Datganiad i'r wasg

Gofyn i fyfyrwyr yng Nghymru ymuno â rhestr bostio CMC

SLC yn gofyn i fyfyrwyr israddedig amser llawn yng Nghymru ddechrau cynllunio eu cyllid myfyrwyr ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23.

Disgwylir i’r gwasanaeth ymgeisio israddedig amser llawn ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf agor o fis Mawrth 2022, a gall myfyrwyr nawr ymuno â rhestr bostio Cyllid Myfyrwyr Cymru (CMC) i dderbyn e-bost pan fydd y gwasanaeth ymgeisio yn fyw.

Mae SLC yn cynghori myfyrwyr i wneud cais mor gynnar â phosibl am eu cyllid myfyrwyr, hyd yn oed os nad oes ganddynt le wedi’i gadarnhau ar eu cwrs. Mae hyn yn helpu sicrhau bod eu cyllid yn ei le ar ddechrau’r tymor. Gall myfyrwyr yng Nghymru wneud cais am Fenthyciadau Ffioedd Dysgu i dalu eu ffioedd a chymysgedd o grantiau a benthyciadau i helpu gyda’u costau byw.

Y llynedd, cefnogodd SLC fwy o fyfyrwyr nag erioed o’r blaen i fuddsoddi yn eu dyfodol trwy addysg bellach ac uwch a chynyddodd nifer y ceisiadau a broseswyd ac a oedd yn barod i’w talu erbyn dechrau’r tymor.

Meddai Chris Larmer, Cyfarwyddwyr Gweithredol, Gweithrediadau SLC: “Mae SLC wedi ymrwymo i alluogi cyfle trwy fynediad i addysg uwch ac addysg bellach, ac rydym am gefnogi cymaint o fyfyrwyr â phosibl i wneud cais am gyllid myfyrwyr yn gynnar, er mwyn sicrhau bod eu cyllid yn ei le ar ddechrau’r tymor.

“Gyda dyddiad cau UCAS yn agosáu ddiwedd mis Ionawr, gwyddom y bydd llawer o ddarpar fyfyrwyr yn meddwl am ddewisiadau prifysgol neu goleg. Mae’n bwysig eu bod yn dechrau meddwl am eu cyllid hefyd a thrwy gofrestru byddant yn derbyn ysgogiad i’w helpu i gychwyn ar eu taith cyllid myfyrwyr.”

I helpu myfyrwyr gael y newyddion cyllid myfyrwyr a’r wybodaeth ddiweddaraf, mae SLC yn eu cynghori i:

Cyhoeddwyd ar 6 January 2022