Skip to main content
Non-Executive Director

Andre Katz

Bywgraffiad

Mae Andre yn Aelod Anweithredol o Bwyllgor Archwilio a Risg yng Nghyllid a Thollau EF a’r Adran Diogelu Ynni a Sero Net. Mae e hefyd yn Uwch Gyfarwyddwr Annibynnol ac yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg yn y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol, ac yn Aelod Anweithredol o Bwyllgor Archwilio a Risg y Sefydliad Yswiriant Siartredig. Fel Cyfrifydd Siartredig ac Aelod Ardystiedig o’r Sefydliad Rheoli Risg, mae ganddo dros 25 mlynedd o brofiad o arwain ym maes rheoli risg, sicrwydd a gwydnwch gweithredol. Drwy gydol ei yrfa, mae Andre wedi gweithio mewn swyddi uwch mewn sefydliadau mawr, cymhleth a byd-eang ar draws amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys Dixons Retail, BT a Grŵp Bancio Lloyds.  Drwy ei waith fel ymgynghorydd, mae Andre yn parhau i gynghori sefydliadau ar risg, sicrwydd a gwydnwch.

Cyfarwyddwr Anweithredol

Mae Cyfarwyddwyr Anweithredol yn dod â phrofiad ac arbenigedd allanol i’r adran, gan chwarae rôl bwysig wrth ddarparu cyngor, herio a chraffu ar waith y Pwyllgor Gweithredol a’r adran yn ehangach, a hynny yn ystod a’r tu allan i gyfarfodydd ffurfiol y Bwrdd a’r is-bwyllgor.

Mae aelodau Anweithredol yn cyfrannu eu harbenigedd y tu allan i strwythurau ffurfiol y Bwrdd a’r is-bwyllgor – er enghraifft, gan weithio’n agos gyda swyddogion gweithredol ar fentrau penodol, mentora ac ymgymryd ag archwiliadau manwl o risg.

Mae Cyfarwyddwyr Anweithredol hefyd yn cefnogi effeithiolrwydd byrddau rhaglenni ar gyfer rhaglenni trawsnewid mwyaf arwyddocaol CThEF.

Cyllid a Thollau EF

Non-Executive Director

Non-Executive Directors bring external experience and expertise to the department, playing an important role in providing advice, challenge and scrutiny to the work of the Executive Committee and the department more widely, both within and outside of formal Board and sub-committee meetings.

Non-Executives contribute their expertise outside the formal Board and subcommittee structures — for example, working closely with executives on specific initiatives, mentoring and undertaking in-depth examinations of risk.

Non-Executive Directors also support the effectiveness of programme boards for HMRC’s most significant transformation programmes.

Cyllid a Thollau EF