Y Dyfarnwr

Mike McMahon

Bywgraffiad

Penodwyd Mike yn Bennaeth Swyddfa ym mis Medi 2021.

Cyn y penodiad hwn, roedd yn gweithio i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol lle roedd ganddo nifer o swyddi technegol a gweithredol, gan gynnwys Pennaeth Sicrhau Ansawdd a goruchwylio’r adran Dysgu a Datblygu technegol.

Treuliodd Mike 9 mlynedd fel ombwdsmon, gan archwilio a chyflwyno penderfyniadau cyfreithiol rwymol ynghylch cwynion am wasanaethau ariannol. Roedd hefyd yn rheoli tîm o is-ombwdsmyn, a darparodd hyfforddiant technegol ar gyfer panel yr ombwdsmyn.

Y Dyfarnwr

Mae’r Dyfarnwr yn annibynnol ac mae’n adolygu cwynion am Gyllid a Thollau EM (CThEM), ac am Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA), o fewn y DU.

Nid yw’r Dyfarnwr yn was sifil, ac nid yw’n gyflogai i CThEM.

Swyddfa’r Dyfarnwr

Rolau blaenorol yn y llywodraeth

  • Pennaeth Swyddfa