Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn symud i GOV.UK
Mae cartref newydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) – sydd bellach yn rhan o wefan GOV.UK – yn darparu llwyfan fodern, hawdd ei defnyddio a fydd yn gwella hygyrchedd ac yn ei gwneud hi’n haws i’r cyhoedd gael gafael ar wybodaeth.
Mae gwefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi symud heddiw i lwyfan GOV.UK. Bydd hyn yn helpu i ddiwallu anghenion newidiol defnyddwyr, gan leihau costau, gwella diogelwch a chynyddu effeithlonrwydd ein cynnwys ar-lein.
Mae hyn yn cyd-fynd ag uchelgais y llywodraeth o greu un profiad cyson, gan alluogi aelodau o’r cyhoedd i gael mynediad at nifer o wasanaethau ar un llwyfan.
Mae’r rhan fwyaf o’r cynnwys o’n hen wefan bellach wedi’i symud i’n gwefan newydd. Mae hyn yn golygu y gall defnyddwyr a busnesau barhau i ddod o hyd i’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt, gan gynnwys ein canllawiau hanfodol ar ddiogelwch bwyd.
Dywedodd Diane Barlow, Prif Swyddog Gwybodaeth yn yr ASB:
Mae symud i GOV.UK yn gam sylweddol ymlaen o ran sut rydyn ni’n gwasanaethu’r cyhoedd.
Gall ein defnyddwyr nawr gael mynediad at wybodaeth ddibynadwy am ddiogelwch bwyd drwy un llwyfan ddiogel a hygyrch, ochr yn ochr â gwasanaethau eraill y llywodraeth. Drwy symud i’r llwyfan newydd hon, rydym yn dangos ein hymrwymiad i’w gwneud hi’n hawdd i bawb ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnynt, pan fo’i angen.
Nid yw gwefan flaenorol yr ASB – www.food.gov.uk – ar waith mwyach, ond bydd unrhyw ddefnyddwyr sy’n ceisio ymweld â’r hen wefan yn cael eu hailgyfeirio’n awtomatig i’n hafan ar GOV.UK.
Mae’r ASB yn parhau i gyflawni ei rôl fel adran a rheoleiddiwr annibynnol ac anweinidogol, gan weithio i ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd.