Datganiad i'r wasg

Y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn annog myfyrwyr i baratoi ar gyfer taliad

Mae SLC yn cefnogi myfyrwyr i baratoi ar gyfer taliad cyllid myfyrwyr cyntaf y flwyddyn academaidd newydd.

Yn yr wythnosau i ddod, bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) yn dosbarthu dros £2 biliwn o gyllid Benthyciadau Cynhaliaeth i dros 1 miliwn o fyfyrwyr ar draws y Deyrnas Unedig – yn cefnogi nifer uwch nag erioed i gael mynediad at gyfleoedd mewn addysg uwch a phellach.

Gyda’r flwyddyn academaidd nesaf bron yn barod i gychwyn, mae SLC yn annog myfyrwyr yng Nghymru i fod yn barod ar gyfer y taliad cyntaf trwy ddilyn ein hawgrymau da.

  • Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cyflwyno eich cais a darparu unrhyw dystiolaeth y gofynnwyd i chi amdani:

    Mewngofnodwch i’ch cyfrif ar-lein a gwirio bod eich rhestr tasgau wedi ei chwblhau. Os nad yw’ch ‘rhestr tasgau’ yn ymddangos, mae hyn yn golygu nad oes gennych gamau i’w gweithredu. Gellir lanlwytho’r rhan fwyaf o’r eitemau tystiolaeth ar-lein. Dim ond y dystiolaeth y gofynnir yn benodol i chi ddarparu ddylech ei chyflwyno.

  • Paratoi rhieni a phartneriaid hefyd:

    Efallai y bydd gofyn i rieni a phartneriaid ddarparu gwybodaeth ariannol a thystiolaeth hefyd. Dylent wneud hyn trwy eu cyfrif cyllid i fyfyrwyr ar-lein eu hunain y gallant ei greu ar www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk. Nid oes rhaid iddynt lanlwytho unrhyw dystiolaeth, yn arbennig nid P60s, oni bai y byddwn yn gofyn am hynny - fel arall bydd yn cymryd mwy o amser i brosesu eich cais os derbyniwn wybodaeth nad oes ei hangen.

  • Gwiriwch fod eich manylion banc a Rhif Yswiriant Gwladol yn gywir yn eich cyfrif ar-lein:

    Os byddwch chi angen diweddaru eich manylion banc, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hyn o leiaf 4 diwrnod cyn dyddiad eich taliad. Mae’n bwysig bod y manylion yn gywir er mwyn sicrhau bod eich arian yn mynd i’r lle cywir.

  • Cofrestru ar eich cwrs:

    Dilynwch y canllaw cofrestru gan eich darparwr addysg uwch a sicrhau’ch bod yn cofrestru cyn gynted â phosibl. Allwn ni ddim gwneud taliadau i chi nes bod eich prifysgol neu goleg yn cadarnhau i ni eich bod wedi cofrestru. Gall gymryd tri i bum diwrnod i daliadau gyrraedd eich cyfrif unwaith y byddwch wedi cofrestru, felly dylech sicrhau bod gennych chi arian i dalu unrhyw gostau cychwynnol.

  • Cofiwch os ydych chi’n ymgeisio’n agos at ddyddiad cychwyn eich tymor, efallai na fyddwch chi’n cael eich hawl llawn i ddechrau:

    Gall gymryd 6-8 wythnos i brosesu cais am gyllid i fyfyrwyr, sy’n golygu ei bod yn bosibl na fydd modd prosesu ceisiadau yn llawn erbyn i’r tymor gychwyn. Efallai y byddwn yn dyfarnu Benthyciad Cynhaliaeth a Grant i chi nad yw’n seiliedig ar incwm eich cartref i sicrhau bod gennych arian ar gyfer dechrau eich cwrs. Yna byddwn yn prosesu manylion incwm eich cartref, a byddwn yn addasu eich hawl i Fenthyciad Cynhaliaeth a Grant. Unwaith y byddwn wedi prosesu manylion incwm eich cartref, ni fydd y swm a delir i chi’n newid, ond efallai y bydd cymhareb y Benthyciad Cynhaliaeth a Grant.

  • Gwirio statws eich taliadau:

    Gallwch weld eich amserlen daliadau a gwirio statws eich taliadau trwy eich cyfrif ar-lein. Gallwch weld beth mae pob un o’r statysau talu yn golygu ar-lein.

  • Rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl os ydych chi’n bwriadu atal neu dynnu allan o’ch astudiaethau:

    Gobeithio na fydd yn digwydd, ond os oes rhaid i chi adael neu atal eich cwrs, mae’n bwysig eich bod yn ystyried yr effaith ar eich cyllid. Siaradwch â’ch prifysgol neu goleg a rhoi gwybod i SLC am unrhyw newidiadau cyn gynted â phosibl. Rhagor o wybodaeth ar-lein.

  • Cadwch y wybodaeth ddiweddaraf am ddiweddariadau cyllid myfyrwyr:

    Dilynwch Cyllid Myfyrwyr Cymru ar sianeli Facebook (@SFWales) a Twitter (@SF_Wales)

Meddai Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau SLC, Chris Larmer:

“Mae SLC yn bodoli i alluogi myfyrwyr i fuddsoddi yn eu dyfodol trwy addysg bellach ac addysg uwch. Eleni rydyn ni wedi derbyn nifer uwch nag erioed o geisiadau am gyllid i fyfyrwyr ac ar y trywydd i sicrhau y bydd mwy o fyfyrwyr nag erioed yn cael eu cyllid yn barod erbyn dechrau’r tymor.”

“Rydym yn annog myfyrwyr i chwarae eu rhan hefyd ac i ddilyn eu hawgrymau i baratoi ar gyfer taliad. I helpu myfyrwyr ymhellach, rydym hefyd wedi darparu amrywiaeth eang o wybodaeth ac adnoddau ar-lein ac ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol yn cwmpasu’r rhan fwyaf o gwestiynau cyffredin am daliadau.”

Cyhoeddwyd ar 1 September 2021