Jon Parry

Bywgraffiad

Ar ôl graddio gyda gradd mewn Systemau Gwybodaeth Cyfrifiadurol, dechreuodd yrfa mewn peirianneg meddalwedd, gan weithio i Scicon Ltd.

Ym 1994, ymunodd ag Ernst & Young fel Ymgynghorydd Rheoli, lle treuliodd 7 mlynedd yn gweithio ar raglenni technoleg a newid mawr ar gyfer nifer o wahanol gleientiaid, gan gynnwys y BBC, Railtrack a’r Adran Drafnidiaeth. Yn 2000, symudodd i’r sector manwerthu, gan ymuno ag Argos i lansio cynnig eFasnach ac aml-sianel llwyddiannus y manwerthwr. Yn dilyn ei lansio, cymerodd gyfrifoldeb gweithredol am argos.co.uk, cyn arwain rhaglen gyfalaf fawr i uwchraddio seilwaith cyflenwi a chanolfan gwasanaeth cwsmeriaid y manwerthwr.

Ar ôl gadael Argos yn 2009, arhosodd Jon yn y sector manwerthu gyda chyfnodau yn Travis Perkins fel Cyfarwyddwr Aml-sianel ac fel ymgynghorydd rheoli gyda Capgemini.

Er 2014, mae wedi dilyn gyrfa lwyddiannus fel Cyfarwyddwr Dros Dro, ac yn ystod yr amser hwnnw mae wedi dal 2 swydd flaenorol gyda Chofrestrfa Tir EM – fel Prif Swyddog Digidol yn 2015 a Chyfarwyddwr Cwsmeriaid yn 2017.

Rolau blaenorol yn y llywodraeth

  • Cyfarwyddwr Digidol, Data a Thechnoleg