Canllawiau

Cyfleuster mewndirol wrth y ffin Caergybi

Diweddarwyd 1 January 2024

Mae ond angen i chi fynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin os ydych yn teithio drwy Borthladd Dover, Eurotunnel neu Gaergybi ac rydych yn symud nwyddau:

  • o dan y Confensiwn Cludo Cyffredin ac nid ydych yn defnyddio gwasanaethau Anfonydd neu Dderbynnydd Awdurdodedig (ACC) i ddechrau neu ddod â’ch symudiadau Cludo i ben
  • i’r wlad o dan y Confensiwn Cludo Cyffredin ac rydych wedi cael gwybod i fynd i safle er mwyn gwirio’r nwyddau hynny
  • ac eithrio anifeiliaid byw, gan ddefnyddio Carnet ATA
  • ac eithrio anifeiliaid byw, a gwmpesir gan y Confensiwn ar gyfer Masnach Ryngwladol mewn Rhywogaethau Ffawna a Fflora Gwyllt sydd mewn Perygl (CITES)

Gwiriwch nwyddau neu gerbydau sydd wedi’u gwahardd cyn mynd i gyfleuster mewndirol wrth y ffin gan efallai na fydd yn caniatáu:

  • i fathau penodol o gerbydau fynd i mewn
  • i gerbydau sy’n cario mathau penodol o nwyddau fynd i mewn (er enghraifft, y rhai sy’n cynnwys nwyddau peryglus neu hylif halogedig)

Lleoliad

Cyfleuster mewndirol wrth y ffin Caergybi
Parc Cybi
A55 Cyffordd 2
Caergybi
LL65 2YQ

Oriau agor

Caergybi ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Swyddogaethau

Yng nghyfleuster mewndirol wrth y ffin Caergybi byddwch yn gallu:

  • dechrau symudiad cludo (swyddfa ymadael)
  • dod â symudiad cludo i ben (swyddfa pen y daith)
  • stamp Carnets ATA a TIR
  • prosesu trwyddedau CITES
  • cael archwiliadau ac arolygiadau gan berson

Cludo anifeiliaid byw

Os ydych yn cludo anifeiliaid byw o dan Garnet ATA, bydd angen i chi roi gwybod i Lu’r Ffiniau, gan y bydd hyn yn eu helpu i flaenoriaethu’r gwaith o brosesu’ch Carnet ATA.

Pan fydd eich taith wedi’i chadarnhau, bydd angen i chi roi gwybod i Lu’r Ffiniau pryd y byddwch yn disgwyl cyrraedd gwasanaeth cyfleuster mewndirol wrth y ffin Caergybi. Mae’n rhaid i chi wneud hyn o leiaf 24 awr cyn i chi gyrraedd.

Anfonwch e-bost at Lu’r Ffiniau yn: BFHIT@HomeOffice.gov.uk.

Os ydych yn fasnachwr yn y DU sy’n cludo anifeiliaid byw, bydd angen i chi gyflwyno cynllun teithio gyda Defra cyn i chi ddechrau ar eich taith.

Sut i gael at y safle

Gallwch gyrraedd cyfleuster mewndirol wrth y ffin Caergybi drwy ymadael â’r A55 wrth gyffordd 2, ac yna drwy droi i’r chwith ar gyfer yr A5153 ac i’r chwith eto ar gyfer Parc Cybi.

Gallwch wirio a oes unrhyw broblemau sy’n effeithio ar draffig yn yr ardal drwy ddefnyddio gwasanaeth rhybuddion traffig byw Llywodraeth Cymru.

Map of Holyhead Inland Border Facility

Cyfleusterau ar y safle

Yn ogystal â’r cyfleusterau safle safonol (toiledau, golchi dwylo a dŵr ar gyfer yr holl yrwyr sydd wedi’u parcio ar y safle), mae’r safle hwn hefyd yn cynnig cymorth cyntaf gan staff sydd wedi’u hyfforddi.

Sut i adael y safle

Unwaith y bydd y gwiriadau wedi’u cwblhau, byddwch yn cael cerdyn i’w roi yn eich ffenestr sy’n caniatáu i chi adael y safle. Bydd angen i chi stopio wrth y man gwirio gadael ar gyfer cerbydau cyn gadael y man parcio.

Trowch i’r A5153 ac ail-ymunwch â’r A55.