Cheryl McCuaig

Bywgraffiad

Penodwyd Cheryl McCuaig yn Gyfarwyddwr Anweithredol y DVLA ym mis Chwefror 2022.

Gyrfa

Mae gan Cheryl mwy na 35 mlynedd o brofiad yn y maes technoleg, gyda gyrfa ym Mancio Buddsoddi, Bancio Masnachol a Bancio Adwerthol, ble mae ei rolau wedi bod yn eithriadol o amrywiol a gwahanol. Mae Cheryl wedi dal swyddi sy’n cynnwys Prif Swyddog Gweithredu, Prif Swyddog Gwybodaeth, Prif Swyddog Prynu, a Chyfarwyddwr Risg Technoleg Gwybodaeth (TG) ar gyfer cwmnïau byd-eang gan gynnwys JP Morgan, Lloyds Banking Group, Barclays, Credit Suisse a HSBC. Ar hyn o bryd, mae Cheryl yn Brif Swyddog Gwybodaeth yn Metro Bank ble mae hi’n canolbwyntio ar drawsnewid TG. Mae Cheryl yn frwdfrydig dros bobl a chynhwysiant ac mae ganddi ddiddordeb arbennig yn annog menywod i TG a’u datblygu yn y maes.

Rolau blaenorol yn y llywodraeth

  • Cyfarwyddwr Anweithredol