, gan alluogi dysgu ar y cyd a thrafod heriau rhwng cyfiawnder troseddol, cymunedau a phartneriaid. Y canlyniadau fydd yn llywio’r dysgu ar gyfer y gweithgaredd arfaethedig yn y flwyddyn i ddod. - Rhannodd Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru dri o grantiau ymgysylltu â’r gymuned gwrth-hiliaeth ledled Cymru. Roedd hyn yn galluogi sefydliadau trydydd sector i gynnal eu hymgysylltiad annibynnol eu hunain ar y cynnydd y mae cyfiawnder troseddol yn ei wneud yn y maes gwrth-hiliaeth.
Darparwyd y canfyddiadau i Fwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru, a gwahoddwyd pob un o’r tri sefydliad i wneud cyflwyniadau yn symposiwm mis Mawrth 2025 y cyfeirir ato uchod. Cafodd yr ymarferion ymgysylltu â’r gymuned wybodaeth gan bobl sy’n byw yn Ne, Canolbarth a Gogledd Cymru, ac roeddent yn cynnwys barn pobl a oedd wedi bod drwy’r system cyfiawnder troseddol. - Drwy waith ymgysylltu â’r gymuned, datblygwyd protocol cyfathrebu drafft, sy’n amlinellu’r broses ar gyfer ymateb i faterion sy’n ymwneud â hil mewn cymunedau a chyfiawnder troseddol yn y dyfodol. Nod hyn yw sicrhau bod cymunedau’n cael ymatebion digonol i ddigwyddiadau lleol a chenedlaethol, a’u bod yn gallu gweld negeseuon cefnogol a llawn gwybodaeth gan asiantaethau cyfiawnder troseddol.
- Mae Grŵp Teithwyr Sipsiwn Roma Cymru Gyfan, a sefydlwyd o ganlyniad i waith Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol, wedi bod yn cyfarfod drwy gydol y flwyddyn. Y prif bwrpas oedd hwyluso cydweithio ar draws Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, asiantaethau cyfiawnder troseddol, y trydydd sector, a chymunedau sipsiwn a theithwyr, i sbarduno’r gwaith o gyflawni camau gweithredu perthnasol yng Nghynlluniau Gweithredu Cyfiawnder Troseddol a Chymru Wrth-hiliol. Yn benodol,
yn 2025 i 26, mae wedi darparu fforwm i drafod gwersylloedd diawdurdod o safbwynt gwrth-hiliol ac i roi arweiniad ar hynny. Mae’r grŵp wedi darparu llwyfan i gydweithio ar ddatblygu polisi cynhwysol ar gyfer darparu safleoedd, gan gynnwys teithio a stopio wedi’i negodi, ac mae wedi gweithio i sefydlu egwyddorion plismona gwrth-hiliol o ran rheoli gwersylloedd. - Fe wnaeth asiantaethau cyfiawnder troseddol ledled Cymru fynychu nifer o ddigwyddiadau cymunedol a chynnal ymweliadau drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys digwyddiadau ffydd a rhyng-ffydd, mannau addoli, neuaddau cymunedol ac ysgolion, gan gwrdd ac ymgysylltu â phobl o leiafrifoedd ethnig a gwrando ar eu pryderon.
Cafodd llawer o ddigwyddiadau eu dathlu’n gyhoeddus hefyd gyda phartneriaid cymunedol, fel Mis Hanes Pobl Dduon, dathliadau Treftadaeth y Caribî a Diwrnod Cenedlaethol Windrush.
Dyma rai enghreifftiau o Gyfiawnder Troseddol:
- Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi dyrannu cyllid ar gyfer ymchwil allanol i’w gynnal gyda phobl o leiafrifoedd ethnig yng Ngogledd Cymru er mwyn deall yn well beth yw eu hanghenion plismona a’r troseddau penodol sy’n effeithio arnynt.
Mae’r gwaith hefyd wedi edrych ar y berthynas rhwng cymunedau lleiafrifoedd ethnig a’r heddlu i ddeall beth sydd ei angen i wella ymddiriedaeth a hyder. - Mae Heddlu Gogledd Cymru yn rhedeg Grŵp Rhanddeiliaid Hil, sy’n cynnwys partneriaid a chymunedau lleiafrifoedd ethnig. Yng nghyfarfod mis Hydref 2025, canolbwyntiwyd yn benodol ar gasglu gwybodaeth am brofiadau pobl ethnig leiafrifol sy’n byw ac yn gweithio yng Ngogledd Cymru.
Tynnodd y sesiwn sylw at bryderon y gymuned ynghylch cynnydd mewn troseddau casineb ac iaith casineb a thynnodd sylw hefyd at berthnasoedd cryf a chadarnhaol rhwng cymunedau lleiafrifoedd ethnig a’r heddlu, er mwyn gallu adeiladu ar y rhain. - O fewn HMPPS yng Nghymru, mae pob carchar wedi sefydlu Fforymau Hil a Ffydd, dan gadeiryddiaeth uwch reolwr. Mae’r fforymau yn trafod, yn cofnodi ac yn gweithredu ar bryderon a godir gan garcharorion o leiafrifoedd ethnig fel y gellir gwneud newidiadau pan fo angen.
Yn ystod y flwyddyn, mae carcharorion Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng CEF Caerdydd hefyd wedi rhoi adborth i gefnogi ymchwil a fydd yn llywio’r gwaith o ddatblygu pecyn cymorth y System Cyfiawnder Troseddol, yn dilyn canfyddiadau’r adroddiad ‘Trapped in the Turnstile’ gan Friends, Families and Travellers (FFT). Mae hyn yn ategu gwaith cenedlaethol ehangach dan arweiniad Uned Anghydraddoldebau HMPPS i wella canlyniadau i bobl Sipsiwn, Roma a Theithiwr ar draws carchardai a’r gwasanaeth prawf.
Mae hyn wedi cynnwys datblygu adnoddau dysgu newydd i staff a chyd-ddatblygu canllawiau arfer gorau gyda chydweithwyr gweithredol a sefydliadau arbenigol yn y sector gwirfoddol. Mae’r canllawiau’n dwyn ynghyd dystiolaeth, dysgu ac enghreifftiau o arfer effeithiol o bob rhan o HMPPS er mwyn cefnogi gwasanaethau mwy cynhwysol ac ymatebol.
3.4 Ymrwymiad 4: Tryloywder, Atebolrwydd a Chydweithredu
Byddwn yn creu mwy o dryloywder ac atebolrwydd ar draws y system cyfiawnder troseddol ynglŷn â mynd i’r afael ag anghymesuredd ethnig a hyrwyddo dull gwrth-hiliol. Byddwn yn gwahodd craffu allanol ar ein perfformiad ac yn sicrhau bod strwythurau effeithiol ar waith i gyflawni ein hymrwymiadau.
Adroddiad Blynyddol Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru 2025 i 26:
- Cynhaliwyd ymarfer recriwtio ar gyfer y Panel Cynghori a Goruchwylio Annibynnol yn ystod haf 2025. Roedd hyn yn cynrychioli ymrwymiad parhaus y Bwrdd i wahodd craffu allanol ar ei waith gwrth-hiliaeth.
Arweiniodd yr ymarfer recriwtio ledled Cymru at dros 70 o geisiadau, gan alluogi penodi aelodau annibynnol newydd i’r panel. Daw holl aelodau’r panel o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig. - Cynhaliodd y Panel Cynghori a Goruchwylio Annibynnol newydd raglen hyfforddi a chynefino ym mis Medi 2025, gan nodi’r meysydd roeddent yn dymuno canolbwyntio eu gwaith craffu arnynt yn ystod y flwyddyn i ddod.
Mae aelodau’r panel wedi penderfynu ar feysydd portffolio polisi y byddant yn arwain arnynt, gan eu galluogi i ymgysylltu mwy fyth â gweithgarwch cyfiawnder troseddol yn y blynyddoedd i ddod, gan sicrhau bod cyd-gyflawni, craffu a thryloywder yn cael eu hyrwyddo ymhellach. - Roedd ymdrechion parhaus o fewn asiantaethau cyfiawnder troseddol i ystyried cynwysoldeb eu strwythurau craffu a goruchwylio, gyda llawer wedi cyflwyno mecanweithiau i alluogi aelodau’r gymuned i graffu ar eu gweithgarwch a’u penderfyniadau.
Mae heddluoedd yng Nghymru wedi agor eu paneli craffu ar bynciau fel stopio a chwilio, defnyddio grym, a defnyddio Datrysiadau y Tu Allan i’r Llys, er mwyn galluogi aelodau o’r gymuned i adolygu achosion a phwerau plismona. - Mae Byrddau Cyfiawnder Troseddol Lleol wedi gweithio i gynyddu nifer eu haelodau sydd o leiafrifoedd ethnig. Mae Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol De Cymru wedi gweld cynnydd arbennig o gadarnhaol mewn cynrychiolaeth, ar ôl mynd ati’n rhagweithiol i gyfethol a datblygu aelodau.
Dyma rai enghreifftiau o Gyfiawnder Troseddol:
- Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cynhyrchu adroddiad sydd ar gael i’r cyhoedd, sy’n tynnu sylw at ddata stopio a chwilio a defnyddio grym. Mae rhanddeiliaid wedi cynnig yr adroddiad i’w ddadansoddi, ac mae dadansoddiad mewnol wedi gallu ystyried rhesymau posibl dros anghymesuredd hiliol. Mae camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael ag anghymesuredd na ellir ei egluro, er enghraifft, defnyddio hyfforddiant lle bo angen.
- Mae Heddlu De Cymru wedi sefydlu Bwrdd Hil newydd i sicrhau bod modd mynd ati’n rhagweithiol i drafod materion anghymesuredd hiliol a gwrth-hiliaeth mewn fforwm dan gadeiryddiaeth y Dirprwy Brif Gwnstabl.
Bydd hyn yn helpu i gynyddu gweithgarwch ac atebolrwydd ar wrth-hiliaeth ar draws gwahanol adrannau ac ardaloedd daearyddol yr heddlu ac yn golygu bod modd canfod a mynd i’r afael â materion sy’n ymwneud ag anghydraddoldeb hiliol ac anghymesuredd. Data a phrofiad bywyd o bob rhan o’r sefydliad sy’n llywio’r Bwrdd.
I ategu’r Bwrdd, sefydlwyd Fforymau Hil lleol ym mhob un o dair ardal weithredol yr heddlu er mwyn gallu gwneud cysylltiadau rhwng materion gweithredol rheng flaen a phenderfyniadau strategol. - Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru yn gweithredu Panel Craffu Cyfranogiad Lleol Troseddau Casineb, sy’n galluogi cyfranogwyr allanol i adolygu achosion a darparu safbwyntiau annibynnol ar benderfyniadau Gwasanaeth Erlyn y Goron. Mae ymrwymiad parhaus i sicrhau bod cynrychiolwyr o leiafrifoedd ethnig ar y panel.
- Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent a Heddlu Gwent wedi canolbwyntio ar wella data ac adnoddau adrodd ac mae’n defnyddio’r rhain i ganolbwyntio ar wella cynrychiolaeth ethnig ei weithlu, ei weithgarwch ymgysylltu, a’i berfformiad mewn perthynas â Throseddau Casineb a Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Mae hyn wedi gwella atebolrwydd cyffredinol, ac mae bwrdd Cydraddoldeb, Amrywiaeth ac Ymgysylltu pwrpasol wedi bod yn canolbwyntio ar fonitro gweithgarwch a sbarduno gwelliant ar draws y llu.
3.5 Ymrwymiad 5: Addysgu’r Gweithlu
Byddwn yn buddsoddi mewn adnoddau gwrth-hiliaeth addysgol o ansawdd uchel i’w defnyddio gan unrhyw un sy’n gweithio yn y system cyfiawnder troseddol. Byddwn yn gweithio ochr yn ochr â grwpiau a phobl o leiafrifoedd ethnig i sicrhau bod yr holl ddarpariaeth yn adlewyrchu eu hanghenion a’u profiadau.
Adroddiad Blynyddol Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru 2025 i 26:
- Yn 2025, comisiynodd y Bwrdd y gwaith o ddylunio a darparu pecyn hyfforddi Gwrth-hiliaeth newydd ar gyfer hyfforddwyr gweithredol presennol yn y system cyfiawnder troseddol. Digwyddodd hyn yn dilyn cwmpasu ac adolygiadau mewnol o’r hyfforddiant gwrth-hiliaeth sydd eisoes yn cael ei gynnal ar draws y system cyfiawnder troseddol.
Mae pob asiantaeth yn bwrw ymlaen yn gadarnhaol â’r ymrwymiad i addysgu’r gweithlu ar egwyddorion gwrth-hiliaeth, ond nodwyd cyfleoedd i uwchsgilio hyfforddwyr gweithredol er mwyn iddynt allu cynnwys egwyddorion gwrth-hiliol mewn rhaglenni hyfforddiant gweithredol yn y dyfodol. Bydd y gwaith o gynllunio a darparu’r hyfforddiant ledled Cymru yn digwydd drwy gydol 2026 i 27. - Mae aelodau Annibynnol o’r Panel Cynghori a Goruchwylio wedi cael eu cynnwys mewn trafodaethau ynghylch darparu hyfforddiant ar draws y maes cyfiawnder troseddol, gan ddynodi un aelod o’r panel yn arweinydd polisi ar gyfer hyfforddiant yn y dyfodol. Bydd hyn yn sicrhau bod goruchwyliaeth annibynnol o’r portffolio hyfforddiant yn flaenoriaeth yn y flwyddyn i ddod.
- Cynhaliodd uwch aelodau Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru fenter ymgysylltu â’r gymuned drwy gydol haf a hydref 2025. Roedd hyn yn darparu cyfleoedd ar gyfer datblygu aelodau’r Bwrdd ac ar gyfer dysgu personol ynghylch gwrth-hiliaeth. Mae rhagor o fanylion am y cynllun ar gael o dan Ymrwymiad 3.
- Mae pob asiantaeth cyfiawnder troseddol wedi cynnal sesiynau hyfforddi a chodi ymwybyddiaeth a digwyddiadau ar wrth-hiliaeth i sicrhau bod y gweithlu’n parhau i gael eu haddysgu ac mewn sefyllfa well i fynd i’r afael â gwahaniaethau hiliol.
Dyma rai enghreifftiau o Gyfiawnder Troseddol:
- Mae uwch arweinwyr, swyddogion gweithredol a staff ar draws HMPPS yng Nghymru wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau dysgu a datblygu eleni sydd wedi edrych ar themâu fel iaith gynhwysol, trawma hiliol, hiliaeth yn y gweithle a phrofiadau unigolion du ifanc yn y system cyfiawnder troseddol.
Cafwyd adborth positif, yn enwedig gan reolwyr llinell a wnaeth adrodd am newidiadau ymarferol positif yn dilyn eu hyfforddiant. Mae gweithgareddau dysgu nawr yn cael eu cynnwys fel tasgau busnes fel arfer ar draws y sefydliad. - Mae Heddlu De Cymru wedi lansio ap mewnol ar grefydd a chred ar gyfer eu swyddogion a’u staff. Mae’n cynnwys gwybodaeth sydd ar gael ar unwaith er mwyn i swyddogion a staff allu chwilio am arferion crefyddol a diwylliannol cyn rhyngweithio lle bo angen.
Bydd hyn yn hyrwyddo rhyngweithio sy’n ddiwylliannol gymwys â dioddefwyr, tystion, ceiswyr lloches, cymunedau a phartneriaid. - Mae Heddlu Gwent bellach wedi rhoi hyfforddiant gwrth-hiliaeth i dros 2000 o swyddogion a staff gan ddefnyddio darparwr allanol i hyrwyddo profiad bywyd wrth ei gyflawni. Mae’r hyfforddiant wedi codi ymwybyddiaeth o’r gwahanol ffyrdd y gall hiliaeth amlygu ei hun, a’r effaith barhaol y gall ei chael.
Ar hyn o bryd mae Heddlu Gwent yn adolygu’r hyfforddiant a gynigir i’r holl staff ac yn ceisio ei wella ac wedi gwneud ymwybyddiaeth o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn llinyn drwy’r holl hyfforddiant, gan gynnwys opsiynau i gael hyfforddwr pwrpasol ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. - Datblygodd Heddlu Dyfed Powys arolwg ar ôl y cwrs gwrth-hiliaeth ym mis Medi 2025. Bydd hwn yn cael ei lenwi gan y 1300 o swyddogion a staff sydd eisoes wedi ymgymryd â hyfforddiant gwrth-hiliaeth.
Cynlluniwyd yr arolwg dilynol i’w lenwi chwe mis ar ôl cwblhau’r cwrs, i asesu effaith y sesiynau ac edrych ar sut mae cyfranogwyr yn parhau i roi’r hyn a ddysgwyd ar waith wrth ryngweithio a gwneud penderfyniadau bob dydd. Cyflwynwyd pecyn adnoddau cynhwysfawr hefyd i ategu’r hyfforddiant a ddarparwyd. - Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi (GLlTEF) wedi cyflwyno mesurau i addysgu’r gweithlu am wrth-hiliaeth, gan gynnwys modiwlau hyfforddi gorfodol, yn ogystal â negeseuon ar y fewnrwyd ac erthyglau gan uwch arweinwyr ar sut i greu diwylliant gwirioneddol gynhwysol. Mae hyn wedi cynnwys dathlu Mis Hanes Pobl Dduon a hyrwyddo rôl Hyrwyddwyr Ffydd a Chred GLlTEF.
3.6 Ymrwymiad 6: Hyrwyddo Tegwch
Byddwn yn hyrwyddo tegwch mewn system cyfiawnder troseddol sy’n wrth-hiliol ac yn herio hiliaeth a’i achosion, fel bod pobl o bob hunaniaeth a chefndir ethnig yn cael canlyniadau teg.
Adroddiad Blynyddol Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru 2025 i 26:
-
Yn ystod 2025, sefydlwyd gweithgor i gynnal adolygiad o’r ddarpariaeth troseddau casineb ar draws y pedwar heddlu yng Nghymru. Roedd hyn yn golygu bod modd edrych ar strwythur a darpariaeth y gwasanaeth troseddau casineb ym mhob un o’r pedwar heddlu yng Nghymru a’u cymharu.
Nod y gwaith yw sicrhau tegwch a chysondeb i ddioddefwyr ledled Cymru yn y ddarpariaeth troseddau casineb. Ceir rhagor o wybodaeth yn y diweddariad o dan Ymrwymiad 1. -
Gwnaeth pob un o’r pedwar heddlu yng Nghymru gais i gymryd rhan yng nghynllun peilot cenedlaethol Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu (NPCC) ar gyfer troseddau casineb ‘Datrys y Tu Allan i’r Llys’. Cafodd y gwaith paratoi ei wneud yn ystod 2025, a bydd y cynllun peilot yn cael ei gynnal yn ystod blwyddyn ariannol 2026 i 27.
Mae’r gyllideb Gwrth-hiliaeth yn cael ei defnyddio i gefnogi heddluoedd Cymru i redeg y cynlluniau peilot. Y nod yw addysgu’r rhai sy’n cyflawni troseddau casineb sy’n bodloni meini prawf penodol fel eu bod yn deall effaith eu hymddygiad yn well ac yn llai tebygol o’i ailadrodd.
Mae’r cynllun peilot yn cyd-fynd â nodau’r Cynllun sef mynd i’r afael ag achosion hiliaeth a hyrwyddo newid ymddygiad ymysg y rhai sy’n ei gyflawni. Sefydlwyd grŵp monitro Cymru i sicrhau bod gwaith yn cael ei gydlynu a bod canlyniadau ledled Cymru yn cael eu trafod. -
Mae’r gwaith o ddatblygu Dangosfwrdd Data Hil Cyfiawnder Troseddol Cymru wedi parhau yn ystod y flwyddyn. Mae hwn yn casglu data gan yr holl asiantaethau cyfiawnder troseddol ar draws y daith cyfiawnder troseddol gyfan: o stopio a chwilio, ac arestio, i gyhuddiadau, euogfarnau, dedfrydu, a gweithgarwch carchardai a phrawf.
Mae’r dangosfwrdd yn casglu data ethnigrwydd ar bob cam o’r daith fel y gellir nodi gwahaniaethau hiliol, a gellir tynnu sylw at gynnydd neu ddiffyg newid. Mae’r Panel Cynghori a Goruchwylio Annibynnol wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o fwydo sylwadau i ddatblygiad y dangosfwrdd ac mae wedi helpu i’w ddefnyddio i ganfod gwahaniaethau hiliol a materion yn ymwneud ag ansawdd data.
Dyma rai enghreifftiau o Gyfiawnder Troseddol:
- Ym mis Mawrth 2026, cynhaliodd Gwasanaeth Erlyn y Goron, mewn partneriaeth â Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, ei gynhadledd arweinyddiaeth uwch gyntaf a oedd yn canolbwyntio ar fynd i’r afael ag anghymesuredd hiliol ar draws y system cyfiawnder troseddol.
Daeth y digwyddiad ag arweinwyr o bob rhan o’r system at ei gilydd i edrych ar dystiolaeth o wahaniaethau hiliol, atgyfnerthu atebolrwydd ar y cyd, ac edrych ar sut y gall gweithio mewn partneriaeth sbarduno penderfyniadau tecach.
Roedd y themâu allweddol yn cynnwys pwysigrwydd gweithredu ar sail tystiolaeth, gwella ymwybyddiaeth ddiwylliannol, cryfhau cynrychiolaeth, a bod yn ddigon dewr i herio arferion sefydledig.
Hefyd, fel rhan o raglen Anghymesuredd Gwasanaeth Erlyn y Goron, datblygwyd cyfres o fideos i roi mwy o lais i bobl o grwpiau hil lleiafrifedig sydd wedi dod ar draws rhagfarn hiliol yn y system cyfiawnder troseddol. Nod y fideos yw cynyddu dealltwriaeth o effaith ddynol rhagfarn a sut y gallai ddod i’r amlwg yng ngwaith Gwasanaeth Erlyn y Goron, gan annog y rhai sy’n gweithio yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron i gymryd camau i liniaru’r risg hon.
Mae enghreifftiau’n cynnwys rhagfarn gynnil a’r defnydd o iaith mewn penderfyniadau ynghylch cyhuddo ac ystyried gwahaniaethau gweithdrefnol. - Yn ystod haf 2025, cynhaliodd Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru gyfarfod gyda Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid Cymru i edrych ar dystiolaeth o wahaniaethau hiliol mewn cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru a thrafod hynny.
Rhoddodd y cyfarfod ystyriaeth i ddata ac ymchwil, ac ystyriaeth hefyd i arfer cadarnhaol a gwaith prosiect y gellid adeiladu arno. O ganlyniad, ymrwymodd y Rheolwyr Troseddau Ieuenctid ledled Cymru i edrych ar wahaniaethau hiliol yn eu hardaloedd a mynd i’r afael â hynny.
3.7 Ymrwymiad 7: Atal, Ymyrraeth Gynnar ac Adsefydlu
Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i roi terfyn ar orgynrychiolaeth pobl o leiafrifoedd ethnig sydd wedi cyflawni trosedd a diffynyddion yn y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru. Byddwn yn rhoi cymorth holistaidd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy’n seiliedig ar drawma i droseddwyr a’r rheini sydd mewn perygl o droseddu er mwyn iddyn nhw allu gwneud dewisiadau bywyd gwybodus ar gyfer cyflogaeth, addysg, perthnasoedd cymdeithasol, ac iechyd a lles meddyliol a chorfforol.
Adroddiad Blynyddol Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru 2025 i 26:
- Yn dilyn dros ddwy flynedd o waith ymchwil helaeth a gomisiynwyd, gyda chefnogaeth Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru, lansiwyd adroddiad ymchwil yn 2025 ar gynyddu cyfranogiad pobl o grwpiau ethnig lleiafrifol mewn Penderfyniadau y Tu Allan i’r Llys.
Cynhaliwyd yr ymchwil gan Higher Plain Research and Education, gan ddatgelu achosion posibl dros wahaniaethau hiliol o ran cael mynediad at y system cyfiawnder troseddol, ac argymell camau y gellir eu cymryd cyn gynted â phosibl i fynd i’r afael â thangynrychiolaeth bresennol pobl o leiafrifoedd ethnig mewn cyfleoedd dargyfeirio cyn mynd i’r llys. Os na ddefnyddir y cyfleoedd hyn, mae risg o ddedfrydau hirach ymhellach i lawr yn y gyfundrefn cyfiawnder troseddol.
Cyflwynwyd y canfyddiadau a’r argymhellion i Fwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru yn 2025, a chytunwyd y dylid sefydlu gweithgor i fwrw ymlaen â’r argymhellion lle bo hynny’n ymarferol. Mae seminar yn cael ei chynllunio ar gyfer 2026, fel y gall ymarferwyr cyfiawnder ieuenctid a’r heddlu ddeall mwy am yr ymchwil a helpu i lunio datblygiadau.
Pan fydd hyn wedi digwydd, bydd y gweithgor yn canolbwyntio ar feysydd blaenoriaeth i’w rhoi ar waith, gydag ymrwymiad parhaus i gynnwys lleisiau lleiafrifoedd ethnig. - Mae’r Gwasanaeth Prawf yng Nghymru wedi canolbwyntio ar gynyddu atgyfeiriadau at wasanaethau cymorth a gomisiynwyd i leiafrifoedd ethnig yn ystod y flwyddyn, ochr yn ochr â chofnodi a monitro gwell i sicrhau data cywir.
Mae gwasanaethau wedi’u targedu, sy’n cael eu hariannu gan grant, ar gyfer pobl o leiafrifoedd ethnig sydd ar brawf nawr ar waith ar draws Abertawe, Caerdydd a’r Fro a Chasnewydd hefyd, i gefnogi canlyniadau adsefydlu cadarnhaol.
Dyma rai enghreifftiau o Gyfiawnder Troseddol:
-
Yn 2025, cyhoeddodd HMPPS ‘Dadansoddiad Archwiliadol o’r Defnydd o Rym mewn Carchardai’, a nododd ei bod yn ymddangos bod y grym y mae carcharor yn ei brofi yn gysylltiedig â’i oedran, ei rywedd a’i ethnigrwydd, gyda charcharorion Du a charcharorion o ethnigrwydd cymysg yn profi mwy o rym nag y byddid yn ei ddisgwyl ar sail eu cyfran o boblogaeth yr ystâd garchardai.
Mae HMPPS yng Nghymru wedi ceisio deall yn well y berthynas rhwng ethnigrwydd a’r defnydd o rym, gan ymgysylltu â charcharorion, staff a phobl o leiafrifoedd ethnig sydd â phrofiad bywyd blaenorol o’r system cyfiawnder troseddol. Ym mis Hydref 2025, fel rhan o erthygl ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon yn Inside Time (cyhoeddiad i garcharorion), rhoddwyd manylion am weithgareddau a oedd ar y gweill yng CEF Caerdydd i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn y defnydd o rym, gan gynnwys cyflwyno fforwm ar y defnydd o rym ar gyfer oedolion ifanc Du.
Mae HMPPS yng Nghymru hefyd yn cyfrannu at waith cenedlaethol a arweinir ar y cyd gan Uned Anghydraddoldebau HMPPS a’r Uned Ymateb Gweithredol a Gwydnwch er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau hiliol parhaus yn y defnydd o rym. Mae’r rhaglen hon yn cryfhau llythrennedd data, yn gwella trefniadau llywodraethu lleol ac yn gwella’r berthynas rhwng staff a charcharorion.
Defnyddir dull peilot fesul cam i brofi, mireinio a gwerthuso ymyriadau ymarferol cyn eu rhoi ar waith yn ehangach ar draws yr ystâd. -
Mae Ffurflenni Adrodd am Ddigwyddiadau Gwahaniaethol (DIRF) yn galluogi carcharorion i roi gwybod am unrhyw ymddygiad a allai fod yn hiliol y maent wedi’i brofi. Yn 2025, tynnodd Adolygiad Safonau Proffesiynol annibynnol a gynhaliwyd gan Jennifer Rademaker sylw at welliannau y gellid eu gwneud i broses DIRF, gan gynnwys yr angen am fwy o gysondeb ac am ymdrin â DIRFau yn annibynnol.
Mae gwaith cenedlaethol wedi canolbwyntio ar greu pecyn hyfforddi newydd, a fyddai, am y tro cyntaf, yn rhoi mynediad i garchardai at adnodd cyson er mwyn gwella dealltwriaeth a safonau. Cynhaliodd HMPPS yng Nghymru brosiect peilot hefyd mewn tri charchar yng Nghymru i asesu manteision craffu annibynnol.
Canfu’r peilot fod hyn yn cynnig manteision, gan gynnwys gwella hyder carcharorion ym mhroses DIRF a chyfle i wella cymhwysedd diwylliannol staff sy’n ymateb i gwynion. Mae cynlluniau ar y gweill i ymestyn y ddarpariaeth hon yn ystod 2026.
4. Materion Allweddol a Godwyd gan Aelodau Cymunedol a Lleisiau Annibynnol yn 2025 i 26
Drwy gydol y flwyddyn, mae asiantaethau cyfiawnder troseddol wedi gofyn am farn cymunedau a phartneriaid ynghylch y cynnydd sy’n cael ei wneud yn erbyn y Cynllun. Mae hyn wedi cynnwys defnyddio arolwg sefydledig ledled Cymru i ofyn cwestiynau am ymddiriedaeth a hyder yn y system. Mae barn unigolion ac asiantaethau partner yn amhrisiadwy o ran rhoi cipolwg ar y cynnydd sy’n cael ei wneud ar lawr gwlad a’r meysydd sydd angen sylw.
Codwyd y materion allweddol canlynol mewn gwahanol gyfarfodydd ffurfiol ac anffurfiol, digwyddiadau a sesiynau ymgysylltu yn ystod y flwyddyn:
- Mae tystiolaeth o weithgarwch gweithredu cadarnhaol wrth recriwtio ar draws y maes cyfiawnder troseddol, ac mae partneriaid a chymunedau allanol yn gwerthfawrogi hyn. Fodd bynnag, mae’r cyhoedd yn dal i deimlo mai’n araf iawn y mae hyn yn trosi i fod yn wahaniaeth gweladwy yng nghynrychiolaeth y gweithlu cyfiawnder troseddol.
- Mae angen rhagor o wybodaeth am sut mae gwahanol gamau’r system cyfiawnder troseddol yn gweithio, a sut gall pobl weld beth yw eu hawliau. Teimlir y byddai mwy o gyfathrebu ynghylch hyn yn helpu i feithrin ymddiriedaeth a hyder.
- Mae hyfforddiant gwrth-hiliaeth i swyddogion a staff ym maes cyfiawnder troseddol yn helpu i feithrin dealltwriaeth o hiliaeth, ond mae cymunedau’n dal eisiau mwy o bwyslais ar gymhwysedd diwylliannol a phlismona sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
- Mae pryder ynghylch ansawdd data ethnigrwydd. Mae’r cyhoedd a phartneriaid yn teimlo bod angen gwneud mwy i gasglu data ethnigrwydd yn gywir a mynd i’r afael â bylchau data ar draws yr holl wasanaethau os yw cyfiawnder troseddol am ddangos tystiolaeth wirioneddol o wahaniaethau hiliol a’r cyfeiriad y mae pethau’n symud.
- Mae angen ymrwymiad gweladwy parhaus i’r Cynllun yn ystod cyfnod o densiynau ac ansicrwydd cynyddol yn y gymuned.
5. Y Flwyddyn i Ddod
Dyma rai o’r prif faterion y mae cyfiawnder troseddol yn canolbwyntio arnyn nhw yn y flwyddyn i ddod:
- Cyflwyno’r cynllun peilot Datrys Troseddau Casineb y Tu Allan i’r Llys ledled Cymru, gan sicrhau bod y rheini sy’n cyflawni troseddau casineb ac yn bodloni meini prawf y cytunwyd arnynt yn cael rhaglenni addysg i leihau’r tebygolrwydd y byddant yn aildroseddu.
- Cyflwyno ymgyrch gyfathrebu gynhwysfawr i dynnu sylw at brofiadau pobl o leiafrifoedd ethnig o’r system cyfiawnder troseddol a’r gwaith sy’n cael ei wneud i leihau gwahaniaethau hiliol.
- Datblygu a darparu hyfforddiant gwrth-hiliaeth wedi’i gyd-gynhyrchu i hyfforddwyr gweithredol cyfiawnder troseddol er mwyn iddynt allu gwreiddio egwyddorion gwrth-hiliol yn y cyrsiau presennol.
- Datblygu’r camau nesaf o ran gweithredu argymhellion yr ymchwil Penderfyniadau y Tu Allan i’r Llys ar sut i gynyddu cyfranogiad lleiafrifoedd ethnig mewn Penderfyniadau y Tu Allan i’r Llys. Bydd hyn yn cynnwys cynnal seminar ymarferwyr i sefydlu camau gweithredu â blaenoriaeth.
Yn y flwyddyn i ddod, mae’r Panel Cynghori a Goruchwylio Annibynnol wedi ymrwymo i oruchwylio’r canlynol:
- Troseddau Casineb Hiliol
- Defnyddio Pwerau mewn Cyfiawnder Troseddol
- Diwylliant y Gweithlu Cyfiawnder Troseddol a Mynd i’r Afael ag Aflonyddu ar sail Hil
- Cefnogi Dioddefwyr a Goroeswyr o Leiafrifoedd Ethnig mewn Cyfiawnder Troseddol
6. Casgliad
Mae Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol Cymru wedi bod ar waith ers dros dair blynedd. Mae llawer iawn o weithgarwch unigol ac ar y cyd wedi digwydd o fewn ac ar draws yr holl asiantaethau cyfiawnder troseddol ers hynny.
Canolbwyntiwyd ar annog pobl i fod yn agored, yn dryloyw a herio o fewn ac ar ran cymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru, gyda mwy o gyfleoedd nag erioed i bobl sydd wedi’u tangynrychioli’n hiliol gyfrannu at ymarfer cyfiawnder troseddol a lleisio eu barn ar sut mae ymdrechion gwrth-hiliaeth yn mynd rhagddynt.
Mae’r gweithgarwch i roi’r Cynllun ar waith wedi’i wreiddio’n dda ar draws yr holl asiantaethau cyfiawnder troseddol, ac mae yna drefniadau llywodraethu cydweithredol sy’n galluogi monitro’r ddarpariaeth mewn partneriaeth.
Fodd bynnag, mae maint yr her o ran mynd i’r afael â rhagfarnau hiliol dwfn - boed yn ymwybodol neu’n sefydliadol - yn parhau i fod yn sylweddol.
Ochr yn ochr â’r anghydraddoldebau hanesyddol a systemig a fydd yn cymryd amser i’w chwalu, bydd diwygiadau sy’n dod i’r amlwg ar draws y system cyfiawnder troseddol yn parhau i ail-lunio ffyrdd o weithio, ac nid oedd rhai ohonynt wedi’u rhagweld pan gyflwynwyd y Cynllun. Mae’n hanfodol bod egwyddorion gwrth-hiliol yn parhau i fod yn ganolog i bob datblygiad yn y dyfodol.
Er bod cynnydd yn cael ei wneud gyda’r agenda gwrth-hiliaeth, a bod tystiolaeth o newid, mae’r cynnydd yn aml yn araf ac nid yw’r bobl sydd wedi’u tangynrychioli’n hiliol yng Nghymru yn ei deimlo bob tro.
Mae angen ymdrech barhaus a chyflym, ac mae Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru wedi ymrwymo’n llwyr o hyd i gyflawni amcanion y Cynllun yn y blynyddoedd i ddod.