Datganiad i'r wasg

Annog myfyrwyr yng Nghymru i ymgeisio nawr am gyllid i fyfyrwyr

Annog myfyrwyr yng Nghymru i ymgeisio nawr am gyllid i fyfyrwyr

Ready to apply

Mae myfyrwyr israddedig amser llawn yng Nghymru yn cael eu hannog i ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr cyn gynted â phosibl i sicrhau bod eu cyllid yn ei le ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.

Dyna’r neges gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) sydd wedi sicrhau bod y gwasanaeth ymgeisio yn dal ar agor i fyfyrwyr yn rhan o’i ymateb i’r pandemig COVID-19.

Mae SLC yn annog myfyrwyr sy’n parhau i ailymgeisio ar gyfer cyllid i fyfyrwyr flwyddyn nesaf cyn gynted ag y gallant. Mae myfyrwyr newydd yn cael eu hannog i gyflwyno eu ceisiadau; does dim angen lle wedi ei gadarnhau ar gwrs iddynt allu ymgeisio, gallant ddefnyddio eu dewis cyntaf o gwrs a diweddaru eu cais yn hwyrach os bydd yn newid.

Y ffordd hawsaf i ymgeisio yw ar-lein yn www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk, ac mae SLC wedi cynhyrchu’r canllaw a fideo canlynol i helpu gyda’r broses: guide

Sut i wneud cais am gyllid i fyfyrwyr

Mae yna hefyd adnodd penodol ar gyfer rhieni a phartneriaid sy’n cefnogi ceisiadau yma https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/rhieni-a-phartneriaid.aspx

Meddai Derek Ross, Cyfarwyddwr Gweithrediadau SLC: “Rydym yn cydnabod y bydd gan fyfyrwyr lawer i’w ystyried ar hyn o bryd. Fodd bynnag, ar gyfer y rhai sy’n mynd i’r Brifysgol yn yr hydref, mae’n bwysig eu bod yn blaenoriaethu ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr. Mae SLC wedi gweithio’n galed i sicrhau parhad y gwasanaeth ymgeisio trwy gydol y pandemig COVID-19 a’r neges o hyd yw y dylai myfyrwyr gyflwyno eu ceisiadau cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod eu cyllid i fyfyrwyr yn ei le ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.”

Bwriad yr wybodaeth hon yw helpu myfyrwyr newydd a’u rhieni i weld popeth maent angen ei wybod am y broses ymgeisio. Gall myfyrwyr hefyd ddilyn CMC ar Facebook/SFWales, twitter.com/SF_Wales neu youtube/SFEWFILM i gael yr holl hysbysiadau newyddion diweddaraf.

Cyhoeddwyd ar 18 May 2020