Chris Pope

Bywgraffiad

Ymunodd Chris Pope â Chofrestrfa Tir EM fel Prif Swyddog Gweithrediadau yn Hydref 2017.

Treuliodd Chris y 27 mlynedd gyntaf o’i yrfa fel swyddog y Fyddin gyda’r Peirianwyr Brenhinol, gan gynnwys teithiau rhyfela yng Ngogledd Iwerddon, Croatia, Irac ac Afghanistan. Yn dilyn profiad yn y sector preifat fel Cyfarwyddwr Prosiectau Grŵp yn Tribal Group a Phennaeth Gwasanaethau Peirianneg Gweithredol yn Laing O’Rourke, y cwmni adeiladu ym mherchnogaeth breifat mwyaf yn Ewrop, symudodd Chris i lywodraeth leol.

Fel Cyfarwyddwr Trawsnewid yng Nghyngor Merton arweiniodd rhaglen newid eang gan gynnwys trawsnewid dulliau cyflenwi’r gwasanaeth digidol, ad-drefnu gwasanaethau corfforaethol, cyflwyno egwyddorion darbodus (Lean) ar draws y sefydliad a datblygu gwasanaethau a rennir. Fel Cyfarwyddwr Gweithredol Adnoddau a Datblygu Masnachol yng Nghyngor Newham, roedd Chris yn atebol am gyflenwi’r holl wasanaethau corfforaethol a’r swyddogaeth y dreth cyngor a budd-daliadau. Fe greoedd oneSource, y gwasanaeth cymorth a rennir gyda Chyngor Havering, a Chris oedd ei Reolwr Gyfarwyddwr cyntaf.

Ymunodd Chris â’r Gwasanaeth Sifil ym Mai 2015 fel Cyfarwyddwr Masnachol yn yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau cyn cael ei benodi’n Gyfarwyddwr Gweithrediadau yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.

Bu’n aelod bwrdd cymdeithas dai, Newham Legacy Investments a E20 Stadium. Ar hyn o bryd mae’n Gyfarwyddwr Anweithredol cwmnïau a berchenogir gan y llywodraeth UK Shared Business Services a South Tees Site Company.

Rolau blaenorol yn y llywodraeth

  • Prif Swyddog Gweithrediadau