Heather Self
Bywgraffiad
Mae Heather Self yn Gyfarwyddwr Anweithredol yng Nghyllid a Thollau EF (penodwyd ym mis Medi 2025).
Ar hyn o bryd mae Heather yn ymgynghorydd a chyn-bartner yn Blick Rothenberg, gyda dros 30 mlynedd o brofiad yn cynghori ar faterion treth gorfforaethol yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae Heather hefyd wedi bod mewn swyddi uwch ar draws y sectorau cyfreithiol, corfforaethol a chyhoeddus, gan gynnwys bod yn bartner yn y cwmni cyfreithiol rhyngwladol Pinsent Masons LLP a chyfarwyddwr treth grŵp yn Scottish Power. Mae hi hefyd wedi gweithio fel cynghorydd gwrth-arbed yn CThEF.
Mae Heather yn aelod o Bwyllgor Adolygu Cyfraith Treth IFS, a chyn hynny roedd yn aelod o Bwyllgor Treth CBI. Mae hi’n gyn-gadeirydd pwyllgor Technegol CIOT ac yn un o sylfaenwyr Women in Tax.
Derbyniodd Heather wobr cyfraniad oes yng Ngwobrau Trethiant 2023.
Cyfarwyddwr Anweithredol
Mae Cyfarwyddwyr Anweithredol yn dod â phrofiad ac arbenigedd allanol i’r adran, gan chwarae rôl bwysig wrth ddarparu cyngor, herio a chraffu ar waith y Pwyllgor Gweithredol a’r adran yn ehangach, a hynny yn ystod a’r tu allan i gyfarfodydd ffurfiol y Bwrdd a’r is-bwyllgor.
Mae aelodau Anweithredol yn cyfrannu eu harbenigedd y tu allan i strwythurau ffurfiol y Bwrdd a’r is-bwyllgor – er enghraifft, gan weithio’n agos gyda swyddogion gweithredol ar fentrau penodol, mentora ac ymgymryd ag archwiliadau manwl o risg.
Mae Cyfarwyddwyr Anweithredol hefyd yn cefnogi effeithiolrwydd byrddau rhaglenni ar gyfer rhaglenni trawsnewid mwyaf arwyddocaol CThEF.
Cyllid a Thollau EF
Non-Executive Director
Non-Executive Directors bring external experience and expertise to the department, playing an important role in providing advice, challenge and scrutiny to the work of the Executive Committee and the department more widely, both within and outside of formal Board and sub-committee meetings.
Non-Executives contribute their expertise outside the formal Board and subcommittee structures — for example, working closely with executives on specific initiatives, mentoring and undertaking in-depth examinations of risk.
Non-Executive Directors also support the effectiveness of programme boards for HMRC’s most significant transformation programmes.