Skip to main content
Aelod anweithredol o'r bwrdd, IPO

Clem Brohier

Bywgraffiad

Ymunodd Clem â’r Bwrdd Llywio ym mis Mehefin 2025 ac mae’n Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg.

Mae Clem yn gyfrifydd cymwys ac ar hyn o bryd mae’n Fwrsar a Chymrawd Coleg Mansfield, Prifysgol Rhydychen, lle mae’n arwain prosiect trawsnewid ystadau sylweddol. Yn flaenorol, roedd yn Brif Swyddog Gweithredu yn Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA).

Cyn hynny, roedd yn Brif Swyddog Gweithredu ac yn Brif Weithredwr a Cheidwad Dros Dro yn Archifau Cenedlaethol y DU. Yn gynharach yn ei yrfa, roedd yn Brif Swyddog Gweithredu Asiantaeth Prynu a Chyflenwi’r GIG. Fel aelod anweithredol, mae Clem wedi bod yn Gadeirydd Pwyllgor Archwilio a Risg yr NSPCC, yn aelod o Gorff Llywodraethol Prifysgol Swydd Bedford ac yn Ymddiriedolwr Crossroads Healthcare yn Ne-ddwyrain Llundain.

Aelod anweithredol o'r bwrdd, IPO

Rôl ein Bwrdd Llywio yw cynghori Gweinidogion, trwy ein Cyfarwyddwr Cyffredinol, ar ein strategaethau a’n perfformiad (gan gynnwys targedau) fel y nodir yn ein Cynllun Corfforaethol. Mae hefyd yn rhoi arweiniad o safbwynt masnachol ar ein gweithrediad a’n datblygiad ar draws ystod o faterion. 

Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae’r Bwrdd Llywio wedi darparu cyngor ac arweiniad ar ystod eang o bynciau, megis ein Cynllun Corfforaethol, Targedau Asiantaeth, Polisi Eiddo Deallusol, Cyfrifon a Rheoli Risg. 

Mae’r Bwrdd Llywio yn cyfarfod chwe gwaith y flwyddyn.

Intellectual Property Office