Datganiad i'r wasg

Gall myfyrwyr yng Nghymru wneud cais nawr am gyllid myfyrwyr

Mae myfyrwyr israddedig amser llawn yng Nghymru bellach yn cael eu hannog i wneud cais am gyllid myfyrwyr

Mae myfyrwyr israddedig amser llawn yng Nghymru yn cael eu hannog i ymgeisio nawr am gyllid i fyfyrwyr, wrth i’r gwasanaeth ymgeisio agor ar gyfer blwyddyn academaidd 2021 i 2022. Yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf, mae’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) wedi ariannu dros 1 miliwn o fyfyrwyr ac yn rhagweld cynnydd mewn ceisiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2021 i 2022.

Y ffordd gyflymaf a hawsaf yw ymgeisio ar-lein ar-lein ar https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/darganfod-cyllid-myfyrwyr a dylai myfyrwyr wneud hyn cyn gynted â phosibl i sicrhau bod eu cyllid yn ei le ar gyfer dechrau’r tymor. Dylai myfyrwyr ymgeisio nawr hyd yn oed os nad ydynt yn siŵr pa gwrs fyddant yn ei wneud neu pa brifysgol fyddant yn ei fynychu. Gall ceisiadau gymryd chwech i wyth wythnos i’w prosesu, felly does dim angen i fyfyrwyr gysylltu â ni yn ystod y cyfnod hwn i wirio statws eu cais. Byddwn yn cysylltu â nhw, neu eu rhieni a phartneriaid, os byddwn angen unrhyw wybodaeth atodol i gefnogi eu cais.

Mae ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr yn broses syml a gall myfyrwyr wneud y broses hyd yn oed yn haws trwy ddilyn yr awgrymau isod:

  • Ymgeisio Nawr

Ymgeisiwch mor fuan â phosibl i sicrhau bod eich cyllid yn ei le cyn i’ch astudiaethau gychwyn. Y dyddiad cau i ymgeisio yw 4 Mehefin ar gyfer myfyrwyr newydd a 25 Mehefin ar gyfer myfyrwyr sy’n parhau. Hyd yn oed os nad ydych yn gwybod pa gwrs fyddwch chi’n ei astudio, mae’n dal yn bosibl i chi ymgeisio nawr. Defnyddiwch y cwrs yr ydych yn fwyaf tebygol o’i fynychu a gallwch ddiweddaru’ch cais yn hwyrach os bydd angen. Dyma’r ffordd orau o sicrhau bod gennych eich arian pan fyddwch yn cychwyn eich cwrs.

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall faint o gyllid y gallech fod â hawl i’w gael

Gall Myfyrwyr yng Nghymru ymgeisio am Fenthyciad Ffioedd Dysgu i dalu am ffioedd dysgu a Benthyciad Cynhaliaeth i helpu gyda chostau byw. Gallant hefyd ymgeisio am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru nad oes angen ei dalu’n ôl.

Gwyliwch y ffilm Darganfod Cyllid i Fyfyrwyr i gael gwybod mwy.

  • Cadwch eich dogfennau pwysig wrth law

Cadwch eich rhif Yswiriant Gwladol a manylion pasbort y Deyrnas Unedig wrth law cyn i chi gychwyn eich cais gan y byddwch angen yr wybodaeth yma pan fyddwch chi’n ymgeisio.

  • Darparu eich tystiolaeth ategol ar-lein

Cofiwch gyflwyno unrhyw dystiolaeth y gofynnir i chi ddarparu. Gellir cyflwyno’r holl dystiolaeth ar wahân i rai mathau o dystiolaeth hunaniaeth neu breswylio yn ddigidol trwy’ch cyfrif ar-lein.

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i ni os ydych chi wedi astudio o’r blaen

Os ydych chi wedi astudio o’r blaen, gallai effeithio ar eich cymhwyster – hyd yn oed os oedd eich cwrs blaenorol wedi ei hunangyllido. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno’ch cais yn fuan er mwyn cadarnhau eich hawl.

  • Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael cefnogaeth ychwanegol

Efallai bod yna rai amgylchiadau ble gallwch gael mynediad i arian ychwanegol, er enghraifft os oes gennych chi anabledd, neu blant. Darganfyddwch fwy: https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/darganfod-cyllid-myfyrwyr

Gall myfyrwyr gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar gyllid i fyfyrwyr a chyflwyno eu cwestiynau i’n cynghorwyr cwsmeriaid trwy sianeli cyfryngau cymdeithasol CMC.

Meddai Derek Ross, Cyfarwyddwyr Gweithredol Gweithrediadau SLC: “Dyma’r amser i fyfyrwyr fwrw ati gyda’r busnes pwysig o drefnu eu cyllid. Rydym yn disgwyl y bydd yn flwyddyn bwysig gyda mwy o geisiadau nag erioed, ac yn annog myfyrwyr i ymgeisio nawr. Gall myfyrwyr sy’n cychwyn cyn y dyddiad cau fod yn hyderus gan wybod y bydd eu cyllid yn ei le cyn dechrau’r tymor.

“Mae yna adnoddau ar gael ar-lein i helpu myfyrwyr a’u rhieni a phartneriaid gyda’u ceisiadau, a gallant hefyd ddilyn Cyllid Myfyrwyr Cymru ar Facebook a Twitter i gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf ar gyllid i fyfyrwyr.”

Gall myfyrwyr newydd ac sy’n dychwelyd ymgeisio ar-lein ar https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/darganfod-cyllid-myfyrwyr

Cyhoeddwyd ar 27 April 2021