Adroddiad-blynyddol-cydymffurfiaeth-yr-laith-cymraeg 2022-23
Published 29 September 2023
1. 1. Cyflwyniad
Ar y 25 Gorffennaf 2016 cyhoeddodd Comisiynydd y Gymraeg Hysbysiad Cydymffurfiad dan adran 44 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr Cyfyngedig (“SLC”).
Dywed Safon Rhif 164 yr Hysbysiad Cydymffurfiad:
-
1. Rhaid i chi gynhyrchu adroddiad (“adroddiad blynyddol”), yn Gymraeg, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, sy’n delio â’r ffordd yr ydych chi wedi cydymffurfio â’r safonau gweithredol ble y mae dyletswydd arnoch chi i gydymffurfio â hwy yn ystod y flwyddyn honno.
-
2. Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys y wybodaeth a ganlyn (ble fo’n berthnasol, i’r graddau yr ydych dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau y cyfeirir atynt)—
- a) nifer y gweithwyr sydd â sgiliau Cymraeg ar ddiwedd y flwyddyn dan sylw (ar sail y cofnodion a gadwoch yn unol â safon 145);
- b) nifer yr aelodau staff a fynychodd gyrsiau hyfforddi y gwnaethoch chi eu cynnig yn Gymraeg yn ystod y flwyddyn (ar sail cofnodion y gwnaethoch chi eu cadw yn unol â safon 146);
- c) os cafodd fersiwn Gymraeg o gwrs ei gynnig gennych chi yn ystod y flwyddyn honno, canran cyfanswm nifer y staff a fynychodd y cwrs a fynychodd y fersiwn Gymraeg (ar sail y cofnodion y gwnaethoch chi eu cadw yn unol â safon 146);
-
ch nifer y swyddi newydd a’r swyddi gwag a hysbysebwyd gennych yn ystod y flwyddyn a gategoreiddiwyd fel swyddi sy’n gofyn —
- i. bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol,
- ii. bod angen dysgu sgiliau yn y Gymraeg pan benodir i’r swydd,
- iii bod sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol, neu
- iv nad yw sgiliau iaith Gymraeg yn angenrheidiol, (ar sail y cofnodion yr ydych chi wedi’u cadw yn unol â safon 148);
- d) nifer y cwynion a gawsoch yn ystod y flwyddyn a oedd yn ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau gweithredu yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.
-
3. Rhaid i chi gyhoeddi adroddiad blynyddol yn ddim hwyrach na 6 mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn perthyn iddi.
-
4. Rhaid i chi gyhoeddi adroddiad blynyddol yn ddim hwyrach na 6 mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn perthyn iddi.
-
5. Rhaid i chi sicrhau bod copi cyfredol o’ch adroddiad blynyddol ar gael—
- a) ar eich gwefan, a
- b) ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.
Mae’r ddogfen hon yn cyfateb i gynhyrchu adroddiad blynyddol SLC i sicrhau ein cydymffurfiad gyda Safon Rhif 164 ac yn ymwneud â blwyddyn ariannol 2022/23 (y “BA”).
2. 2. Categorïau Gwybodaeth
2.1 Manylion faint o gyflogeion sydd â sgiliau iaith yn y Gymraeg ar ddiwedd y BA
Dywed Safon Rhif 145 yr Hysbysiad Cydymffurfiad fod yn rhai i’r SLC:
gadw cofnod (yn dilyn asesiadau o sgiliau Cymraeg eich gweithwyr yn unol â safon 123), o nifer y gweithwyr sydd â sgiliau Cymraeg ar ddiwedd y flwyddyn ariannol a, ble y mae gennych y wybodaeth honno, rhaid i chi gadw cofnod o lefel sgil y gweithwyr hynny.
Dywed Safon Rhif 123: “Rhaid ichi asesu siliau Cymraeg eich cyflogeion”
Ar ddiwedd y BA roedd gan SLC 45 o gyflogeion gyda sgiliau iaith yn y Gymraeg.
2.2 Manylion faint o aelodau staff a fynychodd gyrsiau hyfforddi a gynigiwyd yn Gymraeg n SLC yn ystod y BA (ar sail cofnodion y gwnaethoch chi eu cadw yn unol â safon 146).
Dywed Safon Rhif 124 fod yn rhaid i SLC:
ddarparu hyfforddiant yn Gymraeg yn y meysydd a ganlyn, os ydych yn darparu hyfforddiant o’r fath yn Saesneg — (a) recriwtio a chyfweld; (b) rheoli perfformiad; (c) gweithdrefnau cwyno a disgyblu; (ch) ymsefydlu; (d) delio â’r cyhoedd; ac (dd) iechyd a diogelwch.
Dywed Safon Rhif 146:
Rhaid ichi gadw cofnod, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, o - (a) nifer yr aelodau o staff a fynychodd gyrsiau hyfforddi a ddarparwyd yn Gymraeg (yn unol â safon 124), a (b) os darparwyd fersiwn Gymraeg o gwrs yn unol â safon 124, y ganran o gyfanswm nifer y staff a fynychodd y fersiwn honno o’r cwrs.
Yn y BA, ni fynychodd unrhyw aelod o staff gyrsiau hyfforddi SLC a gynigir yn Gymraeg
2.3. Manylion y ganran o gyfanswm y staff a fynychodd fersiwn iaith Gymraeg o un rhyw gyrsiau a gynigodd SLC yn ystod y BA (ar sail cofnodion y gwnaethoch chi eu cadw yn unol â safon 146).
Ddim yn berthnasol oherwydd absenoldeb unrhyw gyrsiau hyfforddi a ddarperir gan SLC yn y Gymraeg yn ystod y BA.
2.4. Manylion parthed y swyddi newydd a’r swyddi gwag a hysbysebwyd gan SLC yn ystod y BA a gategoreiddiwyd fel swyddi sy’n gofyn —
- i) bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol,
- ii) sgiliau iaith Gymraeg angen eu dysgu ar ôl penodi i’r swydd,
- iii)sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol, neu
- iv) nad yw sgiliau iaith Gymraeg yn angenrheidiol, (ar sail y cofnodion yr ydych chi wedi’u cadw yn unol â safon 148).
Dywed Safon Rhif 148:
Rhaid ichi gadw cofnod, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, o nifer y swyddi newydd a’r swyddi gwag a gategoreiddiwyd (yn unol â safon 132) fel swyddi sy’n gofyn — (a) bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol; (b) bod angen dysgu sgiliau yn y Gymraeg unwaith y penodir rhywun i’r swydd; (c) bod sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol; neu (ch) nad oedd sgiliau yn y Gymraeg yn angenrheidiol.
Dywed Safon Rhif 132:
Pan fyddwch yn asesu’r anghenion ar gyfer swydd newydd neu swydd wag, rhaid ichi asesu’r angen am sgiliau yn y Gymraeg, a’i chategoreiddio fel swydd pan fo un neu ragor o’r canlynol yn gymwys — (a) bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol; (b) bod angen dysgu sgiliau yn y Gymraeg pan benodir rhywun i’r swydd; (c) bod sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol; neu (ch) nad yw sgiliau yn y Gymraeg yn angenrheidiol.
Yn y BA, hysbysebodd yr SLC y swyddi gwag canlynol a gafodd eu categoreiddio fel swyddible:
- i)sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol- 15
- ii) sgiliau iaith Gymraeg angen eu dysgu dysgu ar ôl penodi i’r swydd - 0
- iii) sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol - 0
- iv) sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol – 0
2.5 Manylion y nifer o gwynion a dderbyniodd SLC yn ystod y BA parthed cydymffurfiad SLC gyda’r safonau gweithredol a fanylir yn Hysbysiad Cydymffurfiad SLC.
Ni dderbyniodd SLC unrhyw gwynion yn ystod y BA parthed cydymffurfiad SLC gyda’r safonau gweithredol a fanylir yn Hysbysiad Cydymffurfiad SLC.