Stori newyddion

Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn lansio arolwg adborth cwsmeriaid newydd

Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn lansio arolwg adborth cwsmeriaid newydd ym mis Ionawr 2026.

Rydym yn lansio arolwg adborth cwsmeriaid newydd ym mis Ionawr 2026. Os ydych wedi derbyn penderfyniad achos gennym yn ddiweddar, neu os yw eich achos wedi’i gau’n ddiweddar, efallai y cewch eich cysylltu drwy e-bost i ofyn am eich barn ar eich profiad.

Er mwyn gallu cynllunio gwasanaethau sy’n hawdd i’w defnyddio, mae angen inni ddeall disgwyliadau, anghenion a phrofiadau ein cwsmeriaid. Mae’r ymchwil hon yn ein helpu i ddeall sut y gallwn ddarparu profiad rhagorol i gwsmeriaid.

Mae’r arolwg yn ddewisol ac nid yw’n casglu gwybodaeth bersonol fel rhan o’i brif gwestiynau. Bydd gennych yr opsiwn i roi eich cyfeiriad e-bost os hoffech i’r VOA gysylltu â chi ar gyfer ymchwil yn y dyfodol.

Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch dilysrwydd e-bost sy’n honni ei fod yn dod o Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA), peidiwch â dilyn unrhyw ddolenni yn yr e-bost, na datgelu unrhyw fanylion personol neu ymateb iddo. Yn lle hynny, anfonwch yr e-bost ymlaen i phishing@hmrc.gov.uk.

Gweler Hysbysiad Preifatrwydd CThEF am fanylion ynghylch sut rydym yn casglu, defnyddio, diogelu a sicrhau eich gwybodaeth bersonol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon, gallwch hefyd gysylltu â’r tîm ymchwil yn: customerinsight@voa.gov.uk.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 14 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 Ionawr 2026 show all updates
  1. Added Welsh translation.

  2. First published.