Kate Davies

Bywgraffiad

Penodwyd Kate Davies yn Brif Ysgrifennydd Preifat i Ysgrifennydd Gwladol Cymru ym mis Mehefin 2015.

Cyn dod yn Brif Ysgrifennydd Preifat, roedd Kate yn Ddirprwy Brif Ysgrifennydd Preifat yn yr Adran Gwaith a Phensiynau a hynny yn ystod cyfnod pan oedd yr adran yn cyflwyno diwygiadau lles ar raddfa fawr. Ymunodd â’r Adran Gwaith a Phensiynau’n wreiddiol fel economydd, gan weithio yn nhîm polisi’r economi a’r farchnad lafur. Roedd hefyd yn Ddirprwy Reolwr y Bil ar gyfer Deddf Diwygio Lles 2012, ac mae hi wedi gweithio ar draws portffolio polisïau’r Adran Gwaith a Phensiynau.

Rolau blaenorol yn y llywodraeth

  • Prif Ysgrifennydd Preifat i’r Ysgrifennydd Gwladol