Skip to main content
Canllawiau

Gwartheg cig eidion glân i’w lladd: Canllaw i gynhyrchwyr

Cyhoeddwyd 25 Mehefin 2026

Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru

Cyflwyniad

Gall fod yn dasg anodd cynhyrchu gwartheg glân i’w lladd, oherwydd tywydd gwlyb, misoedd o gadw gwartheg dan do yn y gaeaf a chost/cyflenwadau gwellt gwely. Fodd bynnag, os caiff crwyn eu halogi â thail adeg lladd, mae risg wirioneddol y gall y cig gael ei halogi â bacteria niweidiol, fel E.coli O157, Campylobacter a Salmonela.

Ni all hyd yn oed y safonau uchaf o ran hylendid lladd-dai warantu y gellir atal halogi’r carcas a chroeshalogi carcasau gerllaw yn ystod y broses o’u trin. Mae canlyniadau ymchwil wedi dangos po fwyaf budr yw’r croen, y mwyaf yw’r potensial i’r carcas gael ei halogi a bydd y risg i iechyd pobl yn uwch. Gallai crwyn gwlyb hefyd gynyddu’r risg oherwydd y gallai bacteria gael eu trosglwyddo’n haws.

Pan fyddant yn cyrraedd lladd-dai yn y DU, caiff anifeiliaid eu hasesu gan weithredwr y safle i bennu a ydynt yn ddigon glân i gael eu lladd. Rhaid i swyddog yr Asiantaeth Safonau Bwyd* gadarnhau bod gweithredwr y lladd-dy yn cynnal safonau glendid derbyniol wrth ddidoli gwartheg fel na pheryglir diogelwch cig.

Efallai y bydd angen i’r gweithredwr gadw anifeiliaid budr yn y llociau er mwyn eu glanhau, a gallai hyn olygu costau ychwanegol ar gyfer cynhyrchwyr a gweithredwyr lladd-dai. Mae sicrhau bod gwartheg yn lân pan gânt eu cyflwyno iʼw lladd er budd y cynhyrchwyr aʼr gweithredwyr lladd-dai. Mae Atodiad 1 yn rhoi manylion y ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i dda byw glân sy’n cael eu lladd ac mae’n gywir adeg ei gyhoeddi.

Peryglon diogelwch bwyd

Gall  E. coli O157 a bacteria niweidiol eraill fel Salmonela a Campylobacter fyw yn llwybr traul gwartheg heb achosi salwch iddynt, a gallant gael eu gollwng yn eu tail. Nid oes modd i ffermwyr na’u milfeddygon weld bacteria niweidiol yn cael eu cario gan fuchesi neu ddiadelloedd. Mae E. coli O157 yn un math penodol o E. coli sydd wedi dod i’r amlwg yn ystod y blynyddoedd diwethaf, oherwydd y gall niferoedd bach iawn achosi clefydau difrifol, marwol hyd yn oed, ymhlith pobl.

*Yng Ngogledd Iwerddon caiff gwaith goruchwylio a gorfodi mewn Safleoedd Cymeradwy eu cyflawni gan Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar ran yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Manteision cynhyrchu gwartheg glân

Mae glendid ar adeg lladd yn lleihau’r risg bosib i iechyd pobl, yn cyfrannu at gynhyrchu cig diogel ac yn gwella oes silff y cig a hyder defnyddwyr.

Yng Nghymru a Lloegr, mae’r Gorchmynion Rheoli Clefydau yn gwahardd unrhyw un rhag anfon anifeiliaid i ladd-dy os nad ydynt i’w lladd o fewn 48 awr. Mae hyn yn golygu bod rhaid i anifeiliaid fod yn ddigon glân i’w lladd ar gyfer bwyd o fewn 48 awr, ac ni ellir eu dychwelyd os na chyflawnir hyn.

Yn ogystal, mae halogiad â thail yn achosi niwed anadferadwy i grwyn wedi’u trin ac yn 2004 amcangyfrifwyd fod y gost i ddiwydiant trin lledr Prydain yn £20 miliwn y flwyddyn. Mae llawer o danerdai yn cael eu gorfodi i fewnforio crwyn o dramor, gan dalu prisiau premiwm, a fyddai fel arall yn cael eu trosglwyddo’n ôl i gynhyrchwyr y DU. Mae tanerdai hefyd yn dewis cyflenwyr crwyn yn ôl rhanbarth.

Mae hyn yn golygu, os bydd dim ond ychydig o gynhyrchwyr lleol yn danfon gwartheg budr i’w lladd, bydd pob un o gynhyrchwyr y rhanbarth yn ei chael yn anodd gwerthu eu crwyn i danerdai. Bydd ffermwyr y DU yn cael budd uniongyrchol neu anuniongyrchol drwy gynhyrchu gwartheg glân. Mae canlyniadau danfon gwartheg budr yn cynnwys:

  • Costau ychwanegol pan fo gwartheg budr yn cael eu cadw yn y llociau i’w glanhau yn y lladd-dy
  • Cost llinell ladd arafach
  • Gwerth gostyngol y carcas oherwydd tocio gormodol
  • Gwerth gostyngol isgynhyrchion – hynny yw, lledr
  • Colli’r carcas cyfan

Bydd penderfyniadau gweithredwyr o ran glendid yn cynnwys asesu faint o dail a baw sy’n bresennol yn ogystal â pha mor wlyb yw’r croen.

Pa mor lân yw fy ngwartheg?

Gellir defnyddio system o ddidoli anifeiliaid i gategorïau gwahanol er mwyn gwerthuso a oes modd i’r anifeiliaid symud ymlaen i gael eu lladd. Mae Atodiad 2 yn dangos enghreifftiau o wartheg yr aseswyd eu bod yn ddigon glân i symud ymlaen i’w lladd a gwartheg sy’n rhy fudr, yn enwedig os ydynt yn wlyb, i gael eu lladd. Mae’r enghreifftiau hyn yn darparu canllawiau ar gyfer y lefelau o lendid gwartheg a ddisgwylir pan fyddant yn cyrraedd y lladd-dy.

Maeʼn bosibl y bydd angen i unrhyw anifeiliaid nad ydynt yn bodloni gofynion sylfaenol y lladd-dy o ran glendid gael eu cadw yn y llociau gan y gweithredwr er mwyn iddynt sychu ac o bosibl byddant angen eu tocio neu dderbyn triniaeth arall cyn iddynt gael eu lladd. Mae posibilrwydd hefyd y bydd y gwartheg yn cael eu gwrthod.

Mae amser ychwanegol a dreulir yn y llociau, tocio, lleihau cyflymder y llinell a gwrthod anifeiliaid i gyd yn golygu costau ychwanegol i gynhyrchwyr a gweithredwyr. Felly mae er lles pawb i sicrhau bod gwartheg yn lân pan gânt eu cyflwyno iʼw lladd.

Cadw gwartheg yn lân yn ystod y broses o besgi

Mae deiet, beudai, iechyd gwartheg a’r tywydd yn effeithio’n arbennig ar lendid gwartheg.

Bydd defnyddio’r cyngor yn y llyfryn hwn o gymorth o ran cadw gwartheg yn lân i’w lladd a gall mabwysiadu ymagwedd sy’n nodweddiadol o Ddadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP) tuag at reoli a chynhyrchu gwartheg leihau’r risg o halogi ymhellach (gweler Atodiad 3 am ragor o wybodaeth ar HACCP).

Pesgi ar laswellt

Mae gwartheg a besgir ar laswellt yn gymharol lân, ond gall hafau gwlyb a phriddoedd trwm, a ddraenir yn wael, arwain at anifeiliaid mwdlyd, gwlyb. Mae heintiau sy’n ymwneud â llyngyr gastroberfeddol a phori glaswellt irlas, yn cynyddu’r risg o sgwrio a halogi gan dail. Mae defnyddio gormod o wrtaith nitrogen a gorfwydo mwynau hefyd yn achosi i wartheg fod yn rhydd ac yn fudr. Mewn tywydd gwael a phan fydd amodau tir yn wael, efallai y bydd angen cadw anifeiliaid dan do am gyfnod cyn eu lladd, i’w glanhau a’u sychu. Mae angen cymryd gofal i leihau’r risg o anhwylder ar y stumog a sgwrio o ganlyniad i newid mewn deiet a llety. Argymhellir darparu mynediad rhydd at wellt neu wair cyn ac ar ôl symud yr anifeiliaid dan do.

Dylid ystyried y canlynol wrth gynhyrchu a phesgi gwartheg cig eidion ar laswellt:

  • cynllunio rhaglen wrteithio briodol cyn troi’r gwartheg allan
  • cynllunio rhaglen briodol o reoli parasitiaid gyda’ch ymgynghorydd milfeddygol cyn troi’r gwartheg allan (sicrhewch eich bod yn cydymffurfio â chyfnodau diddyfnu yng nghyswllt cyffuriau gwrthlynghyrol)
  • darparu mynediad rhydd at wellt neu wair pan fo stoc yn pori ar borfa laswelltog, yn ystod cyfnodau hir o dywydd gwlyb a chyn ac ar ôl mynd â’r gwartheg dan do
  • symud porthwyr cylch a phorthwyr isel yn aml i osgoi sathru a lleidiogrwydd
  • trin diffygion penodol o ran mwynau a fitaminau y gwyddys eu bod yn digwydd yn eich buches gan osgoi cyflenwi ategion cyffredinol y rhoddir mynediad rhydd atynt 
  • cyflenwi magnesiwm i stoc sy’n agored i niwed yn ystod cyfnodau risg yn unig

Deiet

Deietau sy’n seiliedig ar silwair a gwreiddiau 

Deietau sy’n seiliedig ar silwair a gwreiddiau sy’n fwyaf tebygol o arwain at fudreddi gweledol gan eu bod yn achosi llawer iawn o dail gwlyb.
Mae silwair y gellir ei dreulio’n dda ac sy’n cynnwys protein yn ofynnol ar gyfer perfformiad cynhyrchu da, ond er mwyn lleihau’r tebygolrwydd o wartheg budr, dylid gwneud y canlynol:

  • defnyddio maint priodol o wrtaith ar gaeau silwair, ac ni ddylid defnyddio gwrtaith o fewn chwe wythnos i’r dyddiad torri disgwyliedig
  • gwywo’r silwair yn dda pan fydd y tywydd yn caniatáu gwneud hynny
  • dadansoddi silwair cyn bwydo. Gallai hyn ganiatáu i chi glustnodi’r silwair mwyaf priodol ar gyfer grwpiau pesgi a lloi ifanc
  • defnyddio dadansoddiad i gydbwyso lefelau protein ac ynni’n gywir yn y dognau
  • rhoi mynediad rhydd i’r gwartheg at wellt o borthwr cylch neu gafn (nid o’r gwellt gwely yn unig). Fel arall, cynhwyswch wellt wedi’i dorri mewn wagen gymysgu
  • ychwanegu sodiwm bicarbonad at ddognau sy’n cynnwys silwair asidig  

Deietau sy’n seiliedig ar wair

Mae deietau sy’n seiliedig ar wair yn cynhyrchu gwartheg cymharol lân ond yn anaml y byddant yn opsiwn ar gyfer anifeiliaid pesgi perfformiad uchel, oherwydd eu gwerth maethol isel.

Mae’r dognau hyn yn cynhyrchu swm bychan o dail sych ac felly bydd gwartheg yn edrych yn lân ar y cyfan. Fodd bynnag, gall problemau iechyd, gan gynnwys sgwrio, ddigwydd os caiff deiet grawnfwyd dwys ei gyflwyno neu ei newid yn rhy gyflym, os nad oes cydbwysedd maeth ynddo, os oes diffyg ffeibr hir yn y deiet, neu os yw’r grawnfwydydd wedi’u malu’n rhy fân.

  • sicrhewch fod y ddogn yn cynnwys cydbwysedd cywir o brotein, egni, mwynau a fitaminau
  • darparwch fynediad rhydd at wair o gafn neu borthwr cylch (nid o’r gwellt gwely yn unig)
  • defnyddiwch rawnfwydydd sydd wedi’u rholio’n ysgafn, nid wedi’u malu’n fân  

Ffactorau dietegol eraill

Mae gorfwydo mwynhau, yn arbennig magnesiwm a halen, yn cynyddu’r risg o halogi’r crwyn â thail drwy achosi sgwrio ysgafn a chynnydd o ran cynhyrchu wrin. Dylai mynediad at fwynau a halen gael ei gyfyngu gan fod gan wartheg dueddiad i fwyta mwy nac sydd ei angen arnynt. Mae trin grawn a gwellt gyda soda costig yn cynyddu bwyta gormod o halen a chynhyrchu mwy o wrin, a gall achosi sgwrio ysgafn, gan gynyddu’r risg o fudreddi.

Gall newidiadau sydyn mewn bwyd arwain at anhwylder ar y stumog, sgwrio, perfformiad gwartheg gwael a budreddi.

Dylech anelu at:

  • fwydo mwynau a grëir yn ôl y math o ddeiet ac ar lefelau sy’n briodol ar gyfer y math o stoc
  • osgoi rhoi cyflenwad rhydd o fwynau neu lyfleoedd halen
  • osgoi porthiannau sydd wedi’u trin â soda costig mewn dognau pesgi
  • gwneud newidiadau i ddeiet yn raddol bob amser

Cadw gwartheg dan do

Yn y DU, mae nifer y gwartheg budr a wrthodir adeg eu lladd yn uwch rhwng mis Hydref a mis Ebrill. Mae beudai a gaiff eu dylunio a’u rheoli’n wael yn ffactorau sy’n cyfrannu’n sylweddol at hyn. Mae’n anoddach cadw gwartheg yn lân mewn iardiau delltog nag mewn iardiau sy’n cynnwys gwellt gwely, ond gall system ddelltog a reolir yn dda gynhyrchu gwartheg glanach na iard wellt a reolir yn wael.

Dyluniad cyffredinol adeiladau

Mae awyru, draenio ac wynebwedd dda yn ystyriaethau pwysig ar gyfer adeilad da i wartheg. Gall lleithder ac anwedd mewn adeiladau lle ceir awyru gwael achosi gwartheg butrach. Mae lloriau anwastad, draenio gwael a thoeau, gwteri a chafnau dŵr sy’n gollwng hefyd yn achosi crwyn gwlyb a budr. Anelwch at sicrhau’r canlynol:

  • bod beudai wedi’u hawyru’n dda
  • bod lloriau concrid ar oleddf digonol i ganiatáu draenio digonol, a bod dŵr budr o’r mannau hyn yn cael ei waredu i atal llygredd
  • bod lloriau’n rhydd o dyllau, a bod toeau, gwteri a chafnau dŵr yn cael eu cynnal yn dda
  • bod cafnau bwyd wedi’u codi goruwch uchder gwelyau, neu osod bariau bwydo ar uchder addas uwchben y llawr, i osgoi llygru bwydydd gan dail
  • bod iardiau sy’n gwbl gaeedig wedi’u lleoli gyda’r echelin hydredol yn rhedeg o’r gogledd i’r de
  • bod iardiau a’u blaenau’n agored yn wynebu tua’r de neu’r de ddwyrain

Iardiau delltog

Gall cadw gormod o stoc a dim digon o stoc gyfyngu ar sathru tail trwy’r dellt gan arwain at fudreddi.

Dylai gwartheg bach gael eu cadw mewn gofod llai (tynnach) i ddechrau, gan roi mwy o le iddynt, yn ôl eu maint, wrth iddynt dyfu.

Pan fydd anifeiliaid yn cael eu symud i’w lladd, mae angen lleihau’r lle ar gyfer y gwartheg sy’n weddill. Gall fod yn bosibl cyfuno grwpiau o fustych neu heffrod, er y dylid osgoi eu cymysgu lle bo’n bosibl, yn enwedig mewn grwpiau sy’n agos at gael eu lladd.

Ar gyfer teirw, dylid lleihau maint y gorlan gan ddefnyddio gatiau symudol. Ni ddylid cymysgu anifeiliaid sy’n anghyfarwydd â’i gilydd, yn enwedig grwpiau o deirw, oherwydd yr aflonyddwch a’r ymddygiad ymosodol a achosir gan hyn, a fydd yn achosi budreddi yn ogystal â gostyngiad mewn perfformiad a mwy o risg o gael anaf.

Mae faint o le a roddir ar gyfer bwydo hefyd yn ystyriaeth.

Pan ddarperir dogn sefydlog i wartheg, dylai lle digonol wrth y porthwr fod ar gael i bob anifail ar unrhyw adeg, a gallai hyn atal y gyfradd stoc gywir rhag cael ei chyflawni. Nid yw anifeiliaid sy’n bwyta DG OLELWXP angen cymaint o le ar gyfer bwydo (lleiafswm o 50% ar unrhyw adeg benodol). Nodir cyfraddau stoc a’r lle bwydo gorau posib yn Atodiad 4.

Anelwch at gyflawni’r canlynol:

  • cyfraddau stoc sy’n briodol ar gyfer maint y gwartheg
  • storio slyri a system wacau aml sy’n ddigonol i atal dellt rhag blocio
  • ardaloedd o lawr solet naill ben i’r dellt ar oleddf i leihau’r risg o dail yn casglu
  • defnyddio offer yfed o dethi yn hytrach na chafnau dŵr gan eu bod yn lleihau ardaloedd a gaiff eu rhwystro lle y gall tail gasglu
  • rheiliau gwaelod gatiau a rhaniadau corlannau sydd 200-250mm uwchlaw’r llawr
  • symud gwartheg i “iard farchnata” sy’n cynnwys gwellt gwely wrth iddynt agosáu at gyflwr sydd wedi pesgi os bydd angen eu glanhau
  • peidio â chymysgu anifeiliaid o grwpiau gwahanol
  • cymysgu cyn lleied â phosibl tua diwedd y broses o besgi

Iardiau sy’n cynnwys gwellt gwely

Mae gormod o stoc, dim digon o wellt gwely neu daenu gwellt dan draed yn anaml ymhlith y prif resymau dros fudreddi mewn iardiau sy’n cynnwys gwellt gwely.

Ni fydd darparu mwy o wellt yn gwneud iawn am gadw gormod o stoc. Bydd peiriannau malu gwellt yn darparu gwellt gwastad yn gyflym, ond dangosodd ymchwil fod rhaid defnyddio digon o wellt os yw anifeiliaid am gael eu cadw’n lân.

Gellir ystyried sglodion pren mawr yn hytrach na gwellt fel gwelyau ar gyfer gwartheg sy’n cael eu pesgi. Mae anifeiliaid yn tueddu i ymgarthu a throethi’n amlach yn yr ardal gadw/bwydo sy’n aml yn mynd yn wlyb a budr iawn mewn iardiau sydd â gwellt ar lawr ym mhob man. Felly mae’n well darparu safle concrid clir sy’n hawdd ei gadw’n lân.

Anelwch at gyflawni’r canlynol:

  • digon o le ar gyfer maint a nifer y gwartheg. Nodir y meintiau gorau yn Atodiad 4
  • ychwanegu gwellt gwely digonol yn rheolaidd gan roi digon o wellt i sicrhau glendid
  • ardal gadw/bwydo lân a chrafu rheolaidd
  • gwellt gwely wedi’i storio dan orchudd, wedi’i lapio neu ei orchuddio’n dda â phlastig a’i gadw ar safle sy’n draenio’n rhydd

Cadw mewn cuddyglau

Nid yw cuddyglau’n cael eu hargymell ar gyfer gwartheg sy’n tyfu ac i’w pesgi gan fod angen cynyddu maint y cuddygl wrth i’r anifail dyfu. Os yw cuddyglau’n rhy fach, mae gwartheg yn tueddu i orwedd mewn tramwyfeydd budr tra bo cuddyglau sy’n rhy fawr yn galluogi anifeiliaid i ymgarthu ar y gwely. Mae’r ddwy broblem yn arwain at fudreddi.

Iechyd gwartheg 

Mae unrhyw salwch neu anhwylder sy’n achosi sgwrio’n cynyddu’r risg o grwyn budr. Mae anifeiliaid chwyslyd hefyd yn mynd yn fudr yn haws. Yn ogystal, mae unrhyw salwch yn lleihau gallu cyffredinol yr anifail i wrthsefyll clefydau; felly mae gwartheg sâl yn fwy tueddol o gael haint arall, er enghraifft E. coli a Salmonela.

O’r herwydd, mae rheolaeth dda dros iechyd buches yn gyffredinol yn bwysig o ran lleihau’r risg i wartheg gario organebau pathogenaidd ar adeg eu lladd, a allai arwain at wenwyn bwyd mewn pobl.   

Dylai cynllun iechyd ataliol cyffredinol da ar fferm gynnwys:

  • deiet cytbwys
  • atal coccidiosis a salmonelosis drwy hylendid da a defnydd priodol o feddyginiaeth filfeddygol
  • trin llyngyr yn briodol mewn beudai i atal ostertagiasis dros y gaeaf (mae rhaid i gyffuriau i gael gwared ar lyngyr fel ivermectin hefyd reoli parasitiaid allanol)
  • atal diffyg copr – un o achosion cyffredin sgwrio
  • cyflenwad priodol o atchwanegiadau  mwynau/fitaminau priodol sydd wedi’u cydbwyso’n gywir
  • atal niwmonia
  • hylendid cyffredinol a hwsmona da

Tocio gwartheg pan gânt eu cadw dan do

Mae tocio cefnau gwartheg pesgi yn y beudai (tua 5cm bob ochr i’r asgwrn cefn) yn helpu i leihau chwysu a’r risg o grwyn gwlyb a budr. Dylid tocio cynffonau yn y beudy i osgoi baw rhag cael ei fflicio dros y croen.

Os oes agen tocio blew budr ar fol ac ochrau gwartheg, dylid aros nes bod yr anifail yn barod i’w ladd cyn tocio. Mae anifeiliaid a aiff i’r farchnad o fis Mawrth ymlaen yn debygol o fwrw unrhyw flew hir ac unrhyw faw sy’n glynu wrtho, yn naturiol.

Dangoswyd bod tocio’n cael gwared ar faw gweladwy cyn lladd, ond gall tocio’r rhannau hyn ynghynt olygu y gall baw wedyn lynu wrth y croen lle y bydd yn anos ei lacio. Mae angen bod yn ofalus iawn wrth docio i atal anafu staff neu anifeiliaid y fferm, ac ni ddylid gwneud hyn oni bai bod cyfleusterau ac offer digonol ar gael.

Mae Taflen Wybodaeth Amaethyddol Rhif 35 yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn amlinellu ymarfer diogel o ran tocio. Gweler Atodiad 5.

  • ni ddylid tocio yn y beudy ond pan fo angen atal anifeiliaid rhag chwysu (5cm bob ochr i’r asgwrn cefn)
  • dylai tocio i lanhau ar gyfer lladd gael ei wneud cyn agosed at y dyddiad lladd ag sydd bosib
  • dylid cadw cynffonau’n fyr

Paratoi gwartheg i’w lladd

Yn amlwg, dylid anelu at atal anifeiliaid rhag mynd yn fudr yn y lle cyntaf, ond gallai rhywfaint o lanhau fod yn angenrheidiol cyn lladd (cyfeiriwch at Atodiad 1 ar gyfer y Rheoliadau).

Mae nifer y gwartheg budr a gyflwynir i ladd-dai yn y DU yn gostwng o fis Mawrth ymlaen, gan fod gwartheg yn colli eu cotiau gaeaf ac unrhyw faw y maent yn eu cario’n naturiol. Fodd bynnag, ceir rhai bridiau cynhenid Prydeinig sy’n tueddu i beidio â cholli cotiau hir y gaeaf mor fuan â gwartheg eraill, ac felly maent yn fwy tebygol o fod angen sylw cyn eu lladd.

Ar gyfer gwartheg sy’n cael eu pesgi ar silwair, gwreiddiau, grawn bragu ac yn y blaen, ystyriwch newid i ddogn mwy sych, er enghraifft, dogn seiliedig ar rawnfwyd, wrth i wartheg ddod at gyflwr wedi pesgi. Archwiliwch bob anifail yn rheolaidd wrth eu pesgi a chyn iddynt adael y fferm, gan ddefnyddio’r enghreifftiau yn Atodiad 2.

Efallai y bydd angen tocio, neu gallai gwartheg lanhau eu hunain yn ddigonol os cânt eu symud o “iard farchnata” sy’n cynnwys gwellt gwely digonol. Mae ymchwil wedi dangos bod gwartheg sy’n cael eu bwydo ar wellt a dŵr yn unig, am hyd at 36 awr cyn eu cludo i’w lladd, yn dioddef o lai o achosion o halogi â thail yn ystod y cludo. Mae rhai manwerthwyr yn mynnu’r dull hwn o fwydo bellach. Ni ddylid ymestyn y cyfnod hwn gan nad oes unrhyw fudd ychwanegol i gynyddu’r cyfnod o amser y tu hwnt i 48 awr.
Dylech osgoi golchi gwartheg wedi’u pesgi cyn eu lladd. Rhaid i’r croen fod yn gwbl sych cyn i’r anifail adael y fferm gan fod gwlybaniaeth mewn croen wedi cael ei gysylltu â lefelau uwch o facteria ar y croen. Peidiwch byth â defnyddio pibell ddŵr bwerus i lanhau gwartheg. Mae hyn yn achosi gofid i’r anifail ac yn debygol o achosi cleisio a gostwng gwerth y carcas.

  • dylid asesu glendid gwartheg i’w pesgi a chymryd camau priodol
  • dylid ystyried deiet pesgi
  • dylid defnyddio ‘iard farchnata’ sy’n cynnwys gwellt gwely (gweler isod)ar gyfer gwartheg budr
  • dylid sicrhau crwyn sych

Yr Iard Farchnata

Os bydd angen glanhau gwartheg cyn eu lladd, efallai y bydd angen eu symud i iard farchnata. Dylai iard farchnata ddarparu’r amodau gorau posibl i annog glendid gwartheg: cyflenwadau digonol o wellt gwely o ansawdd da a digon o le (gweler Atodiad 4).

Yn ddelfrydol, dylai amodau o’r fath fodoli yn y corlannau pesgi arferol. Gall anifeiliaid sydd yn wlyb neu ychydig yn fudr fod yn addas ar gyfer y farchnad o fewn diwrnod neu ddau. Ond os bydd gwartheg yn fudr iawn, efallai y bydd angen 3 i 4 wythnos i’w glanhau mewn iard gyda gwellt gwely digonol. Mae tystiolaeth yn dangos bod cymysgu grwpiau o anifeiliaid yn cynyddu’r risg o drosglwyddo halogiad, ac felly dylid gwneud cyn lleied â phosibl o hyn.

Mae ymchwil hefyd wedi dangos y gall bacteria oroesi’n dda mewn amgylchedd sy’n cynnwys da byw, felly, yn ddelfrydol, dylai’r ardal gael ei glanhau a’i diheintio cyn i grŵp newydd o anifeiliaid gael eu cyflwyno. Mae dylunio a rheoli beudai yn dda yn annog glendid ac mae hyn yn amlwg yn bwysig.

  • dylid sicrhau y caniateir digon o amser yn yr iard farchnata i anifeiliaid gael eu glanhau
  • dylid darparu digon o wellt gwely
  • dylid cadw gwartheg ar y dwysedd cywir o ran stoc
  • dylid darparu deiet addas – bydd newidiadau sydyn mewn deiet yn achosi anhwylder ar y stumog

Tocio gwartheg cyn eu lladd

Os bydd gwartheg yn parhau i fod yn fudr, efallai y bydd angen eu tocio cyn iddynt gael eu lladd, a hynny er mwyn eu glanhau. Ewch ati i gael gwared ar ormodedd o fudreddi drwy docio, yn enwedig ar y frisged, yr ochrau, y bol, y coesau, y pen-gliniau a chymalau’r forddwyd (rhannau lle y mae’r risg o drosglwyddo halogiad i’r carcas yn uchel).

Mae angen bod yn ofalus iawn wrth docio i osgoi achosi niwed i’r anifail neu i staff. Rhoddir canllawiau pellach ar gyfer tocio yn Nhaflen Wybodaeth Amaethyddol Rhif 35 yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) (Atodiad 5) a dylid ei darllen a’i deall cyn ymgymryd â gwaith tocio.    

  • defnyddiwch welleifiau a gedwir yn dda gyda chrib benodol i atal y croen rhag torri
  • gwisgwch ddillad amddiffynnol addas: het galed ac esgidiau gyda dur yn y blaen
  • defnyddiwch dorrwr cylched a pheidiwch â thocio gwartheg gwlyb
  • dylid ffrwyno gwartheg yn ddiogel mewn gwasgfa briodol – gweler Taflen Wybodaeth Rhif 35 yr HSE yn Atodiad 5
  • byddwch yn llonydd, yn dawel ac yn hyderus drwygydol y broses docio
  • dechreuwch docio ar ran lân o’r cefn, i’r anifail ddod yn gyfarwydd â sŵn a theimlad y gwelleifiau, cyn symud i’r bol a’r coesau
  • byddwch yn barod i docio anifeiliaid sy’n arbennig o fudr dros gyfnod o sawl diwrnod i osgoi achosi straen diangen i’r anifail

Glanhau gwartheg ar ôl eu lladd

Gellir tocio gwartheg neu ddefnyddio dulliau glanhau eraill ar ôl lladd, yn y lladd-dy ar yr amod y gall y gweithredwr ddangos bod y dull o docio neu lanhau yn rheoli yn effeithiol unrhyw risgiau diogelwch bwyd a allai godi.

Mae hyn yn golygu, er enghraifft, reoli’r risg o’r blew a’r baw a allai syrthio wrth gwblhau’r weithred, a sicrhau bod croen wedi ei docio neu ei lanhau yn ddigon glân fel na chaiff y carcas ei halogi’n annerbyniol wrth ei drin.

Cludo gwartheg sydd wedi eu pesgi

Dylid glanhau a diheintio cerbydau rhwng llwythi i atal bacteria a chlefydau rhag goroesi yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth gyfredol, fel Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Lloegr) (Rhif 3) 2003, a’r Gorchymyn Rheoli Clefydau perthnasol.

Mae rheoliadau cyfatebol yng Nghymru a Gogledd Iwerddon yn berthnasol. Dylai ffermwyr a chludwyr gysylltu â swyddfa leol yr Adran Amaethyddiaeth am gyngor ar reoliadau bioddiogelwch cyfredol. Dylai cyfraddau stoc ddilyn argymhellion Rheoliad y Cyngor (CE) a Gymathwyd 1/2005, Atodiad 1, Pennod VII a chaniatáu i rai anifeiliaid orwedd i lawr yn ddiogel. Dylid defnyddio rhaniadau, lle bo’n briodol, i atal anafiadau o ganlyniad i beidio â chludo digon o stoc.

Dylid darparu gwellt gwely digonol fel gwellt ffres glân. Dylid osgoi blawd llif gan ei fod yn glynu wrth grwyn, a gallai achosi problemau pan gaiff carcas yr anifail ei drin.

Dylai amser a phellter y daith fod yn unol â gofynion Rheoliad a Gymathwyd (CE) Rhif 1/2005 ar ddiogelu anifeiliaid wrth eu cludo a gweithrediadau cysylltiedig.

Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 3) 2003Cludo Anifeiliaid a Dofednod (Gorchymyn Glanhau a Diheintio (Gogledd Iwerddon) 2007. Yng Ngogledd Iwerddon, bydd cyfraith yr UE yn parhau i fod yn berthnasol, fel y rhestrir ym Mhrotocol Gogledd Iwerddon.

Lles gwartheg

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod glendid gweledol a bacteriol yn gostwng wrth i amser a phellter y daith gynyddu.

Cynghorir y dylid addasu’r deiet, neu beidio â bwydo’r anifail am gyfnod byr cyn cludo, er mwyn lleihau achosion o faeddu.

Mae bwydo’r gwartheg ar ddeiet gwellt am 1-2 ddiwrnod cyn eu cludo wedi profi’n fuddiol. Pan gludir anifeiliaid i’r farchnad neu i’w lladd, dylid ystyried y pwyntiau canlynol:

  • Defnyddiwch gludwyr sydd ag enw da iddynt
  • Ystyriwch y deiet cyn cludo
  • Dylai cerbydau fod yn lân, wedi’u diheintio a’u hawyru’n dda
  • Dylech sicrhau digon o wellt gwely glân a ffres
  • Dylai anifeiliaid fod yn sych wrth gael eu llwytho a’u cadw’n sych trwy’r daith, hyd nes y cânt eu lladd
  • Dylid osgoi cymysgu anifeiliaid

Mae gan berchnogion a’r rhai sy’n gofalu am wartheg gyfrifoldeb cyfreithiol dros ddiogelu lles anifeiliaid bob amser. Mae Atodiad 5 yn disgrifio’r ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i les gwartheg.

Casgliad

Bydd dilyn y cyngor hwn yn helpu i sicrhau yr anfonir gwartheg glân i’w lladd. Bydd anfon gwartheg glân i’w lladd yn arwain at fanteision sylweddol ar gyfer y cynhyrchydd, gweithredwr y lladd-dy, y manwerthwr, y defnyddiwr a’r holl bobl sy’n gysylltiedig â’r gadwyn cynhyrchu cig eidion. Bydd hefyd yn cynorthwyo i gryfhau hyder defnyddwyr mewn cig eidion yn y DU.

Atodiad 1: Gofynion deddfwriaethol ar gyfer da byw glân adeg eu lladd

Mae Rheoliadau Hylendid Bwyd yr UE a ddargedwir (Rhif EC 852/2004, Rhif EC 853/2004 ac EU 2019/627) yn pwysleisio cyfrifoldeb pob gweithredwr busnes bwyd (gan gynnwys gweithredwyr lladd-dai) i gynhyrchu bwyd yn ddiogel drwy gymhwyso arferion hylendid da a gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd yn seiliedig ar egwyddorion dadansoddi peryglon a phwynt rheoli critigol (HACCP).

Mae Rheoliad (CE) a Ddargedwir 852/2004 (H1) yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr busnesau bwyd sy’n magu anifeiliaid, i sicrhau, cyn belled â phosib, lendid anifeiliaid sy’n mynd i’w lladd a, lle bo angen, anifeiliaid cynhyrchu. Mae Rheoliad (CE) a Ddargedwir 853/2004 (H2) yn darparu’r gofynion o ran rheoli hylendid adeg lladd anifeiliaid ac yn nodi y dylai anifeiliaid fod yn ‘lân’ cyn cael eu derbyn i safle’r lladd-dy.

Mae Rheoliad yr UE a Ddargedwir 2019/627, erthygl 11, paragraff 4, hefyd yn cyfeirio at gyfrifoldeb y gweithredwr busnes bwyd i sicrhau bod gan anifeiliaid grwyn glân er mwyn osgoi unrhyw risg annerbyniol o halogi’r cig ffres yn ystod lladd.

Gogledd Iwerddon

Yng Ngogledd Iwerddon, bydd cyfraith yr UE yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â’r rhan fwyaf o gyfraith diogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid, fel y rhestrir ym Mhrotocol Gogledd Iwerddon, ac ni fydd cyfraith yr UE a ddargedwir yn gymwys i Ogledd Iwerddon yn yr amgylchiadau hyn.

Atodiad 2: Dosbarthu gwartheg o ran glendid

Gellir defnyddio’r ffotograffau hyn i asesu glendid gwartheg.

Ystyrir bod anifeiliaid sych, sy’n ymddangos yn debyg i’r enghreifftiau a nodir isod, neu’n lanach, yn ddigon glân i fynd ymlaen i gael eu lladd.

Os bydd anifeiliaid yn fwy budr na’r enghreifftiau isod, yn enwedig os ydynt yn wlyb, mae’n debygol y bydd angen rhoi sylw ychwanegol iddynt yn y lladd-dy. Os bydd rhaid i weithredwr y lladd-dy ddal anifeiliaid cyn eu lladd neu arafu’r llinell neu roi mesurau ychwanegol eraill ar waith, bydd hynny’n arwain at gostau ychwanegol.

Atodiad 3: Diogelwch bwyd a HACCP

Mewn system HACCP, nodir yr holl beryglon posib mewn perthynas â diogelwch bwyd ar bob cam o’r gadwyn gynhyrchu. Mae pwynt rheoli critigol yn bwynt, cam neu weithdrefn y mae’n rhaid ei reoli er mwyn atal, dileu neu leihau perygl bwyd i lefel dderbyniol. Er mwyn sicrhau diogelwch bwyd, caiff pob pwynt rheoli critigol ei fonitro i gadarnhau ei fod o fewn terfynau critigol.
Os oes perygl yr eir y tu hwnt i’r terfynau, rhaid cymryd camau unioni. Dylai’r dull systematig hwn, os caiff ei weithredu’n gywir, sicrhau bod bwyd yn cael ei gynhyrchu’n ddiogel. Dyma restru saith egwyddor y system HACCP:

  • cynnal dadansoddiad o beryglon a datblygu siartiau llif ar gyfer cynhyrchu
  • nodi’r pwyntiau rheoli critigol
  • pennu terfynau critigol – hynny yw, gosod lefelau targed y mae’n rhaid eu cyrraedd i sicrhau bod y pwynt rheoli critigol o dan reolaeth
  • sefydlu system i fonitro a yw’r pwynt rheoli critigol o dan reolaeth
  • sefydlu camau unioni i’w cymryd pan fydd gwaith monitro’n dangos nad yw pwynt rheoli critigol o dan reolaeth
  • sefydlu gweithdrefnau ar gyfer gwaith gwirio i gadarnhau bod y system HACCP yn gweithio’n gywir
  • sefydlu dogfennaeth/cofnodion ar gyfer yr holl weithdrefnau

Manteision defnyddio dull sy’n seiliedig ar HACCP:

  • gallu i fod yn rhagweithiol wrth nodi peryglon diogelwch bwyd cyn iddynt ddigwydd
  • gallu sicrhau diogelwch cynnyrch – hynny yw, gwartheg glân
  • nid yw’n ddinistriol
  • darparu tystiolaeth o ddiwydrwydd dyladwy
  • effeithiol o ran cost
  • sicrwydd diogelwch sy’n cynnwys yr holl staff 

Atodiad 4: Lwfansau gofod a argymhellir ar gyfer gwartheg cig eidion dan do

Tabl 1: Lwfansau gofod ar loriau delltog a gofynion gofod ar gyfer cafnau

Gofod Cafn (mm/pen)

Pwysau’r anifail byw (kg) Arwynebedd (ac eithrio cafnau) (m2/pen) Bwydo cyfyngedig Bwydo ad lib
200 1.1 400 100
300 1.5 500 125
400 1.8 600 150
500 2.1 600 150
600 2.3 600 150

Tabl 2: Lwfansau gofod mewn iardiau gwely

Pwysau’r anifail byw (kg) Ardal gwely (m2/pen) Ardal cadw/bwydo (m2/pen) Cyfanswm arwynebedd
200 2.0 400 100
300 2.4 500 125
400 2.6 600 150
500 3.0 600 150
600 3.4 600 150

Ffynonellau: 
1. Farm and Rural Buildings Pocketbook (1991)

Atodiad 5: Gofynion deddfwriaethol ar gyfer lles gwartheg

Mae Deddf Lles Anifeiliaid 2006Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Lloegr) 2007 (O.S. 2007 Rhif 2078) [1], yn ei gwneud yn drosedd i achosi neu ganiatáu poen neu drallod diangen.

Mae halogi’r croen â thail yn peryglu lles yr anifail trwy achosi niwed iʼr croen, poen a pheryglon haint. Yn ogystal, gall anifeiliaid sy’n cael eu cyflwyno mewn cyflwr budr gael eu llocio i’w glanhau. Gall y trin ychwanegol hwn achosi straen diangen i’r anifail.

Mae Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Lloegr) 2007 [2] yn ei gwneud yn ofynnol i dda byw gael cyflenwad digonol o ddŵr yfed ffres a bwyd bob dydd.

Rhaid i’r deiet fod yn iachus, yn addas ar gyfer y rhywogaeth, a rhaid bwydo’r anifail yn ddigonol i gynnal iechyd da a diwallu anghenion maeth.

Pan gedwir unrhyw dda byw, ac eithrio dofednod, mewn adeilad, rhaid iddynt gael eu cadw mewn ardal orwedd, neu gael mynediad bob amser iddi, sydd wedi’i draenio’n dda neu wedi’i chynnal a’i chadw’n dda gyda gwellt gwely sych (Cod Argymhellion ar gyfer Lles Da Byw – Gwartheg).

  • Rhaid bwydo anifeiliaid â deiet iachus sy’n briodol ar gyfer eu hoedran a’u rhywogaeth, a rhaid eu bwydo’n ddigonol i gynnal eu hiechyd da, bodloni eu hanghenion o ran maeth a hybu lles cadarnhaol.  
  • Rhaid i bob anifail naill ai gael mynediad at gyflenwad dŵr addas a chael cyflenwad digonol o ddŵr yfed ffres bob dydd neu allu bodloni ei anghenion o ran yfed digon drwy ddulliau eraill. Dylai fod digon o ddŵr ar gael i o leiaf 10% o wartheg dan do ei yfed ar unrhyw adeg.
  • Dylai anifeiliaid sy’n pori gael mynediad at nifer priodol o gafnau dŵr (rhaid iddynt fod yn ddigon mawr ac o’r dyluniad cywir) neu ryw ffynhonnell arall o ddŵr yfed y gall yr anifeiliaid ei defnyddio’n rhwydd lle bynnag y maent yn pori
  • Rhaid i offer bwydo a dyfrio gael eu dylunio, eu hadeiladu, eu gosod a’u cynnal fel bod halogiad bwyd a dŵr ac effeithiau niweidiol cystadleuaeth rhyngddynt yn cael eu lleihau i’r eithaf.
  • Dylid cadw pob tramwyfa goncrit mewn cyflwr da. Lle defnyddir lloriau delltog, dylech dalu sylw i’r math o slotiau, er mwyn sicrhau nad ydynt yn llithrig. Dim ond llociau slotiedig o faint sy’n addas ar gyfer yr anifail y cawsant eu dylunio ar ei gyfer y dylech eu defnyddio, a dylai rhan o’r llety fod yn gadarn gyda pheth deunydd gwely addas arall. 
  • Pan gedwir unrhyw anifeiliaid mewn adeilad, rhaid eu cadw mewn ardal orwedd, neu fod â mynediad iddi bob amser, sydd naill ai â gwellt gwely sych wedi’i gynnal a’i gadw’n dda neu sydd wedi’i ddraenio’n dda.
  • Dylid sicrhau bod cylchrediad aer, lefelau llwch, tymheredd, lleithder cymharol a chrynodiadau nwy o fewn terfynau nad ydynt yn niweidiol i’r anifeiliaid
  • Dylid cadw teirw sy’n cael eu magu i’w lladd mewn grwpiau bach – dim mwy nag 20 o anifeiliaid yn ddelfrydol. Fel rheol, ni ddylid ychwanegu teirw at grwpiau a ffurfiwyd eisoes, ac ni ddylid ychwaith ychwanegu un grŵp o deirw at grŵp arall i’w hanfon i’w lladd. Dylid cadw grwpiau o deirw yn ddigon pell oddi wrth wartheg benywaidd.
  • Dylid cynllunio’r cylchdro pori a defnyddio cynhyrchion meddyginiaethol neu frechlynnau effeithiol i reoli parasitiaid mewnol. Dylai anifeiliaid gael eu trin am barasitiaid yn unol â chyngor y milfeddyg

[1] Yng Ngogledd Iwerddon: Deddf Lles Anifeiliaid 2011. [2] Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Gogledd Iwerddon) 2012