Jon Cocking

Bywgraffiad

Ymunodd Jon â Chofrestrfa Tir EM yn Hydref 2006 a bu’n Ddirprwy Gyfarwyddwr AD Cofrestrfa Tir EM er 2014, ar ôl gweithredu fel Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol yn 2013 hefyd.

Mae Jon wedi gweithio mewn nifer o rolau uwch arweinydd AD yng Nghofrestrfa Tir EM gan ganolbwyntio ar weithrediadau AD a phartneru busnes AD. Mae hefyd wedi arwain sawl prosiect mawr gan gynnwys ein gweithgarwch Swyddfa Fodel, sy’n defnyddio methodoleg gwella parhaus i ddatrys a gwella ffyrdd presennol o weithio.

Cyn ymuno â Chofrestrfa Tir EM, bu Jon yn gweithio fel uwch reolwr AD am dros wyth mlynedd o fewn amryw o leoliadau GIG.

Mae Jon yn ymarferydd AD cymwysedig ac yn Gymrawd Siartredig Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD), ar ôl cwblhau ei astudiaethau ôl-radd yn Ysgol Fusnes Nottingham Trent.

Ar hyn o bryd mae John yn Gadeirydd LR Leisure, sef pwyllgor chwaraeon a chymdeithasol cenedlaethol Cofrestrfa Tir EM.

Rolau blaenorol yn y llywodraeth

  • Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol