Cadeirydd Bwrdd y Rhaglen Credyd Cynhwysol

John McGlynn

Bywgraffiad

Penodwyd John McGlynn yn Gadeirydd Bwrdd Rhaglen Credyd Cynhwysol ar 5 Awst 2021.

Mae John yn Gyfarwyddwr i Atkins, aelod o SNC Lavalin Group, un o sefydliadau peirianneg, dylunio a rheoli prosiect blaenllaw’r byd.

Mae gan John yrfa 35 mlynedd yn cyflawni prosiectau a rhaglenni cymhleth yn llwyddiannus yn y DU, Ewrop a’r Dwyrain Canol. Ymhlith y prosiectau diweddar mae:

  • cefnogi Gweinyddiaeth Amddiffyn y DU i gaffaeliad cymhleth
  • cefnogi sefydliadau gweithgynhyrchu a chymorth byd-eang i ddatblygu seilwaith cenedlaethol hanfodol
  • arwain rhaglenni moderneiddio a thrawsnewid ar gyfer cleientiaid tramor

Etholwyd John yn ymddiriedolwr yr Association for Project Management (APM) yn 2014 a bu’n gadeirydd ar fwrdd yr ymddiriedolwyr rhwng 2016 a 2020. Yn ystod yr amser hwn derbyniodd APM ei Siarter Frenhinol a chadeiriodd John fwrdd prosiect APM a sefydlodd safon Chartered Project Professional (ChPP) ar gyfer y proffesiwn cyflawni prosiect.

Cadeirydd Bwrdd y Rhaglen Credyd Cynhwysol

Mae Cadeirydd Bwrdd Rhaglen Credyd Cynhwysol yn:

  • darparu cyngor, arbenigedd a her allanol, i lywio’r broses benderfynu ar gyfer cyflwyno rhaglen Credyd Cynhwysol
  • arwain a hwyluso trafodaethau yng nghyfarfodydd Bwrdd y Rhaglen gan sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud yn briodol
  • rhoi cyngor ar oblygiadau gweithredol a chyflawni cynigion polisi a chynlluniau Credyd Cynhwysol
  • darparu cefnogaeth adeiladol, annibynnol, arweiniad a her gadarn i’r bwrdd ar gynnydd a gweithrediad cynllun y rhaglen
  • darparu cyngor rheoli i Ysgrifennydd Parhaol DWP ac uwch swyddog cyfrifol Credyd Cynhwysol
  • sicrhau cywirdeb gwybodaeth ariannol a bod rheolaethau a systemau ariannol a rheoli risg yn gadarn ac yn amddiffynadwy

Adran Gwaith a Phensiynau