Cyfleuster mewndirol wrth y ffin Caergybi
Diweddarwyd 14 Mawrth 2021
Porthladd Caergybi
O 1 Ionawr 2021 ymlaen, bydd Porthladd Caergybi yn cynnig gwiriadau trwyddedau CITES a Swyddfa Dramwy yn unig.
Roadking Truckstop
Carnets ATA, Swyddfa Pen y Daith a Swyddfa Ymadael
O 1 Ionawr 2021 ymlaen, ni all Porthladd Caergybi brosesu Carnets ATA, felly bydd angen i chi fynd i Roadking Truckstop wrth symud nwyddau gyda Charnet ATA. Bydd Roadking Truckstop hefyd yn cynnig gwasanaethau Swyddfa Pen y Daith a Swyddfa Ymadael.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn paratoi cyn i chi deithio i’r Roadking Truckstop drwy ddefnyddio Anfonwr neu Dderbynnydd Awdurdodedig i ddechrau’ch symudiad cludo neu i ddod ag ef i ben.
Gallwch gael mynediad i Roadking drwy ymadael â’r A55 wrth gyffordd 2.
Cyfeiriad ac amserau agor
Roadking Truckstop
Parc Cybi
Kingsland
Caergybi
LL65 2YQ
Mae’r Carnets ATA, y Swyddfa Pen y Daith a’r Swyddfa Ymadael ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, yn Roadking Truckstop.
Cyn i chi gyrraedd Roadking
Bydd angen i chi roi gwybod i Lu’r Ffiniau pryd y byddwch yn disgwyl cyrraedd Roadking Truckstop. Mae’n rhaid i chi wneud hyn o leiaf 24 awr cyn i chi gyrraedd. Mae’n rhaid i chi hefyd roi gwybod i Lu’r Ffiniau os ydych yn cludo anifeiliaid byw. Cyfeiriwch at y llawlyfr i gael rhagor o wybodaeth am brosesu’ch Carnet ATA drwy Roadking.
Gallwch roi gwybod i Lu’r Ffiniau eich bod yn cyrraedd drwy e-bostio: BFHolyhead@HomeOffice.gov.uk