Skip to main content
Canllawiau

Systemau glanweithdra amgen ar gyfer offer torri

Cyhoeddwyd 15 Gorffennaf 2021

Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru

Mae’r canllawiau hyn yn nodi’r broses ar gyfer gweithredu dulliau amgen ar gyfer diheintio offer mewn llad-dai, sefydliadau trin helgig sydd wedi’u cymeradwyo (AGHE) neu ffatrïoedd torri yng Nghymru a Lloegr.

Pwrpas y canllawiau hyn yw helpu gweithredwyr busnesau bwyd a swyddogion gorfodi i ddeall gweithdrefnau dilysu a gwirio systemau amgen ar gyfer diheintio offer, sy’n gyfwerth â defnyddio dŵr ar dymheredd o 82˚C ac uwch.

Maent yn nodi egwyddorion y broses weithredu trwy roi trosolwg o’r camau asesu ar gyfer busnesau a swyddogion, gan gynnwys manylion eu rolau a’u cyfrifoldebau. Nid yw’r canllawiau’n cwmpasu pob dull diheintio amgen posib nac yn amlygu sut gallai dulliau penodol gael eu defnyddio ar yr ystod eang o offer sydd ar gael.

Cymru, Yr Alban a Lloegr

Guidance on use of alternative sanitation systems for the disinfection of cutting tools (Saesneg yn unig)

Cysylltiadau tîm

Y Tîm Cymeradwyo

approvals@food.gov.uk