Canllawiau

Ymweliadau ecséis — CC/FS16

Diweddarwyd 20 Mawrth 2026

Ymweliadau Ecséis

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhoi gwybod i chi am ymweliadau i safle eich busnes fel rhan o wiriad cydymffurfiad i faterion ecséis. Mae ymweliad yn gallu ein helpu i gwblhau’r gwiriad yn gynt ac yn fwy effeithiol.

Rydym yn ymweld â chi os ydych ynghlwm â’r canlynol, neu yn ymddangos fel eich bod ynghlwm â hwy:

  • prynu, gwerthu, mewnforio neu allforio nwyddau ecséis, neu yn delio â nwyddau ecséis neu’n eu trin
  • darparu gwasanaeth sy’n agored i doll ecséis

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld y rhestr lawn, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC compliance checks factsheets’

Pam rydym yn cynnal ymweliadau

Byddwn yn cynnal ymweliadau er mwyn archwilio nwyddau ecséis ac unrhyw eitemau sy’n ymwneud â’r nwyddau neu’r gwasanaethau perthnasol hynny.
Rydym yn gwneud hyn er mwyn sicrhau’r canlynol:

  • bod rheolaethau a chyfreithiau ecséis yn cael eu gweithredu’n gywir
  • bod y swm cywir o doll ecséis yn cael ei dalu neu ei adennill ar yr amser cywir

Nid oes rhaid i ni roi gwybod i chi ein bod yn ymweld â chi.

Caniatáu i ni gynnal archwiliad

Rhaid i chi ganiatáu i ni gynnal archwiliad. Os na fyddwch yn gwneud hynny, mae’n bosibl y byddwn yn gwneud y canlynol:

  • tynnu unrhyw ganiatâd a roddwyd gennym i chi yn ôl
  • eich erlyn

Mae gennych yr hawl i geisio cyngor ond ni fyddwn yn oedi rhag cynnal ein harchwiliad wrth i chi wneud hynny.

Yn ystod yr ymweliad

Byddwn ni’n gwneud y canlynol:

  • egluro ein rhesymau dros ymweld â’ch safle a’r hyn yr ydym eisiau ei weld
  • peidio â mynd i mewn i’r rhannau o’r safle sy’n cael eu defnyddio fel eich cartref, oni bai eich bod yn ein gwahodd i wneud hynny
  • archwilio nwyddau ecséis ac unrhyw eitemau sy’n gysylltiedig â’r nwyddau hynny neu wasanaethau perthnasol
  • cymryd camau rhesymol er mwyn archwilio unrhyw ran o’r safle sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer nwyddau a gwasanaethau ecséis – nid oes ots a ydych yn berchen neu’n meddiannu’r safle
  • archwilio dogfennau neu ofyn am wybodaeth sy’n ymwneud â’r gwasanaethau neu’r nwyddau ecséis

Mae’n ofynnol eich bod yn agor llefydd megis storfeydd, fel bod modd i ni wirio am unrhyw nwyddau neu eitemau. Efallai y byddwn yn rhoi nodyn ar nwyddau, dogfennau neu eitemau er mwyn dangos ein bod wedi eu harchwilio.

Gallwn archwilio unrhyw ddogfennau sy’n ymwneud â’r busnes. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth sy’n cael ei chadw ar gyfrifiaduron neu ar ddyfeisiau storio data.

Pan fyddwn yn gofyn, mae’n rhaid i chi roi unrhyw wybodaeth neu ddogfen sydd ynghlwm â gwasanaethau neu nwyddau ecséis i ni.

Mae’n bosibl y byddwn yn codi cosb arnoch os nad ydych yn rhoi’r wybodaeth neu’r ddogfen y byddwn yn gofyn amdani.

Mae gennym yr hawl i fynd ag unrhyw gofnodion ymaith. Os byddwn yn gwneud hynny, byddwn hefyd yn gwneud y canlynol:

  • rhoi derbynneb i chi
  • cadw’r cofnodion yn ddiogel
  • dychwelyd y dogfennau atoch cyn gynted â phosibl

Os bydd angen i chi eu cael yn ôl yn gynt, byddwn yn gwneud copïau, ac yn rhoi’r rhain i chi.

Gofyn i bobl eraill am wybodaeth

Ar adegau, mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i bobl eraill am wybodaeth amdanoch. Os byddwn yn gwneud hynny, nid ydym yn datgelu mwy o wybodaeth na sy’n rhaid er mwyn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnom. Byddwn ond yn gofyn am wybodaeth sy’n berthnasol i wasanaethau neu nwyddau ecséis.

Os ydych wedi gwneud rhywbeth o’i le yn fwriadol

Mae’n bosibl y byddwn yn cynnal ymchwiliad troseddol, ac yn eich erlyn, os ydych wedi gwneud rhywbeth o’i le yn fwriadol. Er enghraifft, os ydych wedi gwneud y canlynol:

  • rhoi gwybodaeth i ni gan wybod nad ydi hi’n wir, boed ar lafar neu ar bapur
  • camgyfleu’r swm o dreth sy’n ddyledus gennych, a hynny mewn modd anonest, neu eich bod wedi hawlio taliadau nad oedd hawl gennych i’w hawlio

Rheoli diffygdalwyr difrifol

Os cawsoch eich materion treth yn anghywir yn fwriadol, a’n bod yn canfod hyn yn ystod ein gwiriad, mae’n bosibl y byddwn yn monitro’ch materion treth yn fanylach. Mae gennym raglen fonitro fanylach o’r enw ‘rheoli diffygdalwyr difrifol’. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein taflen wybodaeth CC/FS14, ‘Gwiriadau cydymffurfio: Rheoli diffygdalwyr difrifol’. I gael y daflen wybodaeth hon, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘CC/FS14’, ac yna dewis yr opsiwn Cymraeg ar y dudalen berthnasol.

Cyhoeddi manylion diffygdalwyr bwriadol

Mae’n bosibl y byddwn yn cyhoeddi eich manylion os ydych wedi cael eich materion treth yn anghywir yn fwriadol. Fodd bynnag, ni fyddwn yn gwneud hyn os ydym wedi rhoi’r gostyngiad mwyaf posibl i chi ar gyfer y gosb. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein taflen wybodaeth CC/FS13, ‘Gwiriadau cydymffurfio: Cyhoeddi manylion diffygdalwyr bwriadol’. I gael y daflen wybodaeth hon, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘CC/FS13’, ac yna dewis yr opsiwn Cymraeg ar y dudalen berthnasol.

Eich prif hawliau ac ymrwymiadau

Mae gennych:

  • yr hawl i gael eich cynrychioli – gallwch awdurdodi unrhyw un i weithredu ar eich rhan
  • dyletswydd i gymryd gofal rhesymol dros gael pethau’n iawn − os oes gennych ymgynghorydd, mae’n rhaid i chi gymryd gofal rhesymol o hyd er mwyn sicrhau bod unrhyw Ffurflenni Treth, dogfennau neu fanylion eraill mae’r ymgynghorydd yn eu hanfon atom ar eich rhan yn gywir

Mae ‘Siarter CThEF’ yn egluro’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni, a’r hyn a ddisgwyliwn gennych chi. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC Charter’, ac yna dewis yr opsiwn Cymraeg ar y dudalen berthnasol.

Gwiriadau cydymffurfio sy’n berthnasol i’r daflen wybodaeth hon

Mae’r daflen wybodaeth hon yn ymwneud â’r holl wiriadau cydymffurfio canlynol:

  • Toll Teithwyr Awyr
  • Cynnyrch Alcoholaidd
  • Toll Trwydded Peiriannau Diddanu
  • Toll Bingo
  • Toll Hapchwarae
  • Toll Fetio Gyffredinol
  • Toll Olewau Hydrocarbon
  • Toll Cynhyrchion Fepio
  • Toll y Loteri
  • Toll Peiriannau Hapchwarae
  • Treth Deunydd Pacio Plastig (o 1 Ebrill 2022 ymlaen)
  • Toll Cronfa Fetio
  • Toll Hapchwarae o Bell
  • Ardoll y Diwydiant Diodydd Ysgafn
  • Toll Cynhyrchion Tybaco
  • Cynllun Stampiau’r Doll Fepio

Rhagor o wybodaeth am wiriadau cydymffurfio

Ewch i www.gov.uk/hmrc/tax-compliance-support er mwyn cael rhagor o wybodaeth a help ar-lein. Mae hyn yn cynnwys:

  • cysylltiadau i’n cyfres fideo
  • canllawiau cam wrth gam ar gyfer ein gwiriadau cydymffurfio

Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch

Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i’r swyddog a gysylltodd â chi. Bydd y swyddog yn eich helpu hyd eithaf ei allu. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘get help from HMRC if you need extra support’, ac yna dewis yr opsiwn Cymraeg ar y dudalen berthnasol.

Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan. Er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind, neu aelod o’ch teulu. Fodd bynnag, efallai y bydd yn dal i fod angen i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi o’n llythyr at yr unigolyn rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.

Gwybodaeth ychwanegol

Ein hysbysiad preifatrwydd

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC Privacy Notice’ a dewis yr opsiwn Cymraeg ar y dudalen berthnasol.

Os nad ydych yn fodlon ar ein gwasanaeth

Os nad ydych yn fodlon ar ein gwasanaeth, rhowch wybod i’r person y buoch yn delio ag ef neu’r swyddfa y buoch yn delio â hi. Byddant yn ceisio unioni pethau. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, byddant yn rhoi gwybod i chi sut i wneud cwyn ffurfiol.