Datganiad i'r wasg

Gwahodd myfyrwyr o Gymru i ymgeisio nawr am gyllid i fyfyrwyr wrth i geisiadau agor ar gyfer 2020 i 2021

Mae myfyrwyr israddedig amser llawn yng Nghymru yn cael eu hannog i ymgeisio nawr am gyllid i fyfyrwyr, wrth i’r gwasanaeth ymgeisio lansio ar gyfer blwyddyn academaidd 2020 i 2021.

Man working on a laptop with the word ready in front of him

Y ffordd hawsaf yw ymgeisio ar-lein ar www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk a dylai myfyrwyr wneud hyn cyn gynted â phosibl i sicrhau bod eu cyllid yn ei le cyn dechrau’r tymor.

Gall Myfyrwyr yng Nghymru ymgeisio am Fenthyciad Ffioedd Dysgu i dalu am ffioedd dysgu a Benthyciad Cynhaliaeth i helpu gyda chostau byw. Gallant hefyd ymgeisio am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru nad oes angen ei dalu’n ôl. Dysgwch fwy am beth sydd ar gael ar dudalen grynodeb 2020 i 2021.

Y llynedd derbyniwyd dros 46,000 o geisiadau o fewn y pedwar mis cyntaf o agor y gwasanaeth, gydag 14,000 yn cael eu cyflwyno o fewn y mis cyntaf.

Meddai Derek Ross, Cyfarwyddwyr Gweithredol Gweithrediadau SLC: “Lansio’r gwasanaeth ymgeisio yw un o’r dyddiadau mwyaf yn y calendr cyllid myfyrwyr. Mae’n golygu y gall myfyrwyr fynd ati i gwblhau’r dasg bwysig i gael trefn ar eu cyllid i fyfyrwyr.

“Mae’r cais yn cymryd 30 munud i’r gwblhau ar-lein ac i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr bydd y broses yn syml iawn. Fodd bynnag, fe wyddom fod rhai unigolion angen cefnogaeth ychwanegol ac mae ein tîm o staff arbenigol yn barod i’w helpu.”

Mae SLC wedi cysodi’r ‘awgrymau da’ canlynol i helpu myfyrwyr mewn gwahanol amgylchiadau i gael trefn ar eu cyllid i fyfyrwyr mewn da bryd ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd. Dylai pob myfyriwr:

Ymgeisio’n gynnar

  • Ymgeisiwch mor fuan â phosibl i sicrhau bod eich cyllid yn ei le cyn i’ch cwrs gychwyn. Y dyddiad cau i ymgeisio yw 15 Mai 2020 ar gyfer myfyrwyr newydd a 12 Mehefin 2020 ar gyfer myfyrwyr sy’n dychwelyd. Os nad oes gennych chi le wedi ei gadarnhau ar gwrs, byddwch yn dal i allu ymgeisio nawr, dim ond i chi roi manylion eich dewis cyntaf i ni a gallwch ddiweddaru’r cais yn hwyrach os oes angen.
  • Cadw manylion cyswllt yn gyfredol Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darparu cyfeiriad e-bost cyfredol i ni er mwyn i ni allu cysylltu â chi am eich cais os oes angen.
  • Cadwch eich dogfennau pwysig wrth law Cadwch eich rhif Yswiriant Gwladol a manylion pasbort wrth law cyn i chi gychwyn eich cais gan y gofynnir i chi ddarparu’r wybodaeth yma pan fyddwch chi’n ymgeisio.

Os ydych chi wedi astudio o’r blaen

  • Os ydych chi wedi astudio o’r blaen, gallai effeithio ar eich cymhwyster – hyd yn oed os oedd eich cwrs blaenorol wedi ei hunangyllido. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno’ch cais yn fuan er mwyn cadarnhau eich hawl. Dysgwch fwy am astudio blaenorol.

Os ydych chi angen cyllid atodol

Os nad ydych yn dod o’r DU

  • Cymrwch olwg ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru am ragor o wybodaeth ar gymhwyster.

  • Efallai y gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth o’ch hunaniaeth a hanes preswylio. Mae’n bwysig eich bod yn anfon hyn cyn gynted â phosibl er mwyn i ni allu prosesu eich cais a chadarnhau bod gennych chi hawl i gyllid.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru a gwylio’r fideo Esbonio Cyllid i Fyfyrwyr. Gallwch hefyd ddilyn Cyllid Myfyrwyr Cymru ar Facebook a Twitter i gael yr holl hysbysiadau newyddion a gwybodaeth ddiweddaraf.

Cyhoeddwyd ar 9 March 2020