Mark Sweeney

Bywgraffiad

Cychwynnodd Mark yn ei swydd fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Polisi Llysoedd a Chyfiawnder ar 16 Hydref 2017. Mae’r Grŵp Polisi Llysoedd a Chyfiawnder yn gyfrifol am ddwy allan o bedair blaenoriaeth strategol y Weinyddiaeth Gyfiawnder: system llysoedd a chyfiawnder fodern; a hybu Prydain Fyd-eang a rheolaeth y gyfraith. Mae hyn yn cynnwys arwain diwygiad o lysoedd a thribiwnlysoedd ar draws y system; datblygu polisi ar gyfiawnder sifil, cyfiawnder teulu a chyfiawnder troseddol; gwaith y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar ymadael â’r Undeb Ewropeaidd; cysylltiadau â’r Farnwriaeth; a phartneriaeth gydag 14 corff hyd braich. Mae Mark yn arwain tîm o oddeutu 300 o staff gyda chyllideb o oddeutu £250m. Fel aelod o Bwyllgor Gweithredol y Weinyddiaeth Gyfiawnder mae hefyd yn cefnogi’r Ysgrifennydd Parhaol i arwain yr adran gyfan.

Yn y gorffennol, roedd Mark yn Gyfarwyddwr, y Llywodraeth yn Ofcom, sef y rheoleiddiwr telegyfathrebu a darlledu sy’n gyfrifol am gysylltiadau gyda’r Llywodraeth a’r Senedd drwy gylch gwaith cyfan Ofcom ac am oruchwylio ei bresenoldeb yng nghenhedloedd y Deyrnas Unedig. Hefyd arweiniodd y gwaith o gytuno ar gyfrifoldebau newydd Ofcom i reoleiddio’r BBC. Cyn ymuno ag Ofcom, roedd Mark yn Gyfarwyddwr Cyfansoddiad yn Swyddfa’r Cabinet oedd yn gyfrifol am bolisi ar etholiadau a refferenda, datganoliad a setliad cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig; ac roedd yn Uwch Swyddog Cyfrifol ar gyfer cyflwyno system newydd o gofrestru etholiadol unigol ym Mhrydain Fawr. Ymysg rolau blaenorol Mark roedd Cyfarwyddwr y Gyfraith, Hawliau a Rhyngwladol yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Phrif Ysgrifennydd Preifat i Ken Clarke fel Arglwydd Ganghellor ac Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder. Mae hefyd wedi gweithio yn y Gyfarwyddiaeth Wleidyddol yn Swyddfa Gogledd Iwerddon, ac Ysgrifenyddiaeth y Cabinet dros faterion yr UE.

Rolau blaenorol yn y llywodraeth

  • Cyfarwyddwr Cyffredinol, y Grŵp Polisi Llysoedd a Chyfiawnder
  • Executive Director, Constitution Group