Stori newyddion

Gwahodd myfyrwyr yng Nghymru i ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr 23/24

Gwasanaeth ceisiadau cyllid myfyrwyr yn cael ei lansio ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod.

Apply Now! Full-time undergraduate applications are now open!

Gwnew gais yn awr! Gall myfyrwyr israddedig llawn-amser wnedud cais yn awr

Mae myfyrwyr israddedig amser llawn yng Nghymru yn cael eu hannog i ymgeisio nawr am gyllid i fyfyrwyr, wrth i’r gwasanaeth ymgeisio lansio ar gyfer blwyddyn academaidd 23/24.

Talodd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) dros 1.5 miliwn o fyfyrwyr dros £22bn mewn benthyciadau cynhaliaeth, grantiau a ffioedd dysgu yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf a gwblhawyd (21/22). Wrth i fyfyrwyr ddechrau paratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod, y neges gan SLC yw cyflwyno ceisiadau cyn gynted â phosibl, fel y bydd eu cyllid yn barod ar gyfer dechrau’r flwyddyn academaidd newydd.

Nid oes angen i ddarpar fyfyrwyr gael lle wedi’i gadarnhau ar gwrs mewn prifysgol neu goleg i wneud eu cais, oherwydd gellir diweddaru manylion y cwrs yn ddiweddarach.

Dywedodd Jackie Currie, Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro Gweithrediadau SLC: “Mae penderfynu astudio trwy addysg uwch yn benderfyniad mawr i bob darpar fyfyriwr ac mae llawer i’w drefnu a’i reoli cyn i’w cwrs ddechrau. Bydd llawer o ddarpar fyfyrwyr ar ganol astudio ac yn paratoi eu hunain ar gyfer arholiadau pwysig yn y misoedd i ddod, a dyna pam rwy’n argymell yn fawr eich bod yn cyflwyno cais am gyllid myfyriwr cyn gynted â phosibl. Fel hyn, gallant ganolbwyntio ar eu hastudiaethau a gweithio tuag at wireddu eu nodau addysg.”

Gwybodaeth bwysig i ddarpar fyfyrwyr:

Mae nifer o adnoddau ar gael i fyfyrwyr gael gwybod mwy am sut i wneud cais ac am y cymorth ariannol a allai fod ar gael. • Mae gwybodaeth lawn, gan gynnwys canllawiau ar sut i wneud cais, pa gyllid sydd ar gael a fideos i helpu myfyrwyr drwy’r broses ymgeisio ar gael yn: https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/darganfod-cyllid-myfyrwyr/ • Gall myfyrwyr wneud cais am Fenthyciadau Ffioedd Dysgu i dalu ffioedd a Benthyciadau Cynhaliaeth a grantiau i helpu gyda chostau byw • Gall myfyrwyr hefyd gael rhagor o wybodaeth ac arweiniad ar The Student Room a thrwy ddilyn Cyllid Myfyrwyr Cymru ar facebook.com/SFWales, twitter.com/SF_Wales neu youtube/SFWFILM

Sicrhewch fod gennych ddogfennau pwysig wrth law:

• Dylai fod gan fyfyrwyr eu Rhif Yswiriant Gwladol a manylion pasbort wrth law cyn dechrau’r cais. • Gofynnir iddynt hefyd am fanylion banc wrth wneud cais, gan gynnwys rhif y cyfrif 8 digid a chod didoli 6 digid. Os bydd y manylion banc yn newid ar ôl gwneud cais, mae’n gyflym ac yn hawdd mewngofnodi i’w cyfrif ar-lein a’u diweddaru.

Traciwch gynnydd y cais:

• Gall gymryd chwech i wyth wythnos i brosesu ceisiadau, ac nid oes angen i fyfyrwyr gysylltu â ni yn ystod y cyfnod hwn. Gallant olrhain statws eu cais trwy eu cyfrifon ar-lein a chânt eu hysbysu os oes unrhyw gamau gweithredu heb eu cymryd y mae angen iddynt eu cymryd. Gall myfyrwyr hefyd wneud newidiadau i’w gwybodaeth bersonol yn eu cyfrifon ar-lein.

Os yw myfyriwr wedi astudio o’r blaen:

• Os yw myfyriwr wedi astudio o’r blaen gallai effeithio ar ei gymhwysedd – hyd yn oed os oedd y cwrs blaenorol yn hunan-ariannu. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno’r cais yn gynnar fel y gellir cadarnhau hawl. • Os ydynt yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, dylai myfyrwyr ddefnyddio’r cyfrif ar-lein oedd ganddynt yn wreiddiol, yn hytrach na chreu un newydd. Gellir defnyddio’r swyddogaeth chwilio ar-lein i ddod o hyd iddo.

Os wedi ymddieithrio oddi wrth rieni:

Os nad yw myfyriwr wedi cael unrhyw gysylltiad â’i rieni ers dros flwyddyn, efallai y gall wneud cais fel myfyriwr sydd wedi ymddieithrio. Ymdrinnir â cheisiadau gan fyfyrwyr sydd wedi ymddieithrio gan ein tîm ymroddedig o gynghorwyr cwsmeriaid sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig i sicrhau bod y broses yn sensitif i’w hamgylchiadau. Mae’r gofynion tystiolaeth yn wahanol hefyd. Darllenwch y canllaw hwn i gael gwybod mwy.

Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, efallai y bydd gan fyfyrwyr hawl i gymorth pellach:

Efallai y bydd amgylchiadau pan fydd myfyriwr yn gallu cael rhywfaint o arian ychwanegol, er enghraifft os oes ganddo anghenion ychwanegol, os oes ganddo blant, neu os yw’n astudio ar gyfer cwrs meddygol, gwaith cymdeithasol neu ddysgu. Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael ar gael yma:https://www.studentfinancewales.co.uk/undergraduate-finance/full-time/welsh-student/what-s-available/

Ychwanegodd Jackie: “Dim ond tua 30 munud y mae’r broses ymgeisio ar-lein yn ei gymryd i’w chwblhau, ac i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr bydd y broses yn un syml. Fodd bynnag, rydym yn gwybod y gallai fod angen cymorth ychwanegol ar rai unigolion, ac mae gennym dîm arbenigol ymroddedig sy’n barod i helpu i arwain myfyrwyr ar hyd eu taith.”

Bydd ceisiadau cyllid myfyrwyr ar gyfer cyllid myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig rhan amser ar gael yn ddiweddarach yn y gwanwyn.

Cyhoeddwyd ar 30 March 2023