Bwlch treth amcangyfrifedig o 5.3%
Y bwlch treth amcangyfrifedig ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024 yw £46.8 biliwn.

- Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi cynlluniau i godi £7.5 biliwn pellach drwy ei mesurau i gau’r bwlch treth..
- Y gyfran fwyaf o’r bwlch yw diffyg cydymffurfio busnesau bach.
Roedd amcangyfrif y bwlch treth – y gwahaniaeth rhwng y dreth y disgwylir ei thalu a’r dreth a delir mewn gwirionedd – yn 5.3% ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024, yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd heddiw (19 Mehefin 2025).
Er bod £46.8 biliwn heb ei dalu yn ystod blwyddyn dreth 2023 i 2024, casglodd Cyllid a Thollau EF (CThEF) £829.2 biliwn, sy’n cynrychioli 94.7% o’r holl dreth sy’n ddyledus.
Bob blwyddyn, mae CThEF yn amcangyfrif y bwlch treth gan ddefnyddio’r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael, ond gall ffigurau gael eu diwygio wrth i ragor o ddata ddod i’r golwg. Yn unol ag arfer safonol, mae amcangyfrifon bwlch treth y blynyddoedd blaenorol wedi’u diwygio fel rhan o gyhoeddiad heddiw, gan gynnwys y bwlch treth ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023, sydd wedi’i ddiwygio i fyny o 4.8% (£39.8 biliwn) i 5.6% (£46.4 biliwn). Mae hyn oherwydd gwelliannau yn ansawdd data, argaeledd gwybodaeth fwy cyfredol a newidiadau i’r fethodoleg.
Mae rhai o ganfyddiadau allweddol cyfrifiadau eleni yn dangos:
- busnesau bach sy’n cynrychioli’r gyfran fwyaf o’r bwlch treth (60%)
- Mae Treth Gorfforaeth yn cyfrif am 40% o gyfanswm y bwlch treth
- mae methu â chymryd gofal rhesymol (31%), gwall (15%) ac osgoi treth (14%) ymhlith y prif rhesymau ymddygiadol dros y bwlch treth cyffredinol
Mae Ysgrifennydd y Trysorlys, James Murray AS, wedi nodi ei dair blaenoriaeth ar gyfer CThEF: cau’r bwlch treth, gwella gwasanaethau cwsmeriaid, a moderneiddio a diwygio’r system drethi a thollau.
Meddai Mr Murray:
Mae pob punt o dreth sydd heb ei chasglu yn rhoi baich mwy ar drethdalwyr gonest ac yn amddifadu ein gwasanaethau cyhoeddus o gyllid hanfodol.
Yn ein blwyddyn gyntaf yn y swydd, rydym wedi nodi cynlluniau i godi £7.5 biliwn ychwanegol drwy’r pecyn mwyaf uchelgeisiol erioed i gau’r bwlch treth. Rydym yn benderfynol o fynd ymhellach ac yn gyflymach i wneud yn siŵr bod pawb yn talu eu cyfran deg, a helpu i gyflawni Cynllun Newid ein Llywodraeth.
Mae rhaglen Troi Treth yn Ddigidol (MTD) CThEF yn helpu i leihau’r elfen o’r bwlch treth a achosir gan wallau a methu â chymryd gofal rhesymol. Hyd at ddiwedd y flwyddyn dreth 2029 i 2030, rhagwelir y bydd Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer TAW yn darparu mwy na £4 biliwn mewn refeniw treth drwy leihau gwallau. Bydd Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn cael ei gyflwyno o fis Ebrill 2026 ymlaen a disgwylir iddo gynhyrchu £1.95 biliwn mewn refeniw treth ychwanegol erbyn diwedd blwyddyn dreth 2029 i 2030.
Fel y cyhoeddwyd yn yr Adolygiad Gwariant 2025, bydd £1.7 biliwn yn cael ei ddarparu i CThEF dros bedair blynedd i ariannu 5,500 o staff cydymffurfio a 2,400 o staff rheoli dyledion ychwanegol – er mwyn sicrhau bod mwy o’r dreth sy’n ddyledus yn cael ei thalu, er mwyn ariannu gwasanaethau cyhoeddus. Bydd mesurau i gau’r bwlch treth a gyhoeddwyd gan y Canghellor yng Nghyllideb yr Hydref 2024 a Datganiad y Gwanwyn 2025 yn codi £7.5 biliwn ychwanegol mewn refeniw.
Rhagor o wybodaeth
Cyhoeddwyd Measuring Tax Gaps 2025 report heddiw 19 Mehefin 2025.
Mae amcangyfrifon bwlch treth CThEF yn ystadegau swyddogol a gynhyrchir yn unol â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, sy’n sicrhau gwrthrychedd a chywirdeb. Mae amcangyfrifon bwlch treth yn cael eu hadolygu bob blwyddyn i adlewyrchu’r data a methodolegau diweddaraf.