Polisi dogfennau hygyrch - Intellectual Property Office
Dogfennau hygyrch yn y Swyddfa Eiddo Deallusol.
Mae’r polisi hwn yn egluro pa mor hygyrch yw’r dogfennau y mae’r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) yn eu cyhoeddi ar GOV.UK.
Mae’n cynnwys ffeiliau PDF, taenlenni, cyflwyniadau a mathau eraill o ddogfennau. Nid yw’n ymdrin â chynnwys a gyhoeddir ar GOV.UK fel HTML: bydd y prif [datganiad hygyrchedd GOV.UK] (https://www.gov.uk/help/accessibility-statement) yn ymdrin â hynny.
Defnyddio ein dogfennau
Mae’r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) yn cyhoeddi dogfennau mewn amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys:
-
PDF
-
MS Word
-
Microsoft Excel
-
OpenDocument
-
RTF
Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r dogfennau hynny. Er enghraifft, pan fyddwn yn cynhyrchu dogfen, rydym yn sicrhau ein bod yn:
-
darparu opsiwn HTML lle bod modd
-
tagio penawdau a rhannau eraill o’r ddogfen yn briodol, fel y gall darllenwyr sgrin ddeall strwythur y dudalen
-
cynnwys testun amgen ochr yn ochr â delweddau nad ydynt yn addurniadol, fel bod pobl na allant eu gweld yn deall pam maent yno
-
osgoi defnyddio tablau, ac eithrio pan fyddwn yn cyflwyno data
-
ysgrifennu mewn Saesneg plaen
Pa mor hygyrch yw ein dogfennau
Dylai dogfennau newydd a gyhoeddir gennym, a dogfennau y mae angen i chi eu lawrlwytho neu eu llenwi er mwyn cael mynediad at un o’r gwasanaethau a ddarparwn, fod yn gwbl hygyrch.
Fodd bynnag, rydym yn gwybod nad yw rhai o’n dogfennau hŷn (a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018) yn hygyrch. Er enghraifft, mae rhai ohonynt:
-
heb drefn ddarllen a llywio resymegol
-
ddim yn cynnwys penawdau wedi’u nythu
-
yn cynnwys testun neu ddelweddau sydd â chymhareb cyferbyniad isel
-
ddim yn cynnwys teitlau disgrifiadol
-
yn cynnwys tablau gyda chelloedd wedi’u huno
-
yn cynnwys diagramau a delweddau heb destun amgen
Ond os oes angen i chi gael mynediad at wybodaeth mewn un o’r mathau hyn o ddogfennau, gallwch gysylltu â ni a gofyn am fformat amgen.
Beth i’w wneud os na allwch ddefnyddio un o’n dogfennau
Os oes angen dogfen arnoch rydym wedi’i chyhoeddi mewn fformat gwahanol:
-
e-bost information@ipo.gov.uk
-
ffôn 0300 300 2000
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 10 diwrnod gwaith.
Adrodd am broblemau hygyrchedd gydag un o’n dogfennau
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd ein dogfennau. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni’r gofynion hygyrchedd:
-
e-bost information@ipo.gov.uk
-
ffôn 0300 300 2000
Gweithdrefn gorfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd ein dogfennau
Mae’r Swyddfa Eiddo Deallusol wedi ymrwymo i wneud ein dogfennau’n hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae’r dogfennau y mae Swyddfa Eiddo Deallusol yn eu cyhoeddi yn cydymffurfio’n rhannol â safon y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 AA, oherwydd y diffygion cydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys anhygyrch
Mae’r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol.
Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Nid yw trefn ddarllen a llywio resymegol rhai dogfennau wedi’i gosod yn gywir. Gall hyn achosi problemau i ddefnyddwyr bysellfyrddau a thechnoleg gynorthwyol, efallai na fyddant yn gallu llywio a darllen dogfen yn gywir. Nid yw hyn yn bodloni meini prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.3.2 lefel A.
Mae rhai o’r dogfennau’n cynnwys penawdau nad ydynt mewn trefn nythu resymegol. Gall hyn achosi dryswch i ddefnyddwyr wrth ddefnyddio’r bysellfwrdd neu dechnolegau cynorthwyol i lywio. Nid yw hyn yn bodloni meini prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.3.1 Lefel A a 2.4.6 Lefel AA.
Mae rhai dogfennau’n cynnwys testun neu ddelweddau sydd â chymhareb cyferbyniad o lai na 3:1. Gall hyn achosi problemau i bob defnyddiwr, yn enwedig y rhai sydd â golwg isel. Nid yw hyn yn bodloni meini prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.4.3 lefel AA.
Ni ddefnyddiwyd teitlau disgrifiadol ar gyfer rhai taflenni gwaith taenlen. Gall hyn achosi problemau i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol wrth geisio canfod pwrpas y daflen waith. Nid yw hyn yn bodloni meini prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.4.2 lefel A.
Mae rhai dogfennau a thaenlenni yn cynnwys tablau sydd â chelloedd wedi’u huno. Gall hyn achosi problemau llywio i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin, gan nad yw’r un nifer o resi a cholofnau tabl yn cael ei gynnal. Nid yw hyn yn bodloni meini prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.3.1 lefel A.
Mae gan rai o’n dogfennau ddiagramau a delweddau sydd â thestun amgen annigonol, amherthnasol neu ddim testun amgen o gwbl. Gall hyn achosi problemau i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin wrth iddynt geisio deall cynnwys a swyddogaeth diagram neu ddelwedd. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.1.1 lefel A yn ôl WCAG 2.1.
Rydym yn adolygu’r dogfennau nad ydynt yn bodloni’r gofynion hygyrchedd yn ôl amlder eu defnydd, ac rydym yn bwriadu bod wedi cwblhau’r gwaith hwn erbyn 31 Rhagfyr 2021.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei wneud yn ofynnol i ni drwsio ffeiliau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol ar gyfer darparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu cywiro dogfennau ymchwil na hysbysiadau mewn cyfnodolion patentau.
Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.
Sut rydym yn profi ein dogfennau
Rydym yn profi sampl o’n dogfennau yn rheolaidd gan ddefnyddio meddalwedd amrywiol. Rydym hefyd yn profi rhai o’n canllawiau a’n dogfennau gyda defnyddwyr go iawn, ac yn gwneud addasiadau yn seiliedig ar adborth.
Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Mae’r Swyddfa Eiddo Deallusol:
-
yn diweddaru dogfennau hŷn i’w gwneud yn hygyrch
-
yn sicrhau bod dogfennau newydd yn hygyrch cyn iddynt gael eu cyhoeddi
-
yn cyhoeddi dogfennau yn HTML lle bod modd, yn hytrach na PDF
-
yn hyfforddi staff i sicrhau eu bod yn ymwybodol o bwysigrwydd hygyrchedd, a sut i wneud eu dogfennau’n hygyrch
Cyhoeddwyd y dudalen hon i ddechrau ar 16 Medi 2020. Cafodd ei ddiweddaru ddiwethaf ar 26 Chwefror 2026.