Mynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin
Diweddarwyd 14 Mawrth 2021
Cyn i chi fynd i gyfleuster mewndirol wrth y ffin (IBF)
-
Gwiriwch pa wasanaethau sy’n cael eu cynnig ym mhob un o’n cyfleusterau mewndirol wrth y ffin. Nid yw pob cyfleuster mewndirol wrth y ffin yn cyflawni’r un swyddogaethau.
-
Gwiriwch pa mor brysur yw cyfleuster mewndirol wrth y ffin cyn dechrau ar eich taith.
-
Cadwch le i fynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin. Bydd cadw lle yn golygu y dylem allu delio â chi’n gyflymach.
Does dim rhaid i fasnachwyr sy’n defnyddio Anfonwr neu Dderbynnydd Awdurdodedig (ACC) fynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin. Gall Anfonwr neu Dderbynnydd Awdurdodedig ddechrau symudiad cludo nwyddau, a dod ag ef i ben, ar ei eiddo ei hun
Mae ond angen i chi fynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin os ydych yn teithio drwy Borthladd Dover, Eurotunnel neu Gaergybi ac rydych yn gwneud y canlynol:
- symud nwyddau o dan y Confensiwn Cludo Cyffredin ac nid ydych yn defnyddio gwasanaethau Anfonwr/Derbynnydd Awdurdodedig i ddechrau neu ddod â’ch symudiadau Cludo i ben
- symud nwyddau i’r wlad o dan y Confensiwn Cludo Cyffredin ac rydych wedi cael gwybod i fynd i safle er mwyn gwirio’r nwyddau hynny
- symud nwyddau, ac eithrio anifeiliaid byw, gan ddefnyddio Carnet ATA
- symud nwyddau, ac eithrio anifeiliaid byw, a gwmpesir gan CITES (Confensiwn ar gyfer Masnach Ryngwladol ar Rywogaethau sydd mewn Perygl)
Does dim rhaid i chi ddod i gyfleuster mewndirol wrth y ffin os yw’r canlynol yn wir:
- mae gennych Drwydded Werdd ar gyfer Mynediad i Gaint
- mae gennych gerbyd sy’n wag
- rydych yn teithio i mewn ac allan o’r DU drwy borthladdoedd eraill
- rydych yn defnyddio gwasanaethau Anfonwr/Derbynnydd Awdurdodedig
- rydych yn defnyddio gweithdrefnau mewnforio neu allforio eraill (nad ydynt yn rhan o’r Confensiwn Cludo Cyffredin) i symud eich nwyddau i mewn neu allan o’r DU
- rydych yn cludo anifeiliaid byw, ac eithrio nwyddau sydd wedi’u blaenoriaethu gan Defra
Bod yn ‘barod ar gyfer y ffin’
Byddwch yn barod cyn i chi gyrraedd Caint
Mae’n rhaid i chi fod yn ‘barod ar gyfer y ffin’ cyn i chi gyrraedd porthladdoedd Caint neu byddwch yn cael eich gwrthod a gallech wynebu dirwy.
Os ydych yn croesi’r Sianel drwy’r Eurotunnel neu Borthladd Dover, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
- gwirio bod cerbyd nwyddau trwm (HGV) yn barod i groesi’r ffin
- cael Trwydded Mynediad i Gaint (KAP) cyn i chi gyrraedd Caint, neu gallech gael eich gwrthod
Fe’ch anogir yn gryf i gael prawf coronafeirws (COVID-19) cyn i chi gyrraedd Caint. Os cewch brawf negyddol, bydd eich taith i Borthladd Dover neu Eurotunnel yn gyflymach.
Ar gyfer symudiadau tuag allan sy’n gadael y DU drwy Borthladd Dover neu’r Eurotunnel
Os oes angen i chi ddefnyddio cyfleuster mewndirol wrth y ffin a’ch bod yn dod i Gaint o rywle arall, dylech fod yn barod cyn cyrraedd Caint. Peidiwch ag aros tan i chi gyrraedd y porthladd yng Nghaint, neu byddwch yn cael eich gwrthod.
I baratoi, dylech wneud un o’r canlynol:
- mynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin yn Birmingham neu Warrington i gyflawni gweithdrefnau tollau penodol cyn i chi gyrraedd Caint
- mynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin yng Ngogledd Weald neu Ebbsfleet i gyflawni gweithdrefnau tollau cyfyngedig
- fel yr opsiwn olaf, mynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin yn Ashford Waterbrook - mae’r safle hwn yn ymdrin â thraffig sy’n teithio i mewn ac allan, felly bydd yn brysurach a gall gymryd mwy o amser i brosesu’ch nwyddau
Peidiwch â mynd i gyfleuster mewndirol wrth y ffin Sevington, oni bai eich bod yn cael eich cyfeirio yno fel rhan o gynlluniau Rheoli Traffig.
Caergybi
Byddwch yn barod cyn i chi deithio i Gaergybi. Os bydd eich taith yn caniatáu hynny, gallwch hefyd ddefnyddio’r gwasanaethau yng nghyfleusterau mewndirol wrth y ffin Warrington neu Birmingham cyn i chi gyrraedd Caergybi.
Chwiliwch am ragor o wybodaeth am baratoi ar gyfer porthladdoedd Cymru ar wefan llyw.cymru.
Dogfennau y bydd angen i chi ddod â nhw
Bydd angen yr holl waith papur perthnasol arnoch mewn perthynas â’ch symudiad.
Symudiadau CTC
I ddechrau symudiad, bydd angen i chi gael y Cyfeirnod Lleol (LRN) gan eich asiant neu’ch trefnydd anfon nwyddau ar gyfer pob llwyth, a rhoi’r cyfeirnodau lleol yn y Swyddfa Ymadael i gael Dogfen Ategol ar gyfer Cludo (TAD)
I ddod â symudiad i ben mewn Swyddfa Pen y Daith, bydd angen i chi gyflwyno’r Ddogfen Ategol ar gyfer Cludo a rhoi’r Cyfeirnod Symud (MRN) ar gyfer pob llwyth.
Symudiadau Carnet ATA
Ar gyfer symudiadau i mewn ac allan, bydd angen i chi gyflwyno’r dogfennau Carnet ATA ar gyfer pob llwyth.
Symudiadau CITES
Ar gyfer symudiadau i mewn ac allan, bydd angen i chi gyflwyno trwydded CITES ar gyfer pob llwyth.
Blaenoriaethau Defra (bwyd môr a chywion sy’n un dydd oed) – Ebbsfleet yn unig
Dim ond ar ôl i Flaenoriaethu Nwyddau gael ei actifadu y bydd angen i chi fynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin Ebbsfleet. Ar gyfer mynd allan yn unig, bydd angen i chi gael yr holl ddogfennau allforio priodol sydd eu hangen ar gyfer eich llwyth. Unwaith y bydd y llwyth sydd wedi’i flaenoriaethu wedi cael ei ddilysu, byddwch yn cael trwydded a sticer adnabod y cerbyd fel y gallwch fynd yn eich blaen i’r porthladd, er mwyn mynd i’r UE.
Lleoliadau cyfleusterau mewndirol wrth y ffin (wedi’u rhestri o’r Gogledd i’r De)
Safle | Lleoliad | Swyddogaethau |
---|---|---|
Porthladd Caergybi (i mewn ac allan) | Porthladd Caergybi | • swyddfa dramwy • gwirio trwyddedau CITES |
Roadking Truckstop (ar gyfer porthladd Caergybi yn unig) | Roadking Truckstop, Parc Cybi, Kingsland, Caergybi, LL65 2YQ |
• swyddfa pen y daith • swyddfa ymadael • gellir gwneud stampiau Carnets ATA yn y Roadking Truckstop – dim ond os yw Carnet ATA yn cynnwys anifeiliaid byw y mae angen trefnu ymlaen llaw Byddwch yn barod cyn i chi deithio i Gaergybi, defnyddiwch anfonwr neu dderbynnydd awdurdodedig i ddechrau neu orffen eich symudiad cludo. |
Warrington (i mewn ac allan) | Warrington inland border facility, Barley Castle Lane, Appleton Thorn, Warrington, WA4 4SR |
• dechrau symudiad cludo (swyddfa ymadael) • dod â symudiad cludo i ben (swyddfa pen y daith) • stampio Carnets ATA |
Birmingham (i mewn ac allan) | Birmingham inland border facility, Birmingham International Airport, Building 9, Car Park 6, Jetsream Road, Birmingham, B26 3QY |
• dechrau symudiad cludo (swyddfa ymadael) • dod â symudiad cludo i ben (swyddfa pen y daith) • stampio Carnets ATA |
Gogledd Weald (allan) | HMRC inland border facility, North Weald Airfield, Merlin Way, North Weald Bassett, Epping, CM16 6AR |
• dechrau symudiad cludo (swyddfa ymadael) • stampio Carnets ATA |
Ebbsfleet (allan) | Ebbsfleet inland border facility, Car park D, International Way, Ebbsfleet Valley, DA10 1EB At ddiben llywio lloeren: 51.439219, 0. 31647126 Sylwer - bydd defnyddio’r cod post ar ddyfeisiau llywio yn mynd â chi i Orsaf Ryngwladol Ebbsfleet yn hytrach na’r cyfleuster mewndirol wrth y ffin, felly dilynwch arwyddion lleol y cyfleuster mewndirol wrth y ffin o’r A2 a’r A2260. |
• dechrau symudiad cludo (swyddfa ymadael) • stampio Carnets ATA • gwirio trwyddedau CITES • blaenoriaethau Defra |
Waterbrook (i mewn ac allan) | Ashford, Waterbrook inland border facility, Waterbrook Avenue, Ashford, Kent, TN24 0GB |
• dechrau symudiad cludo (swyddfa ymadael) • dod â symudiad cludo i ben (swyddfa pen y daith) • stampio Carnets ATA • CITES |
Sevington (i mewn ac allan) | Sevington inland border facility, Mersham, Ashford, TN25 6GE At ddiben llywio lloeren: 51.132138, 0.914994 |
• rheoli traffig yn unig yn ystod mis Ionawr a mis Chwefror 2021 (arweiniad pellach i ddilyn) |
Manston (allan) | Manston Airport, The Cargo Centre, Spitfire Way, Ramsgate, Kent, CT12 5FF |
Dylech ond ei ddefnyddio os cewch eich cyfeirio yno ar gyfer prawf COVID neu fel rhan o gynlluniau Rheoli Traffig. |
Stop 24 (i mewn) | Stop 24, Folkestone Services, Junction 11 M20, Hythe, CT21 4BL |
• dod â symudiad cludo i ben (swyddfa pen y daith) • stampio Carnets ATA |
Dociau Gorllewinol Dover (i mewn) | Dover Western Docks, Lord Warden Square, Dover, CT17 9DN |
• dod â symudiad cludo i ben (swyddfa pen y daith) • stampio Carnets ATA • gwirio trwyddedau CITES |
Stop 24 a Dociau Gorllewinol Dover
Mae rhywfaint o gapasiti Swyddfa Pen y Daith a ddarperir gan y llywodraeth yn swyddfeydd Dociau Gorllewinol Dover a Stop 24 ar gyfer y rhai y mae angen iddynt ddefnyddio cyfleuster mewndirol wrth y ffin.
Dylai symudiadau cludo sy’n dod i mewn i’r DU ym Mhorthladd Dover gwblhau’r broses Swyddfa Pen y Daith yn Nociau Gorllewinol Dover.
Dylai symudiadau cludo sy’n dod i mewn i’r DU gan ddefnyddio’r Eurotunnel gwblhau’r broses Swyddfa Pen y Daith yn Stop 24.
Mae hyn yn ychwanegol at y gweithrediadau masnachol presennol a ddarperir eisoes yn y safleoedd hyn.
Rhowch wybod i CThEM eich bod yn mynd i fynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin
Dylech roi gwybod i CThEM ymlaen llaw eich bod yn mynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin os yw’r canlynol yn wir am y nwyddau rydych yn eu symud:
- maent yn mynd i swyddfa ymadael neu swyddfa pen y daith (dechrau neu ddiweddu symudiad cludo)
- maent yn dod o dan Garnet ATA
- mae angen trwydded CITES arnynt
Ni waeth pam yr ydych yn mynychu’r safle, os yw’ch nwyddau wedi’u nodi fel rhai sydd ‘wedi’u dal’ ar gyfer gwiriad cydymffurfio, mae’n rhaid i chi roi gwybod am hyn i staff y swyddfa flaen pan fyddwch yn cyrraedd.
Gallwch hefyd wirio a oes unrhyw oedi mewn cyfleuster mewndirol wrth y ffin.
Beth i’w ddisgwyl wrth ymweld â chyfleuster mewndirol wrth y ffin
Bydd arwyddion lleol ar waith i’ch helpu i’ch cyfeirio at y safle ar hyd y prif ffyrdd strategol.
Ar ôl cyrraedd y safle, cewch eich cyfarch gan farsial rheoli traffig.
Bydd camerâu adnabod rhifau cerbydau yn awtomatig wrth bwyntiau mynediad ac ymadael y safle. Bydd y rhain yn monitro pa gerbydau sy’n mynd i mewn i’r safle ac sy’n ei adael, a hynny er mwyn rheoli traffig a diogelwch.
Bydd archwiliad gweledol cyflym o’r cerbyd yn cael ei wneud gan farsialiaid diogelwch yn y pwynt gwirio wrth y mynediad. Er enghraifft, byddant yn gwirio nad oes unrhyw ollyngiadau ac nad oes angen gwahardd y cerbyd o ganlyniad i’r gwiriadau hyn.
Yn dilyn hyn, cewch eich cyfeirio at le parcio gwag. Unwaith y byddwch wedi parcio’ch cerbyd, bydd y marsial traffig yn gofyn i chi ddiffodd eich injan a’i gadw wedi’i diffodd tra byddwch wedi parcio. Ni ddylid gadael i injans droi.
Os yw’ch nwyddau wedi’u nodi fel rhai sydd ‘wedi’u dal’ ar gyfer gwiriad cydymffurfio, mae’n rhaid i chi roi gwybod am hyn i staff y swyddfa flaen pan fyddwch yn cyrraedd.
Yna, byddwch yn mynd â’ch dogfennau i’r swyddfa flaen ac yn cael eich cyfarwyddo i aros yn eich cerbyd tra bydd y gwaith papur yn cael ei brosesu. Unwaith y bydd hyn wedi’i gwblhau, byddwch yn cael naill ai cymeradwyaeth a derbynneb ymadael i symud oddi ar y safle, neu ddiffyg cymeradwyaeth lle byddwch yn dilyn proses ar wahân.
Yna, byddwch yn gallu gadael y safle ac ail-ymuno â’r brif ffordd strategol.
Os yw’ch cerbyd wedi’i eithrio
Mae’n bosibl y bydd cerbydau’n cyrraedd y safle sydd wedi’u ‘heithrio’ o’r gofyniad i barcio ar y safle. Mae hyn yn seiliedig ar bethau fel cynnwys llwythi, maint cerbydau a phresenoldeb nwyddau peryglus. Os oes unrhyw broblemau, bydd eich cerbyd yn cael ei symud i’r mannau archwilio er mwyn i uwch-swyddog diogelwch gynnal archwiliad pellach.
Caiff cerbydau eu heithrio os ydynt yn cynnwys:
- da byw a llwythi byw eraill (mae eithriadau i hyn yn berthnasol ar safleoedd sy’n prosesu symudiadau CITES)
- llwythi anarferol, sef:
- pwysau o fwy na 44,000kg
- llwyth echel o fwy na 10,000kg ar gyfer un echel nad yw’n gyrru ac 11,500kg ar gyfer un echel yrru
- lled o fwy na 2.9m
- hyd sefydlog o fwy nag 18.65m
- y nwyddau peryglus canlynol:
- sylweddau ac erthyglau dosbarth 1 (ffrwydron) a sylweddau dosbarth 4.1 (sylweddau sy’n polymeru)
- deunydd niwclear categori I neu II
- nwyddau peryglus â chanlyniadau pellgyrhaeddol
- sylweddau dosbarth 6.1 (pryfladdwyr)
- cerbydau sy’n destun Gorchymyn Cerbydau Ffyrdd (Awdurdodi Mathau Arbennig) (Cyffredinol) (STGO) 2003
Hyd y gwiriadau
Amcangyfrifwn y bydd angen rhwng 1 a 2 awr arnoch yn y cyfleuster i fynd drwy broses glirio’r tollau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael digon o amser wrth gynllunio’ch taith.
Mae’r safleoedd wedi’u staffio ac yn gweithredu 24 awr y dydd a 7 diwrnod yr wythnos.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r broses gwaith papur, gallwch ddychwelyd i’ch cerbyd a dylech adael ar unwaith.
Cyfleusterau sydd ar gael ar y safleoedd
Bydd pob safle yn darparu dŵr, toiledau a chyfleusterau golchi dwylo. Cynigir cyfleusterau ychwanegol fesul safle, fel yr amlinellir yn yr adrannau sy’n benodol i bob safle. Ni chaniateir poptai na thanau ar y safle.
Mesurau diogelwch yn sgil coronafeirws
Mae’r cyfleusterau mewndirol wrth y ffin yn cydymffurfio ag arweiniad presennol coronafeirws (COVID-19) y llywodraeth.