Canllawiau

Gwybodaeth gyffredinol am wiriadau cydymffurfio i faterion ecséis

Diweddarwyd 21 Mawrth 2026

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhoi gwybod i chi am wiriadau cydymffurfio i faterion ecséis. Mae gwiriad cydymffurfio yn ein galluogi i wirio bod yr holl faterion sy’n ymwneud â tholl ecséis yn gywir.

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld y rhestr lawn, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC compliance checks factsheets’.

Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch

Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i’r swyddog a gysylltodd â chi. Byddant yn eich helpu ym mha bynnag ffordd y gallant. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘get help from HMRC if you need extra support’, ac yna dewis yr opsiwn Cymraeg ar y dudalen berthnasol.

Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan. Er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind, neu aelod o’ch teulu. Fodd bynnag, efallai y bydd yn dal i fod angen i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at yr unigolyn rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.

Rhagor o wybodaeth am wiriadau cydymffurfio

Ewch i GOV.UK a chwiliwch am ‘Cael help os yw CThEF yn cysylltu â chi ynglŷn â gwiriad cydymffurfio’ i gael rhagor o wybodaeth a help ar-lein. Mae hyn yn cynnwys:

  • cysylltiadau i’n cyfres fideo
  • canllawiau cam wrth gam ar gyfer ein gwiriadau cydymffurfio

Yn ystod y gwiriad cydymffurfio

Pan fyddwn yn dechrau’r gwiriad, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth sydd ei angen arnom.

Efallai y bydd hyn yn cynnwys:

  • ymweld â safle eich busnes er mwyn archwilio nwyddau a dogfennau sy’n ymwneud â materion ecséis
  • ymweld â safle eich busnes er mwyn gofyn i gael gwybodaeth am nwyddau ecséis neu weithgareddau yr ydych yn eu cynnal neu’n bwriadu eu cynnal
  • ymweld â safle eich busnes er mwyn gwirio eich bod yn cydymffurfio â thelerau unrhyw ganiatâd, cofrestriad, awdurdod neu drwydded ecséis sydd gennych
  • gofyn i chi am wybodaeth neu ddogfennau sy’n ymwneud â nwyddau neu weithgareddau ecséis, neu unrhyw ganiatâd, cofrestriad, awdurdod neu drwydded sy’n ymwneud ag ecséis

Os na allwn gytuno â chi, neu os nad ydych yn ein helpu, efallai y byddwn yn defnyddio ein pwerau cyfreithiol i gael yr hyn sydd ei angen arnom.

Os byddwn yn rhoi hysbysiad gwybodaeth neu hysbysiad o archwiliad i chi, ni allwch ei anwybyddu. Fodd bynnag, mae rhai camau diogelu ar eich cyfer pan fyddwn yn defnyddio ein pwerau cyfreithiol.

Gallwch siarad â’r swyddog sy’n delio â’r gwiriad os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • nid ydych yn siŵr pam yr ydym yn gofyn am rywbeth
  • nid ydych yn gallu gwneud yr hyn a ofynnwn
  • rydych yn meddwl bod rhywbeth yr ydym wedi gofyn amdano’n afresymol neu’n amherthnasol i’r gwiriad
  • mae gennych unrhyw gwestiynau eraill ar unrhyw adeg o’r gwiriad

Os ydym yn ymweld â chi, mae’n rhaid i chi adael ni i mewn i’ch safle busnes. Os ydym yn ymweld â’ch safle busnes, mae’n bosibl bydd y swyddog sy’n delio a’r gwiriad yn rhoi copi o CC/FS16 ‘Ymweliadau Ecséis’ i chi. Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhoi gwybod i chi am ein hymweliad. Fel arfer, byddwn ond yn ymweld â chi yn eich cartref os ydych yn rhedeg eich busnes oddi yno, neu os oes nwyddau ecséis yn cael eu storio yno.

Os oes angen rhagor o amser arnoch

Os ydym wedi gofyn i chi wneud rhywbeth a bod angen rhagor o amser arnoch, rhowch wybod i ni. Efallai y byddwn yn caniatáu rhagor o amser os oes rheswm da dros wneud hynny. Er enghraifft, os ydych yn ddifrifol sâl neu os oes rhywun agos atoch wedi marw.

Y manteision o’n helpu gyda’r gwiriad cydymffurfio

Os byddwch yn ein helpu gyda’r gwiriad cydymffurfio, gallwn:

  • ei gwblhau’n gyflym a lleihau unrhyw anghyfleustra i chi
  • gostwng swm unrhyw gosb a godwn arnoch os byddwn yn canfod bod rhywbeth o’i le

Os byddwn yn canfod bod rhywbeth o’i le, byddwn yn gweithio gyda chi i unioni pethau. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os oes angen i chi dalu unrhyw un o’r canlynol:

  • toll ecséis ychwanegol sy’n ddyledus
  • cosbau

Os ydym yn ystyried codi cosb arnoch, byddwn yn ystyried faint o help rydych wedi’i roi i ni yn ystod y gwiriad. Rydym yn cyfeirio at hwn fel ‘ansawdd y datgeliad’, neu fel ‘dweud, helpu a rhoi’.

Rydym yn mesur ansawdd y datgeliad drwy ystyried:

  • faint yr ydych yn ei ddweud wrthym am yr hyn sydd o’i le
  • faint yr ydych yn ein helpu i fynd at wraidd yr hyn sydd o’i le
  • faint o fynediad rydych yn ei roi i ni at yr wybodaeth neu’r dogfennau sydd eu hangen arnom i gwblhau’r gwiriad

Mae yna ffyrdd y gallwch ein helpu gyda’r siec. Fodd bynnag, os dewiswch beidio â gwneud hynny, bydd hyn yn effeithio ar sut rydym yn ystyried ansawdd y datgeliad. Er enghraifft, os byddwn yn gofyn:

  • am gael ymweld â’ch safle busnes i archwilio’ch cofnodion a’ch asedion busnes, neu i wneud prisiad, ond nad ydych yn caniatáu i ni wneud hynny
  • am wybodaeth neu ddogfennau, ond nad ydych yn rhoi popeth i ni yr ydym wedi gofyn amdano

Sut i gael y gostyngiad mwyaf posibl ar gyfer y gosb os oes rhywbeth o’i le

Os oes rhywbeth o’i le a’ch bod yn gwneud popeth o fewn eich gallu i’n helpu, byddwn yn gostwng y gosb gan y swm mwyaf posibl.

Os ydych yn gwybod neu’n amau bod rhywbeth o’i le, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol er mwyn cael y gostyngiad mwyaf:

  • rhoi gwybod i ni bopeth rydych yn ei wybod amdano ar unwaith
  • ein helpu i gyfrifo’r swm cywir o dreth

Os gwelwn rywbeth o’i le nad oeddech yn gwybod amdano, mae’n rhaid i chi fod wedi gwneud y canlynol er mwyn cael y gostyngiad mwyaf:

  • wedi rhoi’r holl gymorth oedd ei angen i ni nes i ni ddod o hyd i rywbeth o’i le
  • rhowch wybod i’r swyddog amdano’n syth
  • gadael i’r swyddog weld unrhyw gofnodion y maent yn gofyn amdanynt
  • helpu’r swyddog i gyfrifo’r swm cywir o dreth

Ni fyddwn yn rhoi’r gostyngiad cosb mwyaf i chi os cymeroch amser hir cyn rhoi gwybod i ni am unrhyw beth sy’n anghywir.

I gael rhagor o wybodaeth am gosbau, ewch i www.gov.uk/guidance/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem ac i’r adran ‘Gwiriadau cydymffurfio’. Gallwch hefyd fynd i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC compliance checks factsheets’ a dewis ‘Penalties’.

Os ydych o’r farn y dylem atal y gwiriad cydymffurfio

Os ydych o’r farn y dylem stopio’r gwiriad, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni pam yn gyntaf. Os nad ydym yn cytuno, gallwch ofyn i’r tribiwnlys annibynnol sy’n delio â materion treth benderfynu a ddylem ei stopio.

Os oes rhywbeth o’i le

Os byddwn yn canfod rhywbeth o’i le, byddwn yn:

  • esbonio pam y mae o’i le ac yn gweithio gyda chi i unioni pethau
  • dweud wrthych sut i atal hyn rhag digwydd eto, lle bo modd

Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn edrych ar feysydd eraill fel rhan o’n gwiriad sy’n ymwneud â materion ecséis. Os ydym yn credu nad ydych wedi talu’r swm cywir o doll ecséis, gallwn wneud y canlynol:

  • anfon gorchymyn atoch am y doll sy’n ddyledus
  • atafael y nwyddau, neu’r eitemau sy’n gysylltiedig â nhw

Mae’n bosibl y byddwn yn codi cosb arnoch, yn diwygio cymeradwyaethau gydag amodau ychwanegol neu mewn achosion difrifol gallwn ddirymu unrhyw gymeradwyaethau a roddwyd gennym. Gallwn wneud hyn os oes gennych doll ecséis:

  • wedi’i gymeradwyo
  • cofrestriad
  • awdurdodiad
  • trwydded

Yn ystod gwiriad, ni fydd amser gan y swyddog fel arfer i edrych ar bob un o’ch cofnodion, ac mae’n bosibl na fydd yn sylwi ar bob camgymeriad sydd yn eich cyfrifon. Ni ddylech gymryd hyn i olygu, ar ddiwedd unrhyw wiriad, eich bod yn cyfrifo’r holl drethi a’r tollau’n gywir.

Ynglŷn â’r cosbau y gallwn eu codi

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb os ydych:

  • wedi cyflenwi cynhyrchion ecséis penodol gan wybod y byddant yn cael eu defnyddio mewn modd sy’n arwain at swm ychwanegol o doll yn cael ei dalu
  • wedi defnyddio cynhyrchion ecséis penodol sy’n arwain at swm ychwanegol o doll i fod yn ddyledus gelwir hyn yn ‘camddefnydd’
  • heb gofrestru ar gyfer toll ecséis mewn pryd
  • wedi anfon datganiad neu ddogfen wallus i ni
  • wedi trin nwyddau y mae toll ecséis heb ei thalu arnynt, a phan nad yw’r doll wedi ei gohirio mewn cytundeb â ni

Mae ymdrin â nwyddau yn golygu bod yn rhan o’u cludo, eu symud, eu gwaredu neu eu cadw. Mae hyn yn cynnwys cymryd meddiant ohonynt neu ddelio â nhw fel arall.

Os ydych wedi gwneud rhywbeth o’i le yn fwriadol

Mae’n bosibl y byddwn yn cynnal ymchwiliad troseddol, ac yn eich erlyn, os ydych wedi gwneud rhywbeth o’i le yn fwriadol. Er enghraifft:

  • rhoi gwybodaeth i ni gan wybod ei bod yn anwir, boed ar lafar neu ar bapur
  • os ydych wedi cam-gyfleu’n anonest faint o dreth sydd arnoch, neu hawlio taliadau nad oes gennych hawl iddynt

Rheoli diffygdalwyr difrifol

Os cawsoch eich materion treth yn anghywir yn fwriadol, a’n bod yn canfod hyn yn ystod y gwiriad, efallai y byddwn yn monitro’ch materion treth yn fanylach. Mae gennym raglen fonitro fanylach o’r enw ‘rheoli diffygdalwyr difrifol’. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein taflen wybodaeth CC/FS14, ‘Rheoli diffygdalwyr difrifol’. I gael y daflen wybodaeth hon, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘CC/FS14’, ac yna dewis yr opsiwn Cymraeg ar y dudalen berthnasol.

Cyhoeddi manylion diffygdalwyr bwriadol

Efallai y byddwn yn cyhoeddi’ch manylion os ydych wedi cael eich materion treth yn anghywir yn fwriadol. Fodd bynnag, ni fyddwn yn gwneud hyn os ydym wedi rhoi’r gostyngiad mwyaf posibl i chi ar gyfer y gosb. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein taflen wybodaeth CC/FS13, ‘Cyhoeddi manylion diffygdalwyr bwriadol’. I gael y daflen wybodaeth hon, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘CC/FS13’, ac yna dewis yr opsiwn Cymraeg ar y dudalen berthnasol.

Beth sy’n digwydd ar ddiwedd y gwiriad cydymffurfio

Pan fyddwn wedi cwblhau’r gwiriad, byddwn yn anfon un neu fwy o ‘hysbysiadau o benderfyniad’ atoch.

Gall hysbysiad o benderfyniad fod yn un o’r canlynol:

  • asesiad, neu’n ddiwygiad i asesiad
  • hysbysiad o gosb, os oes cosb yn ddyledus
  • llythyr sy’n esbonio’r sefyllfa derfynol

Os na allwch dalu’r hyn sydd arnoch

Os credwch y byddwch efallai yn cael trafferth talu, dylech roi gwybod i’r swyddog sy’n delio â’r gwiriad ar unwaith.

Os ydych yn anghytuno

Os oes rhywbeth nad ydych yn cytuno ag ef, rhowch wybod i ni.

Os byddwn yn gwneud penderfyniad y gallwch apelio yn ei erbyn, byddwn yn ysgrifennu atoch ynghylch y penderfyniad ac yn rhoi gwybod i chi beth i’w wneud os ydych yn anghytuno. Fel arfer, bydd gennych 3 opsiwn. Gallwch chi wneud y canlynol:

  • anfon gwybodaeth newydd at y swyddog sy’n delio â’r gwiriad, a gofyn iddo ei hystyried
  • cael eich achos wedi’i adolygu gan swyddog CThEF na fu’n ymwneud â’r mater cyn hyn
  • trefnu bod tribiwnlys annibynnol yn gwrando ar eich apêl ac yn penderfynu ar y mater

Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn pen 30 diwrnod i ddyddiad ein llythyr. I gael rhagor o wybodaeth am apeliadau, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘disagree with a tax decision or penalty’, ac yna dewis yr opsiwn Cymraeg ar y dudalen berthnasol.

Eich prif hawliau ac ymrwymiadau

Mae gennych:

  • yr hawl i gael eich cynrychioli — gallwch awdurdodi unrhyw un i weithredu ar eich rhan
  • dyletswydd i gymryd gofal rhesymol dros gael pethau’n iawn — os oes gennych ymgynghorydd, mae’n rhaid i chi gymryd gofal rhesymol o hyd er mwyn sicrhau bod unrhyw Ffurflenni Treth, dogfennau neu fanylion eraill mae’r ymgynghorydd yn eu hanfon atom ar eich rhan yn gywir

Mae ‘Siarter CThEF’ yn egluro’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni, a’r hyn a ddisgwyliwn gennych chi. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC Charter’, ac yna dewis yr opsiwn Cymraeg ar y dudalen berthnasol.

Eich hawliau os ydym yn ystyried cosbau

Byddwn yn rhoi gwybod i chi os oes rhywbeth o’i le a’n bod yn ystyried cosbau. I gael gwybod pa hawliau sydd gennych pan fyddwn yn ystyried cosbau, darllenwch ein taflen wybodaeth CC/FS9, ‘Y Ddeddf Hawliau Dynol a chosbau’.
I gael y daflen wybodaeth hon, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘CC/FS9’, ac yna dewis yr opsiwn Cymraeg ar y dudalen berthnasol.

Awdurdodi cynrychiolydd

Os oes gennych gynrychiolydd, gallwch ofyn i ni ddelio’n uniongyrchol ag ef yn ystod y gwiriad. Ni fyddwn yn rhoi manylion y gwiriad i’ch cynrychiolydd oni bai eich bod wedi ein hawdurdodi i gysylltu ag ef ynglŷn â’r trethi dan sylw.

Os ydych am awdurdodi un o’r canlynol:

  • ymgynghorydd treth proffesiynol, gofynnwch iddo roi ffurflen awdurdodi i chi ei llenwi a’i hanfon atom
  • ffrind neu berthynas, ysgrifennwch atom gan roi gwybod pwy yr hoffech ei awdurdodi a beth yr hoffech iddo ddelio ag ef ar eich rhan

Defnyddio deunydd Cod Agored yn ystod gwiriad cydymffurfio

Efallai y byddwn yn arsylwi ar ddata’r rhyngrwyd sydd ar gael i bawb, yn ogystal â monitro, cofnodi a chadw’r data hynny. Gelwir hwn yn ddeunydd ‘Cod Agored’. Mae’n cynnwys adroddiadau newyddion, gwefannau, cofnodion Tŷ’r Cwmnïau a’r Gofrestrfa Tir, blogiau a safleoedd rhwydweithio cymdeithasol lle nad oes unrhyw osodiadau preifatrwydd wedi’u defnyddio.

Gwiriadau cydymffurfio sy’n berthnasol i’r daflen wybodaeth hon

Mae’r daflen wybodaeth hon yn ymwneud â gwiriadau cydymffurfio ynghylch y canlynol:

Toll Teithwyr Awyr Toll y Loteri
Cynnyrch Alcoholaidd Toll Peiriannau Hapchwarae
Toll Trwydded Peiriannau Diddanu Treth Deunydd Pacio Plastig (o 1 Ebrill 2022 ymlaen)
Toll Bingo Toll Cronfa Fetio
Tollau Ecseis (Daliad a Symudiadau) Toll Hapchwarae o Bell
Toll Hapchwarae Ardoll y Diwydiant Diodydd Ysgafn
Toll Fetio Gyffredinol Toll Cynhyrchion Tybaco
Toll Olewau Hydrocarbon Toll Cynhyrchion Fepio
Cynllun Stampiau’r Doll Fepio  

Gwybodaeth ychwanegol

Ein hysbysiad preifatrwydd

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC Privacy Notice’ a dewis yr opsiwn Cymraeg ar y dudalen berthnasol.

Os nad ydych yn fodlon ar ein gwasanaeth

Os nad ydych yn fodlon ar ein gwasanaeth, rhowch wybod i’r person y buoch yn delio ag ef neu’r swyddfa y buoch yn delio â hi. Byddant yn ceisio unioni pethau. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, byddant yn rhoi gwybod i chi sut i wneud cwyn ffurfiol.