Canllawiau

Canllawiau i fusnesau bwyd ar coronafeirws (COVID-19)

Diweddarwyd 18 May 2020

Beth sydd angen i chi ei wybod am coronafeirws a bwyd

Mae’n annhebygol iawn y gallwch chi ddal coronafeirws (COVID-19) o fwyd. 

Mae COVID-19 yn salwch anadlol (respiratory). Nid yw’n hysbys ei fod yn cael ei drosglwyddo trwy ddod i gysylltiad â bwyd na deunydd pecynnu bwyd. 

Ni ddylai unrhyw un sy’n trin bwyd ac sy’n sâl fod yn y gwaith. Os oes ganddynt symptomau, dylent ddilyn cyngor y llywodraeth ac aros gartref

Er ei fod yn annhebygol iawn bod coronafeirws yn cael ei drosglwyddo drwy fwyd, fel mater o arfer hylendid bwyd da, dylai unrhyw un sy’n trin bwyd olchi ei ddwylo yn aml gyda sebon a dŵr am o leiaf 20 eiliad. Dylid gwneud hyn fel mater o drefn, cyn ac ar ôl trin bwyd, ac yn enwedig ar ôl bod mewn man cyhoeddus, chwythu eu trwynau, pesychu, neu disian.

Dylai gweithredwyr busnesau bwyd barhau i ddilyn ein canllawiau ar arferion hylendid da wrth baratoi bwyd a’u prosesau Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP). 

I’r mwyafrif o bobl, bydd y coronafeirws (COVID-19) yn salwch ysgafn. Fodd bynnag, os oes gennych chi unrhyw un o’r symptomau uchod mae’n rhaid i chi aros gartref a threfnu i gael prawf i weld a oes gennych chi COVID-19 - ewch i’r dudalen ‘profi’ i drefnu.

Canllawiau ar hylendid bwyd

Dylid dilyn System Rheoli Diogelwch Bwyd sy’n cynnwys canllawiau hylendid bwyd presennol a phrosesau HACCP.   Dylai cyflogwyr bwysleisio pwysigrwydd golchi dwylo yn amlach a chynnal arferion hylendid da mewn ardaloedd paratoi a thrin bwyd. Dylai gweithwyr olchi eu dwylo am 20 eiliad, yn enwedig ar ôl bod mewn man cyhoeddus, chwythu eu trwynau, pesychu neu disian.

Mae’n bwysig glanhau a diheintio’n aml wrthrychau ac arwynebau sy’n cael eu cyffwrdd yn rheolaidd, gan ddefnyddio’ch cynhyrchion glanhau arferol.

Gall busnesau bwyd gyfeirio at ein canllawiau Bwyd mwy diogel, busnes gwell (SFBB).

Gall busnesau helpu i leihau lledaeniad coronafeirws trwy atgoffa pawb o gyngor iechyd cyhoeddus y llywodraeth.

Deunydd pecynnu bwyd

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn cynghori bod y tebygolrwydd y bydd person sydd wedi’i heintio yn halogi nwyddau masnachol yn isel. Mae’r risg o ddal y feirws sy’n achosi COVID-19 o ddeunydd pecynnu sydd wedi symud, teithio, ac sy’n agored i wahanol amodau a thymheredd hefyd yn isel iawn.  

Er nad yw’n hysbys bod deunydd pecynnu bwyd yn peri risg benodol, dylid ymdrechu i sicrhau ei fod yn cael ei lanhau a’i drin yn unol ag arferion diogelwch bwyd arferol.

Dylai pob proses lanhau fod yn unol ag arferion hylendid bwyd a’r mesurau rheoli amgylcheddol a nodir yn HACCP y busnes. Dylai staff barhau i ddilyn asesiadau risg presennol a systemau gweithio diogel. Nid oes angen cymryd rhagofalon ychwanegol.

Glanhau a gwaredu gwastraff

Mae’r llywodraeth wedi darparu canllawiau ar lanhau a gwaredu gwastraff i helpu busnesau i leihau lledaeniad coronafeirws.

Rheoli salwch gweithwyr

Os bydd unrhyw un yn mynd yn sâl gyda pheswch newydd, peswch parhaus neu dymheredd uchel yn y busnes neu’r gweithle, dylid eu hanfon adref a’u cynghori i ddilyn y canllawiau aros gartref. Os ydych chi neu weithiwr yn profi symptomau, ewch i NHS 111 ar-lein neu ffoniwch 111 os nad oes gennych chi fynediad i’r we. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 os ydyn nhw’n ddifrifol wael neu wedi’u hanafu, neu os yw eu bywyd mewn perygl. Peidiwch ag ymweld â’ch meddyg teulu, eich fferyllfa, eich canolfan gofal brys na’ch ysbyty.

Os yw aelod o staff wedi helpu rhywun sydd wedi bod yn sâl gyda pheswch newydd, peswch parhaus neu dymheredd uchel, nid oes angen iddo fynd adref oni bai ei fod yn datblygu symptomau ei hun. Dylai olchi ei ddwylo’n drylwyr am 20 eiliad ar ôl unrhyw gyswllt â rhywun sy’n sâl â symptomau sy’n gyson â haint coronafeirws.

Nid oes angen cau’r busnes na’r gweithle nac anfon unrhyw staff adref, oni bai bod polisi’r llywodraeth yn newid. Dylech barhau i fonitro ymateb y llywodraeth i coronafeirws am ddiweddariadau pellach.

Mae ein canllawiau iach i weithio ar gyfer staff sy’n trin cynhyrchion bwyd yn darparu cyngor ar reoli salwch mewn busnes bwyd. Gall deall y canllawiau hyn a’u gweithredu ar lefel bersonol ac ar lefel busnes helpu i atal trosglwyddo’r coronafeirws. 

Pellter cymdeithasol

Mae’r cyngor ar fesurau pellhau cymdeithasol yn berthnasol i bawb. Mae angen i chi leihau cyfleoedd i’r feirws ledaenu trwy sicrhau pellter o 2 fetr rhwng unigolion. Mae’r cyngor hwn yn berthnasol y tu mewn i’r busnes bwyd ac yn yr ardaloedd cyhoeddus allanol lle gallai fod angen i gwsmeriaid giwio. 

Bydd gweithredu’r cyngor hwn yn ymarferol yn dibynnu ar yr amgylchiadau lleol. Efallai mai rheolwr y siop fydd y person gorau i werthuso hyn, ond gall ychydig o ddangosyddion cyffredinol fod yn berthnasol i’r mwyafrif o siopau manwerthu: 

  • Defnyddio arwyddion ychwanegol i ofyn i gwsmeriaid beidio â mynd i mewn i’r siop os oes ganddyn nhw symptomau.

  • Gweithredu rheolau mynediad fel nad yw’r safle yn orlawn.

  • Defnyddio marciau llawr y tu mewn i’r safle masnachu er mwyn hwyluso cydymffurfiaeth â’r cyngor pellter cymdeithasol o 2 fetr, yn enwedig yn yr ardaloedd prysuraf, fel cownteri gweini a thiliau. 

  • Defnyddio arwyddion fertigol i gyfeirio cwsmeriaid i mewn i lonydd os yw’n ymarferol i hwyluso symud o fewn y safle wrth gynnal pellter 2 fetr. 

  • Gwneud cyhoeddiadau rheolaidd i atgoffa cwsmeriaid i ddilyn cyngor pellhau cymdeithasol a glanhau eu dwylo yn rheolaidd.

  • Rhoi rhwystrau plexiglass wrth diliau a chownteri os yw’n ymarferol, fel elfen ychwanegol o ddiogelwch i weithwyr a chwsmeriaid.

  • Annog eich cwsmeriaid i ddefnyddio taliadau digyswllt lle bo hynny’n bosibl, heb roi cwsmeriaid hŷn neu fregus dan anfantais.

  • Rhoi cyfleusterau golchi dwylo ychwanegol os yw’n bosibl, gan ddarparu sebon, dŵr a glanweithydd dwylo. 

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am bellhau cymdeithasol ac oedolion sydd mewn mwy o berygl o gael coronafeirws (COVID-19) ar GOV.UK.

Gweithredu pellter cymdeithasol mewn lleoliadau busnes bwyd penodol

Ffatri brosesu bwyd 

Dylai arferion diogelwch bwyd mewn ffatrïoedd prosesu bwyd barhau i gael eu darparu i’r safonau hylendid uchaf gan gynnwys defnyddio rhywfaint o offer amddiffynnol personol a golchi dwylo’n aml.

Mewn lleoliadau o’r fath, dylid ystyried cadw llygad barcud ar bellter cymdeithasol yn yr ardaloedd prosesu bwyd, ond nid yw’n angenrheidiol. Ar ôl i staff adael yr ardaloedd prosesu bwyd a symud dillad amddiffynnol, dylid cadw at ganllawiau pellhau cymdeithasol a hylendid dwylo pellach tra yn y gweithle. 

Archfarchnadoedd

Mae angen i archfarchnadoedd osgoi gorlenwi a chreu bylchau digonol rhwng unigolion. Mae modd gwneud hyn drwy: 

  • Rhoi cyfyngiadau llym ar niferoedd yn y siop. Lle bo modd, dylai archfarchnadoedd fonitro nifer y cwsmeriaid yn y siop a chyfyngu mynediad er mwyn osgoi gorlenwi’r siop. Er mwyn cyfyngu ar dorfeydd yn ymgynnull wrth fynedfeydd, dylid ystyried systemau rheoli ciw i sicrhau bod y pellter 2 fetr yn cael ei gynnal. 

  • Atgoffa cwsmeriaid i brynu’r hyn sydd ei angen arnynt yn unig.

  • Annog defnyddio gwasanaethau siopa a dosbarthu ar-lein, lle bo hynny’n bosibl.

  • Caniatáu mynediad penodol i’r henoed a gweithwyr hanfodol fel staff y GIG. 

Ffreuturau staff a mannau gorffwys

Mae’n annhebygol iawn bod coronafeirws yn cael ei drosglwyddo drwy fwyd.Gall ffreuturau yn y gweithle aros ar agor lle nad oes dewisiadau amgen ymarferol i staff gael bwyd.

  • Cyn belled ag y bo hynny’n rhesymol bosibl, dylid cadw pellter o 2 fetr rhwng unigolion.  

  • Gall staff barhau i ddefnyddio mannau gorffwys os ydyn nhw’n cadw at yr un pellter cymdeithasol.

  • Dylid gosod rhybuddion sy’n hybu hylendid dwylo a phellter cymdeithasol yn yr ardaloedd hyn. 

  • Os yw’n bosibl, cynyddwch nifer y gorsafoedd golchi dwylo sydd ar gael.

Siopau tecawê a bwytai sy’n cynnig gwasanaeth casglu bwyd

Dylid annog cwsmeriaid i archebu ar-lein, trwy ap, neu dros y ffôn.

Dylai cwsmeriaid sy’n aros i archebu neu gasglu bwyd aros mewn man penodol lle gellir cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr o bobl eraill. Os nad yw hyn yn bosibl, dylai cwsmeriaid fynd i mewn i’r adeilad un ar y tro a dim ond pan fydd eu harcheb yn barod i’w gasglu neu er mwyn gwneud yr archeb.

Dylai amseroedd casglu gael eu gwasgaru er mwyn atal pobl rhag casglu y tu allan i’r safle. Os bydd pobl yn ciwio, dylech chi ddefnyddio systemau rheoli ciw i wneud yn siŵr bod pellter o 2 fetr rhwng pob un.

Marchnadoedd bwyd awyr agored/marchnadoedd ffermwyr

Y prif bryder gyda marchnadoedd bwyd awyr agored yw osgoi torfeydd yn casglu.  Efallai bod awdurdodau lleol wedi penderfynu cau marchnadoedd o’r fath fel rhan o’r camau gweithredu i gynnal pellter cymdeithasol. 

Lle mae marchnadoedd yn dal i weithredu, rydym ni’n annog gweithredwyr marchnadoedd bwyd i ystyried sut y gallant werthu eu cynhyrchion yn ddiogel heb annog torfeydd. Mae modd gwneud hyn drwy:

  • Gymryd archebion ar-lein neu dros y ffôn ymlaen llaw a phecynnu’r archebion i gyfyngu ar amser wyneb yn wyneb yn y farchnad. 

  • Ystyried dosbarthu’r bwyd os yw’n bosibl.