Dame Jayne-Anne Gadhia

Bywgraffiad
Y Fonesig Jayne-Anne yw’r Arweinydd Anweithredol yng Nghyllid a Thollau EF (CThEF), ac mae’n Gadeirydd i Moneyfarm, yn Uwch Gyfarwyddwr Annibynnol yn y Tate ac yn Uwch Gynghorydd yn UniCredit ac ym manc Vanquis.
Rhwng 2007 a 2018 hi oedd Prif Swyddog Gweithredol Virgin Money.
Treuliodd 6 blynedd yn Undeb Norwich (Aviva bellach) fel cyfrifydd siartredig cyn dod yn un o sylfaenwyr Virgin Direct ym 1995. Dair blynedd yn ddiweddarach, sefydlodd y cyfrif Virgin One, a gafodd ei gaffael gan Fanc Brenhinol yr Alban yn 2001. Wedi hynny, treuliodd 5 mlynedd yn RBS cyn dychwelyd i Virgin fel Prif Swyddog Gweithredol Virgin Money.
Yn 2012 gwnaeth Jayne-Anne arwain ar y gwaith o gaffael Virgin Money o Northern Rock cyn rhestru’r busnes cyfunol yn 2014. Yn 2018, gwerthwyd busnes cyfunol Virgin Money i CYGB. Yn dilyn gwerthu Virgin Money, ymunodd Jayne-Anne â Salesforce rhwng 2019 a 2021. Gadawodd Salesforce i ganolbwyntio ar ei menter technoleg ariannol ei hun, Snoop, a werthwyd i fanc Vanquis ym mis Gorffennaf 2023.
Rhwng 2016 a 2021, Jayne-Anne oedd Hyrwyddwr Menywod mewn Cyllid Llywodraeth y DU ac mae’n parhau i gefnogi a hyrwyddo’r Siarter Menywod mewn Cyllid fel cynghorydd. Yn 2018 cafodd ei henwi’n Arweinydd y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes Cenedlaethol Banc Lloyds.
Mae hi’n aelod o Fwrdd Cynghori Busnes Maer Llundain a’r Fforwm Polisi Cynhwysiant Ariannol. Dyfarnwyd CBE i Jayne-Anne yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2014, gwnaed yn Fonesig yn Rhestr Anrhydeddau 2019 a dyfarnwyd CVO iddi yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd 2022.
Lead Non-Executive Director
Non-Executive Directors bring external experience and expertise to the department, playing an important role in providing advice, challenge and scrutiny to the work of the Executive Committee and the department more widely, both within and outside of formal Board and sub-committee meetings.
Non-Executives contribute their expertise outside the formal Board and subcommittee structures — for example, working closely with executives on specific initiatives, mentoring and undertaking in-depth examinations of risk.
Non-Executive Directors also support the effectiveness of programme boards for HMRC’s most significant transformation programmes.