Small Business Crown Representative

Shirley Cooper OBE

Bywgraffiad

Ymunodd Shirley â’r Weinyddiaeth Cyfiawnder (MOJ) yn Aelod Anweithredol o’r Bwrdd ar 4 Mehefin 2018.

Mae hi’n arweinydd busnes gyda phrofiad helaeth o faterion ariannol, masnachol a gweithredol a enillwyd wrth weithio mewn amrywiaeth o sefydliadau. Shirley yw Cyfarwyddwr Masnachol ac Ariannol Tapestry Compliance, cwmni cyfreithiol boutique sy’n arbenigo mewn adnoddau dynol byd-eang. Yn ddiweddar, bu iddi ymddiswyddo o fod yn Gyfarwyddwr Caffael Grŵp Impellam ac mae hi’n parhau yn Gyfarwyddwr Datblygu Cleientiaid yn Lorien Resourcing, sef ymgynghoriaeth recriwtio TG arbenigol.

Yn flaenorol, Shirley oedd Cyfarwyddwr Caffael a Chadwyn Gyflenwi Computacenter plc. Cyn ymuno â Computacenter, daliodd Shirley sawl swydd ariannol yn Yorkshire Water, Ysbytai yn Leeds ac Allied Domecq.

Yn ystod ei gyrfa mae Shirley wedi dal nifer o swyddi anweithredol, gan gynnwys ei phenodi yn Gomisiynydd Treth Incwm Cyffredinol gan yr Arglwydd Ganghellor lle bu’n gwasanaethu am 15 mlynedd. Mae hefyd wedi bod yn Gyfarwyddwr Cyllid Opp2K, ac yn archwilydd i lawer o elusennau. Yn ddiweddar, gwahoddwyd Shirley i ymuno â Bwrdd Rheoli a Chyngor y Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi (CIPS) ac aeth ymlaen i fod yn Gadeirydd Byd-eang ac yn Llywydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr. Hi yw Cadeirydd cyntaf cymrodyr CIPS, a’r person cyntaf i gael gwobr cyflawniad oes am ei gwasanaethau i’r proffesiwn.

Mae Shirley yn neilltuo llawer o’i hamser yn cefnogi a chynghori cyrff, gyda chylch gwaith i ofalu am rymuso menywod yn economaidd ac addysg i fenywod. Mae hi’n aelod o Fwrdd UNWomen NC UK yn ogystal â bod yn Drysorydd ac yn gyd-sylfaenydd a Llywydd y Blueprint Club, gyda 250 o aelodau, sy’n cefnogi uwch-fenywod ym maes caffael, a Chadeirydd JV Prifysgol Swydd Hertford. Yn ddiweddar, cwblhaodd ei thymor mewn swydd ar gyfer fforwm menywod rhyngwladol a chyswllt rhyngwladol.

Small Business Crown Representative

The Small Business Crown Representative is one of a network of Crown Representatives and, alongside our VCSE Crown Representative, is focused on helping the government in its engagement with specific sectors.

  • The main aim of the role is to lead on the overall relationship between the government and small businesses, making sure the government gets the best value from small business and small businesses have the best possible opportunity to work with the government. 
  • The postholder works with the Cabinet Office’s Small Business Advisory Panel, government departments and trade bodies to identify opportunities to tackle barriers and further level the playing field for small businesses and startups in Government procurement.
  • The Small Business Crown Representative promotes the SME agenda internally and externally.

Rolau blaenorol yn y llywodraeth

  • Anweithredol