SLC yn lansio gwasanaeth ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig yng Nghymru
SLC yn lansio gwasanaeth ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig yng Nghymru

Mae’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) wedi lansio ei wasanaeth ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig yng Nghymru.
Gall myfyrwyr meistri ôl-raddedig ymgeisio am gyfuniad o fenthyciadau a grantiau i helpu gyda ffioedd cyrsiau a chostau byw, a gall myfyrwyr doethuriaeth ôl-raddedig ymgeisio am Fenthyciad Doethuriaeth Ôl-raddedig.
Meddai Derek Ross Cyfarwyddwyr Gweithredol Gweithrediadau SLC: “Rwy’n falch i gyhoeddi bod ceisiadau ar agor ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig yng Nghymru. Dylai myfyrwyr ymgeisio ar-lein. Ymgeisio mor gyflym a chywir â phosibl yw’r ffordd orau o sicrhau bod cyllid yn ei le cyn i’r tymor newydd gychwyn.”
Ffeithiau allweddol am gyllid Gradd Meistr Ôl-raddedig
- Mae cyllid Gradd Meistr Ôl-raddedig yn gyfuniad o fenthyciadau a grantiau. Mae faint o grant a benthyciad allwch chi ei gael wedi ei bennu gan incwm eich aelwyd
- Mae gan bob myfyriwr cymwys hawl i grant o £1000 neu fwy nad oes rhaid ei dalu’n ôl
- Does dim ond angen i chi ymgeisio am gyllid gradd meistr ôl-raddedig unwaith, hyd yn oed os yw eich cwrs yn hirach na blwyddyn.
- Byddwch yn dechrau ad-dalu eich cyllid Gradd Meistr Ôl-raddedig yn y mis Ebrill wedi i chi orffen eich cwrs, ond dim ond os yw eich incwm dros y trothwy ad-dalu. Dim ond 6% o’r hyn fyddwch chi’n ennill dros y trothwy ad-daliad fyddwch chi’n ad-dalu, sef £21,000 y flwyddyn ar hyn o bryd. Os oes gennych chi fenthyciadau myfyriwr, byddwch yn ad-dalu’r rhain ar yr un pryd.
- Mae help ychwanegol ar gael os oes gennych chi anabledd neu os oes gennych chi blant neu oedolion sy’n ddibynnol arnoch chi’n ariannol.
I gael gwybod mwy, gwyliwch ein ffilm fer ar gyllid Gradd Meistr Ôl-raddedig
Ffeithiau allweddol am y Benthyciad Gradd Doethuriaeth Ôl-raddedig
- Gallwch gael hyd at £26,445 i helpu gyda ffioedd cwrs a chostau byw.
- Telir y benthyciad yn uniongyrchol i chi. Bydd yn cael ei ledaenu ar draws blynyddoedd academaidd eich cwrs.
- Nid yw Benthyciadau Doethuriaeth Ôl-raddedig yn seiliedig ar incwm eich cartref
- Gallwch ymgeisio yn ystod unrhyw flwyddyn o’ch cwrs, ond efallai na fyddwch chi’n cael yr uchafswm os byddwch yn ymgeisio wedi’r flwyddyn gyntaf.
- Byddwch yn dechrau ad-dalu eich Benthyciad Doethuriaeth Ôl-raddedig yn y mis Ebrill wedi i chi orffen, ond dim ond os yw eich incwm dros y trothwy ad-dalu. Dim ond 6% o’r hyn fyddwch chi’n ennill dros y trothwy ad-daliad fyddwch chi’n ad-dalu, sef £21,000 y flwyddyn ar hyn o bryd. Os oes gennych chi fenthyciadau myfyriwr, byddwch yn ad-dalu’r rhain ar yr un pryd.
Am ragor o wybodaeth gwyliwch ein ffilm ar Gyllid Doethuriaeth Ôl-raddedig a dilyn Cyllid Myfyrwyr Cymru ar Twitter @SF_Wales a Facebook www.facebook.com/SFWales.