Canllawiau

Beth i’w wneud wrth ymweld â chyfleuster mewndirol wrth y ffin

Diweddarwyd 1 January 2024

Cyn i chi fynd i gyfleuster mewndirol wrth y ffin

  1. Gwiriwch pa wasanaethau sy’n cael eu cynnig ym mhob un o’n cyfleusterau mewndirol wrth y ffin. Nid yw pob cyfleuster mewndirol wrth y ffin yn cyflawni’r un swyddogaethau.

  2. Gwiriwch pa mor brysur yw cyfleuster mewndirol wrth y ffin (yn Saesneg) cyn dechrau ar eich taith.

  3. Trefnwch le i fynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin (yn Saesneg) — bydd trefnu lle yn golygu y dylem allu delio â chi’n gyflymach.

Does dim rhaid i fasnachwyr sy’n defnyddio Anfonwr neu Dderbynnydd Awdurdodedig (ACC) fynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin. Gall Anfonydd neu Dderbynnydd Awdurdodedig ddechrau symudiad cludo nwyddau, a dod ag ef i ben, ar ei safle ei hun.

Mae ond angen i chi fynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin os ydych yn cyrraedd Porthladd Dover, Eurotunnel neu Gaergybi ac rydych yn gwneud y canlynol:

  • symud nwyddau o dan y Confensiwn Cludo Cyffredin ac nid ydych yn defnyddio gwasanaethau Anfonydd neu Dderbynnydd Awdurdodedig i ddechrau neu ddod â’ch symudiadau Cludo i ben

  • symud nwyddau i’r wlad o dan y Confensiwn Cludo Cyffredin ac rydych wedi cael cyfarwyddyd i fynd i safle er mwyn gwirio’r nwyddau hynny

Yr achlysuron pan fydd angen i chi, o bosibl, ddod i gyfleuster mewndirol wrth y ffin

Mae’n rhaid i chi ddilyn y cyfarwyddiadau ynghylch a oes angen i chi gael eich nwyddau wedi’u gwirio gan y tollau wrth gyrraedd neu a allwch barhau â’ch taith.

Dylech ddefnyddio’ch cyfeirnod symud nwyddau yn y gwasanaeth ‘gwirio a oes angen i chi fynychu archwiliad’ i ddeall a yw’ch nwyddau’n cael eu cadw.

Os oes angen archwiliad, mae’n rhaid i chi wirio pa safle archwilio y mae angen i chi ei fynychu yn eich lleoliad wrth y ffin. Bydd angen i chi fynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin, oni bai bod gennych gytundeb masnachol presennol. Os oes gennych gytundeb masnachol sy’n bodoli eisoes, gallwch fynd i’r cyfleuster gwirio Tollau yn y lleoliad wrth y ffin.

Mae’n rhaid i’r nwyddau sydd angen archwiliad gael eu cadw yn yr un cyflwr â phan gawsant eu casglu oddi wrth y masnachwr.

Mewn rhai achosion, efallai y bydd swyddogion Llu’r Ffiniau yn y porthladd hefyd yn eich atal er mwyn cynnal gwiriadau ar eich cerbyd neu’ch llwyth. Os bydd hyn yn digwydd, mae dal yn rhaid i chi fynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin i gwblhau swyddogaethau tollau os ydych wedi cael cyfarwyddiadau i wneud hynny.

Mae’n bosibl y byddwch yn agored i dalu cosb hyd at £2,500 os na fyddwch yn dilyn cyfarwyddiadau CThEF.

Yr achlysuron pan na fydd angen i chi ddod i gyfleuster mewndirol wrth y ffin

Does dim rhaid i chi ddod i gyfleuster mewndirol wrth y ffin os yw’r canlynol yn wir:

  • mae gennych gerbyd sy’n wag

  • rydych yn teithio i mewn ac allan o’r DU drwy borthladdoedd eraill

  • rydych yn defnyddio gwasanaethau Anfonydd neu Dderbynnydd Awdurdodedig

  • rydych yn defnyddio gweithdrefnau mewnforio neu allforio eraill (nad ydynt yn rhan o’r Confensiwn Cludo Cyffredin) i symud eich nwyddau i mewn neu allan o’r DU

Bod yn ‘barod ar gyfer y ffin’

Byddwch yn barod cyn i chi gyrraedd Caint

Mae’n rhaid i chi fod yn ‘barod ar gyfer y ffin’ cyn i chi gyrraedd porthladdoedd Caint, neu byddwch yn cael eich gwrthod a gallech wynebu dirwy.

Os ydych chi’n croesi’r Sianel trwy’r Eurotunnel neu Borthladd Dover, mae’n rhaid i chi wirio bod cerbyd nwyddau trwm (HGV) yn barod i groesi’r ffin (yn Saesneg).

Ar gyfer symudiadau tuag allan sy’n gadael y DU drwy Borthladd Dover neu’r Eurotunnel

Os oes angen i chi ddefnyddio cyfleuster mewndirol wrth y ffin a’ch bod yn dod i Gaint o rywle arall, dylech fod yn barod cyn cyrraedd Caint. Peidiwch ag aros tan i chi gyrraedd y porthladd yng Nghaint, neu byddwch yn cael eich gwrthod.

Er mwyn paratoi, dylech fynychu’r cyfleuster mewndirol wrth y ffin yn Sevington.

Caergybi

Byddwch yn barod cyn i chi deithio i Gaergybi, defnyddiwch anfonydd neu dderbynnydd awdurdodedig i ddechrau’ch symudiad cludo neu i ddod ag ef i ben.

Chwiliwch am ragor o wybodaeth am baratoi ar gyfer porthladdoedd Cymru ar wefan llyw.cymru.

Dogfennau y bydd angen i chi ddod â nhw

Bydd angen yr holl waith papur perthnasol arnoch mewn perthynas â’ch symudiad.

Symudiadau’r Confensiwn Cludo Cyffredin

I ddechrau symudiad Confensiwn Cludo Cyffredin allan o Brydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban)(yn Saesneg), bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • cael y canlynol gan eich asiant neu’ch trefnydd anfon nwyddau ar gyfer pob llwyth:
    • y cyfeirnod lleol (LRN)
    • naill ai’r holl gyfeirnodau ar gyfer y datganiadau allforio a’u cynnwys mewn cyfeirnod symud nwyddau, neu brif gyfeirnod unigryw y llwyth (os oes un) yn ysgrifenedig
  • dangos yr LRN a naill ai’r holl gyfeirnodau ar gyfer y datganiadau allforio sydd mewn cyfeirnod symud nwyddau, neu brif gyfeirnod unigryw y llwyth yn ysgrifenedig, yn y swyddfa ymadael er mwyn cael dogfen ategol ar gyfer cludo (TAD)

I ddod â symudiad i ben mewn swyddfa pen y daith, bydd angen i chi gyflwyno’r ddogfen ategol ar gyfer cludo a rhoi’r cyfeirnod symud (MRN) ar gyfer pob llwyth.

Os ydych yn un o’r canlynol:

  • masnachwr sy’n defnyddio swyddfa pen y daith mewn cyfleuster mewndirol wrth y ffin, dylech wneud yn siŵr bod cofnodion mewnforio yn cael eu cyflwyno a’u bod wedi cyrraedd erbyn i’r nwyddau gyrraedd swyddfa pen y daith 

  • gyrrwr sy’n mynychu swyddfa pen y daith, dylech gael manylion y cofnodion tollau ar gyfer y llwythi rydych chi’n eu cario (er enghraifft, rhifau mynediad a dyddiadau mynediad)

Bydd angen storio dros dro ar nwyddau heb gofnodion mewnforio wedi’u cyrraedd.

Os ydych chi’n yrrwr sy’n mynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin gyda nwyddau sydd angen eu storio dros dro, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi ddefnyddio cyfleuster arall ar eich traul eich hun.

Ni ellir defnyddio cyfleusterau mewndirol wrth y ffin ar gyfer storio masnachol.

Symudiadau ATA Carnet

Ar gyfer symudiadau i mewn ac allan, bydd angen i chi gyflwyno’r dogfennau Carnet ATA ar gyfer pob llwyth.

Symudiadau CITES

Ar gyfer symudiadau i mewn ac allan, bydd angen i chi gyflwyno trwydded CITES ar gyfer pob llwyth.

Lleoliadau cyfleusterau mewndirol wrth y ffin (wedi’u rhestri o’r Gogledd i’r De)

Safle Lleoliad Swyddogaethau
Caergybi (i mewn ac allan) Gwasanaeth cyfleuster mewndirol wrth y ffin Caergybi
Parc Cybi,
A55 Cyffordd 2,
Caergybi,
LL65 2YQ
Dod â symudiad cludo i ben (swyddfa pen y daith)

Dechrau symudiad cludo (swyddfa ymadael)

Stamp Carnets ATA — dim ond os yw Carnet ATA yn cynnwys anifeiliaid byw y mae angen trefnu ymlaen llaw

CITES
Sevington (i mewn ac allan) (yn Saesneg) Sevington inland border facility,
Ashford,
TN25 6GE
At ddiben llywio â lloeren: 51.132138, 0.914994
Dechrau symudiad cludo (swyddfa ymadael)

Dod â symudiad cludo i ben (swyddfa pen y daith)

Stamp Carnets ATA

CITES

Rheoli traffig
Stop 24 (i mewn ac allan ar gyfer cerbydau eithriedig) Stop 24,
Gwasanaethau Folkestone,
Cyffordd 11 M20,
Hythe,
CT21 4BL
Dechrau symudiad cludo o gerbydau sydd wedi’u heithrio rhag defnyddio Sevington, neu ddod â symudiad i ben

O 1 Ionawr 2024 ymlaen, ni fydd Carnets ATA bellach yn cael eu cymeradwyo yn Stop 24
Dociau Gorllewinol Dover (i mewn ac allan ar gyfer cerbydau eithriedig) Dociau Gorllewinol Dover,
Lord Warden Square,
Dover,
CT17 9DN
Dechrau symudiad cludo gan gerbydau sydd wedi’u heithrio rhag defnyddio Sevington, neu ddod â symudiad i ben

Cymeradwyaeth ATA, os caiff ei chyflwyno drwy weithrediadau masnachol

Stop 24 a Dociau Gorllewinol Dover

Gall cerbydau, sydd wedi’u heithrio rhag defnyddio Sevington am eu bod yn rhy fawr neu’n cynnwys nwyddau peryglus, gael eu prosesu yn y safleoedd hyn.

Os bydd problem yn codi gyda chyfleusterau mewndirol wrth y ffin CThEF, mae’n bosibl y byddwn yn eich cyfeirio at Ddociau Gorllewinol Dover neu Stop24.

Mae hyn yn ychwanegol at y gweithrediadau masnachol presennol a ddarperir eisoes yn y safleoedd hyn.

Rhowch wybod i CThEF eich bod yn mynd i fynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin

Dylech drefnu lle i fynychu cyfleuster mewndirol wrth y ffin (yn Saesneg) ymlaen llaw os yw’r canlynol yn wir am y nwyddau rydych chi’n eu symud:

  • maent yn mynd i swyddfa ymadael neu swyddfa pen y daith (dechrau neu ddiweddu symudiad cludo)

  • maent yn dod o dan Garnet ATA

  • mae angen trwydded CITES arnynt

Beth bynnag yw’ch rheswm dros fynychu’r safle, os yw’ch nwyddau wedi’u nodi fel rhai sydd ‘wedi’u dal’ ar gyfer gwiriad cydymffurfio, mae’n rhaid i chi roi gwybod am hyn i staff y swyddfa flaen pan fyddwch yn cyrraedd.

Gallwch hefyd wirio a oes unrhyw oedi mewn cyfleuster mewndirol wrth y ffin (yn Saesneg).

Beth i’w ddisgwyl wrth ymweld â chyfleuster mewndirol wrth y ffin

Bydd arwyddion lleol ar waith i helpu i’ch cyfeirio at y safle ar hyd y prif ffyrdd strategol. 

Ar ôl cyrraedd y safle, cewch eich cyfarch gan farsial rheoli traffig.

Bydd camerâu adnabod rhifau cerbydau yn awtomatig wrth bwyntiau mynediad ac ymadael y safle. Bydd y rhain yn monitro pa gerbydau sy’n mynd i mewn i’r safle ac sy’n ei adael, a hynny er mwyn rheoli’r traffig ac er budd diogelwch.

Bydd archwiliad gweledol cyflym o’r cerbyd yn cael ei wneud gan farsialiaid diogelwch yn y pwynt gwirio wrth y fynedfa. Er enghraifft, byddant yn gwirio nad oes unrhyw ollyngiadau ac nad oes angen gwahardd y cerbyd o ganlyniad i’r gwiriadau hyn.

Yn dilyn hyn, cewch eich cyfeirio at le parcio gwag. Unwaith y byddwch wedi parcio’ch cerbyd, bydd y marsial traffig yn gofyn i chi ddiffodd eich injan a’i gadw wedi’i diffodd tra byddwch wedi parcio. Ni ddylid gadael i injans droi.

Os yw’ch nwyddau wedi’u nodi fel rhai sydd ‘wedi’u dal’ ar gyfer gwiriad cydymffurfio, mae’n rhaid i chi roi gwybod am hyn i staff y swyddfa flaen pan fyddwch yn cyrraedd.

Yna, byddwch yn mynd â’ch dogfennau i’r swyddfa flaen ac yn cael eich cyfarwyddo i aros yn eich cerbyd tra bydd y gwaith papur yn cael ei brosesu. Unwaith y bydd hyn wedi’i gwblhau, byddwch yn cael naill ai cymeradwyaeth a derbynneb ymadael i symud oddi ar y safle, neu ddiffyg cymeradwyaeth lle byddwch yn dilyn proses ar wahân. 

Yna, byddwch yn gallu gadael y safle ac ail-ymuno â’r brif ffordd strategol.

Hyd y gwiriadau

Amcangyfrifwn y bydd angen rhwng 1 a 2 awr arnoch yn y cyfleuster i fynd drwy broses glirio’r tollau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael digon o amser wrth gynllunio’ch taith.

Mae’r safleoedd wedi’u staffio ac yn gweithredu 24 awr y dydd a 7 diwrnod yr wythnos.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r broses gwaith papur, gallwch ddychwelyd i’ch cerbyd a dylech adael ar unwaith.

Cyfleusterau sydd ar gael ar y safleoedd

Bydd pob safle yn darparu dŵr, toiledau a chyfleusterau golchi dwylo. Cynigir cyfleusterau ychwanegol fesul safle, fel yr amlinellir yn yr adrannau sy’n benodol i bob safle. Ni chaniateir poptai na thanau ar y safle.

Os yw’ch cerbyd wedi’i eithrio

Mae’n bosibl y bydd cerbydau’n cyrraedd y safle sydd wedi’u ‘heithrio’ o’r gofyniad i barcio ar y safle. Mae hyn yn seiliedig ar bethau fel cynnwys llwythi, maint cerbydau a phresenoldeb nwyddau peryglus. Os oes unrhyw broblemau, bydd eich cerbyd yn cael ei symud i’r mannau archwilio er mwyn i uwch-swyddog diogelwch gynnal archwiliad pellach.

Caiff cerbydau eu heithrio os ydynt yn cynnwys:

  • llwythi anarferol, sef:
    • pwysau o fwy na 44,000 cilogram (kg)
    • llwyth echel o fwy na 10,000kg ar gyfer un echel nad yw’n gyrru ac 11,500kg ar gyfer un echel yrru
    • lled o fwy na 2.9 metr (m)
    • hyd sefydlog o fwy nag 18.65m
  • y nwyddau peryglus canlynol:
    • sylweddau ac erthyglau dosbarth 1 (ffrwydron) a sylweddau dosbarth 4.1 (sylweddau sy’n polymeru)
    • deunydd niwclear categori I neu II
    • nwyddau peryglus â chanlyniadau pellgyrhaeddol
    • sylweddau dosbarth 6.1 (pryfladdwyr)
  • cerbydau sy’n destun Gorchymyn Cerbydau Ffyrdd (Awdurdodi Mathau Arbennig) (Cyffredinol) (STGO) 2003

Cyfyngiadau Caergybi ar danceri

Ni all Caergybi dderbyn tanceri sy’n cynnwys dros 3,000 litr o hylif peryglus neu halogedig.

Nid oes gan gyfleuster Caergybi unrhyw falf penstoc i helpu i ddraenio gollyngiadau.

Mae halogion hylifol yn cynnwys deunydd organig sy’n peri llygredd sylweddol i gyrsiau dŵr, fel:

  • llaeth
  • bwyd
  • cnydau
  • dŵr brwnt
  • elifiant silwair a slyri