Andrew Trigg

Bywgraffiad

Ymunodd Andrew â Chofrestrfa Tir EM yn 2005 ac mae wedi bod yn Gyfarwyddwr dros dro’r adran Digidol, Data a Thechnoleg er Mai 2020. Prif Swyddog Geo-ofodol a Data oedd ei rôl flaenorol. Mae ei yrfa wedi canolbwyntio ar ddefnydd strategol ac arloesol data a systemau geo-ofodol yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Dechreuodd ei yrfa fel academydd, gan wneud ymchwil ôl-ddoethuriaeth i systemau geo-ofodol. Treuliodd amser wedi hynny yn y diwydiant geo-ofodol, yn gweithio mewn rolau masnachol ac i awdurdod lleol. Ymunodd â’r Gwasanaeth Sifil ym 1995, gan weithio i’r Arolwg Ordnans am 10 mlynedd, lle bu’n gyfrifol am gyflwyno’r gwasanaeth MasterMap arloesol. Mae’n gyn-gadeirydd y Gymdeithas Gwybodaeth Ddaearyddol ac yn aelod o fwrdd EuroGeographics.

Rolau blaenorol yn y llywodraeth

  • Cyfarwyddwr Digidol, Data a Thechnoleg