Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol i Gymru Adroddiad Blynyddol 2024-2025
Published 11 September 2025
Applies to England and Wales
1. Rhageiriau
Mae’n bleser gennym gyflwyno’r cynnydd a wnaed yn ystod ail flwyddyn y Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol, sy’n ein helpu i gamu’n agosach at gyflawni ein huchelgais gyfun o Gymru heb hiliaeth.
Drwy barhau â’n swyddi fel yr Uwch-swyddogion Cyfrifol ar y cyd, newidiwyd trywydd arwain y Cynllun yn ystod y flwyddyn. A thrwy gydol y flwyddyn, rydym wedi gweithio i roi blaenoriaeth i’r trefniadau gweithredu ar y cyd rydym yn disgwyl i’n partneriaid eu rhoi ar waith er mwyn llywio’r Cynllun a’i weithredu ledled Cymru. Gallwn weld ein partneriaid cyfiawnder troseddol yn gwneud gwahaniaethau mewn meysydd gwrth-hiliaeth ac wrth fynd i’r afael ag anghymesuredd hiliol, ac rydym yn gwybod eu bod yn gweithio’n galed i wneud mwy.
Rydym yn cymryd ein rolau fel arweinwyr yn y maes hwn o ddifrif. Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi gwrando ar bobl yn ein cymunedau ac mae eu parodrwydd i fod yn agored ac yn onest wrth drafod yr hiliaeth sy’n parhau i gael ei phrofi yng Nghymru wedi gwneud cryn argraff arnom. Cawsom ein syfrdanu gan y lefelau o drais ac anhrefn hiliol a welwyd yn y DU yn ystod haf 2024, a’r ffordd y gwnaeth hynny effeithio ar bobl ethnig leiafrifol sy’n byw yng Nghymru.
Gwnaethom wrando ar aelodau ein Rhwydwaith Ymgysylltu â’r Gymuned a ddywedodd wrthym fod y digwyddiadau, gan gynnwys achosion o gam-drin ar-lein wedi’u cymell gan hil, wedi cael effaith sylweddol arnyn nhw, eu teuluoedd a’u ffrindiau. Gwnaeth y digwyddiadau hyn iddynt deimlo na allent fwrw ati â’r tasgau bywyd sylfaenol y mae pob un ohonom yn eu cymryd yn ganiataol, fel defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, mynd i siopa neu fynd â’r plant i’r ysgol, gan eu bod ofn ymosodiadau corfforol neu ymosodiadau llafar.
Mae gweld cymunedau yn dod at ei gilydd ac yn sefyll yn erbyn casineb yn rhoi ymdeimlad o obaith y gallwn greu cymunedau gwirioneddol integredig a chydlynus lle mae pawb yn teimlo’n ddiogel, eu bod yn cael eu derbyn a’u bod yn cael eu cynnwys. Ond gwnaeth y digwyddiadau eu hunain ein hatgoffa fod gennym lawer mwy o waith i’w wneud wrth greu Cymru Wrth-hiliol.
Rydym yn cydnabod bod llawer mwy i’w wneud ym maes cyfiawnder troseddol, ond mae’r adroddiad hwn yn bwysig gan ei fod yn cynnig cyfle i ni edrych yn ôl ar y gwaithunigol a’r gwaith traws-sefydliad helaeth a wnaed ym mhob rhan o’r system gyfiawnder yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae hyn wedi cynnwys y canlynol:
-
Gwaith ymchwil i’r ffaith na chaiff pobl ethnig leiafrifol eu cynrychioli’n ddigonol ar raglenni gwyro cyfiawnder troseddol
-
Gwaith i ddatblygu ymyriadau cyfiawnder adferol i gyflawnwyr troseddau casineb hiliol yng Nghymru
-
Datblygu dangosfwrdd anghymesuredd a fydd yn coladu data ar draws sefydliadau cyfiawnder troseddol er mwyn i ni allu deall, mesur a monitro anghymesuredd yn well ym mhob rhan o’r system gyfiawnder
-
Datblygu fframwaith i gynyddu amrywiaeth ein gweithlu cyfiawnder troseddol ac aelodaeth byrddau cyfiawnder troseddol ledled Cymru, er mwyn adlewyrchu ein cymunedau amrywiol yn well
-
Sesiynau hyfforddiant gwrth-hiliaeth i staff ym mhob rhan o’r system gyfiawnder.
-
Lansio ymgyrch gyfathrebu gyhoeddus i godi ymwybyddiaeth o’n Cynllun a’i uchelgais a’i ganlyniadau er mwyn gwneud yn siŵr bod cymunedau yn gwybod beth rydym yn ei wneud
Mae’r gwaith rydym wedi’i gwblhau hyd yma wedi creu sylfaen gadarn y byddwn yn bwrw ati’n ddi-oed i adeiladu arni er mwyn sicrhau bod pobl o gymunedau ethnig lleiafrifol yn teimlo eu bod yn cael profiad teg a chadarnhaol pan fyddant yn dod i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol.
Rydym am sicrhau y gellir defnyddio ein harweinyddiaeth mewn ffordd gadarnhaol er mwyn helpu i roi’r camau gweithredu yn y Cynllun hwn ar waith, er mwyn i’n cymunedau deimlo’n ddiogel a rhoi tawelwch meddwl iddynt bod dileu hiliaeth yn un o flaenoriaethau’r sector cyfiawnder troseddol. Rydym yn gwybod bod cymaint mwy o waith i’w wneud, ond mae’r newidiadau sydd ar y gweill yn galonogol
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Panel Cynghori a Goruchwylio Annibynnol wedi gweithio ochr yn ochr ag asiantaethau cyfiawnder troseddol yng Nghymru i sicrhau bod ymrwymiadau’r Cynllun Gwrth-hiliaeth yn cael eu rhoi ar waith. Rydym wedi ymgysylltu ag uwch-arweinwyr, wedi craffu ar strategaethau ac wedi rhoi adborth pwysig er mwyn gwella atebolrwydd a chyflymu cynnydd.
Rydym yn cydnabod y camau a gymerwyd gan asiantaethau partner i ymdrin â gwahaniaethau hiliol wrth recriwtio, arwain a gwneud penderfyniadau. Fodd bynnag, mae ein hadolygiadau hefyd wedi nodi bylchau sylweddol – gan gynnwys yr angen am atebolrwydd cliriach, canlyniadau mesuradwy a phrosesau cryfach ar gyfer ymgysylltu â chymunedau ethnig lleiafrifol. Mae’r gwaith o’n blaenau yn heriol.
Rhaid i arweinwyr gymryd perchnogaeth lawn dros yr agenda wrth-hiliaeth, gan sicrhau nad yw polisïau yn parhau’n symbolaidd, ond yn hytrach, eu bod yn cael eu rhoi ar waith ym mhob lefel o’r broses gwneud penderfyniadau. Rhaid i gynnydd fod yn fesuradwy ac yn dryloyw a rhaid ei adolygu’n barhaus, gydag asiantaethau yn dangos gwelliannau amlwg o ran cynrychiolaeth yn y gweithlu, lleihau tuedd ac ymddiriedaeth gymunedol.
Fel panel annibynnol, byddwn yn parhau i sicrhau bod asiantaethau cyfiawnder troseddol yn atebol am eu gweithredoedd, gan wneud yn siŵr nad dim ond blaenoriaeth wag yw gwrth-hiliaeth ond realiti bywyd i bob cymuned yng Nghymru.
Chantal Patel
Cadeirydd y Pwyllgor Cynghori a Goruchwylio Annibynnol
Ian Barrow
Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi, wasanaethau Llety Cymunedol Cymru
Mark Hobrough
Prif Gwnstabl Heddlu Gwent
2. Cyflwyniad
Cyhoeddodd Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru ei Gynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth ym mis Tachwedd 2022. Dyma oedd y tro cyntaf erioed i’r holl asiantaethau cyfiawnder troseddol yng Nghymru gytuno i gydweithio er mwyn mynd i’r afael â hiliaeth a gwahaniaethau hiliol. Roedd hyn yn cynnwys y pedwar heddlu yng Nghymru, y pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi a’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid. Yn ogystal, cytunodd Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i helpu i roi’r Cynllun ar waith fel aelodau o Fwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru.
Roedd datblygu a chyhoeddi’r Cynllun yn gam enfawr wrth gydnabod y gwahaniaethau hiliol hanesyddol yn y sector cyfiawnder troseddol. Roedd yn cydnabod yr angen i weithredu er mwyn sicrhau y byddai’r system yng Nghymru yn hybu tegwch ac yn gweithredu mewn ffordd wrth-hiliol, ac felly na fyddai pobl ethnig leiafrifol yng Nghymru bellach yn wynebu’r anghyfiawnder, yr annhegwch, y duedd a’r rhagfarn y maent yn eu hwynebu flwyddyn ar ôl blwyddyn, dydd ar ôl dydd. Cafodd y Cynllun ei gydgynhyrchu â phobl ethnig leiafrifol ledled Cymru ac mae’n cynnwys y camau gweithredu roeddent am eu gweld.
Bydd Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru wrth iddi roi ei Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ar waith, gan anelu at sicrhau system cyfiawnder troseddol wrth-hiliol yng Nghymru erbyn 2030.
Dyma’r ail adroddiad blynyddol ar gynnydd yn erbyn y Cynllun. Cyhoeddwyd yr adroddiad cyntaf yn ystod gwanwyn 2024. Yn ystod y flwyddyn gyntaf, rhoddwyd ffocws ar sicrhau’r strwythurau llywodraethu, y prosesau a’r adnoddau priodol ym mhob rhan o’r sector cyfiawnder troseddol, er mwyn gwneud yn siŵr y gellid rhoi’r Cynllun ar waith a’i fonitro’n ofalus. Mae ail flwyddyn y Cynllun wedi cynnig mwy o gyfleoedd i roi camau gweithredu ar waith.
Yn ystod haf ail flwyddyn gweithredu’r Cynllun, cafwyd terfysgoedd hiliol a chasineb ar-lein erchyll a gofidus yn y DU. Roedd yn arwydd tywyll o’r hiliaeth barhaus y mae pobl ethnig leiafrifol yn ei hwynebu yn y DU, ac yng Nghymru, ac yn dangos bod llawer o waith i’w wneud o hyd i’w dileu. Rhoddodd y digwyddiadau gyfle i aelodau o gymunedau yng Nghymru atgoffa arweinwyr cyfiawnder troseddol bod angen iddynt fod yn weladwy wrth wneud safiad yn erbyn hiliaeth. Mae awydd pendant i wneud hynny, ac mae angen i ni barhau i weithio er mwyn bwrw ati i gyflawni holl ymrwymiadau’r Cynllun.
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o dan saith ymrwymiad allweddol y Cynllun:
- Herio Hiliaeth
- Creu Gweithlu sy’n Amrywiol yn Ethnig
- Cynnwys, Gwrando a Gweithredu
- Bod yn Dryloyw, yn Atebol ac yn Gyd-gysylltiedig
- Addysgu’r Gweithlu
- Hyrwyddo Tegwch
- Canolbwyntio ar Atal, Ymyrryd yn Gynnar ac Adsefydlu
Mae Atodiad Data sy’n cyd-fynd â’r adroddiad, sy’n cyhoeddi rhywfaint o’r data cysylltiedig ag hil sydd ar gael ym maes cyfiawnder troseddol. Y bwriad yw cyhoeddi’r data hyn, ac adeiladu arnynt, bob blwyddyn er mwyn gallu dangos i gymunedau ein bod yn gwneud cynnydd wrth fynd i’r afael ag anghymesuredd hiliol. Dyma’r tro cyntaf y mae partneriaid cyfiawnder troseddol wedi cyhoeddi data o’r fath gyda’i gilydd, ac mae’r penderfyniad i gyhoeddi’r data hyn yn dangos yr ymrwymiad cynyddol i sicrhau tryloywder ac i weithredu mewn ffordd agored wrth hyrwyddo gwrth-hiliaeth.
2.1 Yr Ail Flwyddyn o Gynnydd
Drwy gydol 2024-25, mae asiantaethau Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru wedi bod yn adeiladu ar y gwaith cadarnhaol a wnaed yn ystod blwyddyn gyntaf y Cynllun. Nod yr ail flwyddyn oedd datblygu arferion a phrosesau a fydd yn gwneud gwahaniaeth wrth fynd i’r afael â’r gwahaniaethau a’r anfantais hiliol y mae pobl ethnig leiafrifol yng Nghymru yn eu hwynebu.
Roedd yr ail flwyddyn hefyd yn gyfle i Fwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru edrych ar ei gynrychiolaeth fewnol. Cymerwyd camau i gynyddu amrywiaeth ethnig aelodau Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru, ac aelodau’r pedwar Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol ledled Cymru sy’n gweithio i sicrhau cyfiawnder yn eu hardaloedd. Cafodd yr arweinwyr sgyrsiau gonest am y llwybr y mae angen iddynt ei ddilyn er mwyn rhoi system cyfiawnder troseddol wrth-hiliol ar waith, a chymerwyd camau i wneud cynnydd ar y blaenoriaethau pwysig yn y Cynllun sy’n gofyn am newidiadau systemig.
Gwnaed cryn dipyn o waith yn ystod y flwyddyn. Er enghraifft: Cymerwyd camau i ddatblygu dulliau cyson o ddarparu hyfforddiant gwrth-hiliol o ansawdd uchel ym mhob rhan o’r sector cyfiawnder troseddol; datblygwyd fframwaith i bob partner weithio mewn ffordd gyson tuag at gynyddu amrywiaeth ethnig ei weithlu; canolbwyntiodd asiantaethau cyfiawnder troseddol ar goladu a rhannu mwy o ddata am ethnigrwydd gyda’i gilydd ac eraill i’w galluogi i ddeall anghymesuredd hiliol ac i fynd i’r afael ag ef; cynyddwyd lefel y deunyddiau cyfathrebu a’r cyhoeddusrwydd allanol i’r Cynllun; cynhaliwyd gwaith ymchwil cynhwysfawr er mwyn deall pam mae llai o bobl Ddu ac ethnig leiafrifol sydd yn y ddalfa yn cymryd rhan mewn cynlluniau gwyro; ac mae sefydliadau partner wedi cynnal llawer o weithgareddau allgymorth ac ymgysylltu â chymunedau.
Wrth i’r darnau gwaith craidd hyn fynd rhagddynt, trefnwyd gweithgorau, arweinwyr ffrydiau gwaith ac adnoddau penodedig i gyflawni gwahanol agweddau ar y Cynllun. Mae camau gweithredu yn mynd rhagddynt o hyd o dan y saith ymrwymiad.
2.2 Dwyn y sector Cyfiawnder Troseddol i gyfrif
Pan gyhoeddwyd y Cynllun, roedd yn cynnwys ymrwymiad i sicrhau y byddai pobl ethnig leiafrifol yng Nghymru yn cael eu gwahodd a’u hannog i ddwyn asiantaethau cyfiawnder troseddol i gyfrif am eu gwaith wrth gyflawni’r ymrwymiadau. Er y gall hyn ddigwydd mewn nifer o ffyrdd wrth i’r asiantaethau ymgysylltu â’r sawl sy’n defnyddio eu gwasanaethau a staff ethnig lleiafrifol, mae dwy system ffurfiol hefyd a ddefnyddiwyd at y diben hwn yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf: y Panel Cynghori a Goruchwylio Annibynnol a’r Rhwydwaith Ymgysylltu â’r Gymuned.
Aeth y ddau grŵp ati i sicrhau bod partneriaid cyfiawnder troseddol yn ymwybodol o sut mae’r Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth yn datblygu ar lawr gwlad. Mae’r lleisiau yn y grwpiau yn galluogi’r sector cyfiawnder troseddol i ddeall yn well a yw’r unigolion a’r cymunedau y mae hiliaeth yn effeithio arnynt yn gweld newid. Maent hefyd yn herio meysydd lle nad yw’r cynnydd mor amlwg ag yr hoffai cymunedau ei weld, a gallant ofyn cwestiynau uniongyrchol o ran pa waith sy’n mynd rhagddo i gyrraedd y nodau a bennwyd yn y Cynllun.
2.3 Y Panel Cynghori a Goruchwylio Annibynnol
Mae’r Panel Cynghori a Goruchwylio Annibynnol yn parhau i oruchwylio cynnydd y Cynllun. Mae’n cynnwys 10 unigolyn a benodwyd drwy broses agored ac sy’n cael cydnabyddiaeth ariannol am eu hamser. Mae’r panel yn craffu ar weithgareddau asiantaethau cyfiawnder troseddol drwy gyfarfodydd am yn ail fis. Mae aelodau’r panel yn profi ac yn herio, ac yn rhoi cyngor cefnogol lle y bo’n bosibl. Mae pob un o aelodau’r panel yn dod o gefndir Du ac ethnig lleiafrifol.
Yn ystod y flwyddyn, cyfrannodd uwch-arweinwyr a staff gweithredol o bob cwr o Gymru at waith y panel. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau manwl am yr ymdrechion i hyrwyddo gwrth-hiliaeth. Mae’r panel wedi ymdrin ag amrywiaeth o bynciau yn ystod y flwyddyn. Mae hyn wedi cynnwys y canlynol: ymdrin â chwynion yn ymwneud â hil gan y cyhoedd ym maes plismona; ymdrin â chwynion yn ymwneud â hil mewn carchardai; y rhaglen datblygiad cefnogol yng Ngwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi; y canlyniadau a’r camau nesaf mewn perthynas â gwaith ymchwil Gwasanaeth Erlyn y Goron i anghymesuredd hiliol wrth benderfynu a ddylid cyhuddo unigolion; deunyddiau cyfathrebu cyhoeddus mewn perthynas â chynnydd y Cynllun; trefniadau casglu data ethnigrwydd ledled Cymru; ac ymdrechion parhaus i wella dealltwriaeth o faterion gwrth-hiliaeth a gweithlu mwy cynrychioliadol ym mhob rhan o’r sector cyfiawnder troseddol.
Yn 2024, mabwysiadodd y panel broses newydd ar gyfer rhoi adborth i gyflwynwyr cyfiawnder troseddol a oedd yn mynychu cyfarfodydd y panel. Mae’r panel bellach yn rhoi adborth ysgrifenedig i asiantaethau partner, sy’n golygu y gall yr asiantaethau ddeall safbwyntiau’r panel yn well o ran beth oedd yn gweithio’n dda, a’r meysydd posibl i’w gwella.
Ym mis Mawrth 2025, lansiodd y panel ei we-dudalen ei hun i’w gwneud hi’n haws i aelodau o’r cyhoedd weld gwaith yr aelodau. Yn ystod y flwyddyn i ddod, mae’r panel yn gobeithio creu gwell cysylltiadau â chymunedau.
Isod, nodir datganiad sefyllfa’r Panel Annibynnol ar gynnydd y Cynllun ar ddiwedd ei ail flwyddyn:
Ar ddiwedd yr ail flwyddyn, mae ymrwymiad y panel i sicrhau bod gwrth-hiliaeth ar waith ar bob lefel o’r sector cyfiawnder troseddol yn parhau’n gadarn. Mae’r Cynllun Gwrth-hiliaeth yn gosod agenda uchelgeisiol, ond nid yw uchelgais ar ei ben ei hun yn ddigon. Mae angen i ni weld newidiadau gwirioneddol a mesuradwy. Er ein bod yn cydnabod yr ymrwymiad cynyddol i wrth-hiliaeth ym mhob rhan o’r sector cyfiawnder troseddol, mae heriau sylweddol o hyd. Wrth i ni symud ymlaen, byddwn yn parhau i graffu, herio ac eirioli – gan sicrhau bod cyfiawnder yn wirioneddol wrth-hiliol a theg i bawb yng Nghymru.
2.4 Y Rhwydwaith Ymgysylltu â’r Gymuned
Sefydlwyd Rhwydwaith Ymgysylltu â’r Gymuned Cyfiawnder Troseddol yn 2023. Caiff y rhwydwaith ar-lein hwn ei gadeirio gan asiantaeth bartner allanol er mwyn hyrwyddo annibyniaeth. Mae sefydliadau o bob cwr o Gymru a gaiff eu harwain gan bobl ethnig leiafrifol a/neu sy’n cynrychioli lleisiau’r bobl hynny ledled Cymru yn cymryd rhan. Mae’r rhwydwaith yn cyfarfod bob deufis i drafod materion cyfiawnder troseddol ac er mwyn rhoi cyfle i’r cyfranogwyr rannu eu profiadau, cwestiynau a heriau ar y gwaith i greu system cyfiawnder troseddol wrth-hiliol yng Nghymru.
Yn ystod ail flwyddyn y rhwydwaith, mae’r aelodau wedi rhoi adborth ar amrywiaeth o bynciau sy’n cael eu datblygu yn y Cynllun, gan roi cymorth penodol drwy rannu gwybodaeth am y deunyddiau cyfathrebu allanol y bwriedir eu datblygu i’w lansio yn 2025. Mae’r rhwydwaith hefyd wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wneir i gasglu data ethnigrwydd ac i greu dangosfwrdd data a fydd ar gael i’r cyhoedd ac wedi achub ar y cyfle i roi adborth i bartneriaid cyfiawnder troseddol ar faterion fel y defnydd o iaith.
Roedd y trais hiliol a welwyd yn y DU yn ystod haf 2024 yn destun pryder mawr i aelodau’r rhwydwaith, ac effeithiodd arnynt yn sylweddol, a gwnaethant chwarae rhan allweddol wrth helpu arweinwyr cyfiawnder troseddol yng Nghymru i ddeall yr effeithiau a gafodd y sefyllfa hon ar gymunedau a oedd yn byw yng Nghymru.
Isod, nodir datganiad sefyllfa’r Rhwydwaith Ymgysylltu â’r Gymuned ar gynnydd y Cynllun ar ddiwedd ei ail flwyddyn:
Mae’r Rhwydwaith Ymgysylltu â’r Gymuned wedi ymdrin ag amrywiaeth o faterion yn ystod y flwyddyn. Roedd yn flwyddyn heriol i gymunedau mwyafrif byd-eang sy’n byw yn y DU. Cafodd y trais hiliol yn ystod haf 2024 effeithiau difrifol ledled y DU, a theimlwyd yr effeithiau hynny gan ein cymunedau mwyafrif byd-eang. Roedd y Rhwydwaith yn cynnig man diogel i’w aelodau ddod at ei gilydd a chefnogi ei gilydd yn ystod y cyfnod hwnnw o aflonyddwch.
Fel rhwydwaith, gwnaethom wedyn gynnig ein syniadau i uwch-arweinwyr y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru er mwyn trafod yr hyn y gellid ei ddysgu o ymatebion asiantaethau cyfiawnder troseddol yng Nghymru i ddigwyddiadau hiliol. Roedd yn broses yn cynnig her adeiladol lle cynhaliwyd sgyrsiau gonest am y ffordd y mae’r system yn gweithredu o ddifrif o safbwynt gwrth-hiliol.
Rydym wedi croesawu’r cyfle i aelodau’r rhwydwaith ddweud eu dweud ac i allu cael trafodaeth onest ag uwch-arweinwyr.
3. Cynnydd yn erbyn y Cynllun
Mae’r adran hon yn rhoi gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bob un o ymrwymiadau’r Cynllun yn ystod y flwyddyn.
Mae’r adran hefyd yn cyflwyno rhai o’r safbwyntiau allanol a ddaeth i law mewn perthynas ag amrywiol faterion yn y Cynllun. Drwy gydol y flwyddyn, mae Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru wedi bod yn awyddus i wrando ar safbwyntiau’r gymuned a lleisiau annibynnol mewn perthynas â phob agwedd ar y Cynllun. Gwnaed hyn mewn amrywiaeth o sianeli cyfarfod ffurfiol, ond hefyd drwy’r cyfarfodydd anffurfiol, y sesiynau ymgysylltu a’r digwyddiadau anffurfiol niferus a gynhaliwyd drwy gydol y flwyddyn. Mae safbwyntiau unigolion ac asiantaethau partner yn amhrisiadwy wrth feithrin dealltwriaeth o’r cynnydd sy’n cael ei wneud ar lawr gwlad, a’r meysydd y mae angen rhoi sylw iddynt.
3.1 Ymrwymiad 1: Herio Hiliaeth
Byddwn yn rhagweithiol yn herio hiliaeth mewn cymdeithas lle gall y system cyfiawnder troseddol gael dylanwad, a byddwn yn gweithio i ddileu hiliaeth a rhagfarn hiliol ym mhob rhan o’r system. Byddwn yn sicrhau bod cymunedau lleiafrifoedd ethnig yn ymwybodol o’n hymrwymiadau gwrth-hiliol.
3.2 Cynnydd yn erbyn y Camau Gweithredu
Yn 2024, penderfynwyd y dylid cynnal adolygiad o’r ymateb plismona mewn perthynas â throseddau casineb ar draws yr heddluoedd yng Nghymru. Mae’r adolygiad hwn yn mynd rhagddo a bydd yn ystyried y gwahanol wasanaethau a gynigir gan y pedwar heddlu yng Nghymru er mwyn gallu gwneud mwy i sicrhau cysondeb ac arferion gorau. Caiff ei gwblhau yn ystod y flwyddyn i ddod er mwyn gallu cyflwyno argymhellion.
Yn ystod gwanwyn 2024, cynhaliodd y Tasglu Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol sesiwn benodol ar droseddau casineb hiliol. Yn ystod y cyfarfod hwn, gwahoddwyd cynghorwyr i gyflwyno safbwyntiau a phryderon cymunedau mewn perthynas â throseddau casineb hiliol. Arweiniodd hyn at sgyrsiau cadarnhaol o ran sut y gellid gweithredu ar faterion, gyda ffocws pwysig ar anghenion dioddefwyr a’r goblygiadau ehangach i wasanaethau cyhoeddus eraill, fel Addysg.
Hefyd yn 2024, dechreuodd Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru weithio gyda darparwr gwasanaethau cyfathrebu a gomisiynwyd i ddatblygu deunyddiau i roi cyhoeddusrwydd i’r Cynllun a’r gwaith sy’n mynd rhagddo i gyflawni yn erbyn ei ymrwymiadau. Dechreuwyd defnyddio’r deunyddiau ar ddechrau 2025 a chânt eu datblygu ymhellach yn ystod y flwyddyn i ddod. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys negeseuon sy’n ymwneud â herio hiliaeth, yn ogystal â hyrwyddo modelau rôl o leiafrifoedd ethnig yn y system cyfiawnder troseddol. Y gobaith yw y caiff hyn effaith gadarnhaol ar ddealltwriaeth pobl Cymru o’r cyfraniadau cadarnhaol y mae pobl ethnig leiafrifol yn eu gwneud i bob agwedd ar gyfiawnder troseddol ac i Gymru.
Mae’r Rhwydwaith Ymgysylltu â’r Gymuned wedi parhau i sicrhau bod casineb hiliol ac ymdrechion i fynd i’r afael â hiliaeth mewn cymdeithas wedi cael blaenoriaeth gan arweinwyr cyfiawnder troseddol ac yn eu gweithgarwch gwrth-hiliaeth yn ystod y flwyddyn. Mae’r rhwydwaith wedi cynnig safbwyntiau amhrisiadwy ar effaith troseddau casineb hiliol ar unigolion a chymunedau. Mae’r safbwyntiau hyn wedi helpu asiantaethau cyfiawnder troseddol i lywio eu gwaith ar gyfer y dyfodol a’u hymatebion i hiliaeth.
Ar ôl cwblhau’r gwaith ymchwil a gomisiynwyd yn 2023 ar ddefnyddio Datrysiadau y Tu Allan i’r Llys a chyfiawnder adferol ar gyfer cyflawnwyr troseddau casineb, cynhaliwyd gwaith adolygu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i ystyried y canfyddiadau a’r camau nesaf i’r sector cyfiawnder troseddol. Roedd Llywodraeth Cymru yn rhan o’r trafodaethau, y mae ei Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol hefyd yn cynnwys amcanion sy’n gysylltiedig â newid ymddygiad cyflawnwyr troseddau casineb. Y gobaith yw y gellir gweithio ar y cyd i ddatblygu prosiect peilot mewn rhan o Gymru a fydd yn golygu y gellir defnyddio Datrysiadau y Tu Allan i’r Llys ar gyfer yr unigolion hynny sy’n cyflawni troseddau casineb hiliol lefel isel. Byddai hyn yn anelu at sicrhau y gallai ymyriadau cynnar atal eu hymddygiad rhag gwaethygu i ymddygiad a throseddau hiliol mwy difrifol. Bydd y prosiect peilot yn adeiladu ar ganfyddiadau ac argymhellion y gwaith ymchwil a gomisiynwyd a’r gobaith yw y bydd yn esgor ar ganlyniadau y gellir adeiladu arnynt ledled Cymru.
3.3 Materion Allweddol a Godwyd gan Aelodau o’r Gymuned a Lleisiau Annibynnol yn 2024-25
Yn dilyn terfysgoedd a thrais hiliol haf 2024 yn Lloegr, roedd aelodau’r Rhwydwaith Ymgysylltu â’r Gymuned, yn ogystal ag eraill mewn amrywiaeth o fforymau cymunedol, yn poeni nad oedd yr asiantaethau cyfiawnder troseddol yng Nghymru wedi deall yn llawn yr effaith a gawsant yng Nghymru. Gwnaethant fynegi eu siom ar gyn lleied o negeseuon allanol a gafwyd gan arweinwyr cyfiawnder troseddol mewn ymateb. Cododd aelodau’r rhwydwaith eu pryderon yn uniongyrchol â Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru er mwyn sicrhau bod yr uwch-arweinwyr yn deall, dim ond am na welwyd yr un lefel o drais yng Nghymru, nad oedd hynny’n golygu nad oedd pobl ethnig leiafrifol yng Nghymru wedi teimlo’r un ofn a thrawma.
Gofynnodd aelodau’r rhwydwaith i’r asiantaethau cyfiawnder troseddol fod yn fwy llafar ac yn fwy gweledol o safbwynt gwrth-hiliol pan fydd digwyddiadau tebyg yn y dyfodol. Drwy eu parodrwydd i fod yn agored ac yn onest, cafodd arweinwyr cyfiawnder troseddol eu hatgoffa o’r hyn y mae’n ei olygu i ddioddef effeithiau hiliaeth a chasineb ar-lein fel rhan o fywyd pob dydd, a sut y gall arwain at ofn ac at newid ymddygiad. Mae’r sgyrsiau cadarnhaol yn llywio dulliau cyfathrebu allanol newydd ar gyfer y dyfodol, gan gydnabod bod gan asiantaethau cyfiawnder troseddol ran bwysig i’w chwarae wrth herio hiliaeth.
3.4 Enghraifft o weithredu gan y sector Cyfiawnder troseddol
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi gwella ei ymateb i droseddau casineb yn ddiweddar. Cydnabu’r heddlu fod angen buddsoddiad gan dîm canolog er mwyn cynnig parhad yn y gymuned a sicrhau trafodaethau rheolaidd rhwng grwpiau cymunedol lleiafrifol a’r heddlu.
Mae tri Swyddog Troseddau Casineb/Ymgysylltu â’r Gymuned, sy’n annibynnol ar dimau plismona lleol, bellach yn rhan o’r tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Mae hyn yn golygu y gall swyddogion graffu’n annibynnol ar berfformiad mewn perthynas â throseddu casineb ac ymgysylltu â grwpiau cymunedol a allai fod yn anfodlon ag ymateb yr heddlu. Mae’r tîm yn sicrhau parhad yn y gymuned, sy’n gwella ymddiriedaeth a hyder. Mae’r tîm hefyd yn galluogi lefel ddyfnach o ddealltwriaeth o bryderon cymunedol a gall drefnu i gydgysylltu ymatebion amlasiantaethol priodol i densiynau yn y gymuned wrth iddynt godi.
3.5 Ymrwymiad 2: Gweithlu sy’n Amrywiol yn Ethnig
Byddwn yn cynyddu cynrychiolaeth y bobl ethnig leiafrifol sy’n gweithio yn y system cyfiawnder troseddol fel cyflogeion ac arweinwyr, gan greu gweithlu mwy diogel a chynhwysol sy’n cynrychioli ein cymunedau lleol.
3.6 Cynnydd Hyd yn Hyn
Mae pob asiantaeth cyfiawnder troseddol yng Nghymru yn gweithio i gynyddu cynrychiolaeth pobl ethnig leiafrifol yn y gweithlu ac i wella diwylliannau mewnol er mwyn sicrhau eu bod yn hyrwyddo gwrth-hiliaeth a llesiant ei staff. Mae gan y rhan fwyaf o’r asiantaethau rolau staff arbenigol i arwain gwaith gweithredu cadarnhaol.
Yn ogystal, mae’r ffrwd waith cynrychiolaeth yn y gweithlu a sefydlwyd fel rhan o’r fframwaith llywodraethu ar gyfer y Cynllun Gwrth-hiliaeth yn cydgysylltu ac yn datblygu’r gwaith ledled Cymru. Mae’r ffrwd waith yn pennu cwmpas y gweithgarwch sy’n mynd rhagddo ym maes cyfiawnder troseddol yng Nghymru, gan chwilio am gyfleoedd i nodi arferion da, gwneud gwelliannau a rhoi trefniadau cydweithio ar waith.
Yn 2024, cwblhaodd y ffrwd waith fframwaith newydd i gynyddu cynrychiolaeth lleiafrifoedd ethnig yn y gweithlu. Lluniwyd y fframwaith hwn yn dilyn ymarfer pennu cwmpas eang a ystyriodd y systemau a oedd eisoes ar waith i annog a chefnogi pobl ethnig leiafrifol i ymuno â sefydliadau ac i ddatblygu o fewn y sefydliadau hynny, gan nodi unrhyw fylchau. Mae’r fframwaith yn nodi’r safonau a ddisgwylir gan bob asiantaeth cyfiawnder troseddol yng Nghymru wrth ymdrechu i weithio tuag at gynyddu cynrychiolaeth lleiafrifoedd ethnig a chefnogi pobl ethnig leiafrifol i gamu ymlaen i uwch-swyddi. Yn ystod y flwyddyn i ddod, bydd y ffrwd waith yn gweithio i gyflwyno’r fframwaith ac i fonitro’r broses o’i roi ar waith.
Mae asiantaethau cyfiawnder troseddol yn dal i achub ar lawer o gyfleoedd i hyrwyddo gyrfaoedd a swyddi gwag ymhlith cymunedau ethnig lleiafrifol. Mae hyn yn cynnwys mynychu digwyddiadau cymunedol a grwpiau cymunedol lleol i hyrwyddo’r hyn y mae’r gwasanaethau yn ei gynnig. Maent hefyd yn creu cysylltiadau cadarnhaol ag ysgolion â lefelau uchel o ddisgyblion ethnig lleiafrifol er mwyn iddynt fod yn ymwybodol o’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt yn y dyfodol. Maent yn ymgysylltu â cholegau a phrifysgolion yn rheolaidd hefyd.
Aeth tîm Gweithredu Cadarnhaol Heddlu De Cymru ei hun i fwy na 90 o ddigwyddiadau allgymorth yn y gymuned yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan anelu’n benodol at recriwtio pobl ethnig leiafrifol. Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar recriwtio yn ogystal â chydberthnasau â’r gymuned. Mae Heddlu De Cymru yn cynnig cymorth i bob ymgeisydd o leiafrif ethnig sy’n awyddus i wneud cais, gan gynnwys sesiynau cyfarwyddo, cymorth gwneud cais, cymorth drwy ffug-gyfweliadau, ffug-brofion ffitrwydd a thrwy roi adborth.
Mae tîm Gweithredu Cadarnhaol Heddlu Gwent hefyd yn ymgysylltu mewn ffordd benodol ac yn cynnig cymorth penodol i wella amrywiaeth ethnig yn y gweithlu, gan annog unigolion o gymunedau ethnig lleiafrifol i wneud cais a chynnal cyfarfodydd rheolaidd â staff a swyddogion ethnig lleiafrifol er mwyn cynnal eu llesiant a’u helpu i gamu ymlaen yn eu gyrfa.
Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi (HMPPS) wedi bod yn cynnal gwaith gweithredu cadarnhaol mewn partneriaeth â’r Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST), sy’n parhau i wella nifer y ceisiadau swydd a ddaw i law gan geiswyr gwaith o leiafrifoedd ethnig. Mae HMPPS bellach yn cynnal sesiynau galw heibio rheolaidd wedi’u teilwra’n benodol ledled Cymru mewn lleoliadau cymunedol ac mae’n gweithio gydag ysgolion cynradd ac uwchradd i godi ymwybyddiaeth o rôl y gwasanaeth carchardai a phrawf.
Yn 2024, ymgysylltwyd â’r rhwydweithiau staff ethnig lleiafrifol ar draws yr asiantaethau cyfiawnder troseddol yng Nghymru er mwyn gallu deall mwy o ran sut roeddent yn cael eu cefnogi a’u defnyddio. Mae’r Cynllun yn ymrwymedig i sicrhau y caiff lleisiau a phrofiadau byw pobl ethnig leiafrifol eu defnyddio i lywio polisïau a phrosesau’r dyfodol ym maes cyfiawnder troseddol. Mae gan aelodau’r rhwydweithiau staff brofiadau byw ac arbenigedd gwerthfawr i’w cynnig, ac mae’n bwysig eu bod yn cael dweud eu dweud o fewn sefydliadau at y diben hwn.
Cynhaliwyd arolwg gyda chadeiryddion rhwydweithiau staff ethnig lleiafrifol ac Adrannau Adnoddau Dynol er mwyn i ni allu deall y sefyllfa bresennol. Mae’r canfyddiadau yn cael eu defnyddio i ystyried a oes cyfleoedd pellach i gefnogi rhwydweithiau staff ethnig lleiafrifol yng Nghymru, ac os felly, a fyddai’n werth datblygu rhwydwaith newydd Cymru gyfan er mwyn gallu cydweithio’n well. Wrth symud ymlaen, bydd y rhwydweithiau staff hefyd yn rhanddeiliaid allweddol wrth ddatblygu a goruchwylio polisïau mewnol sy’n gysylltiedig â’r Cynllun.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r ffrwd waith ‘Datblygu’r Gweithlu’ wedi bod yn ystyried sut i gyflwyno ffyrdd effeithiol a chyson o fesur diwylliant sefydliadol a boddhad staff. Mae’r ffrwd waith wedi bod yn edrych yn benodol am ffyrdd o ddeall profiadau a safbwyntiau staff ethnig lleiafrifol a sut y gallai’r rhain fod yn wahanol i brofiadau aelodau gwyn o staff. Er bod sefydliadau cyfiawnder troseddol yn gwneud hyn i wahanol raddau ar hyn o bryd, nid oes ffordd gyson y cytunwyd arni ar gyfer cymharu’r dulliau hyn. Mae’r ffrwd waith yn awyddus i ddatblygu ffordd o fesur hyn i’w defnyddio yn y dyfodol ym mhob rhan o’r sector cyfiawnder troseddol.
Mae pob sefydliad partner yn parhau i weithio i goladu data hawdd eu defnyddio mewn perthynas â recriwtio, cadw a dyrchafu staff a swyddogion yn ôl ethnigrwydd. Y bwriad yw sicrhau bod mwy o’r data hyn ar gael yn gyhoeddus, gan ddechrau drwy gynnwys rhywfaint o’r data ar ddiwedd yr adroddiad hwn.
Yn olaf, ac yn werth ei nodi o ran digwyddiadau’r flwyddyn ddiwethaf, ym mis Mai 2024 cafodd Emma Wools ei hethol fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu newydd De Cymru. Hi yw’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu benywaidd du cyntaf yng Nghymru.
3.7 Materion Allweddol a Godwyd gan Aelodau o’r Gymuned a Lleisiau Annibynnol yn 2024-25
Yn ystod haf 2024, cafodd y Panel Cynghori a Goruchwylio Annibynnol gyflwyniad gan y sector plismona mewn perthynas â’i brosesau ar gyfer ymdrin â chwynion yn ymwneud â hil gan y cyhoedd. Yn ystod y cyflwyniad hwn, gofynnodd aelodau’r panel beth oedd lefelau cynrychiolaeth lleiafrifoedd ethnig yn yr Adran Safonau Proffesiynol sy’n ymdrin â’r cwynion hyn. Datgelodd hynny nad oedd unrhyw swyddogion na staff ethnig lleiafrifol yn yr adran ar y pryd. Roedd hyn yn destun pryder i aelodau’r panel, o ystyried bod y swyddogion a’r aelodau hynny o staff yn gwneud penderfyniadau pwysig o ran p’un a oedd digwyddiadau yn cynnwys ymddygiad hiliol ai peidio.
Rhoddodd y panel adborth yn dilyn y cyfarfod, gan ofyn i gamau gael eu cymryd. Nododd y mater bwysigrwydd yr angen i flaenoriaethu ymdrechion datblygu mewnol er mwyn cynyddu cynrychiolaeth staff ethnig lleiafrifol mewn adrannau lle gallai diffyg amrywiaeth gael effaith arbennig o negyddol. Felly mae angen i asiantaethau cyfiawnder troseddol fod yn gwneud mwy i ddeall cynrychiolaeth ar lefel adrannol ac i wella camau gweithredu cadarnhaol a chyfleoedd datblygu mewnol i staff ethnig lleiafrifol.
3.8 Enghreifftiau o weithredu gan y sector cyfiawnder troseddol
Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi (HMCTS) wedi bod yn cynnig rhaglen datblygu beilot i staff o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys staff ethnig lleiafrifol. Mae’r rhaglen ‘Power of Choice’ yn helpu staff i nodi unrhyw rwystrau maent wedi’u wynebu wrth gamu ymlaen yn eu gyrfa yn HMCTS ac i fynd i’r afael â nhw. Hyd yn hyn, mae HMCTS wedi cyflwyno’r rhaglen i 6 charfan er mwyn galluogi staff talentog i ddatblygu er mwyn camu ymlaen i uwch-rolau yn y sefydliad yn y dyfodol.
Mae HMCTS yn cydnabod yr angen i barhau i ymdrin ag achosion o dangynrychioli pobl ethnig leiafrifol, gan gynnwys mewn uwch-swyddi, gan gydnabod pwysigrwydd gwella amrywiaeth setiau sgiliau a ffyrdd o feddwl mewn rolau sy’n gwneud penderfyniadau. Gall y rhaglen hefyd helpu’r sefydliad i ddeall lle ceir themâu cyffredin neu faterion systemig y mae angen mynd i’r afael â nhw mewn perthynas â datblygu staff i grwpiau lleiafrifol. Ers 2023, mae HMCTS eisoes wedi gweld cyfradd lwyddiant o 20% o ran yr unigolion hynny sy’n llwyddo i gael dyrchafiad dros dro neu barhaol ar ôl cymryd rhan yn y rhaglen.
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yn parhau i gynnal ei raglen fewnol genedlaethol ‘Count me in’, sy’n anelu at wella hunanddatganiadau staff mewn perthynas â monitro cydraddoldeb. Bydd hyn yn helpu i wella cywirdeb data am y gweithlu, a fydd yn ei dro yn golygu y gellir nodi meysydd lle ceir anghymesuredd hiliol ac achosion o dangynrychioli yn well.
Mae’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid wedi datblygu mentrau fel Elevate, rhaglen fentora ddynamig 6 mis o hyd wedi’i chynllunio i helpu rheolwyr canol o gefndiroedd ethnig lleiafrifol gamu ymlaen i swyddi arwain. Cafwyd 2 garfan lwyddiannus yn ystod y tair blynedd diwethaf, ac mae Elevate wedi helpu 21 o gyfranogwyr i symud yn agosach at swyddi rheoli strategol. Mae’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid hefyd wedi hyrwyddo’r Rhaglen Ceisiadau gan Leiafrifoedd Ethnig (EMAP), sef cynllun peilot lle mae Uwch-weision Sifil yn gwirfoddoli i fentora talent o leiafrifoedd ethnig sy’n gwneud cais am swyddi mewnol.
3.9 Ymrwymiad 3: Cynnwys, Gwrando a Gweithredu
Bydd gennym ddealltwriaeth well o brofiadau personol a chyfunol pobl ethnig leiafrifol sy’n rhan o’r system cyfiawnder troseddol er mwyn diwallu eu hanghenion. Byddwn yn sicrhau bod profiadau byw yn cefnogi ac yn ysgogi’r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer polisïau ac arferion newydd.
3.10 Cynnydd Hyd yn Hyn
Mae asiantaethau cyfiawnder troseddol yng Nghymru yn derbyn bod llawer o waith i’w wneud i wella amrywiaeth ethnig eu gweithluoedd, gan gynnwys cynrychiolaeth pobl ethnig leiafrifol sy’n ymwneud â llunio polisïau a gwneud penderfyniadau ar lefelau uwch. Un o ymrwymiadau craidd y Cynllun ei hun yw gweithio i wella’r gynrychiolaeth hon yn wirioneddol. Hyd nes y cyflawnir hyn, mae Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru yn parhau i chwilio am ffyrdd ystyrlon o ehangu strwythurau presennol ar gyfer llunio polisïau a gwneud penderfyniadau i’w gwneud yn fwy cynhwysol. Bu hyn yn flaenoriaeth ar lefel Cymru ac ar lefelau lleol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Mae pedwar Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol ledled Cymru. Mae’r Byrddau hyn yn cynnwys sefydliadau cyfiawnder troseddol yn yr ardal, sy’n dod ynghyd mewn partneriaeth i wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd cyfiawnder troseddol ar lefel leol. Cânt eu cadeirio gan Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu. Yn ystod hydref 2024, cymerodd pob Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol yng Nghymru gamau uniongyrchol i wahodd gweithwyr proffesiynol o leiafrifoedd ethnig sy’n gweithio yn eu sefydliad i ddod yn aelodau o’r Bwrdd.
Roedd yn amlwg y byddai hyn yn gwella’r wybodaeth a’r profiadau byw a oedd yn cael eu defnyddio i wneud penderfyniadau cyfiawnder troseddol ar lefel leol ac y byddai hefyd yn cynnig cyfleoedd datblygu i staff na fyddent o bosibl wedi cymryd rhan mewn gwaith amlasiantaethol o’r blaen. Y gobaith yw y bydd y cam gweithredu hwn yn arwain at welliannau o ran cynrychiolaeth ethnig leiafrifol ac wrth wneud penderfyniadau ar lefel Byrddau Cyfiawnder Troseddol Lleol yn ystod y flwyddyn i ddod. Ers cymryd y cam yn Ne Cymru, mae Bwrdd Cyfiawnder Troseddol De Cymru wedi cynyddu ei gynrychiolaeth ethnig leiafrifol o 3% i 14%.
Mae Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru, y mae’r holl Fyrddau Cyfiawnder Troseddol Lleol yn bwydo iddo, yn anelu at gymryd yr un cam gweithredu uniongyrchol yn ystod chwarter cyntaf 2025. Gobeithio y bydd hyn yn cynyddu amrywiaeth ethnig y bobl sy’n cymryd rhan wrth wneud penderfyniadau cyfiawnder troseddol ar y lefel uchaf. Mae Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru yn parhau i wahodd Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Panel Cynghori a Goruchwylio Annibynnol i’w gyfarfodydd ac i ddigwyddiadau sy’n berthnasol i’r Bwrdd. Ym mis Medi 2024, gwahoddwyd Cadeirydd y Panel i fynychu’r sesiwn benodol tair awr o hyd ar gynnydd y Cynllun Gwrth-hiliaeth, a hynny wyneb yn wyneb ag aelodau o’r Bwrdd. Rhoddodd hyn gyfle i’r panel gyflwyno ei sylwadau ar y cynnydd a’r meysydd her parhaus sy’n gysylltiedig â rhoi’r Cynllun ar waith, gan sicrhau y gellid ystyried ei safbwyntiau.
Cafodd y Rhwydwaith Ymgysylltu â’r Gymuned hefyd ei gynnwys drwy gydol y flwyddyn wrth roi adborth a sylwadau ar gynnydd mewn perthynas â gweithgareddau’r Cynllun. Roedd y rhwydwaith yn arbennig o ddefnyddiol wrth fwydo i mewn i gynlluniau a oedd yn gysylltiedig ag adnoddau cyfathrebu allanol a oedd yn cael eu datblygu yn ystod y flwyddyn. Mae pob asiantaeth cyfiawnder troseddol yn gwneud mwy i ddeall sut y gall gynnwys pobl ethnig leiafrifol wrth lywio ei gwasanaethau a’i dwyn i gyfrif am ei gweithredoedd. Mae’r heddluoedd wedi datblygu amrywiaeth o systemau er mwyn gallu cyflawni hyn, gan gynnwys prosesau ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned wyneb yn wyneb ac ar-lein, a thrwy ddefnyddio paneli craffu cymunedol. Ceir Fforymau Hil yn y carchardai yng Nghymru hefyd, sy’n galluogi carcharorion ethnig lleiafrifol i drafod eu profiadau a’u hanghenion â staff y carchar.
Yn 2024, cwblhawyd Strategaeth Gyfathrebu ar gyfer y Cynllun gan ddarparwr gwasanaeth a gomisiynwyd, ac fe’i lansiwyd ar ddechrau 2025. Bydd hyn yn galluogi mwy o bobl ledled Cymru i ddeall y gwaith y mae asiantaethau cyfiawnder troseddol yng Nghymru yn ei wneud i ddod yn wrth-hiliol a dylai gynyddu’r cyfleoedd ar gyfer mwy o waith ymgysylltu uniongyrchol â’r asiantaethau gan y cyhoedd a phartneriaid. Mae’r deunyddiau sy’n cael eu cynhyrchu yn ystyried anghenion ieithyddol ac yn anelu at feithrin ymddiriedaeth ymhlith cymunedau a rhanddeiliaid. Mae’r Strategaeth Gyfathrebu hefyd wedi cyflwyno’r defnydd o arolwg cyhoeddus i fesur hyder y cyhoedd yn y sector cyfiawnder troseddol ledled Cymru, gan gynnwys yn ôl ethnigrwydd. Caiff y canlyniadau eu defnyddio fel meincnod i wella arno yn y dyfodol.
Lluniodd y Panel Goruchwylio a Chynghori Annibynnol ei we-dudalen ei hun ar ddechrau 2025. Mae’r panel yn anelu at gynyddu ei bresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol yn 2025-26. Y gobaith yw y bydd hyn yn cynnig mwy o gyfle i gymunedau ymgysylltu’n uniongyrchol â’r panel er mwyn i’w safbwyntiau allu cael eu hystyried wrth roi’r Cynllun ar waith.
Parhaodd Grŵp Sipsiwn Roma Teithwyr Cymru Gyfan, a sefydlwyd gan yr asiantaethau cyfiawnder troseddol yng Nghymru yn 2023, i gyfarfod yn ystod y flwyddyn. Sefydlwyd y grŵp ar ôl cydnabod bod angen gwneud mwy i ddeall sut i ddiwallu anghenion penodol cymunedau Sipsiwn Roma Teithwyr wrth roi’r Cynllun ar waith. Mae’r grŵp yn dod â heddluoedd Cymru ynghyd â Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a phartneriaid ac unigolion o’r trydydd sector. Mae materion sy’n gysylltiedig â hiliaeth i bobl Sipsiwn Roma Teithwyr yn parhau’n bryder difrifol ac mae angen trefniadau gwell ar gyfer gweithio mewn partneriaeth i ymdrin â rhai o’r anfanteision a’r achosion o wahaniaethu y mae’r cymunedau hyn yn eu hwynebu. Caiff y Grŵp ei gadeirio gan Clinks, sy’n sefydliad partner allanol.
3.11 Materion Allweddol a Godwyd gan Aelodau o’r Gymuned a Lleisiau Annibynnol yn 2024-25
Yn ystod y flwyddyn hon, parhaodd y duedd barhaus o bartneriaid trydydd sector ac aelodau o’r gymuned yn nodi bod angen cydbwyso pwysigrwydd clywed gan bobl â phrofiad byw o hiliaeth yn erbyn y pwysau a’r trawma parhaus y gall cyfleu’r profiadau hyn eu hachosi. Yn ystod haf 2024, daeth hyn yn berthnasol o safbwynt emosiynol eto wrth i aelodau’r gymuned gyfleu eu profiadau personol o hiliaeth o ganlyniad i drais hiliol ledled y DU, er mwyn i’r asiantaethau cyfiawnder troseddol ddeall yr effaith sylweddol roedd yn ei chael.
Mae angen i’r asiantaethau cyfiawnder troseddol yng Nghymru sicrhau y clywir profiadau byw ac y cânt eu defnyddio i lywio cynnydd tuag at wasanaeth gwrth-hiliol. Fodd bynnag, mae angen iddynt ystyried sut y caiff hyn ei wneud, a pha gydnabyddiaeth neu gymorth y gellid ei roi i’r unigolion y gofynnir iddynt gyfleu eu profiadau. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy’n bartneriaid craidd yn y gwaith hwn, yn parhau â’i ymchwil i ddulliau sy’n ystyriol o drawma hiliol. Yn ystod y flwyddyn, cododd aelodau’r Rhwydwaith Ymgysylltu â’r Gymuned hefyd bwysigrwydd ystyried iaith a therminoleg wrth gyfathrebu. Mae’n bosibl y bydd angen cynnal gwaith pellach yn hyn o beth yn ystod y blynyddoedd i ddod er mwyn sicrhau bod iaith yn gyson ac yn sensitif i’r ffyrdd yr hoffai cymunedau sydd wedi’u hymyleiddio o safbwynt hil gael eu gweld a’u clywed.
3.12 Enghreifftiau o weithredu gan y sector cyfiawnder troseddol
Yn 2024, gweithiodd Heddlu Gwent â sefydliad ieuenctid lleol wedi’i arwain gan bobl Ddu, Urban Circle, i ddechrau dymchwel y rhwystrau rhwng plismona a phobl ifanc, yn enwedig pobl ifanc Ddu ac ethnig leiafrifol. Roedd Heddlu Gwent am ymgysylltu’n uniongyrchol â’r bobl ifanc i wella ei ddealltwriaeth o’r materion roeddent yn eu hwynebu yn eu cymunedau, ac unrhyw bryderon diogelwch cymunedol a allai fod ganddynt.
Er mwyn dathlu Mis Hanes Pobl Ddu ym mis Hydref 2024, trefnwyd sesiwn grŵp ag aelodau o’r grŵp ieuenctid, eu hwyluswyr, swyddogion a staff o Heddlu Gwent, ac aelodau o swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent. Siaradodd y swyddogion â’r bobl ifanc am y materion a oedd yn bwysig iddynt, gan gynnwys hawliau stopio a chwilio a throseddau cyllyll. Wedyn, gofynnodd y bobl ifanc gwestiynau i’r swyddogion. Cafwyd sgyrsiau cadarnhaol am ddefnyddio pwerau’r heddlu ac am yrfaoedd plismona. Cafodd y cyfle i ymgysylltu effaith gadarnhaol ar y cyfranogwyr ifanc a adawodd yn teimlo’n fwy hyderus am gwrdd â’r heddlu yn eu cymunedau. Gadawodd cyfranogwyr o’r heddlu â gwell dealltwriaeth o safbwyntiau a phryderon pobl ifanc o gefndiroedd ethnig lleiafrifol.
Rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2024, cynhaliodd Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru gyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu wedi’u hanelu at feithrin trafodaeth agored ac ymdrin â materion allweddol a godir gan gymunedau ethnig amrywiol. Cyflwynwyd y gweithgarwch hwn yn sgil ei anerchiad nodedig yng Nghynhadledd Cymdeithas Genedlaethol yr Heddlu Du ym mis Hydref 2023, lle y cydnabu bod yr heddlu’n bodloni’r meini prawf ar gyfer hiliaeth sefydliadol. Roedd y digwyddiadau yn gyfle i gynnal trafodaethau cydweithredol, ac i nodi atebion y gellid eu rhoi ar waith i bryderon y gymuned. Trafodwyd materion fel stopio a chwilio, ymdrin â throseddu casineb a defnydd anghymesur o rym, mewn ffordd agored a gonest, gyda’r cyfranogwyr yn nodi’r camau gweithredu yr hoffent eu gweld ar waith. Daeth y gyfres i ben drwy gynnal digwyddiad i ddiolch i’r gymuned ym mis Tachwedd 2024 ym Mhencadlys yr Heddlu. Roedd hwn yn gam sylweddol ymlaen wrth feithrin ymddiriedaeth, dathlu cynnydd a llywio’r llwybr ar gyfer gwelliannau parhaus. Nododd cyfranogwyr y pwyslais ar drafodaethau agored, tryloywder a pharodrwydd i wrando fel camau hanfodol tuag at feithrin ymddiriedaeth.
Er bod y digwyddiadau yn arwydd o gynnydd sylweddol, gwnaethant dynnu sylw hefyd at y gwaith sydd i’w wneud o hyd. Mae’r heddlu wedi ymrwymo i gymryd camau i weithredu ar ganlyniadau’r sesiynau, gan gynnwys y penderfyniad i ystyried adborth gan y gymuned fel rhan o strategaethau parhaus i ymdrin â’r materion â blaenoriaeth, sef troseddau casineb, stopio a chwilio a chydweithio cymunedol. Gwnaeth Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys gynnal a mynychu digwyddiadau ymgysylltu yn ystod y flwyddyn i ymgynghori ar y Cynllun Heddlu a Throseddu newydd ar gyfer yr ardal. Roedd yn awyddus i sicrhau y byddai’n ymdrin â materion sy’n bwysig i bobl ethnig leiafrifol.
3.13 Ymrwymiad 4: Tryloywder, Atebolrwydd a Chydweithio
Byddwn yn sicrhau tryloywder ac atebolrwydd ym mhob rhan o’r system cyfiawnder troseddol mewn perthynas â mynd i’r afael ag anghymesuredd ethnig a hyrwyddo dull gweithredu gwrth-hiliol. Byddwn yn gwahodd prosesau craffu allanol ar ein perfformiad ac yn sicrhau bod strwythurau effeithiol ar waith i gyflawni ein hymrwymiadau.
3.14 Cynnydd Hyd yn Hyn
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, bu ffocws o hyd ar yr angen i asiantaethau cyfiawnder troseddol annog agweddau agored, tryloyw ac atebol wrth ymgymryd â’u gwaith, yn enwedig mewn perthynas â’u gwaith i fynd i’r afael â gwahaniaethau hiliol. Mae’r trefniadau llywodraethu sy’n gysylltiedig â rhoi’r Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth ar waith yn anelu at hyrwyddo cynhwysiant a ffyrdd gwrth-hiliol o weithio, gan sicrhau y caiff pobl hil leiafrifiedig ac arbenigwyr annibynnol eu cynnwys wrth oruchwylio’r gwaith a rhoi barn ar gynnydd.
Yn ystod 2024-25, dyrannwyd adnoddau er mwyn i bob asiantaeth cyfiawnder troseddol roi’r Cynllun ar waith, ac mae pob asiantaeth wedi ymrwymo i gynnwys trefniadau i gyflawni amcanion y Cynllun yn eu trefniadau cynllunio busnes a llywodraethu mewnol. Maent oll yn dal i fynychu a chefnogi ffrydiau gwaith Cymru gyfan sy’n datblygu gweithgarwch cydweithredol er mwyn rhoi’r Cynllun ar waith.
Yn dilyn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ym mis Mai 2024, cytunodd pob Comisiynydd a etholwyd i gynnwys ei ymrwymiad i’r Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol i Gymru yn ei Gynllun Heddlu a Throseddu. Bydd hyn yn eu galluogi i ganolbwyntio ar gyflwyno a goruchwylio’r cynllun wrth blismona yn eu hardaloedd.
Y Panel Cynghori a Goruchwylio Annibynnol yw’r system ffurfiol a ddefnyddir i ddwyn y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru i gyfrif am roi’r Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth ar waith. Penodwyd y panel drwy broses recriwtio agored, ac mae pob un sy’n aelod ar hyn o bryd yn dod o gefndir ethnig lleiafrifol. Mae’r panel yn cyfarfod bob deufis er mwyn goruchwylio gwaith pob asiantaeth cyfiawnder troseddol wrth gyflawni ei hymrwymiadau yn y Cynllun. Ceir rhagor o wybodaeth am rywfaint o waith y panel mewn adran gynharach o’r adroddiad.
Drwy gydol 2024-25, mae Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru wedi sicrhau bod Cadeirydd y Panel, yr Is-gadeirydd ac aelodau eraill o’r panel, lle y bo’n bosibl, wedi’u gwahodd i ddigwyddiadau a chyfarfodydd allweddol er mwyn rhoi eu barn annibynnol. Er enghraifft, ym mis Medi 2023, gwahoddwyd Cadeirydd y Panel i fynychu diwrnod cynllunio a datblygu wyneb yn wyneb, ar y cyd ag uwch-arweinwyr o’r sector cyfiawnder troseddol yng Nghymru, i drafod rhai o’r heriau sy’n gysylltiedig â rhoi agweddau penodol ar y Cynllun ar waith.
Ym mis Mawrth 2024, gwahoddwyd aelod o’r panel hefyd i gymryd rhan yn y broses recriwtio ar gyfer Dirprwy Brif Gwnstabl yng Nghymru, gan annog agwedd agored a thryloyw wrth recriwtio uwch-arweinydd cyfiawnder troseddol yng Nghymru, a chan hefyd roi’r cyfle i’r aelod o’r panel roi pwyslais ar wrth-hiliaeth fel rhan o’r broses, pe byddai am wneud hynny.
Yn ystod hydref 2024, cytunodd y ffrwd waith Data ac Anghymesuredd ar y gyfres derfynol o fesurau data y byddai asiantaethau cyfiawnder troseddol yn anelu at eu coladu er mwyn mesur a chymharu cynnydd mewn perthynas ag anghymesuredd hiliol mewn ffordd gyson. Mae’r mesurau data yn cynnwys pob agwedd ar y daith cyfiawnder troseddol i ddioddefwyr a phobl sydd wedi troseddu. Er enghraifft, maent yn cynnwys data sy’n ymwneud â defnydd yr heddlu o bwerau, cyfraddau arestio, cyfraddau cyhuddo a chanlyniadau, poblogaethau carchardai, ethnigrwydd dioddefwyr a chyfraddau troseddau casineb hiliol.
Maent hefyd yn cynnwys data ar y gweithlu cyfiawnder troseddol. Wrth i brosesau ar gyfer casglu, dadansoddi ac adrodd yn erbyn y mesurau hyn ddod yn fater o drefn ym mhob rhan o’r sector cyfiawnder troseddol yng Nghymru, bydd yn darparu darlun llawer mwy agored i’r cyhoedd o’r cynnydd a wneir i fynd i’r afael ag anghymesuredd hiliol, sydd i’w weld yn anffodus ym mhob agwedd ar y daith cyfiawnder troseddol. Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu dangosfwrdd data y gellir ei rannu â’r cyhoedd er mwyn galluogi aelodau o’r cyhoedd i weld y data eu hunain.
3.15 Materion Allweddol a Godwyd gan Aelodau o’r Gymuned a Lleisiau Annibynnol yn 2024-25
ENGLISH CONTENT NEEDS TRANS
3.16 Enghreifftiau o weithredu gan y sector cyfiawnder troseddol
Mae pob heddlu yng Nghymru yn gweithredu Grŵp Cynghori Annibynnol. Mae’r grŵp yn gwahodd aelodau o’r gymuned i gyflwyno sylwadau ac i roi cyngor ar bolisïau a gweithgarwch yr heddlu.
Mae paneli craffu hefyd yn chwarae rhan gynyddol bwysig ym maes cyfiawnder troseddol. Maent yn galluogi partneriaid allanol ac aelodau o’r cyhoedd i ystyried y gweithgarwch cyfiawnder troseddol a gyflawnwyd, neu’r penderfyniadau a wnaed, er mwyn rhoi barn annibynnol o ran gwersi i’w dysgu ar gyfer y dyfodol. Maent yn digwydd fel arfer drwy oruchwylio cofnodion neu ddeunydd fideo yn ystod cyfarfodydd ar-lein neu gyfarfodydd wyneb yn wyneb yn swyddfeydd yr heddlu.
Mae paneli Defnydd o Rym a Stopio a Chwilio yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod Heddlu De Cymru yn cynnal safonau plismona uchel ac yn darparu gwasanaethau plismona teg a thryloyw sy’n ymateb i’r gymuned. Mae’r paneli hyn wedi bod yn gweithredu ers nifer o flynyddoedd, ers i Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu eu sefydlu. Maent yn galluogi aelodau o’r cyhoedd i weld deunydd fideo camerâu a wisgir ar y corff gan swyddogion yr heddlu o ddigwyddiadau stopio a chwilio a defnydd o rym, er mwyn iddynt allu rhoi adborth ar ansawdd y rhyngweithio ac unrhyw bryderon yr hoffent eu codi.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Heddlu De Cymru wedi datblygu’r model craffu hwn ymhellach, ac mae bellach yn trefnu paneli mewn lleoliadau hygyrch yn y gymuned, fel canolfannau cymunedol a chanolfannau ieuenctid. O ganlyniad, mae mwy o bobl wedi gallu cymryd rhan wrth oruchwylio’r defnydd o bwerau’r heddlu, gan gynnwys pobl ifanc, arweinwyr ffydd a rhanddeiliaid lleol. Mae’r broses ddiwygiedig wedi dymchwel rhwystrau wrth gael gafael ar wybodaeth, nad oedd ond ar gael i aelodau o Grŵp Cynghori Annibynnol yr heddlu neu Grŵp Atebolrwydd a Dilysrwydd yr Heddlu Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn flaenorol. Mae hyn yn arwain at well ymddiriedaeth a hyder o fewn cymunedau. to increased trust and confidence in communities.
3.17 Ymrwymiad 5: Addysgu’r Gweithlu
Byddwn yn buddsoddi mewn adnoddau gwrth-hiliaeth o ansawdd uchel i bawb sy’n gweithio yn y system cyfiawnder troseddol. Byddwn yn gweithio ochr yn ochr â phobl a grwpiau ethnig lleiafrifol er mwyn sicrhau bod pob darpariaeth yn adlewyrchu eu hanghenion a’u profiadau.
3.18 Cynnydd Hyd yn Hyn
Mae’r ffrwd waith ‘Datblygu’r Gweithlu’ yn parhau i lywio gwaith cadarnhaol i ddatblygu adnoddau gwrth-hiliaeth addysgol i’r gweithlu cyfiawnder troseddol. Mae pob asiantaeth cyfiawnder troseddol yn darparu hyfforddiant ar hil neu maent wedi darparu hyfforddiant o’r fath ers cyflwyno’r Cynllun. Mae cryn dipyn o waith yn mynd rhagddo o fewn sefydliadau unigol i sicrhau eu bod yn deall arferion gwrth-hiliol a’r hiliaeth systemig y mae cymunedau hil leiafrifiedig yn ei hwynebu ym maes cyfiawnder troseddol. Mae ffrwd waith y Cynllun yn anelu at gydgysylltu’r gwaith hwn er mwyn sicrhau bod mwy o gydweithio, gwell cysondeb a safon uchel o ddysgu mewn perthynas â gwrth-hiliaeth, nawr ac yn y dyfodol.
Yn ystod haf 2024, cwblhawyd gwerthusiad annibynnol o’r rhaglen hyfforddiant beilot ar gymhwysedd diwylliannol a gynhaliwyd yn y sector cyfiawnder troseddol yn ystod y flwyddyn flaenorol. Cafodd yr hyfforddiant hwn ei gyflwyno gan ddarparwyr a gomisiynwyd a’i gynnal gyda charfan o 250 o aelodau o staff cyfiawnder troseddol ledled Cymru. Tynnodd y gwerthusiad sylw at sut roedd yr hyfforddiant wedi gwella dysgu a dealltwriaeth, a chyfeiriodd hefyd at yr effaith y mae profiad byw yn ei chael ar hyfforddiant o’r fath. Nododd y gwerthusiad hefyd yr angen i ystyried ffactorau ychwanegol fel rhan o fodelau ar gyfer cyflwyno hyfforddiant yn y dyfodol, ac yn bwysig, yr angen i gynnig cyfleoedd dysgu parhaus yn hytrach na sesiynau unigol.
Ym mis Medi 2024, ar ôl cynnal y gwerthusiad, cyfarfu Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru wyneb yn wyneb i drafod opsiynau ar gyfer cyfleoedd dysgu gwrth-hiliol cydgysylltiedig yn y dyfodol. Cytunodd yr aelodau fod angen llunio prosesau dysgu datblygiad personol y gellid eu rhoi ar waith dros amser, a fyddai’n dylanwadu ar newid ymddygiad, ac yn berthnasol i rolau penodol ym maes cyfiawnder troseddol.
Yn 2024, cwblhaodd y ffrwd waith fframwaith newydd ar gyfer Hyfforddiant a Datblygiad Personol Gwrth-hiliol i gynyddu cynrychiolaeth lleiafrifoedd ethnig yn y gweithlu. Cafodd ei lunio yn sgil canlyniadau’r gwerthusiad o’r hyfforddiant peilot ac ymarfer pennu cwmpas eang i ystyried yr arferion hyfforddi a datblygu gwrth-hiliaeth a oedd ar waith gan asiantaethau cyfiawnder troseddol, gan nodi arferion da yn ogystal â bylchau.
Mae’r fframwaith yn nodi’r safonau a ddisgwylir gan bob asiantaeth cyfiawnder troseddol yng Nghymru wrth ymdrechu i addysgu ei swyddogion a’i staff am hiliaeth a gwrth-hiliaeth. Yn ystod y flwyddyn i ddod, bydd y ffrwd waith yn gweithio i gyflwyno’r fframwaith ac i fonitro’r broses o’i roi ar waith, gan ddeall bod angen gweithredu o safbwynt datblygiad personol mewn perthynas â dysgu.
Yn ystod y flwyddyn i ddod, bwriedir datblygu cyfleoedd dysgu gwrth-hiliol ar gyfer hyfforddwyr gweithredol sy’n bodoli eisoes ym maes cyfiawnder troseddol hefyd. Bydd hyn yn golygu y gellir cynnwys arferion gwrth-hiliol ac enghreifftiau gweithredol fel rhan o’r hyfforddiant gweithredol a ddefnyddir ym maes plismona, carchardai a lleoliadau cyfiawnder troseddol eraill.
Er mwyn gwella cyfleoedd dysgu ymhlith uwch-arweinwyr Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru ymhellach, caiff model cydweithio cymunedol ei lunio a’i roi ar waith yn 2025-6. Bydd hyn yn galluogi arweinwyr i fynd i leoliadau partner cymunedol wedi’u harwain gan bobl hil leiafrifiedig er mwyn cymryd rhan uniongyrchol mewn grwpiau, clybiau a dosbarthiadau sefydledig a chael sgyrsiau anffurfiol ag aelodau o’r gymuned. Bydd y dull hwn yn gwella dealltwriaeth y Bwrdd o brofiadau ‘ar lawr gwlad’ mewn perthynas â hil, diwylliant, crefydd a hiliaeth.
3.19 Materion Allweddol a Godwyd gan Aelodau o’r Gymuned a Lleisiau Annibynnol yn 2024-5
Mae hyfforddiant ac ymwybyddiaeth cydraddoldeb hiliol yn cael eu codi’n rheolaidd o hyd wrth ymgysylltu â phobl ethnig leiafrifol mewn perthynas â’u profiad o’r system cyfiawnder troseddol. Mae’n amlwg bod llwyddiant y Cynllun yn dibynnu i raddau helaeth ar fuddsoddi mewn hyfforddiant mewnol ar wrth-hiliaeth, cymhwysedd diwylliannol, rhagfarn ddiarwybod a phroffilio hiliol yn y sector cyfiawnder troseddol. Heb yr hyfforddiant hwn, gellid dadlau bod y rhan fwyaf o’r Cynllun yn amhosibl ei gyflawni gan ei fod yn dibynnu ar newidiadau systemig ym mhob rhan o’r system.
Drwy gydol y flwyddyn, mae safbwyntiau’r gymuned a phartneriaid wedi canolbwyntio ar yr angen i sicrhau bod hyfforddiant yn arwain at newid. Ceir ymdeimlad hefyd fod angen atebolrwydd o ran yr hyn y mae swyddogion ac aelodau o staff yn ei wneud yn wahanol ar ôl unrhyw hyfforddiant gwrth-hiliaeth y byddant yn ei fynychu. Mae aelodau’r gymuned yn pwysleisio nad yw mynychu hyfforddiant yn ddigon ynddo’i hun, a bod angen sicrhau cyfrifoldeb personol a chamau dilynol sefydliadol er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn arwain at newid ymddygiad a gwahanol ganlyniadau.
3.20 Enghreifftiau o weithredu gan y sector cyfiawnder troseddol
Yn 2024, cynhaliodd Heddlu Dyfed Powys a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys broses gaffael i sicrhau hyfforddiant gwrth-hiliaeth penodol i bob aelod o staff a swyddog ym mhob rhan o’r Heddlu. Caiff yr hyfforddiant ei gyflwyno yn ystod y ddwy flynedd nesaf.
Mae Heddlu Gwent wedi dechrau cyflwyno rhaglen hyfforddiant Upstander y Coleg Plismona, sy’n grymuso swyddogion i adnabod a herio hiliaeth ac ymddygiad amhriodol yn y gweithle. Hyd yn hyn, mae 175 o swyddogion wedi cwblhau’r rhaglen. Yn ogystal, mae 2079 o swyddogion ac aelodau o staff Heddlu Gwent wedi cwblhau hyfforddiant gwrth-hiliaeth, a gynhelir gan bartner allanol, gan glywed gan hyfforddwyr â phrofiad byw o hiliaeth.
Yn ystod Mis Hanes Pobl Ddu 2024, llogodd Heddlu De Cymru adnodd ‘History of Black Britain Timeline’ Archifau Diwylliannol Cenedlaethol Pobl Ddu i’w arddangos yn adeilad ei Bencadlys. Anogwyd swyddogion a staff o bob rhan o’r heddlu, yn ogystal â rhanddeiliaid allanol, i fynd i weld yr arddangosfa dros gyfnod o bum diwrnod. Rhoddodd yr arddangosfa gyfle i’r sawl a fynychodd fyfyrio ar hanes cymunedau Du.
Y nod oedd gwella cyfleoedd dysgu gwrth-hiliol i weithlu Heddlu De Cymru drwy alluogi’r staff i weld sut roedd hiliaeth wedi treiddio i gymunedau dros y blynyddoedd, a sut roedd digwyddiadau hanesyddol wedi dylanwadu ar yr hiliaeth sydd i’w gweld o hyd heddiw. Tynnodd yr arddangosfa sylw hefyd at lawer o’r dylanwadau a’r cyfraniadau cadarnhaol y mae pobl Ddu wedi’u gwneud ac y maent yn eu gwneud o hyd yn y DU. Gofynnwyd i staff a swyddogion roi adborth ar ôl gweld yr arddangosfa. Nododd llawer eu bod wedi dysgu cryn dipyn am sawl agwedd ar hanes a’u bod o’r farn y byddai’r hyn a ddysgwyd yn effeithio ar eu gwaith a’u ffordd o ymgysylltu â’r cyhoedd yn y dyfodol.
3.21 Ymrwymiad 6: Hyrwyddo Tegwch
Byddwn yn hyrwyddo tegwch fel rhan o system cyfiawnder troseddol sy’n wrth-hiliol ac sy’n herio hiliaeth a’i achosion, fel y gall pobl o bob hunaniaeth a chefndir ethnig gael canlyniadau teg.
3.22 Cynnydd Hyd yn Hyn
Mae asiantaethau cyfiawnder troseddol yng Nghymru yn dal i gasglu a dadansoddi data sy’n tynnu sylw at y gwahaniaethau hiliol a’r annhegwch sy’n bodoli yn y gwasanaeth. Mae hyn yn cynnwys casglu data rhifol, yn ogystal â’r data sy’n deillio o glywed am brofiadau byw pobl mewn cymunedau hil leiafrifiedig. Mae’r sector cyfiawnder troseddol yn datblygu ffyrdd mwy cynhwysol a chaeth o ddadansoddi’r data hyn ar y cyd â chymunedau a phartneriaid, er enghraifft, drwy ddefnyddio Grwpiau Cynghori Annibynnol, Grwpiau Atebolrwydd a Phaneli Craffu.
Yn 2024, diwygiodd y ffrwd waith ‘Data ac Anghymesuredd’ sy’n gysylltiedig â llywodraethu’r Cynllun ei chylch gorchwyl er mwyn sicrhau ei bod yn gweithredu’n unol â dull ‘Esbonio neu Ddiwygio’. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid gallu esbonio achosion o anghymesuredd hiliol yn y sector cyfiawnder troseddol yn llawn, neu fod angen cymryd camau gweithredu mewn perthynas â’r mater dan sylw er mwyn dileu’r anghymesuredd.
Mae asiantaethau partner yn gweithio gyda’i gilydd ac yn unigol i fynd i’r afael â gwahaniaethau hiliol mewn sawl ffordd. Er enghraifft, ym mis Tachwedd 2024, lansiodd Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) gynllun gweithredu i fynd i’r afael ag anghymesuredd hiliol ar lefel genedlaethol, yn dilyn gwaith ymchwil helaeth i benderfyniadau cyhuddo.
Hefyd yn 2024, sefydlodd y gwasanaeth prawf yng Nghymru Dasglu Anghymesuredd. Mae’r tasglu yn gweithio i ddadansoddi a deall meysydd lle ceir gwahaniaethau hiliol a all fod yn amlwg o ran canlyniadau pobl ar gyfnod prawf, er enghraifft mewn perthynas â thai, cyflogaeth a lefelau torri amodau. Mae’n ystyried yr achosion sylfaenol ac yn gweithredu gan ddefnyddio’r egwyddor ‘esbonio neu ddiwygio’.
Drwy ymgysylltu â phartneriaid, gwasanaethau a gomisiynir, ymarferwyr, pobl ar gyfnod prawf, ac arweinwyr gweithredol, mae’r tasglu wedi cynyddu atebolrwydd ac wedi galluogi ddealltwriaeth well o ran ble a pham y ceir achosion o wahaniaethau hiliol. Mae’r gwaith hefyd wedi codi proffil egwyddorion gwrth-hiliol ymhlith rhanddeiliaid. Caiff data eu hadolygu ar sail gylchol er mwyn asesu cynnydd, a chynhelir yr adolygiad ffurfiol cyntaf o gynnydd a chanlyniadau’r Tasglu ar ddiwedd 2025.
Mae gwaith yn mynd rhagddo i gefnogi pobl ethnig leiafrifol yn well wrth ddarparu amrywiaeth o wasanaethau yn y sector cyfiawnder troseddol. Ceir ymrwymiad i ddeall anghenion penodol pobl Ddu ac ethnig leiafrifol yn well ac i ddarparu gwasanaethau sy’n eu diwallu’n briodol.
Fel yr amlinellwyd o dan Ymrwymiad 1 yr adroddiad hwn, mae gwaith yn mynd rhagddo i hyrwyddo cysondeb a thegwch wrth ddarparu cymorth sy’n gysylltiedig â throseddau casineb i ddioddefwyr. Mae adolygiad wrthi’n cael ei gynnal ledled Cymru i ddeall unrhyw welliannau y gall fod eu hangen wrth ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel dan arweiniad dioddefwyr. Mae gwaith parhaus hefyd yn mynd rhagddo i ddatblygu opsiynau i alluogi cyflawnwyr troseddau casineb i fod yn destun prosesau Datrysiadau y Tu Allan i’r Llys sy’n canolbwyntio ar newid eu hymddygiad. Y gobaith yw y caiff proses cyfiawnder adferol beilot ei rhoi ar waith a fydd yn galluogi cyflawnwyr i ddeall effaith eu hymddygiad hiliol ar ddioddefwyr, gan ddefnyddio dull cefnogol.
Yn 2024, aeth Heddlu De Cymru a thîm Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i sesiwn ymgysylltu â goroeswyr cam-drin domestig wedi’i hwyluso gan BAWSO, sefydliad partner. Rhoddodd y sesiwn gyfle i ddioddefwyr a goroeswyr ethnig lleiafrifol roi adborth ar eu profiadau gyda Heddlu De Cymru. Rhoddodd yr unigolion hynny a gymerodd ran adborth gwerthfawr ar faterion fel mynediad i help, rhwystrau rhag rhoi gwybod am ddigwyddiadau, rhwystrau rhag cael gafael ar gymorth, yr effeithiau ar blant, pryderon o ran cydraddoldeb ac anghymesuredd, profiadau yn y llys a materion yn ymwneud â thai. Caiff yr adborth ei ddefnyddio i lywio ymatebion a deunyddiau cyfathrebu ar gyfer y dyfodol.
Fel y nodwyd yn gynharach yn yr adroddiad, mae grŵp Cymru Gyfan a sefydlwyd gan asiantaethau cyfiawnder troseddol yng Nghymru yn cyfarfod o hyd i drafod anghenion penodol cymunedau Sipsiwn Roma Teithwyr mewn perthynas â chyfiawnder troseddol. Mae hyn yn cynnwys cynrychiolaeth o’r trydydd sector ac unigolion â phrofiad byw, yn ogystal â’r heddluoedd, Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Y nod yw cydweithio mewn ffordd gyson er mwyn datblygu ffyrdd teg a chynhwysol o weithio gyda chymunedau Sipsiwn Roma Teithwyr yng Nghymru ac ymgysylltu â nhw. Hyd yn hyn, bu’r rhan fwyaf o’r ffocws ar yr angen i ddatblygu protocolau teg i ymdrin â gwersylloedd diawdurdod yng Nghymru mewn ffordd wrth-hiliol.
Fel yr amlinellwyd mewn adran gynharach o’r adroddiad hwn, mae Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru yn parhau i weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i ystyried y cysylltiad rhwng ei Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma a dealltwriaeth o effaith trawma hiliol ym maes cyfiawnder troseddol. Mae gan asiantaethau cyfiawnder troseddol yng Nghymru bellach ddealltwriaeth well o ddulliau sy’n ystyriol o drawma ac mae llawer ohonynt yn ymrwymedig i’w defnyddio wrth ddarparu gwasanaethau i ddioddefwyr, goroeswyr, troseddwyr a’u staff.
Yn ystod y flwyddyn i ddod, bydd mwy o gydweithio ag Iechyd Cyhoeddus Cymru er mwyn ystyried sut i roi mwy o sylw i ddeall trawma hiliol yn y gwaith. Ym mis Chwefror 2025, cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru symposiwm i drafod sut y gellir rhoi hyn ar waith, a fynychwyd gan Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru a sefydliadau cymunedol.
3.23 Materion Allweddol a Godwyd gan Aelodau o’r Gymuned a Lleisiau Annibynnol yn 2024-5
Yn 2024, edrychodd y Panel Goruchwylio a Chynghori Annibynnol ar rai o’r prosesau cwyno sydd ar waith ym maes plismona. Daeth i’r casgliad bod angen gwneud mwy i sicrhau bod y cyhoedd yn gwybod sut i ddod o hyd i weithdrefnau cwyno, ac y dylai’r llwybrau ar gyfer cwyno fod yn gymharol hawdd.
Edrychodd y panel hefyd ar brosesau cwyno mewnol i garcharorion sy’n cwyno am achosion o aflonyddu hiliol. Roedd aelodau’r panel yn falch i weld y sianeli a oedd ar gael i garcharorion godi’r pryderon hyn ond yn teimlo bod angen gwneud mwy i ystyried materion a oedd yn effeithio ar barodrwydd unigolion i roi gwybod am achosion. Roedd hyn yn cynnwys yr angen i’r prosesau gael eu hysbysebu’n glir, ac iddynt fod yn ddiogel ac yn hygyrch.
Mae adborth gan rai dioddefwyr a goroeswyr yn ystod y flwyddyn wedi dangos diffyg ymwybyddiaeth ynghylch pam mae asiantaethau cyfiawnder troseddol yn monitro ethnigrwydd ac yn cofnodi data eraill am gydraddoldeb ar gyfer dioddefwyr. Roedd rhai dioddefwyr yn pryderu y gallai gael effaith negyddol ar y gwasanaeth y byddent yn ei gael, sy’n dangos bod angen i’r sector cyfiawnder troseddol wneud mwy i esbonio o safbwynt allanol pam mae’r wybodaeth yn cael ei chasglu a sut y gall wneud gwahaniaeth cadarnhaol.
3.24 Enghreifftiau o weithredu gan y sector cyfiawnder troseddol
Ym mis Tachwedd 2024, lansiodd Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) gynllun uchelgeisiol i fynd i’r afael ag anghymesuredd hiliol ac i sicrhau penderfyniadau erlyn teg. Roedd hyn yn sgil gwaith ymchwil helaeth, a gomisiynwyd gan Wasanaeth Erlyn y Goron ac a oruchwyliwyd gan Grŵp Cynghori ar Anghymesuredd annibynnol, a nododd fod diffynyddion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yn llawer mwy tebygol o gael eu cyhuddo o drosedd gymaradwy na diffynyddion Prydeinig gwyn. Bydd newid i’r Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron, sef y canllawiau y mae erlynwyr yn eu defnyddio wrth wneud eu penderfyniadau, wrth wraidd cynllun gweithredu newydd, a gaiff ei gynllunio i ddileu achosion o ragfarn hiliol wrth wneud penderfyniadau.
Ym mis Ionawr 2025, aeth Prif Erlynydd y Goron Cymru i un o gyfarfodydd y Panel Cynghori a Goruchwylio Annibynnol i gyflwyno canfyddiadau gwaith ymchwil Gwasanaeth Erlyn y Goron, a’r camau gweithredu sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun gweithredu sy’n deillio ohono. Rhoddodd hyn gyfle i aelodau’r panel ddeall sut roedd y gwaith ymchwil yn cael ei ystyried yn benodol yng Nghymru a sut y byddai cynnydd yn erbyn y cynllun gweithredu yn cael ei fonitro.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Uned Ymchwiliadau Gwyddonol ar y Cyd y mae Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent yn rhan ohoni, wedi lansio proses newydd i Ymchwilwyr Safleoedd Troseddau. Mae’n defnyddio lensys arbenigol sy’n amlygu anafiadau ar bobl ag arlliw croen tywyllach na ellir eu gweld, neu prin y gellir eu gweld, â’r llygad neu gan ddefnyddio dyfeisiau swyddogion a ddelir â llaw.
Mae Ymchwilwyr Safleoedd Troseddau wedi cael hyfforddiant i ddefnyddio’r cyfarpar newydd, a gall swyddogion atgyfeirio achosion atynt os byddant o’r farn y gallai fod angen ei ddefnyddio. Caiff data ar nifer yr atgyfeiriadau a’r effaith y mae’r broses yn ei chael eu coladu yn ystod y flwyddyn i ddod.
3.25 Ymrwymiad 7: Atal, Ymyrryd yn Gynnar ac Adsefydlu
Byddwn yn cydweithio i sicrhau na fydd pobl ethnig leiafrifol sydd wedi cyflawni troseddau a diffynyddion yn cael eu gorgynrychioli yn y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru.
Byddwn yn rhoi cymorth cyfannol, sy’n canolbwyntio ar y person ac sydd wedi’i lywio gan drawma i droseddwyr a’r rheini sy’n wynebu risg o droseddu fel y gallant wneud dewisiadau bywyd hyddysg ar gyfer cyflogaeth, addysg, cydberthnasau cymdeithasol, ac iechyd a lles meddyliol a chorfforol.
3.26 Cynnydd Hyd yn Hyn
Fel yr amlinellwyd yn adroddiad blynyddol y llynedd, cwblhawyd adolygiad o lenyddiaeth a gomisiynwyd i ystyried y defnydd o Ddatrysiadau y Tu Allan i’r Llys a chynlluniau gwyro cyfiawnder troseddol ymhlith pobl ethnig leiafrifol yn 2023. Dechreuodd ail gam y gwaith ymchwil hwn yn 2024. Aeth yr adolygiad cychwynnol ati i ystyried y rhesymau pam mae pobl ethnig leiafrifol wedi’u tangynrychioli ar gynlluniau gwyro o’r ddalfa o’r fath, a’r tebygolrwydd uwch wedi hynny y byddai pobl ethnig leiafrifol yn cael dedfrydau mwy llym. Ystyriodd yr adolygiad o lenyddiaeth hefyd ffyrdd posibl o addasu prosesau sy’n bodoli eisoes i gynyddu’r gynrychiolaeth ac felly wyro mwy o bobl ethnig leiafrifol o’r llwybr cyfiawnder troseddol.
Yn 2024, fel rhan o ail gam y gwaith ymchwili hwn, aeth ymchwilydd a gomisiynwyd ati i ddadansoddi data meintiol mewn perthynas â defnydd Heddlu De Cymru o Ddatrysiadau y Tu Allan i’r Llys, ac i gynnal cyfweliadau â rhanddeiliaid yn ardal yr heddlu. Mae’r ymchwilydd wedi siarad â staff dalfeydd, darparwyr gwasanaethau allanol, pobl ethnig leiafrifol sydd wedi cael eu cadw yn y ddalfa a rhai cyfreithwyr amddiffyn.
Y bwriad yw y bydd y profiadau a’r safbwyntiau hyn, ochr yn ochr â’r data meintiol, yn darparu dealltwriaeth gliriach o’r ffactorau a allai fod yn cyfrannu at dangynrychiolaeth pobl ethnig leiafrifol mewn cynlluniau gwyro. Bydd adroddiad terfynol y gwaith ymchwil ar gael yn ystod gwanwyn 2025 i Fwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru ei ystyried.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi (HMPPS) wedi gweithio gyda phartneriaid a gomisiynwyd, BtheChange a Cymru Ddiogelach, i helpu bron i 70 o bobl ethnig leiafrifol ar gyfnod prawf, gan gynnwys oedolion ifanc a menywod. Yn aml mewn lleoliadau cymunedol, caiff cymorth ei roi gan staff sy’n meddu ar arbenigedd a phrofiad byw gan ganolbwyntio ar amrywiaeth o ffactorau, sy’n gwella canlyniadau adferol, gan gynnwys eirioli, addysg, hyfforddiant a chyflogaeth a chyllid.
Mae gwaith monitro parhaus yn awgrymu bod darparu cymorth cyfannol, tosturiol sy’n ystyriol o ddiwylliant yn gwella iechyd meddwl, yn lleihau ynysigrwydd ac yn gwella mynediad i wasanaethau eraill gan gynnwys iechyd a thai.
Yn ogystal, mae CEF Berwyn yn parhau i ymgysylltu â charcharorion Sipsiwn, Roma a Theithwyr a’u cefnogi. Drwy brosiectau crefft treftadaeth ac ymyriadau addysg ac iechyd wedi’u teilwra, caiff carcharorion gyfleoedd cyflogaeth gwell, gan wella eu hiechyd a’u llesiant, a helpu’r staff i ddysgu mwy am eu diwylliant a’u gwerthoedd. Yn ystod 2024, mae prosiectau’r grŵp Sipsiwn Roma Teithwyr wedi cynnwys cyrsiau magu hyder, sesiynau gofaint, ‘tadau llyfrau straeon’ i helpu’r rhai hynny â phlant i gynnal cysylltiadau cadarnhaol â’u teulu, a phrosiect gwneud canhwyllau i gofnodi Diwrnod Cofio’r Holocost.
Mae’r tîm yng ngharchar Berwyn hefyd wedi bod yn gweithio’n agos gyda Byrddau Iechyd Gogledd Cymru i ymateb i anghydraddoldebau iechyd, gan gefnogi ymyriadau uniongyrchol sydd wedi cynyddu nifer y bobl sy’n cael brechiadau ac wedi gwella mynediad at gymorth iechyd meddwl.
3.27 Materion Allweddol a Godwyd gan Aelodau o’r Gymuned a Lleisiau Annibynnol yn 2024-5
Mae sefydliadau partner yn parhau i dynnu sylw at bwysigrwydd gweithredu mewn ffordd sy’n ystyriol o drawma ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth ddylunio a darparu gwasanaethau ym maes cyfiawnder troseddol. Mae’r gwaith ymchwil i gyflawnwyr troseddau casineb a thangynrychiolaeth pobl ethnig leiafrifol mewn cynlluniau gwyro wedi tynnu sylw penodol at bwysigrwydd defnyddio dulliau cyfannol sy’n deall haenau lluosog pob dioddefwr a chyflawnwr. Mae’r gwaith ymchwil yn dangos sut mae angen eu hystyried fel rhan o unrhyw ddull adferol neu ataliol cefnogol.
3.28 Enghreifftiau o weithredu gan y sector cyfiawnder troseddol
Mae carcharorion ledled Cymru wedi bod yn gweithio i wella’r cymorth a roddir i garcharorion ethnig lleiafrifol. Yn seiliedig ar ddata a phrofiadau carcharorion ethnig lleiafrifol, mae’r gwaith a wnaed yn ystod y flwyddyn hon wedi cynnwys gwella argaeledd cynhyrchion gofal croen a gwallt sy’n briodol yn ddiwylliannol, a gwasanaethau trin gwallt.
Cynhaliwyd prosiectau treftadaeth yn seiliedig ar gelf a choginio mewn sawl carchar, gan ddathlu hunaniaethau ethnig amrywiol ac addysgu staff a chymuned ehangach y carchar am brofiadau carcharorion ethnig lleiafrifol. Mae CEF Caerdydd wedi gweithio gyda charcharorion ethnig lleiafrifol i ddatblygu gwaith celf a barddoniaeth, a gyflwynwyd mewn llyfryn i garcharorion a staff i’w arddangos ym mhob man cyhoeddus sy’n rhan o’r gwasanaeth prawf.
Llwyddodd gwaith y Glasbrint Cyfiawnder i Fenywod ledled Cymru i gynnwys yr angen i ystyried sut i ddylunio gwasanaethau sy’n briodol i anghenion menywod ethnig lleiafrifol. Mae Canolfannau i Fenywod yn cael eu datblygu ar y cyd â’r sector cyfiawnder troseddol ledled Cymru, ac mae eu manylebau yn cynnwys yr angen i sicrhau y rhoddir ystyriaeth briodol i ddiwallu’r anghenion hyn.
Mae’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn parhau i weithio’n agos gyda’i bartneriaid cyfiawnder ieuenctid i ymdrin â’r ffactorau sy’n cyfrannu at wahaniaethau hiliol a gwella ymarfer. Un enghraifft yw ei waith parhaus i annog defnydd cynyddol o Ganlyniad 22 (ymarfer gwrthdyniadol) i blant, gan gredu y byddai hyn yn gam cadarnhaol tuag at leihau’r nifer gormodol o blant ethnig lleiafrifol yn y system cyfiawnder ieuenctid.
4. Y Flwyddyn i Ddod
Mae’r materion allweddol i’r sector cyfiawnder troseddol ganolbwyntio arnynt yn ystod y flwyddyn i ddod (2025-26) yn cynnwys y canlynol:
- Gweithio i roi’r fframwaith hyfforddi a datblygu gwrth-hiliaeth newydd ar waith ar draws sefydliadau ac i ddechrau hyfforddi hyfforddwyr gweithredol sy’n bodoli eisoes ar ymarfer gwrth-hiliol.
- Datblygu model ymgysylltu diwygiedig ledled Cymru i sicrhau y gellir ymgysylltu’n well â phobl ethnig leiafrifol ar y trefniadau i roi’r Cynllun ar waith a rhoi mwy o gyfle iddynt ddweud eu dweud ar y ffordd y mae pethau’n mynd rhagddynt ar lawr gwlad.
- Pwyslais parhaus ar y gweithgarwch cyfathrebu newydd ledled Cymru wrth i’r gwaith fynd rhagddo i hysbysu pobl am y cynnydd sy’n cael ei wneud mewn perthynas â nodau’r Cynllun
- Gweithio i ddatblygu rhaglen beilot i gyflwyno proses Datrysiadau y Tu Allan i’r Llys ar gyfer cyflawnwyr troseddau casineb. Bydd y gwaith hwn wedi’i arwain gan ddioddefwyr ac yn canolbwyntio ar newid ymddygiad cyflawnwyr troseddau casineb hiliol
- Gwella’r ffocws ar ddiwylliannau mewnol o fewn gweithluoedd cyfiawnder troseddol er mwyn gallu mynd i’r afael ag aflonyddu hiliol mewnol, ac er mwyn i’r sector cyfiawnder troseddol ddeall teimladau eu staff yn well
Yn ystod y flwyddyn i ddod, mae’r Panel Cynghori a Goruchwylio Annibynnol wedi ymrwymo i oruchwylio’r canlynol:
- Sicrhau bod asiantaethau yn dangos canlyniadau mesuradwy, gan symud y tu hwnt i ymrwymiadau i ddarparu tystiolaeth o effaith
- Atgyfnerthu strwythurau atebolrwydd, gan sicrhau bod yr holl gamau gweithredu gwrth-hiliol yn gysylltiedig â meincnodau clir
- Annog mwy o waith i ymgysylltu â’r gymuned, gan sicrhau bod y rhai hynny y mae gwahaniaethau hiliol yn effeithio arnynt fwyaf yn llywio penderfyniadau polisi
- Dwyn arweinwyr i gyfrif am gynnydd, gan sicrhau ymrwymiad parhaus a gweladwy gan uwch-swyddogion
5. Casgliad
Yn ystod ail flwyddyn gweithredu’r Cynllun, mae newidiadau cadarnhaol wedi dechrau cael eu rhoi ar waith ym mhob rhan o’r sector cyfiawnder troseddol wrth iddo anelu at ddod yn wrth-hiliol. Mae camau yn cael eu cymryd o dan bob un o ymrwymiadau’r Cynllun, ac mae ffocws gwirioneddol ar yr angen i sicrhau gwell cyfleoedd dysgu gwrth-hiliol a gwell cynrychiolaeth ethnig leiafrifol ym mhob rhan o’r gwasanaeth, gan gynnwys ymhlith gwneuthurwyr penderfyniadau. Ceir ffocws parhaus hefyd ar dryloywder, atebolrwydd a gonestrwydd â chymunedau, y gofynnir iddynt yn gynyddol i gymryd rhan yn y broses o ddwyn y gwasanaeth i gyfrif.
Yn anffodus, mae data yn dangos bod llawer mwy i’w wneud o hyd, a bod maint y newid sydd ei angen yn y sector cyfiawnder troseddol yn sylweddol. Nid yw hyn yn peri syndod i unrhyw bobl hil leiafrifiedig yng Nghymru sydd wedi bod yn wynebu rhagfarn ddiarwybod, micro-ymosodedd a hiliaeth ar sail feunyddiol ers yn rhy hir o lawer. Mae data ar gael am y tro cyntaf yn yr atodiad i’r adroddiad hwn.
Mae pob partner cyfiawnder troseddol yng Nghymru yn parhau’n ymrwymedig i gydweithio i ddileu hiliaeth ym mhob rhan o’i wasanaethau ac i sicrhau bod pobl ethnig leiafrifol yng Nghymru yn gweld y newid y maent yn haeddu ei weld. Hoffem ddiolch yn fawr a datgan ein gwerthfawrogiad i’r holl unigolion a staff ethnig lleiafrifol, yn ogystal â’r sefydliadau, a fu o gymorth wrth weithredu, goruchwylio a herio’r Cynllun yn ystod ei ail flwyddyn. Bydd Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru yn parhau â’r dull cyd-gyflwyno hwn ac yn parhau i gynnwys gwrth-hiliaeth fel un o’i flaenoriaethau craidd yn ystod y flwyddyn i ddod.
6. Atodiad Data Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru
Gallwch weld y tablau data ynghyd â’r nodiadau esboniadol ar y dudalen hon.