Canllawiau

Mynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin (IBF)

Diweddarwyd 8 Mehefin 2021

Cyn i chi fynd i gyfleuster mewndirol wrth y ffin (IBF)

  1. Gwiriwch pa wasanaethau sy’n cael eu cynnig ym mhob un o’n cyfleusterau mewndirol wrth y ffin. Nid yw pob cyfleuster mewndirol wrth y ffin yn cyflawni’r un swyddogaethau.

  2. Gwiriwch pa mor brysur yw cyfleuster mewndirol wrth y ffin cyn dechrau ar eich taith.

  3. Cadwch le i fynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin. Bydd cadw lle yn golygu y dylem allu delio â chi’n gynt.

Does dim rhaid i fasnachwyr sy’n defnyddio Anfonwr neu Dderbynnydd Awdurdodedig (ACC) fynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin. Gall Anfonydd neu Dderbynnydd Awdurdodedig ddechrau symudiad cludo nwyddau, a dod ag ef i ben, ar ei safle ei hun.

Mae ond angen i chi fynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin os ydych yn teithio drwy Borthladd Dover, Eurotunnel neu Gaergybi ac rydych yn gwneud y canlynol:

  • symud nwyddau o dan y Confensiwn Cludo Cyffredin ac nid ydych yn defnyddio gwasanaethau Anfonydd neu Dderbynnydd Awdurdodedig i ddechrau neu ddod â’ch symudiadau Cludo i ben
  • symud nwyddau i’r wlad o dan y Confensiwn Cludo Cyffredin ac rydych wedi cael gwybod i fynd i safle er mwyn gwirio’r nwyddau hynny
  • symud nwyddau, ac eithrio anifeiliaid byw, gan ddefnyddio Carnet ATA
  • symud nwyddau, ac eithrio anifeiliaid byw, a gwmpesir gan CITES (Confensiwn ar gyfer Masnach Ryngwladol mewn Rhywogaethau sydd mewn Perygl)

Pan nad oes rhaid i chi ddod i gyfleuster mewndirol wrth y ffin

Does dim rhaid i chi ddod i gyfleuster mewndirol wrth y ffin os yw’r canlynol yn wir:

  • mae gennych gerbyd sy’n wag
  • rydych yn teithio i mewn ac allan o’r DU drwy borthladdoedd eraill
  • rydych yn defnyddio gwasanaethau Anfonydd/Derbynnydd Awdurdodedig
  • rydych yn defnyddio gweithdrefnau mewnforio neu allforio eraill (nad ydynt yn rhan o’r Confensiwn Cludo Cyffredin) i symud eich nwyddau i mewn neu allan o’r DU
  • rydych yn cludo anifeiliaid byw, ac eithrio nwyddau sydd wedi’u blaenoriaethu gan Defra

Bod yn ‘barod ar gyfer y ffin’

Byddwch yn barod cyn i chi gyrraedd Caint

Mae’n rhaid i chi fod yn ‘barod ar gyfer y ffin’ cyn i chi gyrraedd porthladdoedd Caint neu byddwch yn cael eich gwrthod a gallech wynebu dirwy.

Os ydych yn croesi’r Sianel drwy’r Eurotunnel neu Borthladd Dover, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

Fe’ch anogir yn gryf i gael prawf coronafeirws (COVID-19) cyn i chi gyrraedd Caint. Os cewch brawf negyddol, bydd eich taith i Borthladd Dover neu Eurotunnel yn gyflymach.

Ar gyfer symudiadau tuag allan sy’n gadael y DU drwy Borthladd Dover neu’r Eurotunnel

Os oes angen i chi ddefnyddio cyfleuster mewndirol wrth y ffin a’ch bod yn dod i Gaint o rywle arall, dylech fod yn barod cyn cyrraedd Caint. Peidiwch ag aros tan i chi gyrraedd y porthladd yng Nghaint neu byddwch yn cael eich gwrthod.

I baratoi, dylech wneud un o’r canlynol:

  • mynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin yn Birmingham neu Warrington i gyflawni gweithdrefnau tollau penodol cyn i chi gyrraedd Caint
  • mynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin yng Ngogledd Weald neu Ebbsfleet i gyflawni gweithdrefnau tollau cyfyngedig

Caergybi

Byddwch yn barod cyn i chi deithio i Gaergybi. Os bydd eich taith yn caniatáu hynny, gallwch hefyd ddefnyddio’r gwasanaethau yng nghyfleusterau mewndirol wrth y ffin Warrington neu Birmingham cyn i chi gyrraedd Caergybi.

Chwiliwch am ragor o wybodaeth am baratoi ar gyfer porthladdoedd Cymru ar wefan llyw.cymru.

Dogfennau y bydd angen i chi ddod â nhw

Bydd angen yr holl waith papur perthnasol arnoch mewn perthynas â’ch symudiad.

Symudiadau CTC

I ddechrau symudiad, bydd angen i chi gael y Cyfeirnod Lleol (LRN) gan eich asiant neu’ch trefnydd anfon nwyddau ar gyfer pob llwyth, a rhoi’r Cyfeirnodau Lleol yn y Swyddfa Ymadael i gael Dogfen Ategol ar gyfer Cludo (TAD)

I ddod â symudiad i ben mewn Swyddfa Pen y Daith, bydd angen i chi gyflwyno’r Ddogfen Ategol ar gyfer Cludo a rhoi’r Cyfeirnod Symud (MRN) ar gyfer pob llwyth.

Symudiadau ATA Carnet

Ar gyfer symudiadau i mewn ac allan, bydd angen i chi gyflwyno trwydded CITES ar gyfer pob llwyth.

Blaenoriaethau Defra (bwyd môr a chywion sy’n un dydd oed) – Ebbsfleet yn unig

Dim ond ar ôl i Flaenoriaethu Nwyddau gael ei actifadu y bydd angen i chi fynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin Ebbsfleet. Ar gyfer mynd allan yn unig, bydd angen i chi gael yr holl ddogfennau allforio priodol sydd eu hangen ar gyfer eich llwyth. Unwaith y bydd y llwyth sydd wedi’i flaenoriaethu wedi cael ei ddilysu, byddwch yn cael trwydded a sticer adnabod y cerbyd fel y gallwch fynd yn eich blaen i’r porthladd, er mwyn mynd i’r UE.

Lleoliadau cyfleusterau mewndirol wrth y ffin (wedi’u rhestru o’r Gogledd i’r De)

Safle Lleoliad Swyddogaethau
Porthladd Caergybi (i mewn ac allan) Porthladd Caergybi • swyddfa cludo
• gwiriadau trwydded CITES
Gwasanaeth Dros Dro Cyfleuster Mewndirol wrth y Ffin Caergybi (ar gyfer Porthladd Caergybi yn unig) Gwasanaeth Dros Dro Cyfleuster Mewndirol wrth y Ffin Caergybi
Parc Cybi,
Kingsland,
Caergybi
At ddiben llywio â lloeren, defnyddiwch: 53.292313, -4.615258
• swyddfa pen y daith
• swyddfa ymadael
• stamp Carnet ATA – dim ond os yw Carnet ATA yn cynnwys anifeiliaid byw y mae angen trefnu ymlaen llaw

Byddwch yn barod cyn i chi deithio i Gaergybi, defnyddiwch anfonydd/derbynnydd awdurdodedig i ddechrau’ch symudiad cludo neu i ddod ag ef i ben.
Warrington (i mewn ac allan) Cyfleuster mewndirol wrth y ffin Warrington/Warrington inland border facility,
Barley Castle Lane,
Appleton Thorn,
Warrington,
WA4 4SR
• dechrau symudiad cludo (swyddfa ymadael)
• dod â symudiad cludo i ben (swyddfa pen y daith)
• Stamp Carnets ATA
Birmingham (i mewn ac allan) Cyfleuster mewndirol wrth y ffin Birmingham/Birmingham inland border facility,
Birmingham International Airport ,
Building 9,
Car Park 6,
Jetstream Road,
Birmingham,
B26 3RQ
• dechrau symudiad cludo (swyddfa ymadael)
• dod â symudiad cludo i ben (swyddfa pen y daith)
• Stamp Carnets ATA

North Weald (allan) Cyfleuster mewndirol wrth y ffin CThEM/HMRC inland border facility,
Rayley Lane,
Epping,
CM16 6AR
• dechrau symudiad cludo (swyddfa ymadael)
• Stamp Carnets ATA
Ebbsfleet (allan) Cyfleuster mewndirol wrth y ffin Ebbsfleet/Ebbsfleet inland border facility,
Car park D,
International Way,
Ebbsfleet Valley,
DA10 1EB

At ddiben llywio â lloeren, defnyddiwch: 51.439219, 0.31647126

Sylwer - bydd defnyddio’r cod post ar ddyfeisiau llywio yn mynd â chi i Orsaf Ryngwladol Ebbsfleet yn hytrach na’r cyfleuster mewndirol wrth y ffin, felly dilynwch arwyddion lleol y cyfleuster mewndirol wrth y ffin o’r A2 a’r A2260.
• dechrau symudiad cludo (swyddfa ymadael)
• Stamp Carnets ATA
• gwiriad trwydded CITES
• blaenoriaethau Defra

Ni chaniateir i danceri neu gerbydau nwyddau trwm sydd â hylif swmp, o unrhyw fath, fod ar y safle dros dro hyd nes y clywir yn wahanol.
Sevington (i mewn ac allan) Cyfleuster mewndirol wrth y ffin Sevington/Sevington inland border facility,
Ashford
TN25 6GE
At ddiben llywio â lloeren, defnyddiwch: 51.132138, 0.914994
• dechrau symudiad cludo (swyddfa ymadael)
• dod â symudiad cludo i ben (swyddfa pen y daith
•Stamp Carnets ATA
•CITES
•Rheoli traffig

Os yw IBF Sevington ar gau, bydd Waterbrook ar gael fel safle wrth gefn.
Stop 24 (i mewn) Stop 24,
Folkestone Services,
Junction 11 M20,
Hythe,
CT21 4BL
• dod â symudiad cludo i ben (swyddfa pen y daith)
• Stampiau Carnet ATA
Dociau Gorllewinol Dover (i mewn) Dociau Gorllewinol Dover/Dover Western Docks,
Lord Warden Square,
Dover,
CT17 9DN
• dod â symudiad cludo i ben (swyddfa pen y daith)
• Stamp Carnets ATA
• gwiriadau trwydded CITES

Stop 24 a Dociau Gorllewinol Dover

Mae rhywfaint o gapasiti Swyddfa Pen y Daith a ddarperir gan y llywodraeth yn swyddfeydd Dociau Gorllewinol Dover a Stop 24 ar gyfer y rhai y mae angen iddynt ddefnyddio cyfleuster mewndirol wrth y ffin.

Dylai symudiadau cludo sy’n dod i mewn i’r DU ym Mhorthladd Dover gwblhau’r broses Swyddfa Pen y Daith yn Nociau Gorllewinol Dover.

Dylai symudiadau cludo sy’n dod i mewn i’r DU gan ddefnyddio’r Eurotunnel gwblhau’r broses Swyddfa Pen y Daith yn Stop 24.

Mae hyn yn ychwanegol at y gweithrediadau masnachol presennol a ddarperir eisoes yn y safleoedd hyn.

Rhowch wybod i CThEM eich bod yn mynd i fynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin

Dylech roi gwybod i CThEM ymlaen llaw eich bod yn mynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin os yw’r canlynol yn wir am y nwyddau rydych yn eu symud:

  • maent yn mynd i swyddfa ymadael neu swyddfa pen y daith (dechrau symudiad cludo neu’n dod ag ef i ben)
  • maent yn dod o dan Garnet ATA
  • mae angen trwydded CITES arnynt

Beth bynnag yw’ch rheswm dros fynychu’r safle, os yw’ch nwyddau wedi’u nodi fel rhai sydd ‘wedi’u dal’ ar gyfer gwiriad cydymffurfio, mae’n rhaid i chi roi gwybod am hyn i staff y swyddfa flaen pan fyddwch yn cyrraedd.

Gallwch hefyd wirio a oes unrhyw oedi mewn cyfleuster mewndirol wrth y ffin.

Beth i’w ddisgwyl wrth ymweld â chyfleuster mewndirol wrth y ffin

Bydd arwyddion lleol ar waith i helpu i’ch cyfeirio at y safle ar hyd y prif ffyrdd strategol.

Ar ôl cyrraedd y safle, cewch eich cyfarch gan farsial rheoli traffig.

Bydd camerâu adnabod rhifau cerbydau yn awtomatig wrth bwyntiau mynediad ac ymadael y safle. Bydd y rhain yn monitro pa gerbydau sy’n mynd i mewn i’r safle ac sy’n ei adael, a hynny er mwyn rheoli traffig a diogelwch.

Bydd archwiliad gweledol cyflym o’r cerbyd yn cael ei wneud gan farsialiaid diogelwch yn y pwynt gwirio wrth y fynedfa. Er enghraifft, byddant yn gwirio nad oes unrhyw ollyngiadau ac nad oes angen gwahardd y cerbyd o ganlyniad i’r gwiriadau hyn.

Yn dilyn hyn, cewch eich cyfeirio at le parcio gwag. Unwaith y byddwch wedi parcio’ch cerbyd, bydd y marsial traffig yn gofyn i chi ddiffodd eich injan a’i gadw wedi’i diffodd tra byddwch wedi parcio. Ni ddylid gadael i injans droi.

Os yw’ch nwyddau wedi’u nodi fel rhai sydd ‘wedi’u dal’ ar gyfer gwiriad cydymffurfio, mae’n rhaid i chi roi gwybod am hyn i staff y swyddfa flaen pan fyddwch yn cyrraedd.

Yna, byddwch yn mynd â’ch dogfennau i’r swyddfa flaen ac yn cael eich cyfarwyddo i aros yn eich cerbyd tra bydd y gwaith papur yn cael ei brosesu. Unwaith y bydd hyn wedi’i gwblhau, byddwch yn cael naill ai cymeradwyaeth a derbynneb ymadael i symud oddi ar y safle, neu ddiffyg cymeradwyaeth lle byddwch yn dilyn proses ar wahân.

Yna, byddwch yn gallu gadael y safle ac ail-ymuno â’r brif ffordd strategol.

Os yw’ch cerbyd wedi’i eithrio

Mae’n bosibl y bydd cerbydau’n cyrraedd y safle sydd wedi’u ‘heithrio’ rhag y gofyniad i barcio ar y safle. Mae hyn yn seiliedig ar bethau fel cynnwys llwythi, maint cerbydau a phresenoldeb nwyddau peryglus. Os oes unrhyw broblemau, bydd eich cerbyd yn cael ei symud i’r mannau archwilio er mwyn i uwch-swyddog diogelwch gynnal archwiliad pellach.

Caiff cerbydau eu heithrio os ydynt yn cynnwys:

  • da byw a llwythi byw eraill (mae eithriadau i hyn yn berthnasol ar safleoedd sy’n prosesu symudiadau CITES)
  • llwythi anarferol, sef:
    • pwysau o fwy na 44,000kg
    • llwyth echel o fwy na 10,000kg ar gyfer un echel nad yw’n gyrru ac 11,500kg ar gyfer un echel yrru
    • lled o fwy na 2.9m
    • hyd sefydlog o fwy nag 18.65m
  • y nwyddau peryglus canlynol:
    • sylweddau ac erthyglau dosbarth 1 (ffrwydron) a sylweddau dosbarth 4.1 (sylweddau sy’n polymeru)
    • deunydd niwclear categori I neu II
    • nwyddau peryglus â chanlyniadau pellgyrhaeddol
    • sylweddau dosbarth 6.1 (pryfladdwyr)
  • cerbydau sy’n ddarostyngedig i Orchymyn Cerbydau Ffyrdd (Awdurdodi Mathau Arbennig) (Cyffredinol) (STGO) 2003

Hyd y gwiriadau

Amcangyfrifwn y bydd angen rhwng 1 a 2 awr arnoch yn y cyfleuster i fynd drwy broses glirio’r tollau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael digon o amser wrth gynllunio’ch taith.

Mae’r safleoedd wedi’u staffio ac yn gweithredu 24 awr y dydd a 7 diwrnod yr wythnos.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r broses gwaith papur, gallwch ddychwelyd i’ch cerbyd a dylech adael ar unwaith.

Cyfleusterau sydd ar gael ar y safleoedd

Bydd pob safle yn darparu dŵr, toiledau a chyfleusterau golchi dwylo. Cynigir cyfleusterau ychwanegol fesul safle, fel yr amlinellir yn yr adrannau sy’n benodol i bob safle. Ni chaniateir poptai na thanau ar y safle.

Mesurau diogelwch yn sgil coronafeirws

Mae’r cyfleusterau mewndirol wrth y ffin yn cydymffurfio ag arweiniad presennol coronafeirws (COVID-19) y llywodraeth.