Emma West

Bywgraffiad

Penodwyd Emma yn Gyfarwyddwr Anweithredol y DVLA yn Tachwedd 2014.

Addysg

Mae gan Emma radd BA Anrhydedd (2:1) mewn Llenyddiaeth Saesneg o Brifysgol Durham (1989). Cwblhaodd Dystysgrif Hyfforddi a Mentora yn llwyddiannus o Ysgol Fusnes Henley yn 2011.

Gyrfa

Mae gan Emma 25 mlynedd o brofiad yn gweithio mewn AD gyda 3 chwmni FTSE 100 – Cadbury, Unilever a Sainsbury’s. Treuliai lawer o’i gyrfa yn rhyngwladol yn Ffrainc, Rwsia a’r Unol Daleithiau wedi’i harbenigo mewn recriwtio talent ac hyfforddiant a datblygiad.

Treuliai ran gyntaf ei gyrfa gyda Cadbury Schweppes, lle enillodd brofiad helaeth am y byd busnes a’r byd AD o ddechrau busnesau newydd i dderbyniadau, cwmnïau cyfunol a dadfuddsoddiad, gan gynnwys cyfnod o amser yn gweithio i Ecwiti Preifat. Wedi’r cyfnod hwnnw, ymunodd hi ag Unilever yn arwain ar reoli recriwtio talent byd-eang a swyddogaethau hyfforddiant a datblygiad.

Yn ddiweddar iawn, roedd Emma yn Gyfarwyddwr Talent a Galluoedd gyda Sainsbury’s, un o’r cyflogwyr mwyaf sector preifat y DU, lle roedd ei chyfrifoldebau yn cynnwys rheoli adnoddau, dysgu a datblygiad, ac amrywiaeth ac yn recriwtio talent.

Mae hi’n hyfforddwr achrededig yn gweithio gydag unigolion yn gyflogedig ac yn wirfoddol, ar gyfer y rhai nad ydynt yn gallu fforddio’r gwasanaethau hyn, yn eu helpu cyrraedd eu potensial.

Penodwyd Emma yn Gadeirydd Inspire! (partneriaeth addysg a busnes yn Hackney) yn 2012, wedi iddi weithio fel Ymddiriedolwr am 3 mlynedd. Mae Inspire! yn gweithio gyda phobl ifanc o Hackney ac ardaloedd o’i gwmpas yn eu galluogi i gyrraedd eu huchelgeisiau. Cyn hynny, roedd hi’n Ymddiriedolwr Sefydliad Elusennol Cadbury.

Rolau blaenorol yn y llywodraeth

  • Aelod Anweithredol o’r Bwrdd