Datganiad i'r wasg

Atgoffir myfyrwyr yng Nghymru i wneud cais am gyllid myfyrwyr cyn y dyddiad cau

Mae SLC yn annog myfyrwyr israddedig llawn amser newydd yng Nghymru i wneud cais am eu cyllid myfyrwyr cyn y dyddiad cau ar 27 Mai.

Amcangyfrifir y bydd mwy nag 1.5miliwn o bobl yn mynychu coleg neu brifysgol yr hydref hwn, ac mae’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) yn annog myfyrwyr i wneud cais am gyllid myfyrwyr mewn da bryd.

Rôl SLC yw rhoi cyfle i fyfyrwyr fuddsoddi yn eu dyfodol trwy fynediad i addysg bellach ac uwch, ac mae gan fyfyrwyr israddedig amser llawn newydd yng Nghymru ychydig llai na thair wythnos i wneud cais am gyllid cyn y dyddiad cau, sef dydd Gwener, 27 Mai.

Dylai myfyrwyr wneud cais ar-lein nawr hyd yn oed os nad oes ganddynt le wedi’i gadarnhau yn y brifysgol. Trwy gyflwyno eu cais cyn y dyddiad cau, gallant sicrhau y bydd eu cyllid yn ei le ar ddechrau’r flwyddyn academaidd.

Mae angen i fyfyrwyr sy’n dychwelyd yn Lloegr hefyd ailymgeisio am gyllid myfyrwyr bob blwyddyn, a’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener, 17 Mehefin.

Meddai Chris Larmer, Cyfarwyddwyr Gweithredol, Gweithrediadau SLC: “Ein cenhadaeth yw galluogi cyfleoedd ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi myfyrwyr i gyflawni eu huchelgeisiau.

“Agorodd ein ffenestr ymgeisio yn gynharach eleni, sy’n rhoi digon o amser i fyfyrwyr wneud cais cyn y dyddiad cau er mwyn sicrhau eu bod yn cael y dechrau gorau posibl i’w taith addysg bellach neu uwch. Gwyddom y gall hyn ymddangos yn frawychus, yn enwedig i fyfyrwyr newydd, ond mae amrywiaeth o gynnwys ar ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol i helpu i arwain myfyrwyr, a’u rhieni neu bartneriaid, drwy’r broses. Mae gwneud cais yn gynnar yn golygu y gall myfyrwyr prysur dicio o leiaf un peth oddi ar eu rhestr wrth iddynt baratoi ar gyfer bywyd prifysgol.”

Mae SLC yn parhau i wella ei brofiad cwsmeriaid ac mae gan fyfyrwyr fynediad at offer hunanwasanaeth sy’n eu galluogi i olrhain eu cais ar-lein a derbyn diweddariadau cynnydd.

Ychwanegodd Chris: “Gall ceisiadau gymryd tua chwech i wyth wythnos i’w prosesu ac i’r mwyafrif helaeth, bydd y profiad cyfan ar-lein. Gall myfyrwyr fonitro cynnydd eu cais drwy eu cyfrifon ar-lein ac os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom, byddwn yn cysylltu’n uniongyrchol.”

Gall myfyrwyr barhau i wneud cais am gyllid drwy gydol yr haf, ond ni all SLC warantu y bydd cyllid ar gael ar gyfer dechrau’r tymor.

Awgrymau wrth wneud cais am gyllid i fyfyrwyr

  • Ymgeisiwch ar-lein nawr hyd yn oed os nad oes gennych le wedi ei gadarnhau mewn prifysgol - Dim ond 20 munud sydd angen i ymgeisio a’r ffordd gyflymaf a hawsaf i wneud hynny yw ar-lein https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/darganfod-cyllid-myfyrwyr Dylech wneud cais nawr hyd yn oed os nad ydych yn gwybod pa gwrs y byddwch yn ei wneud, neu i ba brifysgol y byddwch yn mynd. Dewiswch y cwrs rydych chi’n fwyaf tebygol o’i wneud, a gallwch chi ddiweddaru’r cais yn hawdd yn nes ymlaen, os oes angen.
  • Cadwch eich dogfennau pwysig wrth law tra’n ymgeisio - Cadwch eich rhif Yswiriant Gwladol, manylion pasbort a banc wrth law cyn i chi gychwyn eich cais gan y gofynnir i chi ddarparu’r wybodaeth yma wrth i chi ymgeisio. Os nad oes gennych gyfrif banc yn eich enw eich hun, byddem yn eich annog i sefydlu un i sicrhau eich bod yn derbyn eich cyllid.
  • Darparu eich tystiolaeth ategol ar-lein - I wneud cais, bydd angen i chi greu cyfrif ar-lein ac efallai y gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth i gefnogi eich cais. Cofiwch gyflwyno unrhyw dystiolaeth y gofynnir i chi ddarparu. Gellir cyflwyno’r holl dystiolaeth ar wahân i rai mathau o brawf hunaniaeth neu breswylio yn ddigidol trwy’ch cyfrif ar-lein.
  • Dywedwch wrthym os yw incwm eich aelwyd wedi newid – Os ydych chi wedi ymgeisio am Fenthyciad Cynhaliaeth yn seiliedig ar incwm eich aelwyd, yna bydd angen i’ch noddwr - fel arfer eich rhieni neu bartner - ddarparu manylion incwm eu haelwyd ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol. Ar gyfer ceisiadau blwyddyn academaidd 22/23, mae hynny’n golygu blwyddyn dreth 20-21. Os yw’ch noddwr yn disgwyl y bydd ei incwm yn gostwng o 15% neu fwy, mae modd gofyn am asesiad Incwm Blwyddyn Gyfredol (CYI). Dim ond wedi i chi gyflwyno eich cais y gellir gofyn am CYI a phan fydd eich noddwr hefyd wedi cyflwyno incwm yr aelwyd ar gyfer blwyddyn dreth 20-21 i gefnogi eich cais yn ogystal. I wneud hyn, ewch i https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/rhieni-a-phartneriaid/sut-mae-incwm-cartref-yn-effeithio-ar-gais.aspx i lawrlwytho fersiwn ddigidol o’r ffurflen. Unwaith y byddwch wedi ei llenwi, gallwch ei lanlwytho yn syth o’ch cyfrif ar-lein.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall faint o gyllid y gallech fod â hawl i’w gael Gall Myfyrwyr yng Nghymru ymgeisio am Fenthyciad Ffioedd Dysgu i dalu am ffioedd dysgu a Benthyciad a Grant Cynhaliaeth i helpu gyda chostau byw. Ewch i wefan CMC i weld beth sydd ar gael. Gwiriwch os gallech fod yn gymwys i gael cefnogaeth ychwanegol - Efallai y bydd cyllid ychwanegol ar gael os oes gennych chi anabledd neu blentyn neu oedolyn dibynnol sy’n ddibynnol arnoch chi’n ariannol. https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/cyllid-israddedig/israddedig-llawn-amser/myfyriwr-cymreig/
  • Dilynwch Gyllid Myfyrwyr Cymru (CMC) ar gyfryngau cymdeithasol Gall myfyrwyr gadw’n gyfredol gyda’r holl wybodaeth ddiweddaraf am gyllid i fyfyrwyr trwy ddilyn CMC ar Facebook a Twitter.
Cyhoeddwyd ar 9 May 2022